Neidio i'r prif gynnwy

1. Y Gweinidogion

Ymddygiad y Gweinidogion

1.1 Disgwylir i Weinidogion Llywodraeth Cymru gynnal safonau ymddygiad uchel ac ymddwyn mewn modd sy’n cynnal y safon uchaf o ran priodoldeb.

1.2 Mae hyn yn cynnwys parchu Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (a elwir hefyd yn ‘Egwyddorion Nolan’), sy’n cael eu nodi gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus ac sy’n gymwys i bob deiliad swydd gyhoeddus:

a. Anhunanoldeb: Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus ond gweithredu er budd y cyhoedd.
b. Uniondeb: Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus eu rhoi eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth i bobl neu sefydliadau a allai geisio dylanwadu'n amhriodol ar eu gwaith. Ni ddylent weithredu na gwneud penderfyniadau er mwyn cael manteision ariannol neu unrhyw fanteision materol eraill iddynt eu hunain, eu teulu neu eu ffrindiau. Rhaid iddynt ddatgan a datrys unrhyw fuddiannau a pherthnasoedd.
c. Gwrthrychedd: Rhaid i ddeiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau'n ddiduedd, yn deg ac ar sail teilyngdod, gan ddefnyddio'r dystiolaeth orau a heb wahaniaethu neu ragfarn.
ch. Atebolrwydd: Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol am eu penderfyniadau ac am yr hyn y maent yn ei wneud a rhaid iddynt ganiatáu i eraill graffu arnynt yn y modd sydd ei angen er mwyn sicrhau hynny.
d. Bod yn agored: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau mewn modd agored a thryloyw. Ni ddylai gwybodaeth gael ei chadw rhag y cyhoedd oni bai bod rhesymau clir a chyfreithlon dros wneud hynny.
dd. Gonestrwydd: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod yn eirwir.
e. Arweinyddiaeth: Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus arddangos yr egwyddorion hyn yn eu hymddygiad eu hunain a thrin eraill gyda pharch. Dylent fynd ati i hyrwyddo a chefnogi’n gadarn yr egwyddorion a herio ymddygiad gwael lle bynnag y mae’n digwydd.

1.3 Mae gwasanaethu’r wlad a’r cyhoedd fel Gweinidog yn fraint. Dylai’r Gweinidogion fod yn broffesiynol ym mhopeth y maent yn ymwneud ag ef a dylent drin pawb y maent yn dod i gysylltiad â hwy yn ystyriol a chyda pharch. Dylai’r berthynas waith gyda gweision sifil, Gweinidogion eraill, cydweithwyr a staff yn y Senedd fod yn weddus ac yn briodol. Nid yw aflonyddu, bwlio nac ymddygiad amhriodol neu wahaniaethol arall, ble bynnag y mae’n digwydd ac ni waeth a yw’n digwydd yng nghwrs busnes Gweinidogol ai peidio, yn gyson â Chod y Gweinidogion ac ni fydd yn cael ei oddef.

1.4 Mae Cod y Gweinidogion yn gymwys i’r Prif Weinidog ac i’r holl Weinidogion. Mae hefyd yn gymwys i'r Cwnsler Cyffredinol. Oni nodir yn wahanol, mae'r term "Gweinidog" yn y Cod hwn yn cynnwys pob un o'r rhain.

1.5 Dylid darllen Cod y Gweinidogion yng ngoleuni'r ddyletswydd gyffredinol sydd ar y Gweinidogion i gydymffurfio â’r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau mewn cytuniadau, ac i ddiogelu uniondeb bywyd cyhoeddus. Disgwylir iddynt, yn benodol, barchu’r egwyddorion canlynol o ran Ymddygiad Gweinidogion:

Atebolrwydd

  1. Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i roi cyfrif i'r Senedd am bolisïau a phenderfyniadau eu hadrannau a'u hasiantaethau a'r camau a gymerir ganddynt, ac i gael eu dal i gyfrif amdanynt
  2. Mae o'r pwys mwyaf bod yr wybodaeth y mae’r Gweinidogion yn ei rhoi i’r Senedd yn gywir ac yn wir, a’u bod yn cywiro unrhyw gamgymeriad a wnaed drwy amryfusedd cyn gynted ag y bo modd. Bydd disgwyl i Weinidogion sy’n camarwain y Senedd o fwriad gynnig eu hymddiswyddiad i Brif Weinidog Cymru
  3. Dylai’r Gweinidogion fod mor agored â phosibl gyda'r Senedd a'r cyhoedd, ac ni ddylent wrthod darparu gwybodaeth heblaw mewn achosion lle na fyddai datgelu’r wybodaeth honno o fudd i'r cyhoedd. Wrth benderfynu ynghylch hyn, dylid ymgynghori â'r statudau perthnasol a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  4. Yn yr un modd, dylai'r Gweinidogion ei gwneud yn ofynnol i weision sifil sy'n rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgorau'r Senedd ar eu rhan ac o dan eu cyfarwyddyd fod mor barod eu cymorth ag y bo modd o ran darparu gwybodaeth gywir, wir a llawn, yn unol â dyletswyddau a chyfrifoldebau gweision sifil fel y'u nodir yng Nghod y Gwasanaeth Sifil.

Collegiality

  1. Mae’r egwyddor cydgyfrifoldeb yn gymwys i holl Weinidogion y Llywodraeth. Mae'n gymwys i bob sefyllfa ac eithrio'r sefyllfaoedd a ddisgrifir ym mharagraff 4.8.

Cyfrifoldeb personol

  1. Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro, nac unrhyw argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat
  2. Ni ddylai'r Gweinidogion dderbyn unrhyw rodd neu letygarwch a allai godi amheuon am ddoethineb eu barn neu a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol neu a allai, yn rhesymol, roi’r argraff honno
  3. Rhaid i'r Gweinidogion gadw eu rolau fel Gweinidogion a'u rolau fel Aelodau o’r Senedd ar wahân
  4. Rhaid i'r Gweinidogion beidio â defnyddio adnoddau Llywodraeth Cymru at ddibenion gwleidyddiaeth plaid. Rhaid iddynt gynnal didueddrwydd y Gwasanaeth Sifil a pheidio â gofyn i weision sifil weithredu mewn unrhyw fodd a fyddai'n groes i God y Gwasanaeth Sifil.

1.6 Mae'r Cod hwn yn rhoi arweiniad i'r Gweinidogion ar sut y dylent weithredu a threfnu eu busnes mewn modd sy’n cynnal y safonau hyn. Mae’n rhestru'r egwyddorion a allai fod yn gymwys mewn sefyllfaoedd penodol. Rhaid i'r Gweinidogion hefyd barchu bob amser y gofynion a bennwyd gan y Senedd ei hun, ac yn benodol y Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau o’r Senedd.

1.7 Mae'r Gweinidogion yn gyfrifol yn bersonol am benderfynu sut i weithredu ac ymddwyn yng ngoleuni'r Cod ac am gyfiawnhau'r hyn a wnânt a'r modd y maent yn ymddwyn o fewn y Senedd ac i'r cyhoedd. Y Prif Weinidog, yn y pen draw, sy'n gyfrifol am farnu pa safonau ymddygiad y mae’n eu disgwyl oddi wrth y Gweinidogion a pha ganlyniadau fyddai'n briodol am weithredu'n groes i'r safonau hynny. Er na fydd y Prif Weinidog yn disgwyl rhoi sylwadau ar bob mater y gellid dychmygu y byddai’n cael ei ddwyn i’w sylw, dim ond cyhyd ag y bo gan y Prif Weinidog hyder ynddynt y gall Gweinidogion barhau yn eu swyddi. Bydd canlyniad unrhyw achos o dorri’r Cod, sydd wedi’i gefnogi gan dystiolaeth, yn dibynnu ar natur yr achos. Pan fo gan y Prif Weinidog hyder yn y Gweinidog o hyd, gall y sancsiynau sydd ar gael gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, gofyn am ryw fath o ymddiheuriad cyhoeddus neu gamau adferol.

1.8 Nid mater i'r Ysgrifennydd Parhaol na swyddogion eraill yw gorfodi’r Cod. Fodd bynnag, gall Gweinidogion ddisgwyl i’r gweision sifil sy’n eu cynghori fod yn ymwybodol o’r Cod hwn a gwneud pob ymdrech i dynnu sylw Gweinidogion at unrhyw wrthdaro posibl y maent wedi sylwi arno. Ar y Gweinidogion eu hunain y mae’r cyfrifoldeb o hyd am lynu wrth y Cod ac am y penderfyniadau a wnânt.

Rôl y Cynghorydd Annibynnol

1.9 Bydd y Prif Weinidog yn penodi Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol i'w helpu mewn perthynas â Chod y Gweinidogion. Gall y Prif Weinidog ofyn i'r Cynghorydd Annibynnol ymchwilio i gŵyn bod y Cod wedi'i dorri. Yn ogystal, gall y Prif Weinidog ymgynghori â'r Cynghorydd Annibynnol ar faterion mewn perthynas â datganiadau o fuddiant gan Weinidogion. Bydd y Prif Weinidog hefyd yn ymgynghori â’r Cynghorydd pan fydd newidiadau sylweddol i God y Gweinidogion yn cael eu hystyried.

1.10 Y Prif Weinidog fydd yn penderfynu sut yr ymchwilir i gwynion o dan y Cod, gan gynnwys a ofynnir i’r Cynghorydd Annibynnol ymchwilio. Bydd y Prif Weinidog yn ymgynghori â'r Ysgrifennydd Parhaol, neu dîm Priodoldeb a Moeseg Llywodraeth Cymru ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol, i gael cyngor cychwynnol. Gan ystyried y cyngor hwnnw, gall y Prif Weinidog benderfynu bod modd ymateb yn uniongyrchol i’r gŵyn. Os bydd y Prif Weinidog yn penderfynu y byddai ymchwiliad i'r gŵyn yn briodol, gall ofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol, neu'r tîm Priodoldeb a Moeseg ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol, gynnal yr ymchwiliad hwnnw ac adrodd yn ôl. Bydd y Prif Weinidog yn pennu’r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad. Fodd bynnag, ar ôl gwneud hynny ni fydd gan y Prif Weinidog, nac aelodau eraill o'r Llywodraeth na Chynghorwyr Arbennig, unrhyw ran yn y broses. Cynhelir y broses hon yn unol â gwerthoedd gwrthrychedd a didueddrwydd Cod y Gwasanaeth Sifil. Bydd yr adroddiad ar yr ymchwiliad yn cynnwys crynodeb o ffeithiau allweddol yr amgylchiadau fel y'u canfuwyd gan yr ymchwiliad. Gall yr adroddiad hefyd gynnwys asesiad, yn seiliedig ar farn yr ymchwilwyr, ynghylch a oes sail i ddod i'r casgliad bod Cod y Gweinidogion wedi'i dorri.

1.11 Gall y Prif Weinidog, ar sail disgresiwn, ofyn i'r Cynghorydd Annibynnol ymchwilio i'r gŵyn. Yn yr achos hwn, byddai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ar wahân i'r hyn a fyddai'n angenrheidiol i ddarparu cymorth gweinyddol a hwyluso cyfarfodydd. Bydd adroddiad y Cynghorydd Annibynnol yn cynnwys crynodeb o ffeithiau allweddol yr amgylchiadau fel y'u canfuwyd gan y cynghorydd. Gall yr adroddiad hefyd gynnwys asesiad, yn seiliedig ar farn y cynghorydd, ynghylch a oes sail i ddod i'r casgliad bod Cod y Gweinidogion wedi'i dorri. Bydd y Cynghorydd Annibynnol yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i gynnal yr ymchwiliad.

1.12 Yn y naill achos neu'r llall, bydd y Prif Weinidog wedyn yn cyhoeddi’r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad a'r adroddiad a ddaeth i law. Ni ddiwygir y rhain oni bai bod angen gwneud unrhyw olygiadau i ddiogelu data personol neu rwymedigaethau cyfreithiol eraill.

1.13 Bydd y Prif Weinidog yn arfer barn ynghylch pa gamau gweithredu angenrheidiol a fydd yn deillio o’r adroddiad ar yr ymchwiliad a ddaw i law. Y Prif Weinidog, yn y pen draw, sy’n gyfrifol am farnu a yw Cod y Gweinidogion wedi’i dorri ac, os felly, pa sancsiynau fyddai'n briodol i'r amgylchiadau.

1.14 Mae’r trefniadau hyn yn gymwys i’r Prif Weinidog yn ogystal, sydd hefyd yn atebol i’r Senedd.

Y Gweinidogion a'u llesiant

1.15 Mae pwerau statudol y Prif Weinidog i benodi Gweinidogion a'u diswyddo yn deillio o adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r pwerau hyn yn eang ac yn ddilyffethair.

1.16 Mae'r Prif Weinidog yn cydnabod bod Gweinidogion yn gallu bod o dan gryn bwysau personol ar adegau. Y rhan fwyaf o'r amser bydd y Gweinidogion yn addasu ar gyfer y pwysau hwn, nad yw’n unigryw i'w cyfrifoldebau Gweinidogol, fel rhan o'r gwydnwch sy'n angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl. Ond bydd y Prif Weinidog yn ystyried llesiant y Gweinidogion ac yn sicrhau bod trefniadau digonol ar waith i roi cymorth i Weinidogion pan fo'i angen os ydynt hwythau yn dymuno manteisio ar hynny. Caiff y trefniadau hyn eu dwyn i sylw'r Gweinidogion yn rheolaidd.

1.17 Yn benodol, bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod llesiant y Gweinidog neu'r Gweinidogion o dan sylw yn cael ei ystyried yn llawn fel rhan o'r trefniadau cynllunio a pharatoi ar gyfer ad-drefnu neu mewn amgylchiadau eraill lle y gallai Gweinidogion ymadael â'r Llywodraeth. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y Gweinidogion ar y pryd yn ymwybodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt eu defnyddio. Bydd hyn yn berthnasol yn arbennig pan fo Gweinidog yn ymadael â'r Llywodraeth o dan amgylchiadau a allai ddenu llawer o sylw yn y cyfryngau. Bydd y Prif Weinidog yn ymdrechu i sicrhau bod Gweinidogion sy'n ymadael yn cael y mathau priodol o gymorth.

1.18 Bydd y Prif Weinidog yn sicrhau bod gwybodaeth am unrhyw ad-drefnu yn cael ei chadw o fewn carfan mor dynn â phosibl o unigolion ag sy'n bosibl ym marn y Prif Weinidog.

2. Y Gweinidogion a'u cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau a theitlau'r Gweinidogion

2.1 Y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am strwythur cyffredinol a threfniadaeth y Cabinet. Gyda chymeradwyaeth Brenin y DU, bydd yn penodi Gweinidogion, a hefyd yn argymell unigolyn i'w Fawrhydi i fod yn Gwnsler Cyffredinol.

2.2 Cyfrifoldeb y Prif Weinidog yw dyrannu portffolios rhwng Gweinidogion. Rhaid ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog os bwriedir gwneud unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar y ffordd y rhennir y swyddogaethau hynny ac ar y cyfrifoldebau dros gyflawni swyddogaethau'r Gweinidogion.

2.3 Dylai’r Gweinidogion fod yn arbennig o ofalus wrth drafod materion sy’n perthyn i faes cyfrifoldeb Gweinidogion eraill, gan ymgynghori â’u cyd-Weinidogion fel y bo’n briodol.

2.4 Rhaid i holl deitlau'r Gweinidogion, ac unrhyw newidiadau y bwriedir eu gwneud iddynt, gael cymeradwyaeth y Prif Weinidog.

2.5 Mae pob Gweinidog yn atebol i’r Prif Weinidog, a dim ond cyhyd ag y bo gan y Prif Weinidog hyder ynddynt y gall Gweinidogion barhau yn eu swyddi.

Cael gafael ar y Gweinidogion

2.6 Dylai’r Gweinidogion roi gwybod i swyddfa’r Prif Weinidog am y digwyddiadau y byddant yn mynd iddynt, a hefyd am eu trefniadau ar gyfer penwythnosau a gwyliau, a hynny er mwyn i staff y swyddfa fedru hysbysu’r Prif Weinidog ar unwaith pa Weinidogion sydd ar gael os bydd unrhyw argyfwng sydyn yn codi. Fel y nodir ym mharagraff 9.3, rhaid i unrhyw Weinidog sydd am fod yn absennol o'r DU am unrhyw reswm geisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog yn gyntaf.

2.7 Os yw Gweinidogion, am unrhyw reswm, yn absennol am gryn amser, mae’n bosibl y byddai'n ddymunol trefnu i aelod arall o'r Cabinet fod ar gael yn eu lle i gynrychioli eu buddiannau yn nhrafodaethau'r Cabinet neu mewn unrhyw gyfarfod arall ar y cyd rhwng y Gweinidogion. Dylid ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog ymlaen llaw cyn gwneud trefniadau i rywun gymryd lle Gweinidogion sy'n absennol.

2.8 Os bydd Gweinidog, am ba reswm bynnag, am i Weinidog arall fynd i ddigwyddiad swyddogol neu wneud penderfyniad am fater penodol, dylid ymgynghori â’r Prif Weinidog yn gyntaf. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i’r berthynas rhwng Gweinidogion a’r Dirprwy Weinidogion a benodwyd i'w helpu.

Cynghorwyr Arbennig

2.9 Mae cyflogi Cynghorwyr Arbennig yn dod â dimensiwn gwleidyddol i'r cyngor sydd ar gael i'r Gweinidogion ac mae'n fodd i'r Gweinidogion gael cyngor uniongyrchol oddi wrth arbenigwyr nodedig yn eu maes proffesiynol. Mae hefyd yn atgyfnerthu didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol. Y Prif Weinidog sy'n penodi pob un. Os yw’r Prif Weinidog yn gadael ei swydd, mae'r cynghorwyr a benodwyd gan y Prif Weinidog yn gadael hefyd. Gan mai’r Prif Weinidog sy'n penodi pob un, ni cheir ymrwymo i benodi unrhyw un heb gymeradwyaeth y Prif Weinidog yn gyntaf. Dylid gwneud pob penodiad o'r fath, a dylai pob Cynghorydd Arbennig weithredu, yn unol â'r amodau a'r telerau sydd yn y Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig ac yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig.

2.10 Y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am benderfynu sut y rhennir swyddi Cynghorwyr Arbennig yn Llywodraeth Cymru, p'un a ydynt yn cael eu defnyddio i roi cymorth i Weinidogion unigol neu i’r Gweinidogion ar y cyd. Y Prif Gynghorydd Arbennig fydd yn gyfrifol am reoli Cynghorwyr Arbennig o ddydd i ddydd, ond y Prif Weinidog, yn y pen draw, sy’n gyfrifol am ymddygiad Cynghorwyr Arbennig, gan gynnwys eu disgyblu. Bydd y Prif Weinidog yn atebol i'r Senedd ac i'r cyhoedd am y camau a’r penderfyniadau y mae'n eu cymryd o ran y Cynghorwyr Arbennig.

2.11 Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad blynyddol ar gyfer y Senedd yn amlinellu niferoedd, enwau a bandiau cyflog y Cynghorwyr Arbennig a'r bil cyflog cyffredinol ar eu cyfer.

Cynghorwyr Di-dâl

2.12 Gyda chytundeb y Prif Weinidog, caiff Gweinidogion benodi cynghorwyr di-dâl. Os penodir cynghorydd di-dâl, penodiad personol gan y Gweinidog o dan sylw ydyw. Nid oes unrhyw berthynas gontractiol rhwng cynghorydd o’r fath a Gweinidogion Cymru a, heblaw am yr isod, ni cheir defnyddio arian cyhoeddus ar gyfer penodiadau o'r fath. Eithriadau yw penodiadau o’r fath, a dylid ceisio cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog ymlaen llaw cyn gwneud unrhyw ymrwymiad. Wrth benodi, rhaid i'r Gweinidogion sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng y materion y bydd y cynghorwyr di-dâl yn cynghori yn eu cylch a'u materion preifat. Rhaid datgan hyn yn glir mewn llythyr penodi. Dylai'r llythyr nodi pa bynciau y caniateir (neu na chaniateir) i gynghorydd di-dâl ymdrin â hwy ac esbonio pa bapurau y byddant yn cael eu gweld.

2.13 Os yw cynghorydd yn gweithredu ar delerau tebyg i Gynghorydd Arbennig, ond gan wneud hynny'n ddi-dâl, dylai ymddwyn fel pe bai'n Gynghorydd Arbennig. Er nad ydynt yn weision sifil, mae'n ofynnol i gynghorwyr di-dâl, yn yr un modd â Chynghorwyr Arbennig, gynnal didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil. Mae'r rheolau arferol sy'n ymdrin â chyfrinachedd yn gymwys o safbwynt yr angen i'r cynghorydd ddiogelu unrhyw wybodaeth swyddogol y mae'n ei gweld yn rhinwedd y penodiad. Mae'r Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol a'r Rheolau ar Benodiadau Busnes ar gyfer Gweision y Goron hefyd yn gymwys i gynghorwyr di-dâl. Ni ddylai cynghorwyr di-dâl gostio dim i bwrs y wlad, ac eithrio’r costau sy’n gysylltiedig â darparu swyddfa wedi ei dodrefnu, defnyddio ffôn a chyfleusterau teipio, cyfrifiadur personol, system negeseuon adrannol mewnol a chostau teithio sy'n codi wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Cynghorwyr Polisi Arbenigol

2.14 Gallai’r Prif Weinidog hefyd benodi Cynghorwyr Polisi Arbenigol i gynorthwyo’r Llywodraeth pan fydd yn datblygu polisïau. Byddant yn cael eu cyflogi fel gweision sifil tymor byr yn yr adran bolisi berthnasol.

Penodiadau gan y Gweinidogion

2.15 Rhaid gwneud penodiadau i'r gwasanaeth sifil yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil a Chod y Gwasanaeth Sifil.

2.16 Dylid gwneud penodiadau cyhoeddus yn unol â gofynion y gyfraith a, lle bo'n briodol, y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus y mae’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn cyflawni ei rôl reoleiddiol oddi tano. Dylai penodiadau cyhoeddus hefyd ddilyn gweithdrefnau Llywodraeth Cymru a dylent adlewyrchu a hyrwyddo egwyddorion Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Mae dyletswydd ar y Gweinidogion i sicrhau nad yw dylanwad dros benodiadau i’r gwasanaeth sifil a phenodiadau cyhoeddus yn cael ei gamddefnyddio at ddibenion pleidiol.

3. Y Gweinidogion a Gweision Sifil

Y Gweinidogion a'r Gwasanaeth Sifil

3.1 Mae dyletswydd ar y Gweinidogion:

  • wrth iddynt benderfynu ar bolisi, i roi ystyriaeth deg a'r pwys dyladwy i gyngor deallus a diduedd a gânt oddi wrth weision sifil, yn ogystal ag i ystyriaethau eraill a chyngor arall
  • i gynnal didueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil, a pheidio â gofyn i weision sifil weithredu mewn unrhyw fodd a fyddai'n groes i God y Gwasanaeth Sifil a gofynion Deddf Diwygio a Llywodraethiant Cyfansoddiadol 2010.

3.2 Dylai’r Gweinidogion fod yn broffesiynol yn eu perthynas waith â’r Gwasanaeth Sifil a dylent drin pawb y maent yn dod i gysylltiad â hwy yn ystyriol a chyda pharch. Yr Ysgrifennydd Parhaol, gan ymgynghori â’r Prif Weinidog, fydd yn ymchwilio i bryderon a godir gan staff ynghylch ymddygiad Gweinidogion tuag atynt. Yn yr un modd, gall y Gweinidogion ddisgwyl i’r gweision sifil sy’n gweithio gyda hwy eu trin gyda’r parch a’r cwrteisi dyladwy i’w swydd a cheisio darparu gwasanaeth proffesiynol bob amser. Os bydd gan y Gweinidogion bryderon ynghylch ymddygiad unrhyw aelod o staff yna dylent eu codi gyda’r Ysgrifennydd Parhaol yn y lle cyntaf.

3.3 Mae cyfrifoldeb ar y gwasanaeth sifil i ddarparu cyngor diduedd, gwrthrychol ac onest i’r Gweinidogion gan gynnwys yr holl wybodaeth a dadansoddiadau perthnasol, hyd eithaf eu gallu. Ni ddylai’r Gweinidogion geisio cyfarwyddo staff ynglŷn â’r cyngor y byddant yn ei gael ond, wrth gwrs, ni fydd raid iddynt dderbyn na dilyn y cyngor hwnnw. Gall y Gweinidogion ddisgwyl i’r gwasanaeth sifil fod yn ystyriol o nifer y materion a anfonir atynt i’w hystyried a dylai’r gwasanaeth sifil geisio darparu gwybodaeth a chyflwyno materion mewn modd sydd mor fyr, clir a hwylus â phosibl.

3.4 Y Gweinidogion sy'n gyfrifol am roi cyfarwyddiadau i staff y Swyddfa Breifat sy'n eu cynorthwyo yn eu rôl fel Gweinidogion. Rhaid peidio â defnyddio'r aelodau hyn o staff i gynorthwyo'r Gweinidogion â materion sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid nag â materion sy'n gysylltiedig â'u hetholaethau.

Gweision sifil a digwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid

3.5 Os yw Gweinidogion am gael papur briffio ffeithiol ar gyfer digwyddiad sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid neu ar gyfer digwyddiad arall nad yw'n gysylltiedig â'u rôl fel Gweinidogion er mwyn esbonio polisïau neu gamau a gymerir gan Lywodraeth Cymru, caniateir i weision sifil ddarparu papur briffio o'r fath yn yr un modd ag y caniateir iddynt roi gwybodaeth i unrhyw Aelod arall o'r Senedd, ond nid yw'n briodol i Weinidogion ofyn i weision sifil baratoi araith ddrafft ar gyfer digwyddiad o'r fath (er ei bod yn briodol iddynt ofyn i Gynghorwyr Arbennig wneud hynny). Darperir papurau briffio ffeithiol yn ysgrifenedig fel arfer. Gallai’r Gweinidogion hefyd ofyn i weision sifil ddarparu briffiau technegol i Aelodau o’r Senedd neu Senedd y DU. Gellid darparu briffiau o’r fath ar lafar, gan gynnwys cyfle i ofyn cwestiynau, ond rhaid iddynt fod yn ffeithiol eu natur a dylent fod ar gael i Aelodau o bob plaid er mwyn cynnal didueddrwydd y gwasanaeth sifil.

3.6 Ni ddylai'r Gweinidogion ofyn i weision sifil fynd i Gynadleddau'r Pleidiau nac i gyfarfodydd sydd, o ran eu natur, yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, ac yn sicr, ni ddylent ofyn iddynt gymryd rhan ynddynt. Ni ddylai gweision sifil ychwaith yn rhinwedd eu swyddi dderbyn gwahoddiadau i gynadleddau sy'n cael eu cynnull neu eu noddi gan sefydliadau sy'n ymhél â gwleidyddiaeth plaid ac eithrio pan fo angen iddynt fod yn bresennol er mwyn cynnal busnes hanfodol, nad yw'n gysylltiedig â'r gynhadledd, ar ran Llywodraeth Cymru. (Nid yw hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynadleddau Cyngres yr Undebau Llafur neu Gydffederasiwn Diwydiant Prydain). Gwneir eithriad i'r rheol hon yn achos Cynghorwyr Arbennig. O dan delerau eu contractau, caniateir iddynt fynd i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid, gan gynnwys cynhadledd flynyddol y blaid (ond ni chaniateir iddynt siarad yn gyhoeddus yn y gynhadledd), a chadw mewn cysylltiad ag aelodau'r blaid.

Cysylltiadau â sefydliadau allanol

3.7 Mae Gweinidogion yn cwrdd â llawer o bobl a sefydliadau ac yn ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau wrth fynd ati i lunio polisi ar gyfer y Llywodraeth. Dylid cofnodi'r ffeithiau sylfaenol am gyfarfodydd ffurfiol rhwng y Gweinidogion a grwpiau buddiant, gan nodi'r rhesymau dros y cyfarfod, enwau'r rheini sy'n bresennol a'r buddiannau sy'n cael eu cynrychioli. Dylai ysgrifennydd preifat neu swyddog fod yn bresennol ar gyfer pob trafodaeth sy'n ymwneud â busnes y llywodraeth a chyhoeddir rhestr o gyfarfodydd a gynhaliwyd gan yr holl Weinidogion dri mis ar ôl iddynt ddigwydd. Os bydd Gweinidogion yn cwrdd â sefydliad neu unigolyn allanol ac yn canfod eu hunain yn trafod busnes swyddogol heb fod swyddog yn bresennol (er enghraifft, mewn achlysur cymdeithasol neu ar wyliau), dylai unrhyw gynnwys o bwys gael ei drosglwyddo i'r Swyddfa Breifat cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad.

3.8 Ni ddylai Gweinidogion gwrdd yn ffurfiol â sefydliadau materion cyhoeddus proffesiynol (lobïwyr) sy’n ceisio dylanwadu ar farn neu benderfyniadau’r Llywodraeth. Pan fydd cyswllt anffurfiol, cymdeithasol neu ddamweiniol â lobïwyr yn digwydd yn ystod busnes arferol, dylid rhoi gwybod am hyn i’r Swyddfa Breifat.

Derbyn a llofnodi deisebau

3.9 O bryd i'w gilydd, gofynnir i Weinidogion dderbyn deisebau. Mae derbyn ac ystyried deisebau yn rhan o waith arferol llywodraeth. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gallai'r ffordd y cânt eu derbyn (e.e. ym mhresenoldeb y Wasg) arwain at gyhuddiadau o ragfarn. Er enghraifft, bydd angen i Weinidog benderfynu weithiau ar fater sy'n gysylltiedig â phwnc deiseb a ddaw i law. O'r herwydd, uwch was sifil fydd yn derbyn deisebau bob amser ar ran Llywodraeth Cymru.

3.10 Weithiau, gofynnir i Weinidog lofnodi deiseb. Ni fydd Gweinidogion Cymru byth, o dan unrhyw amgylchiadau, yn llofnodi deisebau sydd i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Rôl y Swyddog Cyfrifyddu

3.11 Yr Ysgrifennydd Parhaol yw Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru. Mae adran 133 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu bod Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru yn cael dynodi aelodau eraill o staff Llywodraeth Cymru i fod yn Swyddogion Cyfrifyddu ychwanegol sy’n gyfrifol am faes diffiniedig o weithgareddau Llywodraeth Cymru. Os gwneir penodiadau o'r fath, dylai'r Gweinidogion dalu sylw priodol i'w cyfrifoldebau.

3.12 Y Prif Swyddog Cyfrifyddu ac unrhyw Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl gyngor sy’n cael ei roi i Weinidogion yn cynnwys canllawiau priodol ar y defnydd priodol o arian cyhoeddus. Dylai’r Swyddog Cyfrifyddu dynnu sylw Gweinidogion at unrhyw wrthdaro tybiedig rhwng diben y Gweinidog a dyletswyddau’r Swyddog Cyfrifyddu. Ni all Swyddog Cyfrifyddu dderbyn nodau na pholisi’r Gweinidog heb eu harchwilio.

3.13 Mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn bersonol gyfrifol am y camau gweithredu y cymera ac am roi sicrwydd i’r Senedd a’r cyhoedd, am y safonau uchel o uniondeb wrth reoli arian cyhoeddus. Golyga hyn ystyried:

  • Rheoleidd-dra – sicrhau bod gwariant o fewn pwerau cyfreithiol ac yn cyd-fynd ag awdurdod seneddol, gan gynnwys cwmpasau cyllideb
  • Priodoldeb – sicrhau bod gwariant yn unol â’r gwerthoedd a’r ymddygiad a ddisgwylir gan y sector cyhoeddus
  • Gwerth am Arian – sicrhau economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mewn penderfyniadau ynghylch gwariant cyhoeddus
  • Dichonoldeb – sicrhau y gellir gweithredu cynigion gwariant yn fanwl gywir, yn gynaliadwy neu yn unol â’r amserlen a fwriedir.

3.14 Yn unol â’r egwyddorion a amlinellwyd yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, os bydd Gweinidog neu Gwnsler Cyffredinol yn ystyried camau gweithredu y mae’r Swyddog Cyfrifyddu wedi cynghori yn eu herbyn gan eu bod yn anghydnaws â’u cyfrifoldebau, dylent geisio datrys y sefyllfa drwy ddeialog pellach yn y lle cyntaf. Os na ellir datrys y sefyllfa, dylid codi’r mater gyda’r Prif Swyddog Cyfrifyddu a fydd efallai’n dymuno trafod y mater gyda’r Prif Weinidog. Dim ond ar ôl cymryd y camau hyn y dylai’r Prif Swyddog Cyfrifyddu geisio Cyfarwyddyd ysgrifenedig gan y Prif Weinidog i fynd ati fel y cyfarwyddwyd, fel y nodwyd ym Memorandwm y Prif Swyddog Cyfrifyddu. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod angen cymryd pob cam posibl ymlaen llaw i ddatrys y sefyllfa gyda’r Gweinidog.

4. Buddiannau Etholaethol* a Phleidiol y Gweinidogion

* mae hyn yn cynnwys Gweinidogion sy'n Aelodau rhanbarthol o'r Senedd yn hytrach nag Aelodau etholaethol.

Buddiannau etholaethol a phleidiol

4.1 Darperir cyfleusterau ar gyfer y Gweinidogion ar draul Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau swyddogol. Yn gyffredinol, ni ddylid defnyddio'r cyfleusterau hyn ar gyfer gweithgareddau etholaethol nac ar gyfer gweithgareddau plaid. Dylai’r Gweinidogion wneud eu gwaith etholaethol ar eu traul eu hunain, yn yr un modd â phe baent yn Aelodau o'r Senedd nad ydynt yn Weinidogion. Mae hawl gan Weinidogion i gyflog y Senedd ac i gael eu had-dalu am wariant sy'n codi'n naturiol wrth gyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau o'r Senedd.

4.2 Yn gyffredinol, ni ddylai eiddo'r Llywodraeth gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith etholaethol nac ar gyfer gweithgareddau gwleidyddol plaid. Er hynny, mae realiti bywydau gwaith y Gweinidogion yn golygu ei bod yn anochel y bydd eu busnes swyddogol fel Gweinidogion a'u gwaith etholaethol neu eu gwaith dros eu plaid yn gorgyffwrdd i raddau. O bryd i'w gilydd, mae’n bosibl y bydd y Gweinidogion am ddefnyddio eu hystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd sy'n ymwneud â gwaith o'r fath ac y byddai'n briodol iddynt eu cynnal er mwyn hwyluso'u bywydau fel Gweinidogion. Dyma rai enghreifftiau o achlysuron lle y byddai hynny'n briodol:

  1. Cyfarfodydd rhwng y Gweinidogion a'r staff sy'n rhoi cymorth iddynt yn rhinwedd eu swyddi fel Aelodau o’r Senedd am resymau penodol wedi eu diffinio'n glir sy'n gysylltiedig â'u busnes fel Gweinidogion a'u busnes yn yr etholaeth, megis trafodaethau i drefnu eu dyddiaduron.
  2. Cyfarfodydd rhwng y Gweinidogion a’u hetholwyr sy'n cyflwyno sylwadau am bwnc sydd yn eu portffolio.
  3. Cyfarfodydd gydag Aelodau’r Senedd eu pleidiau eu hunain i drafod sut i ymdrin â busnes y Senedd.

4.3 Os yw'r Gweinidogion, o dan amgylchiadau eithriadol, yn cynnal digwyddiadau sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid ar eiddo Llywodraeth Cymru, dylent wneud hynny ar eu traul eu hunain neu ar draul y blaid.

4.4 Ni ddylai etholwyr fod o dan anfantais o ganlyniad i’r ffaith bod eu Haelod o'r Senedd yn dal swydd Weinidogol. Yn ogystal, nid yw Gweinidogion wedi’u heithrio rhag gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'u hetholaeth pan fo'r effaith yn cyfateb i effeithiau mewn mannau eraill, er enghraifft wrth ystyried rhaglen weithredu ledled Cymru.

4.5 Fodd bynnag, yn yr un modd, ni ddylai Gweinidogion weithredu mewn unrhyw ffordd a allai ymddangos fel pe bai’n ffafrio’n amhriodol eu hetholaeth neu eu rhanbarth, neu un neu ragor o’u hetholwyr. Os oes yn rhaid i'r Gweinidogion benderfynu ar faterion sydd yn eu portffolios eu hunain a allai effeithio’n sylweddol ar eu hetholaethau eu hunain, dylent ofalu eu bod yn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu wrthdaro buddiannau ymddangosiadol. Dylid osgoi datganiadau i’r wasg a wneir yn enw Gweinidogion sy’n pwysleisio’n benodol y buddion i etholaeth neu ranbarth y Gweinidogion hynny.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

4.6 Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) ystyried cwynion am gamweinyddu neu am fethiant i ddarparu gwasanaethau gan y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd aelodau o'r cyhoedd am gwyno am un o wasanaethau Llywodraeth Cymru ac efallai y byddant yn cysylltu â Gweinidog ynghylch eu pryderon. Mewn achosion o'r fath dylai'r Gweinidogion:

  1. os nad yw'r achwynyddion yn etholwyr iddynt, eu cyfeirio at eu Haelod etholaethol o’r Senedd;
  2. os yw'r achwynyddion yn etholwyr iddynt, neu os nad ydynt am gysylltu â'u Haelod o’r Senedd, eu cyfeirio at Bolisi Cwynion Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru;
  3. os yw'r achwynyddion wedi cael ymateb gan dîm cwynion Llywodraeth Cymru a'u bod yn dal yn anhapus, eu cyfeirio at weithdrefn gwynion yr Ombwdsmon (gall achwynydd godi cwyn gyda'r Ombwdsmon yn uniongyrchol). Dylai unrhyw Weinidog sy'n cyfeirio achwynydd at yr Ombwdsmon hysbysu'r Gweinidog perthnasol a'r Ysgrifennydd Parhaol ymlaen llaw.

4.7 Dylai'r Gweinidogion, os oes modd, weithredu yn yr un modd yn union ag Aelodau eraill o'r Senedd ‒ yn enwedig os yw'r achwynyddion yn etholwyr iddynt.

Arwain Dirprwyaethau a Chyflwyno Sylwadau (gan gynnwys achosion cynllunio): Y Rhan Gyffredinol sy'n cael ei Chwarae gan y Gweinidogion

4.8 Mae rhwydd hynt i'r Gweinidogion fynegi barn eu hetholwyr am faterion etholaethol wrth y Gweinidogion cyfrifol drwy ohebu â hwy, drwy arwain dirprwyaethau neu drwy gyfweliadau personol ar yr amod eu bod yn ei gwneud yn glir eu bod yn gweithredu fel cynrychiolwyr eu hetholwyr yn hytrach nag fel Gweinidogion. Cynghorir y Gweinidogion i fod yn arbennig o ofalus gydag achosion sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio o fewn eu hetholaethau neu faterion tebyg eraill. Ym mhob achos o'r fath, mae'n bwysig eu bod yn ei gwneud yn glir mai cynrychioli safbwyntiau eu hetholwyr y maent, eu bod yn osgoi beirniadu polisïau Llywodraeth Cymru, a'u bod yn cyfyngu eu hunain i sylwadau y byddai’n rhesymol iddynt gael eu gwneud gan y rheini nad ydynt yn Weinidogion. Dylai gohebiaeth nodi bob amser ym mha rinwedd y mae Gweinidogion yn ysgrifennu, ac wrth wneud hynny yn rhinwedd eu swydd fel Aelod Etholaethol, dylai llythyrau ddechrau gyda: 'Rwy'n ysgrifennu yn rhinwedd fy swydd fel Aelod Etholaethol / Rhanbarthol dros X', er mwyn osgoi unrhyw amwysedd.

4.9 Unwaith y cyhoeddir penderfyniad, fel rheol, dylid ei dderbyn heb ei gwestiynu na'i feirniadu. Wrth fynegi safbwyntiau eu hetholwyr, mae'n bwysig bod y Gweinidogion yn gwneud hynny mewn modd nad yw'n creu anhawster i'r Gweinidogion sy'n gorfod gwneud y penderfyniad hwnnw, a'u bod hefyd yn cadw cydgyfrifoldeb y Cabinet am y canlyniad mewn cof. Dylai'r Gweinidogion hefyd ystyried goblygiadau posibl eu sylwadau i’r cyfrifoldebau yn eu portffolio eu hunain.

Cynigion i'r Loteri

4.10 Er mwyn osgoi rhoi'r argraff bod Gweinidogion yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch dyfarnu arian y Loteri, ni ddylai'r Gweinidogion, fel rheol, roi cefnogaeth gyhoeddus benodol i geisiadau am arian y Loteri. Os yw Gweinidogion am gefnogi prosiect penodol o fewn eu hetholaeth, dylent ei gwneud yn gwbl glir mai yn rhinwedd eu swydd fel cynrychiolydd eu hetholaeth y maent yn gwneud hynny.

5. Buddiannau preifat y Gweinidogion

Gwrthdaro buddiannau

5.1 Rhaid i'r Gweinidogion sicrhau na fydd gwrthdaro, nac y gellid yn rhesymol gael yr argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat – yn ariannol neu fel arall. Cyfrifoldeb personol pob un Gweinidog yw penderfynu a oes angen gweithredu a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi gwrthdaro neu argraff o wrthdaro, gan ystyried cyngor a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Gall y Prif Weinidog neu'r Ysgrifennydd Parhaol hefyd ymgynghori â'r Cynghorydd Annibynnol ynghylch sut i ymdrin yn briodol ag achos gwirioneddol neu achos ymddangosiadol o wrthdaro buddiannau.

Gweithdrefnau

5.2 Pan gânt eu penodi i bob swydd newydd, rhaid i'r Gweinidogion roi rhestr ysgrifenedig gyflawn i'r Ysgrifennydd Parhaol o'r holl fuddiannau hynny y gellid barnu eu bod yn arwain at wrthdaro buddiannau. Rhaid darparu’r rhestr hon o fewn pedair wythnos i ddechrau yn y swydd. Dylai'r rhestr gynnwys buddiannau priod neu bartner y Gweinidogion ac aelodau o'u teulu agos y gellid barnu eu bod yn arwain at wrthdaro buddiannau.

5.3 Pan fo hynny'n briodol, bydd y Gweinidog yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol i gytuno ar gamau ar gyfer ymdrin â buddiannau. Rhaid i'r Gweinidogion gofnodi'n ysgrifenedig y camau a gymerwyd, a rhoi copi o'r cofnod hwnnw i'r Ysgrifennydd Parhaol. Os teimlir bod y cyngor sy'n ofynnol yn fwy na’r hyn y gall swyddogion ei ddarparu’n briodol, cynghorir y Gweinidogion i geisio eu cyngor proffesiynol eu hunain, a hwy fydd yn ysgwyddo'r gost am y cyngor hwnnw.

5.4 Cynghorir y Gweinidogion i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn ddi-oed os yw eu hamgylchiadau yn newid o gwbl. Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ysgrifennu at y Gweinidogion yn flynyddol yn gofyn iddynt gadarnhau bod y cofnod o'u buddiannau preifat yn gyflawn ac yn gyfredol.

5.5 Os yw'n briodol i Weinidogion gadw buddiant preifat, dylent ddatgan y buddiant hwnnw wrth eu cyd Weinidogion os oes yn rhaid iddynt drafod busnes cyhoeddus sy'n effeithio ar y buddiant hwnnw mewn unrhyw fodd; ni ddylent gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth am y busnes hwnnw. Gallai fod angen cymryd camau tebyg mewn perthynas â buddiannau blaenorol Gweinidog.

5.6 Mae'r wybodaeth bersonol y mae'r Gweinidogion yn ei datgelu i'r rheini sy'n eu cynghori yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Fodd bynnag, bydd datganiad a fydd yn cynnwys buddiannau Gweinidogion perthnasol yn cael ei gyhoeddi yn flynyddol, a bydd y penderfyniad terfynol ynghylch yr hyn y dylid ei gyhoeddi yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Parhaol. Bydd yn ofynnol hefyd i rai buddiannau a ddarperir gan Weinidogion gael eu cynnwys yng nghyfrifon blynyddol Llywodraeth Cymru lle cânt eu nodi fel buddiant parti cysylltiedig. Trafodir hyn gyda’r Gweinidogion wrth baratoi'r cyfrifon.

Buddiannau ariannol

5.7 Rhaid i'r Gweinidogion ofalu eu bod yn osgoi unrhyw berygl o wrthdaro buddiannau, neu’n osgoi rhoi’r argraff bod unrhyw wrthdaro buddiannau rhwng eu swydd fel Gweinidog a'u buddiannau ariannol preifat. Dylent gadw at yr egwyddor gyffredinol o naill ai cael gwared ar unrhyw fuddiant sy'n arwain at y gwrthdaro buddiannau, neu gymryd camau eraill i'w atal. Dylent ystyried y cyngor a roddwyd iddynt gan yr Ysgrifennydd Parhaol wrth ddod i benderfyniad. Yn rhinwedd ei swydd fel Prif Swyddog Cyfrifyddu, mae gan yr Ysgrifennydd Parhaol gyfrifoldeb personol dros briodoldeb a rheoleidd-dra ariannol ar draws busnes Llywodraeth Cymru, a rhaid rhoi pwys penodol ar unrhyw gyngor y bydd yn ei roi pan fo materion o'r fath yn codi. Ni ddylai gobaith neu ddisgwyliad Gweinidogion o gael eu cyflogi yn y dyfodol gan gwmni neu sefydliad penodol ddylanwadu ar eu penderfyniad.

5.8 Pan benderfynir fel eithriad y gall Gweinidog gadw buddiant, rhaid i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru roi ar waith brosesau i wahardd y Gweinidog rhag cael gweld papurau penodol a sicrhau nad yw'r Gweinidog yn rhan o benderfyniadau a thrafodaethau penodol yn gysylltiedig â'r buddiant hwnnw.

5.9 Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn bosibl dod o hyd i ffordd o osgoi gwrthdaro buddiannau. Mewn achosion o'r fath, rhaid ymgynghori â'r Prif Weinidog er mwyn i drefniadau perthnasol gael eu gwneud, a'r Prif Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol mewn achosion o'r fath.

Partneriaethau

5.10 Wrth ddechrau ar eu swyddi, dylai Gweinidogion sy'n bartneriaid, naill ai mewn cwmnïau proffesiynol, er enghraifft cyfreithwyr, cyfrifwyr etc, neu mewn busnesau eraill, fel rheol, roi'r gorau i'r gwaith hwnnw ac ni ddylent chwarae unrhyw ran yn y gwaith o reoli materion y cwmni neu'r busnes o ddydd i ddydd. Rhaid cael cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer unrhyw eithriadau i hyn.

Swyddi Cyfarwyddwyr

5.11 Wrth ddechrau ar eu swyddi, rhaid i'r Gweinidogion roi'r gorau i unrhyw swyddi cyfarwyddwyr. Mae hyn yn gymwys pa un a yw'r swydd cyfarwyddwr mewn cwmni cyhoeddus neu gwmni preifat a pha un a yw’r swydd yn un lle y rhoddir tâl neu’n swydd fygedol. Yr unig eithriad i'r rheol hon yw y caniateir iddynt gadw swyddi cyfarwyddwyr mewn cwmnïau preifat a sefydlwyd mewn cysylltiad ag ystadau teuluol preifat neu mewn cwmni a ffurfiwyd er mwyn rheoli fflatiau lle y mae'r Gweinidogion yn denantiaid, ar yr amod bod y Gweinidogion, os ydynt yn teimlo ar unrhyw adeg fod gwrthdaro yn debygol o godi rhwng eu buddiant preifat a'u dyletswydd gyhoeddus, yn ymddiswyddo o'r swydd cyfarwyddwr hyd yn oed yn yr achosion hynny.

Penodiadau cyhoeddus

5.12 Wrth ddechrau ar eu swyddi, dylai'r Gweinidogion roi'r gorau i unrhyw benodiad cyhoeddus arall sydd ganddynt.

Cyrff nad ydynt yn rhai cyhoeddus

5.13 Dylai'r Gweinidogion ofalu eu bod yn sicrhau nad ydynt yn gysylltiedig â chyrff sydd heb fod yn rhai cyhoeddus y gallai eu hamcanion wrthdaro i unrhyw raddau â pholisïau Llywodraeth Cymru gan, arwain, o'r herwydd, at wrthdaro buddiannau. Felly, ni ddylai'r Gweinidogion, fel rheol, dderbyn gwahoddiadau i noddi neu i gefnogi mewn rhyw fodd arall grwpiau pwyso neu sefydliadau sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol ddibynnol ar arian oddi wrth Lywodraeth Cymru. Fel rheol, nid oes cymaint o wrthwynebiad i'r Gweinidogion gysylltu eu hunain ag elusen (yn amodol ar y pwyntiau uchod) ond dylent ofalu eu bod yn sicrhau, wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian, nad ydynt yn rhoi eu hunain o dan rwymedigaeth fel Gweinidogion i'r rheini y cyfeirir apeliadau atynt, nac ychwaith yn rhoi’r argraff honno (ac o'r herwydd, ni ddylent gysylltu ag unigolion neu â chwmnïau at y diben hwn). Dylid ymgynghori â'r Prif Weinidog ym mhob achos o’r fath. Dylai’r Gweinidogion hefyd ystyried eu hymwneud ag unrhyw sefydliadau yn eu rôl fel Aelod o'r Senedd a sicrhau nad yw unrhyw gyngor a ddarparant yn ffafrio un sefydliad, neu’n ymddangos fel pe bai’n gwneud hynny, mewn perthynas â chyllid y Llywodraeth.

Undebau llafur

5.14 Wrth reswm, nid oes gwrthwynebiad i Weinidogion fod yn aelodau o undebau llafur, ond rhaid iddynt ofalu eu bod yn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau neu’n osgoi rhoi’r argraff bod gwrthdaro buddiannau. Yn unol â hynny, dylai’r Gweinidogion drefnu eu materion mewn modd sy'n osgoi unrhyw awgrym bod gan undeb y maent yn aelod ohono ormod o ddylanwad; ni ddylent gymryd rhan weithredol yng ngwaith yr undeb, dylent roi'r gorau i unrhyw swydd y maent yn ei dal mewn undeb ac ni ddylent gael unrhyw daliad cydnabyddiaeth gan undeb. Mae taliad mewn enw at ddibenion diogelu hawliau pensiwn Gweinidog yn y dyfodol yn dderbyniol. Dylid cynnwys aelodaeth o Undebau Llafur yn y datganiad blynyddol o fuddiannau perthnasol.

Derbyn rhoddion a lletygarwch

5.15  Mae'r ffaith na ddylai unrhyw Weinidogion dderbyn rhoddion, lletygarwch neu wasanaethau oddi wrth unrhyw un mewn modd a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth, neu roi’r argraff eu bod o dan rwymedigaeth, yn rheol sefydledig a chydnabyddedig. Mae'r un egwyddor yn gymwys os cynigir rhoddion etc i aelodau o'u teulu.

5.16 Mater i'r Gweinidogion arfer eu synnwyr cyffredin yn ei gylch yw hwn yn bennaf. Ond os oes gan unrhyw un o'r Gweinidogion amheuon neu anhawster yn hyn o beth, dylent geisio cyngor yr Ysgrifennydd Parhaol.

5.17 Eiddo Llywodraeth Cymru fydd rhoddion a roddir i Weinidogion yn rhinwedd eu swyddi fel Gweinidogion. Fodd bynnag, caiff y derbynnydd gadw rhoddion nad ydynt o werth mawr; sef gwerth o hyd at £140 ar hyn o bryd. Os na fydd y Gweinidog yn eu cadw, dylid rhoi rhoddion nad ydynt o werth mawr i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, Is-adran y Cabinet i’w gwaredu.

5.18 Rhaid rhoi gwybod i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, Is-adran y Cabinet am unrhyw roddion sy’n werth mwy na hynny. Caiff y derbynnydd brynu rhoddion o’r fath am eu gwerth mewn arian parod (wedi’i leihau o £140) i’w cadw’n bersonol. Os na fydd y Gweinidog yn eu prynu, dylid rhoi rhoddion sy’n werth mwy na hynny i Is-adran y Cabinet i’w gwaredu.

5.19 Fel arfer, ni fydd tollau na TAW mewnforio yn daladwy ar fewnforio rhoddion swyddogol a dderbynnir dramor. Gall CThEF gynghori mewn achosion lle mae unrhyw amheuaeth. Wrth fewnforio rhoddion a dderbynnir dramor sy'n werth mwy na lwfansau arferol teithwyr, dylid eu datgelu i Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, a byddant hwy yn cynghori ar unrhyw dollau ac atebolrwydd i dalu treth. Yn gyffredinol, os yw Gweinidogion am gadw rhodd, hwy fydd yn atebol am dalu unrhyw dreth a all fod yn daladwy ar y rhodd honno.

5.20 Nid oes angen gwneud datganiad yng Nghofrestr Buddiannau'r Aelodau ynghylch rhoddion y mae Gweinidogion yn eu cadw. Mae rhoddion a roddir i’r Gweinidogion yn rhinwedd eu swyddi fel Aelodau o’r Senedd yn dod o dan y rheolau sy'n ymwneud â Chofrestr Buddiannau Aelodau’r Senedd.

5.21 Mae’n rhaid rhoi gwybod i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn Is-adran y Cabinet am unrhyw letygarwch sy’n werth mwy na £140 a roddir i Weinidogion. Os yw Gweinidog yn derbyn lletygarwch sy’n werth llai na £140 ond sydd ar raddfa neu o ffynhonnell y gellid yn rhesymol barnu ei bod yn debygol o ddylanwadu ar yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud, dylid rhoi gwybod i Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, Is-adran y Cabinet. Mae unrhyw letygarwch a roddir i’r Gweinidogion yn rhinwedd eu swyddi fel Aelodau o’r Senedd yn dod o dan y rheolau sy'n ymwneud â Chofrestr Buddiannau’r Aelodau.

5.22 Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhestr flynyddol o roddion a lletygarwch sy’n werth mwy na £140 a dderbynnir gan Weinidogion ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhestr yn manylu ar werth y rhoddion a’r lletygarwch a roddwyd ac yn nodi a gafodd rhoddion eu cadw gan Lywodraeth Cymru neu eu prynu gan y Gweinidog.

Enwebu ar gyfer anrhydeddau, gwobrau a dyfarniadau

5.23 O bryd i'w gilydd, gofynnir i’r Gweinidogion roi eu cefnogaeth bersonol i enwebiadau ar gyfer anrhydeddau, gwobrau a dyfarniadau. Ni ddylai’r Gweinidogion noddi enwebiadau unigol ar gyfer unrhyw ddyfarniadau, a hynny oherwydd y byddai'n anochel y byddai rhai yn cymryd bod Llywodraeth Cymru ei hun yn eu noddi. Yn yr un modd, ni ddylai’r Gweinidogion fel arfer gefnogi ceisiadau am gyllid o fannau eraill, oherwydd perygl i’r gefnogaeth ymddangos fel pe bai’n dangos ffafriaeth. Efallai y bydd eithriadau i’r egwyddor hon pan fydd yn amlwg ei bod er budd Llywodraeth Cymru i brosiect gael cefnogaeth Weinidogol, er enghraifft cefnogi cais sefydliad academaidd am gyllid gan un o Gynghorau Ymchwil y DU.

5.24 Gall Gweinidogion ysgrifennu llythyrau o gefnogaeth i unrhyw enwebiad cyhoeddus ar gyfer anrhydeddau yn rhinwedd eu rôl fel Aelod o’r Senedd. Dylid sianelu hyn drwy'r broses enwebu gyhoeddus arferol. Gallant hefyd yn rhinwedd y rôl hon annog Aelodau eraill o’r Senedd i gyflwyno enwebiadau. Ni all Gweinidogion eu hunain enwebu unigolion fel rhan o broses anrhydeddau Llywodraeth Cymru, ond gallant awgrymu enwau (o unrhyw gefndir) i'r Ysgrifennydd Parhaol eu hystyried fel rhan o'r broses honno. Dylai unrhyw awgrymiadau fod yn destun yr un diwydrwydd dyladwy ag unrhyw enwebai arall.

Geirda ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus

5.25 Gofynnir i'r Gweinidogion, yn yr un modd â staff Llywodraeth Cymru, beidio â rhoi geirda i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus. Dylid ymgynghori â'r Prif Weinidog os oes unrhyw amheuon yn hyn o beth. Yr eithriad yw pan fo Gweinidog yn gweithredu'n gyfan gwbl yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o’r Senedd neu'n bersonol, a bod hynny’n cael ei wneud yn amlwg.

Llenwi arolygon

5.26 Yn achlysurol, mae’r Gweinidogion yn cael cais i lenwi arolygon neu holiaduron. Gofynnir i'r Gweinidogion beidio â gwneud hynny, gan ystyried pa mor anodd yw gwahanu'r safbwyntiau personol hynny oddi wrth safbwyntiau Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed pan fo'r cais wedi'i dderbyn yn rhinwedd eu swydd fel Aelod o’r Senedd.

Derbyn penodiadau ar ôl gadael swydd Gweinidog

5.27 Ar ôl gadael eu swydd, dylai'r Gweinidogion barhau i barchu'r angen i sicrhau nad oes unrhyw awgrym o amhriodoldeb ynghylch unrhyw benodiadau neu rolau y maent yn ymgymryd â hwy yn y dyfodol. Disgwylir iddynt gydymffurfio â'r gweithdrefnau penodiadau busnes a osodwyd yn hyn o beth gan y Prif Weinidog ac i geisio, a chydymffurfio â, cyngor a roddir drwy'r gweithdrefnau hynny. Cyfrifoldeb cyn-Weinidogion eu hunain yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio, a’u bod yn atebol i'r Senedd a'r cyhoedd.