Clefyd heintus iawn ar foch sy'n cael ei achosi gan haint feirysol yw Clwy Clasurol y Moch. Mae'n effeithio ar foch domestig, moch fferal a baedd gwyllt. Mae'n glefyd hysbysadwy.
Cafodd clwy clasurol y moch ei ddileu o Brydain Fawr ym 1966, gydag achosion anghyffredin yn cael eu cyfyngu ac yna eu dileu. Gwelwyd yr achosion diwethaf yn y DU yn 2000.
Nid yw clwy clasurol y moch yn glefyd sy'n cael ei drosglwyddo i bobl ac nid yw'n fygythiad i iechyd pobl.
Amheuon a chadarnhad
Mae clwy clasurol y moch yn glefyd anifeiliaid hysbysadwy.
Os ydych chi'n meddwl y gall clwy clasurol y moch fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Os bydd y clefyd yn cael ei gadarnhau, bydd yr achosion yn cael eu rheoli yn unol â Chynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Hysbysadwy Egsotig Anifeiliaid a'r Strategaeth Rheoli ar gyfer Clwy Affricanaidd a Chlasurol y Moch ar gyfer Prydain Fawr (ar gov.uk).
Arwyddion clinigol
Gall clwy clasurol y moch ymddangos mewn ffurfiau acíwt, cronig ac ysgafn. Gall y ffurf acíwt achosi clefyd difrifol ac yn gyffredinol mae’n angheuol.
Mae arwyddion clinigol clwy clasurol y moch bron yr un fath â chlwy Affricanaidd y moch (ASF) a dim ond trwy brofion diagnostig mewn labordy y gellir eu gwahaniaethu'n ddibynadwy.
Y prif arwyddion clinigol yw:
- twymyn
- colli archwaeth
- dim egni
- marwolaeth sydyn gydag ond ambell arwydd ymlaen llaw
Gall arwyddion eraill gynnwys:
- cyfogi
- dolur rhydd
- croen coch neu dywyll, yn enwedig ar y clustiau a'r trwyn
- llygaid coch chwyddedig
- anadlu llafurus a pheswch
- perchyll yn cael eu herthylu a'u geni cyn pryd, a thoreidiau gwan
- arwyddion nerfus gan gynnwys trawiadau a chryndod mewn perchyll newydd-anedig
- gwendid
Trosglwyddo
Mae clwy clasurol y moch yn heintus iawn a gellir ei ledaenu i foch iach drwy:
- gysylltiad uniongyrchol â moch heintiedig, eu tail a'u hylifau
- moch sy'n bwyta cig heintus neu gynhyrchion cig
- cysylltiad ag unrhyw beth sydd wedi'i halogi â'r feirws gan gynnwys pobl, eu dillad, cerbydau ac offer arall
- cysylltiad o hychod heintiedig i'w perchyll
Gall firysau clefyd clasurol y moch (CSF) a chlwy Affricanaidd y moch (ASF) oroesi mewn cig a chynhyrchion cig, gan gynnwys cynhyrchion wedi'u rhewi a'u halltu, am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd.
Dylai ffermwyr moch gofio ei bod yn anghyfreithlon bwydo moch ag unrhyw fath o wastraff cegin yn y DU. Yng Nghymru, mae'r gyfraith yn cael ei gorfodi o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014 (ar legislation.gov.uk).
Atal a rheoli
Dylech roi mesurau bioddiogelwch llym ar waith i atal y feirws rhag lledaenu. Mae hynny'n cynnwys:
- gwisgo dillad ac esgidiau amddiffynnol, a darparu'r rhain i unrhyw ymwelwyr fferm neu weithwyr
- darparu deunyddiau glanhau a diheintio ar gyfer pob ymwelydd fferm neu weithiwr
- glanhau a diheintio cerbydau ac offer
- gwaredu gweddillion neu wastraff bwyd mewn biniau diogel na all moch neu fywyd gwyllt gael mynediad iddynt
- sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol
- parhau i fod yn wyliadwrus o arwyddion o glefydau
- rhoi mesurau bioddiogelwch llym ar waith.
Deddfwriaeth
Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â chlwy clasurol y moch yng Nghymru ar wefan legislation.gov.uk yn cynnwys:
- Rheoliadau Clefydau Pysgod 2014 (ar legislation.gov.uk)
- Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 20111 (ar legislation.gov.uk)
- Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (ar legislation.gov.uk)
- Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010 (ar legislation.gov.uk)
- Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014 (ar legislation.gov.uk)
- Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008 (ar legislation.gov.uk)
