Neidio i'r prif gynnwy

Data am fewnforion ac allforion i mewn ac allan o Gymru sy’n cael eu cario fesul ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm (HGVs) sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn ystod 2018.

Prif bwyntiau

Yn 2018, gwelwyd gostyngiad o 16% o gymharu â 2017 yng nghyfanswm y nwyddau a godwyd ar y ffyrdd yng Nghymru. Gwelwyd gostyngiad o 5% yn y nwyddau a ddaeth i mewn i Gymru a gostyngiad o 4% yn y nwyddau a adawodd Cymru yn 2018.  

Mae’r siart yn dangos data cyfres amser ynghylch nwyddau a gafodd eu cludo ar y ffyrdd o fewn Cymru, i Gymru ac allan o Gymru gan Gerbydau Nwyddau Trwm sydd wedi’u cofrestru yn y DU rhwng 2013 a 2018.

Cyrchfannau yn y DU

  • Yn 2018, dim ond yng Nghymru ei hun y teithiodd 44 % o'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd. Mae hwn yn ostyngiad o xx.x pwynt canran ers 2017.
  • Cludodd HGVs 38 miliwn o dunelli o nwyddau ar y ffyrdd yng Nghymru, 25 miliwn o dunelli i Gymru o weddill y DU, a 24 miliwn o dunelli o Gymru i weddill y DU.  
  • O’r nwyddau a gludwyd o Gymru i rannau eraill o'r DU, aeth 28% i Orllewin Canolbarth Lloegr, 24% i Dde-orllewin Lloegr a 18% i Ogledd-orllewin Lloegr. Y rhanbarthau hyn oedd i gyfrif am gyfanswm o 71% o nwyddau a gludwyd o Gymru i weddill y DU.
  • Yr un tri rhanbarth oedd i gyfrif am 62% o'r nwyddau a gludwyd i mewn i Gymru o weddill y DU. Daeth 25% o Orllewin Canolbarth Lloegr, 19% o Ogledd-orllewin Lloegr a 18% o Dde-orllewin Lloegr. 

Cyrchfannau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) 

  • Cafodd 42% o'r tunelledd a gludwyd ar y ffyrdd o'r UE ac i'r UE ei lwytho/ddadlwytho yng Ngwlad Belg, Lwcsembwrg neu'r Almaen yn 2018. Gwelwyd gostyngiad yn 2018 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd i’r gwledydd hynny ac o'r gwledydd hynny. 
  • Ar gyfer yr UE yn ei gyfanrwydd, gwelwyd gostyngiad o 11% yn 2018 yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion, sef gostyngiad tebyg i'r un a welwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Y grwpiau mwyaf o nwyddau (yn ôl pwysau) a gafodd eu cario gan gerbydau nwyddau trwm

  • 17 miliwn o dunelli o gynhyrchion bwyd (gan gynnwys diodydd a thybaco).
  • 11 miliwn o dunelli o fwyn metelau a mathau eraill o gynhyrchion mwyngloddio a chwarelu (heb gynnwys glo a lignit). 
  • 9 miliwn o dunelli o gynhyrchion a oedd yn gysylltiedig â gwastraff.
  • 9 miliwn o dunelli o gynhyrchion amaethyddol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.