Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2023

Camau i’w cymryd: ymatebion erbyn 9 Mehefin 2023

Rhif: 45286

Trosolwg

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio’ch barn am Ganllawiau Statudol sy’n anelu i greu proses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) ar gyfer Cymru. 

Mae’r ADUS yn enghraifft unigryw ac arloesol o sut, drwy gydweithio a chyd-gynhyrchu ar draws ffiniau gwleidyddol, sefydliadol a daearyddol, y gallwn fynd i’r afael â phroblem gymhleth a chyflwyno ymateb ar y cyd. Mae bron 200 o randdeiliaid wedi bod yn ymwneud â chynllunio a chyflenwi’r ADUS, ac mae pob un ohonynt wedi rhoi’r unigolion sydd wedi’u niweidio, eu teuluoedd a chymunedau yn gyntaf. Mae’r trawsnewid hwn yn cefnogi ein hethos un gwasanaeth cyhoeddus, yn creu diwylliant cryfach o atebolrwydd, ac arweinyddiaeth wasgaredig sy’n rhoi’r grym i bobl rannu dysgu.

Mae’r ADUS yn pennu’r fframwaith ar gyfer y ffordd y dylai Byrddau Diogelu Rhanbarthol weithio gyda Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaethau eraill yn yr ardal, megis Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn diogelu pobl rhag niwed – gan rannu gwersi a sicrhau ein bod ni’n cydweithio i sicrhau lles pawb yng Nghymru. 

Bydd y broses hon yn symleiddio’r dirwedd adolygu yng Nghymru drwy gyfuno’r prosesau Adolygiad Ymarfer Oedolion, Adolygiad Ymarfer Plant, Adolygiad Lladdiad Iechyd Meddwl, Adolygiad Lladdiad Domestig ac Adolygiad Lladdiad ag Arf Ymosodol presennol. Bydd y canllawiau statudol yn disodli Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrolau 2 (Adolygiadau Ymarfer Plant) a 3 (Adolygiadau Ymarfer Oedolion). O ganlyniad, gwneir newidiadau canlyniadol i Gyfrol 1 (Cyflwyniad a Throsolwg) er mwyn adlewyrchu hyn.

Sut i ymateb

Cewch ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn y ffyrdd canlynol: 

Ymgynghoriad Adolygiad Diogelu Unedig Sengl
4ydd Llawr y Gogledd
Diogelu ac Eiriolaeth
Is-adran Galluogi Pobl
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cysylltu

Am ragor o wybodaeth:
Is-adran
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ADUSCymru@llyw.cymru

This document is also available in English.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn eu rhoi yn rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol yn gweld unrhyw ymateb yr ydych yn ei anfon atom yn eu cyfanrwydd. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgynghoriadau, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Bydd unrhyw waith o’r fath yn cael ei wneud drwy gontract yn unig. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata amdanoch sy’n cael eu dal fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am ddim mwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU, gweler y manylion cyswllt isod: 
 
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru
 
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

01625 545 745 neu 0303 123 1113 

https://ico.org.uk/