Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ystadegau arbrofol yw'r rhain yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd yn y trydydd Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yng Nghymru ym mis Tachwedd 2022. Mae’r CBGY yn casglu gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Rhwng 2021 a 2022, gwelwyd ostyngiad o 0.6% yn y nifer o athrawon yn gweithio mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, er gwelwyd gynnydd o 2.8% yn y nifer o staff cymorth. Un esboniad posib am y gostyngiad yn y nifer o athrawon yw natur dros dro, a’r newidiadau i, arian Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (RAChS). Darparwyd arian RAChS i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) i recriwtio staff ychwanegol i ddarparu cymorth i ddisgyblion. Roedd y mwyafrif o’r staff yma wedi’u cyflogi ar sail dros dro a lleihawyd yr arian a ddyrannwyd ers yr arian gwreiddiol.

Mae’r tablau StatsCymru a dangosfyrddau cysylltiedig yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl ar y gweithlu ysgol, yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl awdurdod lleol a sector.

Ar hyn o bryd, dylid parhau i ddefnyddio’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) fel y ffynhonell swyddogol ar gyfer ystadegau ar y gweithlu ysgol. Unwaith mae safon data’r CBGY wedi eu sicrhau yn llawn, bydd y CBGY yn disodli’r elfennau gweithlu yn y CYBLD.

Gweler ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).

Athrawon

Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r casgliad data CBGY Ysgol. Mae’r CBGY Ysgol yn cael ei gwblhau gan bob ysgol wedi’i chynnal gan awdurdodau lleol ac yn adlewyrchu’r gweithlu ar ddyddiad y cyfrifiad sydd fel arfer ar ddechrau Tachwedd. Y dyddiad cyfrifiad oedd 8 Tachwedd 2022. Nid yw’r CBGY Ysgol yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol heb contract gyda ysgolion penodol. Mae’r staff yma wedi’u cynnwys yn y rhan cyflogau athrawon. Fel rhan o’r data CBGY Ysgol mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn yn cael ei gofnodi sy’n dangos y gyfran o amser contract llawn mae’r unigolion yn gwario ym mhob rôl ac ysgol.

Athrawon: rolau

  • Ym mis Tachwedd 2022, roedd yna 26,445 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gostyngiad o 0.6% o’i gymharu â Thachwedd 2021.
  • Roedd yna 24,640 o athrawon cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 1],  lawr 0.2% ar 2021.
  • Ar sail mesur person cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 2], roedd yna 22,215 athro (84.0%) yn gweithio fel athro dosbarth wedi cymhwyso.
  • Roedd y mwyafrif o staff addysgu yn gweithio mewn ysgolion cynradd (48.5%) neu ysgolion uwchradd (41.0%).

Athrawon: vodweddion

  • 19,695 o athrawon (74.5%) yn fenywod. Mewn rolau arweinyddiaeth, roedd menywod yn cyfri am 64.6% o athrawon mewn swyddi arweinyddiaeth [troednodyn 3].
  • Roedd yna chyfran uwch o athrawon benywaidd mewn ysgolion cynradd (83.1%) i gymharu ag ysgolion uwchradd (65.0%).
  • 15,905 o’r holl athrawon (60.1%) yn uniaethu fel Cymraeg.
  • 325 athro (1.2%) ag ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 4]. Roedd yna gyfran lai o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol mewn rolau arweinyddiaeth (a, 0.6%).
  • 190 athro (0.7%) wedi nodi bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.

Athrawon: y Gymraeg

  • Roedd 6,610 o athrawon (25.0%) yn dysgu/gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu swydd bresennol, â 1,620 (6.1%) arall yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond ddim yn gwneud ar y pryd.
  • 10,230 o athrawon (38.7%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch [troednodyn 5]. Roedd y gyfran yn amrywio rhwng sectorau ysgol, gyda 56.8% mewn ysgolion ganol a 31.3% mewn ysgolion uwchradd. Ar lefel awdurdod lleol, roedd y gyfran yn amrywio o 12.2% ym Mlaenau Gwent i 93.2% yn Ynys Môn.

Ffigur 1: Cyfran o athrawon â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Mae’r map yma yn dangos mae Ynys Môn, Gwynedd a Ceredigion sydd â’r gyfran uchaf o athrawon â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch. Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy sydd â’r gyfran isaf.

Ffynhonnell: CBGY Ysgol

Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru

[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y 'Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg'

Athrawon: pynciau a ddysgir

Mae’r data yma yn adlewyrchu pynciau a ddysgir i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7-13 dros amserlen pythefnos arferol.

  • Roedd y gyfran fwyaf o amserlen addysgu ysgolion yn addysgu Mathemateg (13.5%), Saesneg (13.1%), Gwyddoniaeth [troednodyn 6] (10.2%), Cymraeg (7.4%) ac Addysg Gorfforol (6.8%).
  • Ar gyfartaledd, dysgir 1 o bob 5 awr addysgu (21.3%) yn ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Unigolion yn addysgu Mathemateg oedd yn gwario’r gyfran fwyaf o’u hamserlen yn addysgu’r pwnc hynny (82.7%) [troednodyn 7]. Y gyfran ar gyfer y rhai hynny’n dysgu Ieithoedd Modern oedd 77.9%, Saesneg 77.2% a Cymraeg 76.1%.

Ffigwr 2: Nifer o athrawon yn ôl mesur (cyfrif pen a cyfwerth â pherson llawn) a pynciau a ddysgir, Tachwedd 2022

Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Mae’r siart bar yma yn dangos y pum pwnc gyda’r nifer mwyaf o athrawon yn addysgu’r pwnc fel ar Dachwedd 2022 – Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Cymraeg ac Addysg Gorfforol. Roedd y cyfrif pen yn amrywio o 1,960 yn addysgu Saesneg i 1,135 yn addysgu Cymraeg. Roedd y nifer cyfwerth â pherson llawn yn amrywio o 1,530 o athrawon yn addysgu Mathemateg i 820 yn addysgu Addysg Gorfforol.

Ffynhonnell: CBGY Ysgol

Athrawon yn ôl mesur (cyfrif pennau, cyfwerth â pherson llawn ac oriau) a pynciau a ddysgir ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae'r cyfrif pen yn cyfri athrawon am bob pwnc a ddysgir.

[Nodyn 2] Mae'r mesur cyfwerth a â pherson llawn yn rhannu athrawon yn ôl y gyfran o amser yn dysgu bob pwnc. Mae athro sy'n gwario hanner ei amser yn dysgu Mathemateg a hanner ei amser yn dysgu Saesneg wedi ei cyfri 0.5 yn erbyn y ddau bwnc.

Athrawon: recriwtio a chadw staff

Mae’r data yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2021/22.

Mae’r fethodoleg i gyfrifo’r nifer o swyddi gwag a’r nifer cyfartaledd o geisiadau am bob swydd wedi’u diwygio ers llynedd fel bod pob swydd wag wedi’u hysbysebu ond yn cael eu cyfri unwaith. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yn ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’.

  • Ar gyfartaledd, derbyniwyd 9.1 cais am bob swydd wag hysbyswyd. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (4.6) yn is i’w gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (10.5). Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (5.5) yn is nag ar gyfer swyddi ysgolion cynradd (14.1).
  • Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2021/22 roedd 2,037 o swyddi gwag hysbyswyd (88.9%) wedi’u llenwi.
  • O’r 1,080 o athrawon oedd wedi gadael y proffesiwn, roedd 360 (30.7%) wedi ymddeol (ymddeol ar oedran arferol neu gynnar).

Athrawon: cyflogau a lwfansau

Mae’r data canlynol ar gyflogau a lwfansau athrawon ac absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau. Mae hyn yn cael ei gwblhau gan bob awdurdod lleol ac unrhyw ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth gyda’u hawdurdod lleol. Bydd y mwyafrif o’r gweithlu wedi’u cofnodi yn y set ddata CBGY Ysgol a set ddata CBGY Cyflog, AD ac Absenoldebau, er mi fydd yna rhai eithriadau. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol wedi’u cofnodi yn y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’. Mae’r data canlynol ar nifer cyfwerth ag amser llawn yn dangos unigolion wedi’u cyfri am y gyfran o amser contract llawn maent yn cael eu talu ar raddfa gyflog benodol a bydd yn wahanol i’r ffigurau nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nodweddion athrawon o’r data CBGY Ysgol.

Ni chwblhawyd a gweithredu dyfarniad codiad cyflog athrawon am y flwyddyn academaidd 2022/23 tan ar ôl dyddiad y cyfrifiad CBGY. Fel canlyniad, nid yw’r ffigurau ar gyflogau athrawon yn y datganiad hwn yn adlewyrchu’r codiad cyflog ar gyfer 2022/23 yn llawn. Gweler ein hadroddiad Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ am wybodaeth bellach.

  • Y nifer o athrawon cyfwerth ag amser llawn oedd 25,885, gyda 15,405 (59.5%) yn cael eu talu ar yr ystod gyflog uwch.
  • Roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) ar gyfer yr holl athrawon yn £43,740, cynnydd o £1,660 (3.9%) ar 2021.
  • Roedd athrawon ystafell ddosbarth ar draws pob sector yn cael cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog o £40,546. Roedd hyn yn amrywio o £40,383 mewn ysgolion cynradd i £40,809 mewn ysgolion uwchradd.
  • Roedd cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog ar gyfer penaethiaid (a) mewn ysgolion uwchradd (£96,979) tipyn uwch o’i gymharu ag ysgolion cynradd (£67,752).
  • Ar gyfartaledd, roedd dynion ((£45,421) yn cael eu talu £2,260 yn fwy nag menywod (£43,162). Ar gyfer athrawon dosbarth, roedd menywod (£40,602) yn cael eu talu mwy na dynion ((£40,309). Er hynny, mewn swyddi arweiyddiaeth, roedd dynion (£67,732) yn cael eu talu mwy na menywod (£62,405) ar gyfartaledd.
  • Rhwng Tachwedd 2021 a 2022, roedd 8,580 athro (29.6%) wedi derbyn lwfans Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu gyda swm cyfartalog o £4,830.
Tabl 1: Cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (cymedr) yn ôl swydd a rhyw, Tachwedd 2022
  Gwryw Benyw Cyfanswm
Athro heb gymhwyso £26,881 £25,642 £26,066
Athro dosbarth £40,309 £40,620 £40,546
Ymarferydd arweiniol £55,084 £55,829 £55,594
Pennaeth [Nodyn 1] £76,795 £70,234 £72,774
Arweinyddiaeth arall [Nodyn 2] £61,472 £58,227 £59,292
Holl arweinyddiaeth £67,732 £62,405 £64,269
Cyfanswm £45,421 £43,162 £43,740

Disgrifiad o Tabl 1: Mae’r tabl yma yn dangos cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog yn ôl swydd a rhyw fel ar Tachwedd 2022. Y cyflog cyfartalog ar gyfer yr holl athrawon oedd £43,740. Cyflog cyfartalog penaethiaid oedd £72,000, a chyflog cyfartalog athrawon dosbarth oedd £40,546.

Ffynhonnell: CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau

Cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (cymedr a chanolrif) athrawon yn ôl awdurdod lleol a swydd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Yn cynnwys penaethiaid gweithredol.

[Nodyn 2] Yn cynnwys penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a penaethiaid cynorthwyol.

Athrawon: absenoldeb trwy salwch

Mae’r data yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2021/22.

  • Agorwyd neu caewyd 39,000 cofnod absenoldeb trwy salwch yn ystod y flwyddyn academaidd.
  • Cymrodd 18,065 o athrawon (65.2%) o leiaf un cyfnod absenoldeb trwy salwch.
  • Mae’r ffigurau yma yn arwyddocaol uwch na 2020/21 ond yn fwy tebyg i’r ffigurau cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae data 2020/21 yn cynnwys cyfnod cafodd ei heffeithio gan COVID-19 gan effeithio sut roedd ysgolion yn gweithredu gyda cyfnodau o ysgolion ar gau. Felly mae’n bosib bod hyn wedi effeithio y nifer o absenoldebau trwy salwch wedi’u cofnodi.
  • Collwyd 5.9 diwrnod gwaith ar gyfartaledd am bob absenoldeb trwy salwch. Y nifer cyfartalog o ddyddiau gwaith collwyd gan athrawon oedd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch oedd 12.8, fyny o 11.9 yn 2020/21.

Ffigwr 3: Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u hagor yn ôl mis a math o absenoldeb, 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigwr 3: Mae’r siart llinell yn dangos y nifer o absenoldebau tymor byr a thymor hir agorwyd yn ystod y flwyddyn ysgol ym mhob mis. Mae’r nifer o absenoldebau tymor byr yn arwyddocaol o uwch nag absenoldebau tymor hir, gyda’r nifer uchaf ym mis Tachwedd, Ionawr a Mawrth. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22 roedd yna ostyngiad sylweddol ym mis Ebrill, gyda’r toriad Pasg, ac eto ym mis Gorffennaf ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.

Ffynhonnell: CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau

Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch yn ôl mis agorwyd a cyfnod salwch ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mwy na 20 diwrnod gwaith wedi'u colli.

Staff cymorth

Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Ysgol wedi’u cwblhau gan bob ysgol wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol gan adlewyrchu’r gweithlu fel ar y dyddiad cyfrifiad. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’.

Staff cymorth: rolau

  • Ym mis Tachwedd 2022, roedd yna 30,860 staff cymorth, cynnydd o 2.8% o’i gymharu â Thachwedd 2021.
  • Roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 8] o’r holl staff cymorth yn 24,160, cynnydd o 3.7%.
  • Yn seiliedig ar y nifer cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 9], roedd 15,660 (50.7%) o staff cymorth yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu, gyda 1,590 (5.1%) arall yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU).
  • Roedd mwy o staff cymorthyn gweithio mewn ysgolion Cynradd (61.8%) nag ysgolion Uwchradd (23.7%).

Staff cymorth: nodweddion staff

  • Roedd 27,910 o staff cymorth (90.4%) yn fenywod, i’w gymharu â 74.5% o athrawon.
  • 17,020 staff cymorth (55.1%) yn uniaethu yn Gymraeg.
  • Roedd 890 o staff cymorth (2.9%) o grŵp ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 10], o’i gymharu â 1.2% o athrawon.
  • Nododd 395 staff cymorth (1.3%) bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.

Staff cymorth: y Gymraeg

  • 6,315 o staff cymorth (20.5%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch, o’i gymharu â 38.7% o athrawon [troednodyn 5].
  • Roedd y gyfran o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg lefel ganolradd neu uwch yn amrywio o 2.6% ym Mlaenau Gwent i 84.0% yng Ngwynedd [troednodyn 5].

Ffigur 4: Cyfran o staff cymorth â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 4: Mae’r map yma yn dangos mae Ynys Môn a Gwynedd sydd â’r gyfran uchaf o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch, tra bod dros hanner o’r awdurdodau lleol â llai na 20% o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch.

Ffynhonnell: CBGY Ysgol

Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol (Staff Cymorth) ar StatsCymru

[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y 'Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg'

Staff cymorth: recriwtio a chadw staff

Mae’r data yma yn cyfeirio at gynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr Anghenhion Dysgu Ychwanegol (ADY) a staff cymorthADY yn unig ar gyfer 2021/22.

  • Ar gyfartaledd, derbyniwyd 6.6 cais am bob swydd wag. Mae’r cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (3.6) o’i gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (7.7) Hefyd, roedd y cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (3.9) o’i gymharu â swyddi ysgolion cynradd (7.0).
  • Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, roedd 1,482 o swyddi a hysbyswyd (87.7%) wedi’u llenwi.
  • O’r 1,850 staff cymorth wnaeth adael y proffesiwn, roedd 580 (31.4%) wedi symud i swyddi tu allan i addysg.

Gwybodaeth ar Ansawdd y Data a Methodoleg

Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2022 wedi’i dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol.  Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Mae ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Troednodiadau

[1] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.

[2] Mae Cyfwerth â Pherson  Llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.

[3] Yn cynnwys penaethiaid, penaethiaid gweithredol, penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.

[4] Yn cynnwys Du/Affricanaidd/Caribî/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig cymysg/lluosog a grwpiau ethnig eraill.

[5] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y ‘Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg’.

[6] Nid yw gwyddoniaeth yn cynnwys bioleg, cemeg neu ffiseg lle’u dysgir fel pwnc ar wahan.

[7] Mae hyn yn cynrychioli’r nifer cyfwerth â pherson llawn fel cyfran o gyfrif pen. Y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r cyfwerth â pherson llawn y mwyaf yw’r gyfran o amser mae unigolion yn gwario yn dysgu’r pwnc yna. Os yw unigolyn yn gwario cyfran uchel o’u hamser yn dysgu pwnc penodol, mae’n bosib bod hyn yn dangos mwy o arbenigedd  yn y pwnc.

[8] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.

[9] Mae cyfwerth â pherson llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.

[10] Yn cynnwys Du/Affricanaidd/Caribî/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig cymysg/lluosog a grwpiau ethnig eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Gareth Thomas
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 55/2023