Neidio i'r prif gynnwy

Nodwyd gwallau a effeithiodd ar y datganiad canlyniadau cyfrifiad gweithlu ysgolion 2020. Mae hyn yn effeithio ar y data cyhoeddwyd ar cyfrif pennau, cyfwerth ag amser llawn (FTE) a cyfwerth â pherson llawn (FPE) athrawon a staff cymorth. O ganlyniad i hyn, rydym wedi adolygu’r fethodoleg defnyddiwyd i gyfrifo ffigurau ar lefel Cymru ac awdurdod lleol. Roedd y gwall o ganlyniad i rolau staff penodol wedi’u heithrio o’r cyfrifiadau.

Mae hyn wedi arwain i gynydd bach yn y niferoedd o athrawon a chynydd mwy  yn niferoedd staff cymorth, ynghyd â newidiadau i ddadansoddiadau yn ôl nodweddion staff. Mae’r data sydd wedi eu gyhoeddi ar StatsCymru ac yn y dangosfwrdd rhyngweithiol wedi’u newid yn unol â hyn.

Cyflwyniad

Ystadegau arbrofol yw'r rhain am fod y data yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd yn yr ail Gyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yng Nghymru ym mis Tachwedd 2020. Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu cyfnod yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), sydd wedi effeithio ar y ffordd y mae ysgolion wedi gweithredu. O ganlyniad, mae posib budd hyn yn effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad ystadegol hwn.

Rydym wedi ychwanegu dau fesur newydd ar gyfer cyhoeddiad Cyfrifiad o’r Gweithlu Ysgolion 2020 er mwyn helpu esbonio dosbarthiad y gweithlu ysgol. Y ddau fesur newydd yw Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) a Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE). Mae’r ddau fesur newydd yn cymryd i ystyriaeth bod posib i unigolyn weithio mewn mwy nag un swydd. Mae’r mesuriadau yma yn wahanol i’r cyfrif pen (a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer data Tachwedd 2019) sydd yn cyfri unigolion yn erbyn eu swydd uchaf yn unig.

Yn y cyhoeddiad yma, mae’r FPE wedi’i ddefnyddio i ddangos dadansoddiad o’r gweithlu ysgol yn ôl categori staff. Mae FTE wedi’i ddefnyddio i ddangos dadansoddiad o’r gweithlu yn ôl categori staff a rhyw. Cyflwynir data yn ymwneud â chategori staff, rhyw, nodweddion cydraddoldeb eraill (yn cynnwys ystod oedran, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol a statws anabledd), a’r iaith Gymraeg sy’n defnyddio cyfrif pen. Mae data sy’n ymwneud â chyflogau athrawon yn defnyddio’r mesur FTE a chyfrif o unigolion ar bob ystod gyflog.

Mae unigolion sydd wedi’u cofnodi fel ar absenoldeb hirdymor yn erbyn eu ‘Statws’ neu unigolion â gwerth cyfwerth ag amser llawn yn erbyn eu rolau wedi’u heithrio o’r cyfrifiadau cyfrif pen ar gyfer 2020.

O ganlyniad i’r newidiadau yma, nid yw’r ffigurau sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer 2020 yn y datganiad yma yn gymharol i’r ffigurau cyhoeddwyd ar gyfer 2019. Mae ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: adroddiad ansawdd’yn rhoi rhagor o fanylion o’r newidiadau a chymaroldeb â data sydd wedi’u cyhoeddi yn flaenorol. Gellir gwneud cymhariaeth flynyddol ar y data cyflog athrawon sydd wedi’u seilio ar y rhan CBGY AD, Cyflogres ac Absenoldebau.

Am y rhesymau yma, dylid parhau i ddefnyddio data a gyhoeddir yn y datganiad ystadegol ‘Canlyniadau’r Cyfrifiad Ysgol’ sy’n defnyddio gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol, a’u defnyddio ar gyfer cymariaethau dros amser. Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol yng Nghymru.

Mae'r datganiad hwn a’r tablau StatsCymru a dangosfwrdd ategol yn cynnwys gwybodaeth fanylach am y gweithlu ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys data wedi'u dadansoddi fesul awdurdod lleol, sector a nodweddion eraill.

(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Athrawon

Athrawon (Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE)) yn ôl categori staff

Image
Mae'r siart yn dangos bod y mwyafrif o staff addysgu yn gweithio fel athrawon dosbarth wedi cymhwyso.

Athrawon (Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion) ar StatsCymru

  • Ym mis Tachwedd 2020, roedd 25,930 (r) o athrawon mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • Roedd y mwyafrif o staff addysgu yn gweithio mewn ysgolion cynradd (49.1%) neu ysgolion uwchradd (41.6%).
  • Roedd y mwyafrif o athrawon yn gweithio fel athrawon dosbarth cymwysedig (b) (83.0%) gyda chyfran lai o athrawon yn gweithio mewn rolau arweinyddiaeth (a) (13.3%) neu rolau addysgu eraill (c) (3.7%).

(a) Yn cynnwys penaethiaid gweithredol, penaethiaid, penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a penaethiaid cynorthwyol.                          
(b) Yn cynnwys ymarferwyr arweiniol, athrawon dosbarth wedi cymhwyso ac athro'r byddar.                                
(c) Yn cynnwys athrawon heb gymhwyso, athrawon eraill (nad sy'n SAC), athrawon cyflenwi parahol/ â chontract a hyforddeion ar gwrs addysg gychwynnol i athrawon.
(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Athrawon (Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE)) yn ôl categori staff a rhyw

  • O’r holl staff addysgu, roedd 79.7% yn gweithio amser llawn a 20.3% yn gweithio rhan-amser.
  • O’r rhai hynny mewn rolau arweinyddiaeth (a), roedd 93.4% (r) yn gweithio amser llawn o’i gymharu â 76.7% mewn swyddi addysgu eraill (b,c).
  • Roedd yna gyfran uwch o wrywod yn gweithio amser llawn (92.7%) na benywod (75.3%).
  • Roedd y gyfran o athrawon benywaidd yn gweithio amser llawn yn amrywio o 74.2% mewn ysgolion cynradd i 81.6% mewn ysgolion arbennig.

(a) Yn cynnwys penaethiaid gweithredol, penaethiaid, penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a penaethiaid cynorthwyol.                          
(b) Yn cynnwys ymarferwyr arweiniol, athrawon dosbarth wedi cymhwyso ac athro'r byddar.                                
(c) Yn cynnwys athrawon heb gymhwyso, athrawon eraill (nad sy'n SAC), athrawon cyflenwi parahol/ â chontract a hyforddeion ar gwrs addysg gychwynnol i athrawon.
(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Athrawon (Cyfrif pen) yn ôl rhyw, oedran, ethnigrwydd a statws anabledd

Image
Mae'r siart yn dangos bod y gyfran uchaf o fenywod yn gweithio mewn rolau athro dosbarth wedi cymhwyso tra bod y gyfran uchaf o wrywod yn gweithio mewn rolau arweinyddiaeth.

Athrawon (Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion) ar StatsCymru

  • O'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, roedd 74.9% yn fenywod. 
  • Roedd rhaniad yr athrawon fesul rhyw yn amrywio ar draws sectorau, gyda 83.2% o'r holl athrawon mewn ysgolion cynradd yn fenywod, o gymharu â 66.2% mewn ysgolion uwchradd.
  • Roedd menywod yn cyfrif am 66.6% o benaethiaid (gan gynnwys penaethiaid gweithredol a phenaethiaid dros dro) mewn ysgolion cynradd a 34.1% mewn ysgolion uwchradd.
  • Yn gyffredinol, roedd y gyfran fwyaf o athrawon rhwng 40 oed a 49 oed (33.1%).  Mae hyn yn gyson ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ac Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD), yn amrywio o 32.9% i 42.6%. Mewn ysgolion meithrin, canol ac arbennig, roedd y gyfran fwyaf o athrawon rhwng 30 a 39 oed, yn amrywio o 28.2% i 32.6%.
  • Roedd athrawon o dan 25 oed y cyfrif am 3.5% o'r holl athrawon, ac yn amrywio o 1.8% mewn ysgolion arbennig i 4.5% mewn ysgolion canol.
  • Roedd athrawon sy'n nodi eu bod yn Wyn-Prydeinig yn cyfrif am 95.8% o'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • O gyfanswm nifer yr athrawon, gwnaeth 0.7% ddatgan fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu salwch yn para neu y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy.

Y Gymraeg: athrawon

  • O'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, dywedodd 31.2% fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’.
  • Roedd cyfran yr athrawon a ddywedodd fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’ yn amrywio fesul sector, o 12.6% mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion i 51.3% mewn ysgolion canol; mae hyn yn adlewyrchu’r gyfran uwch o ysgolion canol wedi’u categoreiddio fel cyfrwng Gymraeg neu ddwyieithog. Y gyfran mewn ysgolion cynradd ac uwchradd oedd 33.1% a 28.3%, yn y drefn honno.
  • Cyfran yr athrawon a ddywedodd fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’ ond nad oeddent yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg oedd 15.2% (12.4% mewn ysgolion cynradd a 19.0% (r) mewn ysgolion uwchradd).

(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Cyflogau athrawon

Mae gwybodaeth am gyflog (gan gynnwys cyflog cyfartalog a dosbarthiad ar draws yr ystodau cyflog) yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd yn natganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY.  Cafodd cofnodion o'r datganiad hwn eu cysylltu â datganiad Ysgol y CBGY gan ddefnyddio'r set ddata gofynnol i ddarparu dadansoddiad fesul sector ysgol (h.y. cynradd, uwchradd, ac ati).  Lle nad oedd cofnod cyfatebol yn natganiad Ysgol y CBGY, mae'r sector wedi'i gofnodi fel ‘Arall’. Felly, ni fydd cyfansymiau data ar gyflog athrawon yn hafal i gyfansymiau data ar nodweddion athrawon uchod (gweler adroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: adroddiad ansawdd’ am wybodaeth bellach).

Image
Siart 3: Cyflog Cyfwerth ag Amser Llawn cyfartalog (cymedr) Athrawon yn ôl swydd, Tachwedd 2020. Mae'r siart yn dangos mae penaethiaid (yn cynnwys penaethiaid gweithredol) sy'n derbyn y cyflog uchaf.

Cyflogau athrawon ar StatsCymru

  • O'r holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, roedd 23.1% ar y brif ystod gyflog ac roedd 61.6% ar yr ystod gyflog uwch. Roedd 13.8% o athrawon ar yr ystod gyflog i arweinwyr. Mae’r dosraniad o staff addysgu yn ôl ystod gyflog heb newid ar y cyfan ers y flwyddyn flaenorol (Tachwedd 2019).
  • Cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) yr holl athrawon mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol oedd £41,500. Mae hyn yn gynydd o 3.5% ar y cyflog cyfartalog a gyhoeddwyd ar gyfer 2019.
  • Roedd athrawon ystafell ddosbarth ar draws pob sector yn cael cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog o £38,453. Roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn gymedrig yn amrywio o fewn sectorau, gydag athrawon ysgol gynradd yn cael cyflog cyfartalog o £38,253 o gymharu â £38,619 ar gyfer athrawon ystafell ddosbarth ysgol uwchradd.
  • Roedd penaethiaid (gan gynnwys penaethiaid gweithredol) yn cael cyflog cyfartalog o £68,079 o gymharu â £60,272 (r) ar gyfer yr holl athrawon mewn swyddi arwain.
  • Y cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog ar gyfer penaethiaid mewn ysgolion cynradd oedd £63,439 o gymharu â £92,327 ar gyfer penaethiaid mewn ysgolion uwchradd.

(r) Wedi’i ddiwygio 16 Medi 2021.

Staff cymorth

Staff Cymorth (Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE)) yn ôl categori staff

Image
Mae'r siart yn dangos bod yna nifer uwch o staff cymorth yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu na mewn rolau staff cymorth eraill.

Staff cymorth (Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion) ar StatsCymru

  • Ym mis Tachwedd 2020, roedd yna 29,055 (r) staff cymorth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • Roedd y mwyafrif o staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion cynradd (63.0%) (r) neu ysgolion uwchradd (23.4%) (r).
  • Roedd yna gyfran uwch o staff cymorth yn gweithio mewn rolau cynorthwywyr addysgu (a) (55.2%) (r) o’i gymharu â rolau staff cymorth eraill (b) (44.8%) (r).

(a) Yn cynnwys cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) a cynorthwywyr iaith dramor.            
(b) Yn cynnwys cydlynydd AAA, staff cymorth AAA, rheolwyr busnes ysgol, staff cymorth bugeiliol, staff TChG, staff gweinyddol, technegwyr gwyddoniaeth a labordy, llyfrgellwyr a cynorthwywyr llyfrgell, matroniaid, nysys/staff meddygol, swyddogion arholiad, goruchwylwyr canol dydd, staff ymgynghorol a staff cymorth eraill.
(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Staff cymorth (Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE)) yn ôl category staff a rhyw

  • O’r holl staff cymorth, roedd 37.1% (r) yn gweithio amser llawn a 62.9% (r) yn gweithio rhan-amser.
  • O’r rhai hynny mewn cynorthwywyr addysgu (a), roedd 34.1% yn gweithio amser llawn o’i gymharu â 35.8% (r) mewn swyddi staff cymorth eraill (b).
  • Roedd yna gyfran uwch o wrywod yn gweithio amser llawn (56.0%) (r) na benywod (35.2%) (r).
  • Roedd y gyfran o athrawon benywaidd yn gweithio amser llawn yn amrywio o 28.6% (r) mewn ysgolion cynradd i 67.1% (r) mewn unedau cyfeirio disgyblion.

(a) Yn cynnwys cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) a cynorthwywyr iaith dramor.            
(b) Yn cynnwys cydlynydd AAA, staff cymorth AAA, rheolwyr busnes ysgol, staff cymorth bugeiliol, staff TChG, staff gweinyddol, technegwyr gwyddoniaeth a labordy, llyfrgellwyr a cynorthwywyr llyfrgell, matroniaid, nysys/staff meddygol, swyddogion arholiad, goruchwylwyr canol dydd, staff ymgynghorol a staff cymorth eraill.
(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Staff cymorth (cyfrif pennau) yn ôl rhyw, oedran, ethnigrwydd a statws anabledd

Image
Mae'r siart yn dangos bod y gyfran o athrawon gwrywaidd ar ei uchaf mewn ysgolion uwchradd, a'r gyfran uchaf o athrawon benywaidd mewn ysgolion meithrin a cynradd.

Staff cymorth (Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion) ar StatsCymru

  • O'r holl staff cymorth mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd 90.9% (r) yn fenywod. Roedd cyfran y staff cymorth a oedd yn fenywod yn amrywio o 78.9% (r) mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion i 98.7% mewn ysgolion meithrin.  Roedd menywod yn cyfrif am 96.1% (r) o staff cymorth mewn ysgolion cynradd a 79.9% (r) mewn ysgolion uwchradd.
  • Roedd y gyfran fwyaf o staff cymorth ym mhob lleoliad a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru rhwng 50 oed a 59 oed (29.0%).
  • Mae hyn yn amrywio ar draws cyfnodau ysgol. Roedd y gyfran fwyaf o staff cymorth rhwng 30 a 39 oed mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion (27.3%), rhwng 40 a 49 oed mewn ysgolion cynradd (28.8%) (r) ac ysgolion canol (26.7%) (r) a rhwng 50 a 59 oed mewn ysgolion meithrin (31.6%), ysgolion uwchradd (31.5%) (r) ac ysgolion arbennig (25.6%) (r).
  • Roedd staff cymorth sy'n nodi eu bod yn Wyn-Prydeinig yn cyfrif am 94.2% o'r holl staff cymorth mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • O gyfanswm nifer y staff cymorth, gwnaeth 1.1% ddatgan fod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu salwch yn para neu y disgwylir iddo bara am 12 mis neu fwy.

(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Y Gymraeg: staff cymorth

  • O'r holl staff cymorth mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol, dywedodd 17.3% (r) fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’.
  • Roedd cyfran y staff cymorth a ddywedodd fod eu gallu Cymraeg ar lefel ‘Uwch’ neu lefel ‘Hyfedredd’ yn amrywio fesul sector, o 8.9% (r) mewn ysgolion arbennig i 32.5% (r) mewn ysgolion canol. Y gyfran mewn ysgolion cynradd ac uwchradd oedd 18.2% (r) a 16.3% (r), yn y drefn honno.

(r) Diwygiwyd ar 16 Medi 2021.

Gwybodaeth ar ansawdd y data a methodoleg

Mae’r prif ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yng nghasgliad cyntaf y CBGY ac, fel y cyfryw, cânt eu cyhoeddi fel ‘ystadegau arbrofol’.  Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2020 wedi’i dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol.  Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Mae ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: adroddiad ansawdd’ yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Gareth Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 253/2021(R)