Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl Cymru, yn gwbl briodol, yn disgwyl i'r llywodraeth y maent yn ei hethol nid yn unig i gyflawni ei haddewidion ond hefyd i wneud hynny mewn ffordd sy'n parchu'r safonau uchaf o ran bywyd cyhoeddus. Mae'r rhain yn safonau cyson nad ydynt yn ymwneud â phleidiau na chysylltiadau penodol.

Braint ac anrhydedd yw dod yn Brif Weinidog Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod fy llywodraeth yn gweithredu mewn modd gonest, tryloyw ac atebol. Rydym wedi ymrwymo i wrando ar ein dinasyddion, i fynd i'r afael â'u blaenoriaethau, ac i gynnal safonau uchel o wasanaeth cyhoeddus. Y Cod hwn yw ein haddewid i ymddwyn mewn ffordd sy'n sicrhau ein bod yn gwasanaethu pobl Cymru yn anad dim arall.

Mae'r Cod hwn yn nodi'r egwyddorion sy'n sail i'n gwaith ac yr wyf yn eu disgwyl gan fy Ngweinidogion. Nid set o reolau yn unig ydyw ond datganiad o'n hymrwymiad cyffredin i lywodraethu da. Drwy gadw at y safonau hyn, rydym yn cryfhau'r ymddiriedaeth rhwng y llywodraeth a phobl Cymru, gan sicrhau bod ein democratiaeth yn parhau i fod yn gadarn ac yn ymatebol.

Yn y fersiwn ddiweddaraf hon o'r Cod, rwyf wedi cyflwyno newidiadau sylweddol i wella ein hymrwymiad i lywodraethu da. Mae Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol yn cael ei benodi i helpu i ddarparu cyngor ac arweiniad diduedd ychwanegol a fydd yn sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu cynnal. Mae newidiadau eraill wedi'u gwneud i gynyddu tryloywder.

Rwyf hefyd wedi gwneud rhai newidiadau i roi mwy o eglurder mewn sawl maes. Bydd hyn yn sicrhau bod Gweinidogion yn deall eu cyfrifoldebau a'n bod yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau yn unol â safonau sy'n glir i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Rwy'n addo y byddaf fi a fy llywodraeth yn cynnal y safonau hyn ym mhopeth a wnawn.

Eluned Morgan
Prif Weinidog Cymru