Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi’n ymwneud ag addysgu neu reoli ein harfordiroedd a’n moroedd, codi ymwybyddiaeth gyda chymunedau neu gynghorau neu waith cysylltiedig?

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ydych chi eisiau helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i adeiladu llythrennedd cefnforol yng Nghymru?

Llythrennedd morol yw pan fydd pobl yn deall sut mae ein gweithredoedd cyfunol ac unigol yn effeithio ar iechyd y cefnforoedd a sut mae iechyd y cefnforoedd yn effeithio ar ein bywydau. Gallai gwell llythrennedd cefnforol arwain at welliannau yn y modd yr ydym yn rheoli ac yn defnyddio ein harfordir a’n môr er budd bywyd gwyllt a phobl.

CNC ar ran Grŵp Gweithredu a Chynghori Morol Cymru yn cynnal 2 weithdy byr ar-lein 1-3pm ar 13eg a 16eg Mehefin 2022. Cofrestrwch eich lle am ddim ar un neu ddau weithdy yn TOCYN (13 Mehefin neu 16 Mehefin), neu cysylltwch â marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk am ragor o wybodaeth.

Gweithdy 1 (13 Mehefin 2022 1-3pm)

  • mapio gwaith presennol o bwy sy'n gwneud beth, ble a'r canlyniadau
  • deall y bylchau yn yr hyn sydd angen digwydd

Gweithdy 2 (16 Mehefin 2022 1-3pm)

  • blaenoriaethu'r bylchau ar gyfer yr hyn sydd angen digwydd
  • datblygu cynllun gweithredu ar gyfer sut rydym yn mynd i'r afael â'r bylchau