Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau arholiadau allanol a gafodd eu sefyll gan ddisgyblion blwyddyn 11 neu 17 oed, sy'n cynnwys TGAU a Lefel A ar gyfer Medi 2020 i Awst 2021.

Prif bwyntiau

Disgyblion ym mlwyddyn 11

  • Yn 2020/21, roedd y canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd graddau A* i A ac A* i C yr uchaf a gofnodwyd ers 2015/16 (mae data rhwng 2008/09 a 2014/15 ar gael ar StatsCymru).
  • Roedd canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd ar bob gradd unigol A*, A ac G yn uwch yn 2020/21 na'r flwyddyn flaenorol tra bod canran y cofrestriadau yn is ar gyfer bob gradd unigol rhwng B ac F.

Nodweddion dethol disgyblion

  • Cynyddodd y bwlch rhwng bechgyn a merched dros y flwyddyn ddiwethaf ar raddau A* i A ac A* i G ond gostyngodd ar raddau A* i C, gyda merched yn perfformio'n well na bechgyn ym mhob un o'r tair ystod gradd.
  • Cynyddodd y bwlch rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys yn yr ystod graddau A* i A , A* i C ac A* i G, gyda disgyblion  nad ydynt yn gymwys yn perfformio’n well na’r rhai sydd yn gymwys.
  • Cynyddodd y bwlch rhwng disgyblion Gwyn Prydain a disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn yr ystod graddau A* i A ac A* i C gyda disgyblion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn perfformio’n well na disgyblion Gwyn Prydeinig. Roedd y bwlch yn A* i G yn ddibwys.

Disgyblion 17 oed

  • Gwelir yr un patrwm mewn canlyniadau Safon Uwch.
  • Roedd y canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd A* i A yr uchaf ers 2008/09 (mae data rhwng 2008/09 a 2014/15 ar gael ar StatsCymru)
  • Cynyddodd y bwlch rhwng merched a bechgyn yn yr ystod graddau A* i A ac A* i C gyda merched yn perfformio’n well na bechgyn. Roedd y bwlch yn A* i E yn ddibwys.

Nodyn

Atal mesurau perfformiad

Oherwydd canslo'r cyfnod arholiad arferol yn 2019/20 a’r amharu parhaus ar Ysgolion oherwydd y pandemig coronafeirws (Covid-19), cadarnhaodd y Gweinidog Addysg ar y pryd ni fyddai Llywodraeth Cymru  yn cyfrifo nac cyhoeddi mesurau perfformiad ar gyfer 2019/20 or 2020/21, ar gyfer Blwyddyn 11 a’r chweched dosbarth.

Mae'r dadansoddiad a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar ddosbarthiadau gradd sy'n gyson â gwybodaeth arall a ryddhawyd gan Cymwysterau Cymru a'r Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ) (gweler y diffiniadau). Mae'r dosbarthiadau gradd hyn yn caniatáu i'r canlyniadau gael eu dadansoddi ar lefel fwy man ac yn dangos canlyniadau ar yr ystodau gallu uchaf ac isaf.

Graddau a aseswyd gan ganolfannau

Yn dilyn canslo arholiadau cyhoeddus, mae'r holl gymwysterau a fyddai wedi cael eu sefyll fel arholiadau yn nhymor yr haf 2020/21 wedi cael eu dyfarnu gyda model gradd a bennir gan ganolfan. Penderfynwyd ar raddau gan ysgolion a cholegau, yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio ystod o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau heblaw arholiadau, ffug arholiadau a gwaith dosbarth).

Ni fydd gan ddisgyblion y dyfarnwyd cymhwyster iddynt cyn cyfres arholiadau haf 2020 radd a ddyfarnwyd gan y ganolfan ond y graddau a gyflawnwyd ganddynt mewn arholiad ysgrifenedig.

Adroddiadau

Canlyniadau arholiadau: Medi 2020 i Awst 2021 (dros dro) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 964 KB

PDF
964 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Canlyniadau arholiadau: Medi 2020 i Awst 2021 (nodiadau) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 487 KB

PDF
487 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau arholiadau: Medi 2020 i Awst 2021 (dros dro) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 49 KB

ODS
49 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.