Neidio i'r prif gynnwy

Gan Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Ebrill 2018, agorodd Awdurdod Cyllid Cymru yn swyddogol ar gyfer busnes: gan gasglu a rheoli’r trethi datganoledig cyntaf yng Nghymru ers dros 800 mlynedd. Mae’r chwe mis cyntaf o weithredu wedi bod yn heriol ac yn gyffrous, ac rwyf mor falch o’r hyn rydym ni wedi gallu ei gyflawni, diolch i gefnogaeth gyson y partneriaid lu sydd wedi bod yn gefn i ni ar y daith hon hyd yma.

Mewn cyfnod byr iawn, rydym ni wedi:

  • rhoi gwasanaeth trethi digidol, dwyieithog ar waith
  • wedi recriwtio dros 65 o aelodau staff llawn amser ar draws 16 proffesiwn
  • wedi cydweithio â nifer o bartneriaid i gynllunio, mireinio a gweithredu ein prosesau, systemau a chanllawiau
  • wedi parhau i ymwneud ag amrywiaeth eang o randdeiliaid allweddol i helpu pobl i dalu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir.

Ni fyddem wedi llwyddo i gyrraedd y cam yma heb gefnogaeth gyson cynrychiolwyr trethdalwyr, sefydliadau partner, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys CThEM, ac wrth gwrs cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Mae eu cyngor wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni gychwyn gwireddu’r dasg o weithredu system drethi deg ar gyfer Cymru.

Mae'r dull hwn o weithio mewn partneriaeth i weinyddu trethi yn ganolog i bopeth a wnawn ac i’r hyn rydym ni’n gobeithio ei gyflawni yn Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ‘Ein Dull o Weithredu’, sy’n esbonio ein ffordd o weithio, yn defnyddio tri gair Cymraeg  ‘Cydweithio’, ‘Cadarnhau’, a ‘Cywiro’ i esbonio sut byddwn ni’n gweithio ar y cyd i sicrhau bod trethi’n cael eu casglu’n effeithlon ac yn effeithiol.

Cafodd ‘Ein Dull o Weithredu’ ei ysbrydoli gan ‘Ein Siarter’, sy’n cynnwys wyth o gredoau, gwerthoedd a chyfrifoldebau a rennir, a chanlyniad gwaith agos gydag amrywiaeth eang o bartneriaid cyn i ni ddechrau gweithredu ym mis Ebrill. Mae mwy o esboniad am y rhain yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer ein blwyddyn gyntaf. Byddwn yn hoffi cael adborth am ein dull o weithredu gyda threthi. Rydym ni’n awyddus i ymgysylltu, gwrando, dysgu ac addasu.

Wrth symud yn ein blaenau, rwy’n sylweddoli bod angen i ni barhau i adeiladu ar y momentwm hwn, a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth mewn cylchlythyrau yn y dyfodol am sut byddwn yn cyflawni hyn. Am y tro, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i wasanaethu fel Prif Weithredwr ar y daith anhygoel hon.