Rydym eisiau eich barn ar newidiadau arfaethedig i'r cod ymarfer er mwyn rhwystro a rheoli ymlediad llysiau’r gingroen.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod y cod yw darparu canllawiau i helpu i rwystro llysiau’r gingroen rhag ymledu a’u cadw dan reolaeth lle maent yn beryglus i iechyd a lles anifeiliaid sy’n pori. Cyhoeddwyd y cod presennol yn 2011. Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau sy'n diweddaru'r cod. Mae'r diwygiadau'n cynnwys:
- diweddaru enwau sefydliadau a chysylltiadau perthnasol
- diweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth a gofynion cyfreithiol pan fo deddfwriaeth newydd wedi'i chyflwyno ers 2011
- newidiadau yn ymwneud â chyngor o ran arferion gorau
Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 152 KB

Gwelliannau arfaethedig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 15 Ionawr 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Is-adran Tirweddau, Natur a Choedwigaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ