Neidio i'r prif gynnwy

5. Ffioedd lleiniau

Caiff perchenogion safle newid y swm y maent yn ei godi am y tir y mae cartrefi mewn parc yn sefyll arno. Ni chânt wneud unrhyw newidiadau i'r ffioedd yn amlach nag unwaith fesul blwyddyn. Os ydych yn dymuno gwneud newid a elwir yn 'adolygiad ffioedd lleiniau', rhaid ichi ddilyn y camau isod.

Faint o ffi y dylid ei chodi am lain?

Darllenwch ein canllawiau ar ffioedd lleiniau. Maent yn esbonio eich hawliau ynghylch cynyddu'r ffi am lain.

Cam 1. Rhaid ichi gychwyn adolygu'r ffi am lain flwyddyn ar ôl yr adolygiad diwethaf. Os nad oes dyddiad ar gyfer yr adolygiad diwethaf, dydd cychwyn y cytundeb ffi fydd y dyddiad.

Cam 2. Cwblhewch ffurflen hysbysiad adolygu'r ffi am y llain.

Cam 3. Rhowch y ffurflen wedi'i chwblhau i berchenogion cartrefi’r parc yn amlinellu faint o gynnydd rydych ei eisiau yn y ffi.

Cam 4. Os ydych yn cytuno â'r ffi newydd bydd angen ichi dalu'r ffi newydd am lain o'r dyddiad a gytunwyd ymlaen.

Cam 5. Os nad ydych yn cytuno â'r ffi newydd, gallwch chi neu'r tirfeddiannwr apelio at y tribiwnlys eiddo preswyl. Ni all perchenogion safle eich gorfodi i'w dalu.