Neidio i'r prif gynnwy
Dr Nerys Llewelyn Jones

Adolygu pryderon ynghylch sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithredu yng Nghymru.

Mae Nerys yn gyfreithwraig uchel ei pharch yn ei meysydd arbenigol, sef y gyfraith amgylcheddol a gwledig ac yn sylfaenydd cwmni gwasanaethau proffesiynol arbenigol.

Roedd ei doethuriaeth mewn Datblygu Cynaliadwy a gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi ar lefelau llywodraethu rhyngwladol a rhanbarthol.

Mae'n siarad yn gyson am gyfraith a pholisi amaethyddol ac amgylcheddol yn y DU ac Ewrop.

Mae'n wybodus am strwythur datganoledig cyfreithiol a gweinyddol y DU ac mae'n rhugl yn y Gymraeg.

Mae Nerys yn Gyfryngwr Achrededig ADR ac yn cael ei chydnabod am ei gallu i ddatrys problemau.

Os hoffech gysylltu ag Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru. E-bostiwch IEPAW@llyw.cymru

Os oes gennych bryderon ynghylch gweithrediad deddfau amgylcheddol yng Nghymru, darllenwch ragor o wybodaeth ar sut i godi eich pryder.

Datganiad buddiannau

Rôl

Corff

Tymor

Is-gadeirydd

Ffermwyr Dyfodol Cymru

Tachwedd 2020 – 2022

Is-gadeirydd

Agricultural Law Association (ALA)

Mehefin 2019 – 2025

Cynrychiolydd i’r CEDR

Yn aelod o fwrdd rheoli CEDR ar ran ALA

Presennol

Aelod o Banel y Perchenogion Tir

Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru

Presennol

Aelod o Fwrdd Strategaeth Cyswllt Ffermio

Cyswllt Ffermio/Menter a Busnes

Ailbenodwyd yn 2020 – Penodiad 5 mlynedd

Penderfynydd a Chyfryngydd Arbenigol ar y Panel

ALADR

Penodiad 5 mlynedd

Rheolwr Gyfarwyddwr

Maes Consulting Ltd

Presennol – Ymgynghoriaeth Fusnes, Hyfforddwr a Mentor i Uwch Swyddogion, Cyfryngu

Partner Rheoli

Agri Advisor Legal LLP

Presennol

Cyfarwyddwr

Rural Advisor Ltd

Presennol

Cyfarwyddwr

Trade Advisor Ltd

Gorffennol

Cyfarwyddwr

Agri Advisor Ltd ac Agri Advisor Holdings Ltd

Gorffennol

Partner

Messrs T A Jones

Presennol – busnes ffermio. Mae’r busnes hefyd yn aelod o’r NFU