Coed Gwent
Mae Coed Gwent ymhlith yr ardaloedd coetir parhaus mwyaf yn y Goedwig Genedlaethol. Mae'r rhan 353 hectar sy'n eiddo i Coed Cadw yn rhan o'r bloc coedwigoedd ehangach a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ymestyn dros gyfanswm o 1,000 hectar.
Mae Coed Gwent ymhlith yr ardaloedd coetir parhaus mwyaf yn y Goedwig Genedlaethol. Mae'r rhan 353 hectar sy'n eiddo i Coed Cadw yn rhan o'r bloc coedwigoedd ehangach a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ymestyn dros gyfanswm o 1,000 hectar.
Mae Coed Gwent yn enghraifft o goetir o ansawdd da a reolir yn dda, ac mae'n enghraifft o adferiad ar raddfa fawr o safle planhigfa i Goetir Hynafol Lled-naturiol. Mae'r gwaith adfer hwn yn arddangos y cydweithio llwyddiannus rhwng Coed Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Gan ei fod yn un o'r coetiroedd hynafol mwyaf yng Nghymru, mae'r safle hwn yn bwysig o fewn rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r coetir yn darparu man gwyrdd gwerthfawr i bobl ei fwynhau ac mae'n cynnig amrywiol lwybrau wedi'u marcio, a llwybrau ceffylau.
Mae Coed Gwent yn rhan hanfodol o rwydwaith coetiroedd hynafol Cymru, gan gyfrannu at wytnwch a chysylltedd cynefinoedd, tra'n cefnogi rhywogaethau â blaenoriaeth yn nalgylch Brynbuga. Gall ymwelwyr weld y Dderwen Gyrliog, tirnod hynafol, a nythod morgrug pren y de sydd hyd at 3-4 troedfedd o uchder!
Yn y 1950au a'r 1960au, plannwyd y coetir â chonwydd oedd yn tyfu'n gyflym i ddarparu pren sy'n dal i gael ei gynaeafu heddiw, gan helpu i gefnogi diwydiant coed Cymru. Heddiw, mae rhannau helaeth o'r coetir yn cael eu hailblannu gyda choed llydanddail brodorol. Ym mis Ebrill 2024, plannodd gwirfoddolwyr gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent 400 o goed yng Nghoed Gwent, fel rhan o brosiect i adfer y coetir gyda rhywogaethau brodorol ac i wella bioamrywiaeth.
Mae Coed Cadw yn cefnogi Gweithgor Coetiroedd, gan gynnwys y gymuned yn rheoli y goedwig yn ymarferol. Mae gweithgorau rheolaidd yn galluogi gwirfoddolwyr i gyfrannu at ganlyniadau ystyrlon i gadwraeth a gwella mynediad, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth a stiwardiaeth ymhlith trigolion lleol.
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Dysgwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.