Neidio i'r prif gynnwy

4. Newidiadau i reolau safle

Caiff perchenogion safle newid rheolau safle. Os ydych yn dymuno gwneud newidiadau, rhaid ichi ddilyn y camau isod.

Cam 1. Cwblhau ffurflen hysbysiad o gynnig yn amlinellu newidiadau i'r safle a'r rhesymau dros eu gwneud.

Cam 2. Rhaid i berchenogion cartrefi’r safle gwblhau ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad.

Cam 3. Anfon eich ffurflen at berchenogion cartrefi’r safle yn dangos y canlyniad a phenderfyniadau ynghylch newidiadau i'r reolau safle. Rhaid ichi anfon y ffurflen 21 diwrnod ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben.

Cam 4. Hysbysu’r awdurdod lleol ynghylch y newidiadau a'u hanfon atynt. (Weithiau cyfeirir at hyn fel adneuo rheolau'r safle)

Cam 5. Cwblhau ffurflen hysbysiad adneuo a'i harddangos mewn man amlwg ar y safle.

Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod lleol os ydych yn dileu rhai o reolau'r safle hefyd.  Rhaid ichi gwblhau ffurflen adneuo hysbysiad o ddileu a'i harddangos mewn man amlwg ar y safle.