Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion: ym mis Tachwedd 2024 (ystadegau swyddogol)
Ystadegau ar maint a nodweddion y gweithlu ysgol ym mis Tachwedd 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ystadegau swyddogol yw'r rhain yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd yn y trydydd Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yng Nghymru ym mis Tachwedd 2024. Mae’r CBGY yn casglu gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Rhwng 2023 a 2024, gwelwyd ostyngiad o 2.4% yn y nifer o athrawon yn gweithio mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, a gwelwyd ostyngiad o 2.3% yn y nifer o staff cymorth. Un esboniad posib am y gostyngiad yn y nifer o athrawon yw natur dros dro, a’r newidiadau i, arian Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (RAChS). Darparwyd arian RAChS i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID a’r cyfnod adferu hyd at 2023-24, er mae’r swm sydd wedi’i ddyrannu wedi lleihau ers yr ariannu gwreiddiol yn 2020-21. Roedd y mwyafrif o’r staff yma wedi’u cyflogi ar sail dros dro ac mae hyn wedi effeithio y newidaiadau sydd i’w gweld yn y gweithlu ysgol. Ceir mwy o wybodaeth ar Werthusiad o’r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.
Mae’r tablau StatsCymru cysylltiedig yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl ar y gweithlu ysgol, yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl awdurdod lleol a sector.
Ar hyn o bryd, mae’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) hefyd yn casglu gwybodaeth ar y gweithlu ysgol yng Nghymru ac yn cael eu cyhoeddi yn datganiad blynyddol Canlyniadau'r Cyfrifiad Ysgolion. Unwaith mae safon data’r CBGY wedi eu sicrhau yn llawn, bydd elfennau gweithlu y CYBLD yn cael eu dileu.
Caiff Datganiad Ysgol y CBGY ei gwblhau gan ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae ysgolion yn cofnodi a diweddaru data ar y gweithlu drwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Rheoli Gwybodaeth (SRhG). Mae’r Datganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY yn cael ei gwblhau gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion sydd wedi dewis peidio ag ymrwymo i gytundebau lefel gwasanaeth adnoddau dynol a/neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Caiff y data eu cynnal drwy’r flwyddyn yn eu systemau adnoddau dynol a chyflogres. Mae’r ddwy elfen yn cael eu cysylltu’n ddi-enw er mwyn galluogi dadansoddi cyflogau aabsenoldebau trwy salwch athrawon yn ôl nodweddion ysgol a staff.
Gweler ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).
Prif bwyntiau
- Roedd yna 25,115 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gostyngiad o 2.4% o’i gymharu â Thachwedd 2023.
- 18,655 o athrawon (74.3%) yn fenywod. Roedd menywod yn cyfri am 66.6% o athrawon mewn swyddi Arweinyddiaeth.
- 9,805 o athrawon (39.1%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch.
- Ar gyfartaledd, derbyniwyd 10.0 cais am bob swydd wag hysbyswyd. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (5.1) yn is i’w gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (11.5).
- Cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) ar gyfer yr holl athrawon oedd £48,930.
- Y nifer cyfartalog o ddyddiau gwaith collwyd gan athrawon oedd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch oedd 12.3, fyny o 11.3 yn 2022/23.
- Roedd yna 29,250 staff cymorth, gostyngiad o 3.0% o’i gymharu â Thachwedd 2023.
Athrawon
Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r casgliad data CBGY Ysgol. Mae’r CBGY Ysgol yn cael ei gwblhau gan bob ysgol wedi’i chynnal gan awdurdodau lleol ac yn adlewyrchu’r gweithlu ar ddyddiad y cyfrifiad sydd fel arfer ar ddechrau Tachwedd. Y dyddiad cyfrifiad oedd 5 Tachwedd 2024. Nid yw’r CBGY Ysgol yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol heb contract gyda ysgolion penodol. Mae’r staff yma wedi’u cynnwys yn y rhan cyflogau athrawon. Fel rhan o’r data CBGY Ysgol mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn yn cael ei gofnodi sy’n dangos y gyfran o amser contract llawn mae’r unigolion yn gwario ym mhob rôl ac ysgol.
Rolau athrawon
- Ym mis Tachwedd 2024, roedd yna 25,115 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gostyngiad o 2.4% o’i gymharu â Thachwedd 2023.
- Roedd yna 23,410 o athrawon cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 1].
- Ar sail mesur person cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 2], roedd yna 20,915 athro (83.3%) yn gweithio fel athro dosbarth wedi cymhwyso.
- Roedd y mwyafrif o staff addysgu yn gweithio mewn ysgolion cynradd (46.9%) neu ysgolion uwchradd (40.7%).
Nodweddion athrawon
- 18,655 o athrawon (74.3%) yn fenywod. Mewn rolau arweinyddiaeth, roedd menywod yn cyfri am 66.6% o athrawon mewn swyddi Arweinyddiaeth [troednodyn 3].
- Roedd yna chyfran uwch o athrawon benywaidd mewn ysgolion cynradd (82.9%) i gymharu ag ysgolion uwchradd (65.2%).
- 340 athro (1.3%) ag ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 4]. Roedd yna gyfran lai o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol mewn rolau arweinyddiaeth (0.7%).
- 15,235 o’r holl athrawon (60.7%) yn uniaethu fel Cymraeg.
- 210 athro (0.8%) wedi nodi bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.
Gallu athrawon yn y Gymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae athrawon yn nodi eu sgiliau iaith Gymraeg yn erbyn y Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg ymarferwyr addysg. Mae’r ffigurau isod yn mesur y nifer o athrawon sydd ag sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd, uwch neu hyfrededd gan bod hyn yn dangos bod gan rhai unigolion y sgiliau anghenrheidiol i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond efallai angen datblygu eu sgiliau ac hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
- 9,805 o athrawon (39.0%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch [troednodyn 5]. Roedd y gyfran yn amrywio rhwng sectorau ysgol, o 20.4% mewn ysgolion arbennig i 50.8% mewn ysgolion ganol. Ar lefel awdurdod lleol, roedd y gyfran yn amrywio o 13.9% ym Mlaenau Gwent i 93.0% yng Ngwynedd.
- Roedd 6,195 o athrawon (24.7%) yn dysgu/gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu swydd bresennol, â 1,590 (6.3%) arall yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond ddim yn gwneud ar y pryd yn eu Swydd presennol.
Ffigur 1: Cyfran o athrawon â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigwr 1: Mae’r map yma yn dangos mae Ynys Môn, Gwynedd a Ceredigion sydd â’r gyfran uchaf o athrawon â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch. Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy sydd â’r gyfran isaf.
Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol
Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru
[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y 'Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg'
Pynciau a ddysgir gan athrawon
Mae’r data yma yn adlewyrchu pynciau a ddysgir i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 dros amserlen pythefnos arferol.
- Roedd y gyfran fwyaf o amserlen addysgu ysgolion yn addysgu Mathemateg (13.6%), Saesneg (13.3%), Gwyddoniaeth [troednodyn 6] (10.6%), Cymraeg (7.4%) ac Addysg Gorfforol (6.7%).
- Ar gyfartaledd, dysgir 1 o bob 5 awr addysgu (20.4%) yn ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Unigolion yn addysgu Mathemateg oedd yn gwario’r gyfran fwyaf o’u hamserlen yn addysgu’r pwnc hynny (83.8%) [troednodyn 7]. Y gyfran ar gyfer y rhai hynny’n dysgu Saesneg oedd 81.3%, Cymraeg 75.0% ac Ieithoedd Modern 74.6%.
Ffigwr 2: Nifer o athrawon yn ôl mesur (cyfrif pen a cyfwerth â pherson llawn) a pynciau a ddysgir, Tachwedd 2024
Disgrifiad o Ffigwr 2: Mae’r siart bar yma yn dangos y pum pwnc gyda’r nifer mwyaf o athrawon yn addysgu’r pwnc fel ar Dachwedd 2024 – Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Addysg Gorfforol a Cymraeg. Roedd y cyfrif pen yn amrywio o 1,810 yn addysgu Saesneg i 1,110 yn addysgu Cymraeg. Roedd y nifer cyfwerth â pherson llawn yn amrywio o 1,520 o athrawon yn addysgu Mathemateg i 820 yn addysgu Addysg Gorfforol.
Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol
[Nodyn 1] Mae'r cyfrif pen yn cyfri athrawon am bob pwnc a ddysgir.
[Nodyn 2] Mae'r mesur cyfwerth a â pherson llawn yn rhannu athrawon yn ôl y gyfran o amser yn dysgu bob pwnc. Mae athro sy'n gwario hanner ei amser yn dysgu Mathemateg a hanner ei amser yn dysgu Saesneg wedi ei cyfri 0.5 yn erbyn y ddau bwnc.
Recriwtio a chadw athrawon
Data ar recriwtio a chadw athrawon, yn cynnwys swyddi wedi’u hysbysebu, nifer o geisiadau ac athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn. Mae’r data yma wedi gasglu’n wrtholygol ac yn cynnwys unrhyw swyddi parahaol am dymor neu fwy wedi’u hysbysebu, ac athrawon sydd wedi gadael y proffesiwn yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24.
- Ar gyfartaledd, derbyniwyd 10.0 cais am bob swydd wag hysbyswyd. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (5.1) yn is i’w gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (11.5). Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (4.6) yn is nag ar gyfer swyddi ysgolion cynradd (12.3).
- Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2023/24 roedd 1,926 o swyddi gwag hysbyswyd (88.7%) wedi’u llenwi.
- O’r 1,465 o athrawon oedd wedi gadael y proffesiwn, roedd 455 (31.0%) wedi ymddeol (ymddeol ar oedran arferol neu gynnar).
Cyflogau a lwfansau athrawon
Mae’r data canlynol ar gyflogau a lwfansau athrawon ac absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau. Mae hyn yn cael ei gwblhau gan bob awdurdod lleol ac unrhyw ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth gyda’u hawdurdod lleol. Bydd y mwyafrif o’r gweithlu wedi’u cofnodi yn y set ddata CBGY Ysgol a set ddata CBGY Cyflog, AD ac Absenoldebau, er mi fydd yna rhai eithriadau. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol wedi’u cofnodi yn y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’. Mae’r data canlynol ar nifer cyfwerth ag amser llawn yn dangos unigolion wedi’u cyfri am y gyfran o amser contract llawn maent yn cael eu talu ar raddfa gyflog benodol a bydd yn wahanol i’r ffigurau nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nodweddion athrawon o’r data CBGY Ysgol.
Ni chwblhawyd a gweithredu dyfarniad codiad cyflog athrawon am y flwyddyn academaidd 2024/25 tan ar ôl dyddiad y cyfrifiad CBGY. O ganlyniad nid yw’r ffigurau ar gyflogau athrawon cyhoeddwyd ar gyfer 2024/25 yn adlewyrchu’r codiad tâl llawn ar gyfer 2024/25. Gweler ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ am wybodaeth bellach.
- Y nifer o athrawon cyfwerth ag amser llawn yn cael eu talu ar raddfeydd cyflogau yn ôl Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2024 oedd 24,710, gyda 15,090 (61.1%) yn cael eu talu ar yr ystod gyflog uwch.
- Roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog (cymedr) ar gyfer yr holl athrawon yn £48,930.
- Roedd athrawon ystafell ddosbarth ar draws pob sector yn cael cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog o £45,342. Roedd hyn yn amrywio o £45,271 mewn ysgolion cynradd i £45,750 mewn ysgolion uwchradd.
- Roedd cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog ar gyfer penaethiaid [nodyn 1] mewn ysgolion uwchradd (£104,025) tipyn uwch o’i gymharu ag ysgolion cynradd (£73,761).
- Ar gyfartaledd, roedd dynion (£50,665) yn cael eu talu £2,329 yn fwy nag menywod (£48,336). Ar gyfer athrawon dosbarth, roedd menywod (£45,434) yn cael eu talu mwy na dynion (£45,048). Er hynny, mewn swyddi arweiyddiaeth, roedd dynion (£74,733) yn cael eu talu mwy na menywod (£69,156) ar gyfartaledd.
- Rhwng Tachwedd 2023 a 2024, roedd 7,980 athro (27.7%) wedi derbyn lwfans Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu gyda swm cyfartalog o £5,198.
| Swydd | Gwryw | Benyw | Cyfanswm |
|---|---|---|---|
| Athro heb gymhwyso | £29,765 | £29,055 | £29,290 |
| Athro dosbarth | £45,048 | £45,434 | £45,342 |
| Ymarferydd arweiniol | £65,406 | £61,427 | £62,832 |
| Pennaeth [Nodyn 1] | £83,208 | £76,525 | £79,041 |
| Arweinyddiaeth arall [Nodyn 2] | £68,101 | £64,675 | £65,761 |
| Holl arweinyddiaeth | £74,773 | £69,156 | £71,070 |
| Cyfanswm | £50,665 | £48,336 | £48,930 |
Disgrifiad o Tabl 1: Mae’r tabl yma yn dangos cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog yn ôl swydd a rhyw fel ar Tachwedd 2024. Y cyflog cyfartalog ar gyfer yr holl athrawon oedd £48,930. Cyflog cyfartalog penaethiaid oedd £79,041, a chyflog cyfartalog athrawon dosbarth oedd £45,342.
Ffynhonnell: Data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau
[Nodyn 1] Yn cynnwys penaethiaid gweithredol.
[Nodyn 2] Yn cynnwys penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a penaethiaid cynorthwyol.
Absenoldeb trwy salwch athrawon
Mae’r data yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2023/24.
- Agorwyd neu caewyd 34,785 cofnod absenoldeb trwy salwch yn ystod y flwyddyn academaidd.
- Cymrodd 16,145 o athrawon (60.6%) o leiaf un cyfnod absenoldeb trwy salwch.
- Collwyd 5.7 diwrnod gwaith ar gyfartaledd am bob absenoldeb trwy salwch, fyny o 5.3 yn 2022/23. Y nifer cyfartalog o ddyddiau gwaith collwyd gan athrawon oedd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch oedd 12.2, cynnydd o 11.3 yn 2022/23.
Ffigwr 3: Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch wedi’u hagor yn ôl mis a math o absenoldeb, 2023/24
Disgrifiad o Ffigwr 3: Mae’r siart llinell yn dangos y nifer o absenoldebau tymor byr a thymor hir agorwyd yn ystod y flwyddyn ysgol ym mhob mis yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24. Mae’r nifer o absenoldebau tymor byr yn arwyddocaol o uwch nag absenoldebau tymor hir, gyda’r nifer uchaf ym mis Hydref. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24 roedd yna ostyngiad sylweddol ym mis Ebrill, gyda’r toriad Pasg, ac eto ym mis Gorffennaf ar ddiwedd y flwyddyn ysgol.
Ffynhonnell: Data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau
Nifer o absenoldebau athrawon trwy salwch yn ôl mis agorwyd a cyfnod salwch ar StatsCymru
[Nodyn 1] Mwy na 20 diwrnod gwaith wedi'u colli.
Staff cymorth
Mae’r data isod wedi’u casglu fel rhan o’r data CBGY Ysgol wedi’u cwblhau gan bob ysgol wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol gan adlewyrchu’r gweithlu fel ar y dyddiad cyfrifiad. Mae staff cymorth yn cynnwys cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr Anghenion Addysgu Yachwanegol (AAY), staff cymorth AAY, rheolwyr busnes, ataff gweinyddol a rolau staff cymorth eraill. Mae gwybodaeth bellach ar gael ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’.
Staff cymorth: rolau
- Ym mis Tachwedd 2024, roedd yna 29,250 staff cymorth, gostyngiad o 3.0% o’i gymharu â Thachwedd 2023.
- Roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 8] o’r holl staff cymorth yn 23050, gostyngiad o 3.4%.
- Yn seiliedig ar y nifer cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 9], roedd 14,675 (50.2%) o staff cymorth yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu, gyda 1,645 (5.6%) arall yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) a 3,370 (11.5%) yn gweithio fel staff cymorth AAY.
- Roed dyna 1,560 o staff yn gweithio fel cyd-lynwyr AAY neu yn ymgymryd ar rôl yn ychwanegol i’w prif swydd.
- Roedd mwy o staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion Cynradd (59.1%) nag ysgolion Uwchradd (24.1%).
Nodweddion staff cymorth
- Roedd 26,320 o staff cymorth (90.0%) yn fenywod, i’w gymharu â 74.3% o athrawon.
- 16,030 staff cymorth (54.8) yn uniaethu yn Gymraeg.
- Roedd 1,040 o staff cymorth (3.6%) o grŵp ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 10], o’i gymharu â 1.3% o athrawon.
- Nododd 420 staff cymorth (1.4%) bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.
Gallu staff cymorth yn y Gymraeg
- 6,100 o staff cymorth (20.9%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch, o’i gymharu â 39.0% o athrawon (a).
- Roedd y gyfran o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg lefel ganolradd neu uwch yn amrywio o 4.5% ym Mlaenau Gwent i 90.9% yng Ngwynedd [troednodyn 10].
Ffigur 4: Cyfran o staff cymorth â sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch yn ôl awdurdod lleol, Tachwedd 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigwr 4: Mae’r map yma yn dangos mae Ynys Môn a Gwynedd sydd â’r gyfran uchaf o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch, tra bod bron tri chwarter o’r awdurdodau lleol â llai na 20% o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch.
Ffynhonnell: Data CBGY Ysgol
Gallu yn y Gymraeg yn ôl awdurdod lleol (Staff Cymorth) ar StatsCymru
[Nodyn 1] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y 'Fframwaith Cymwyseddau Iaith Gymraeg Ymarferwyr Addysg'.
Recriwtio a chadw staff cymorth
Mae’r data yma yn cyfeirio at swyddi wedi’u hysbysebu a staff sydd wedi gadael y proffesiwn ar gyfer cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr Anghenhion Dysgu Ychwanegol (ADY) a staff cymorth ADY yn unig ar gyfer 2023/24. Mae hyn yn gwahaniaethu o’r rhestr llawn o rolau staff cymorth llawn sy’n cael ei gasglu fel rhan o’r CBGY oherwydd natur dros dro a sut mae swyddi yn cael eu hysbysebu ar gyfer rolau staff cymorth eraill.
- Ar gyfartaledd, derbyniwyd 7.6 cais am bob swydd wag, fyny o 5.8 yn 2022/23. Mae’r cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (3.8) o’i gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (9.1) Hefyd, roedd y cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (4.9) o’i gymharu â swyddi ysgolion cynradd (7.8).
- Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, roedd 1,443 o swyddi a hysbyswyd (88.6%) wedi’u llenwi.
- O’r 2,090 staff cymorth wnaeth adael y proffesiwn, roedd 615 (29.4%) wedi symud i swyddi tu allan i addysg.
Gwybodaeth ar ansawdd y data a methodoleg
Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2024 wedi’i dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.
Mae ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: Gwybodaeth Gefndir’ yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith i Gymru er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach, ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Troednodiadau
[1] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.
[2] Mae Cyfwerth â Pherson Llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.
[3] Yn cynnwys penaethiaid, penaethiaid gweithredol, penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.
[4] Yn cynnwys Du/Affricanaidd/Caribî/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig cymysg/lluosog a grwpiau ethnig eraill.
[5] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y ‘Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg’.
[6] Nid yw gwyddoniaeth yn cynnwys bioleg, cemeg neu ffiseg lle’u dysgir fel pwnc ar wahan.
[7] Mae hyn yn cynrychioli’r nifer cyfwerth â pherson llawn fel cyfran o gyfrif pen. Y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r cyfwerth â pherson llawn y mwyaf yw’r gyfran o amser mae unigolion yn gwario yn dysgu’r pwnc yna. Os yw unigolyn yn gwario cyfran uchel o’u hamser yn dysgu pwnc penodol, mae’n bosib bod hyn yn dangos mwy o arbenigedd yn y pwnc.
[8] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.
[9] Mae cyfwerth â pherson llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.
[10] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y ‘Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg'.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Gareth Thomas
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 59/2025
