Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd heriau i gyfraith amgylcheddol yn cael eu rheoli ar ôl y cyfnod pontio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Os oes gennych unrhyw bryderon am sut y mae cyfreithiau amgylcheddol yn gweithio yng Nghymru, cwblhewch y ffurflen gyflwyno hon a’i chyflwynwch i’r Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru (AIDAC).

Proses dros dro yw hon yng Nghymru tra bo corff parhaol i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith amgylcheddol yn cael ei ddatblygu. Mae'n canolbwyntio ar sut y mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio, yn hytrach nag ar achosion o dorri'r gyfraith honno.

Dwyn her mewn perthynas â chydymffurfio gyda chyfraith amgylcheddol

Os ydych am gyflwyno her mewn perthynas â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol, yna dylech wneud hynny yn y ffordd arferol – drwy ddilyn y dulliau presennol o unioni’r sefyllfa (er enghraifft adolygiad barnwrol), gan wneud hynny fel y bo'n briodol ac yn unol â'r amserlenni perthnasol. Dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol i gadarnhau beth a allai fod yn ffordd briodol o unioni’r sefyllfa.

Beth rydym yn ei olygu wrth gyfeirio at gyfraith amgylcheddol yng Nghymru?

Mae cyfraith amgylcheddol yn golygu unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n gymwys yng Nghymru ac sy'n ymwneud yn bennaf â mater amgylcheddol.

Mae materion amgylcheddol yn cynnwys:

  • diogelu’n hadnoddau naturiol
  • amddiffyn pobl rhag effeithiau difrod i'n hadnoddau naturiol
  • camau sy'n cynnal, yn adfer neu’n gwella’n hadnoddau naturiol
  • monitro, asesu, ystyried, cynghori neu adrodd ar unrhyw beth sy'n ymwneud â'r pwyntiau uchod

Nid yw adnoddau naturiol yn gyfyngedig i'r canlynol ond maent yn cynnwys:

  • anifeiliaid, planhigion ac organeddau eraill
  • aer, dŵr a phridd
  • mwynau
  • nodweddion a phrosesau daearegol
  • nodweddion ffisiograffigol
  • nodweddion a phrosesau hinsoddol

Nid ydynt yn cynnwys materion sy’n ymwneud â:

  • datgelu neu weld gwybodaeth
  • y lluoedd arfog neu ddiogelwch gwladol

Nid yw’n cynnwys pryderon am:

  • Ddigwyddiadau amgylcheddol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol drwy gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol, megis casglu sbwriel – mae manylion cyswllt pob awdurdod lleol i’w gweld ar wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  • Triniaeth annheg neu wasanaeth gwael. Dylid cyfeirio cwynion am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael gan gorff cyhoeddus at y broses gwyno sydd gan y corff dan sylw. Os nad ydych yn fodlon â'i ymateb, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
  • Penderfyniadau unigol ym maes cynllunio gwlad a thref. Os ydych am herio penderfyniad cynllunio, dylech wneud hynny naill ai drwy adolygiad barnwrol drwy'r Llysoedd, neu, os ydych yn herio ar sail camweinyddu, drwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Os hoffech gwyno am achos tybiedig o dorri cyfraith amgylcheddol gan awdurdod lleol yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon ewch i wefan Office for Environmental Protection (OEP). Nodwch fod yn rhaid i chi ddilyn proses gwynion yr awdurdod cyhoeddus yn gyntaf.

Os oes gennych ymholiad ynghylch cyfraith amgylcheddol yn yr Alban cysylltwch â Environmental Standards Scotland

Mae AIDAC, OEP ac ESS wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth sy’n gosod allan sut fydd y tri chorff yn gweithio gyda’i gilydd.

Beth rydym yn ei olygu o ran 'gweithredu'?

Mae pryderon am y ffordd mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yn perthyn i dri chategori cyffredinol:

  1. Nid yw bellach yn cyflawni amcanion a chanlyniadau a fwriadwyd. Naill ai am ei fod wedi dyddio neu angen ei ddiweddaru neu nad yw bellach yn gweithredu mewn ffordd sy'n diogelu'r amgylchedd neu'n ein galluogi i sicrhau ein canlyniadau amgylcheddol uchelgeisiol.
  2. Nid yw canllawiau neu wybodaeth am y gyfraith yn hygyrch. Mae ansawdd ac argaeledd gwybodaeth neu ganllawiau yn rhwystro defnyddwyr arfaethedig rhag cyflawni neu weithredu.
  3. Mae rhoi'r gyfraith ar waith yn ymarferol wedi'i rwystro. Lle mae gwelliannau y gellid eu hymgorffori o ganlyniad i ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth neu technoleg neu lle mae rhwystrau'n bodoli sy'n rhwystro neu'n atal rhoi’r gyfraith ar waith yn ymarferol.

Tystiolaeth ategol

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i’r asesydd dros dro am unrhyw fater sy’n destun pryder ichi yn hyn o beth, bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

  • pa un o feysydd y gyfraith amgylcheddol (ac, os yw'n berthnasol, pa sefydliad) y mae'r pryder yn ymwneud ag ef. Rhowch gymaint o fanylion â phosibl gan gynnwys adrannau penodol y Deddfau, Rheoliadau ac ati rydych chi’n teimlo y mae angen eu hystyried;
  • gwybodaeth fanwl i esbonio pam eich bod o'r farn nad yw'r gyfraith yn gweithio'n iawn.

Gallwch dynnu’ch pryder yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi gwybod inni drwy’r e-bost.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith y bydd eich e-bost wedi'i gyflwyno byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth a byddwn yn cofnodi eich pryder.

Bydd eich pryder yn cael ei anfon at yr Asesydd Interim. Caiff rôl yr Asesydd ei amlinellu yn y cylch gorchwyl. Byddant yn penderfynu a yw eich pryder yn berthnasol i'r broses hon. Hynny yw, a ydyw’n ymwneud â’r ffordd mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yng Nghymru. Os nad ydyw, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac, os gallwn, yn dweud wrthych pwy y dylech gysylltu â nhw.

Os yw eich pryder yn ymwneud â’r ffordd mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yng Nghymru, bydd yr Asesydd Interim yn ei adolygu a gallai lunio adroddiad ar y mater ar gyfer Gweinidogion Cymru.

Ar ôl cwblhau'r adolygiad, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am y canlyniad.

Ar ddiwedd pob blwyddyn galendr, bydd yr Asesydd Interim yn llunio adroddiad blynyddol ar yr holl bryderon sydd wedi'u cyflwyno.

Cafodd yr adroddiad blynyddol cyntaf, ar gyfer 2021–2022, ei gyhoeddi yn ystod Gwanwyn 2022.

Galw am dystiolaeth ac arbenigedd

Wrychoedd (perthi)

Mae'r IEPAW yn bwriadu llunio adroddiad ar wrychoedd (perthi) i Weinidogion Cymru. Mae’r alwad am dystiolaeth ac arbenigedd hon bellach wedi cau. 

Safleoedd sydd wedi eu gwarchod

Mae'r IEPAW yn bwriadu llunio adroddiad ar safleoedd sydd wedi eu gwarchod i Weinidogion Cymru. Anfonwch unrhyw sylwadau neu dystiolaeth ysgrifenedig am y materion a amlinellir yn yr alwad am dystiolaeth ac arbenigedd at IEPAW@llyw.cymru  erbyn dydd Gwener 20 Ionawr 2023.  Os oes angen  mwy o amser rhowch wybod i ni.

Rhagor o fanylion

I gysylltu â’r Asesydd Interim, anfonwch e-bost at IEPAW@llyw.cymru