Coed Hendre Ddu
Rhoddwyd statws i safle Coed Hendre Ddu yn y Gogledd-orllewin yn 2023, ac mae'n un o safleoedd mwyaf amrywiol Coedwig Genedlaethol Cymru.
Yn cwmpasu 128ha, mae'r coetir enghreifftiol hwn sy'n eiddo preifat yn bodloni holl ofynion safleoedd y Goedwig Genedlaethol. Mae ei gynefin a'i hinsawdd unigryw yn creu golygfeydd hardd a chysylltiadau diwylliannol, ac mae'r teithiau cerdded wedi'u cysylltu'n dda.
Dechreuwyd ei drawsnewid yn ôl yn 2006, ac mae'r ardal newydd yn cysylltu tri choetir cymysg â'i gilydd. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth ehangach o amaeth-goedwigaeth, bioamrywiaeth a choedwigaeth gynaliadwy. Oherwydd ei leoliad, mae ei hinsawdd hyper-gefnforol hefyd yn ei wneud yn safle arddangos unigryw ar gyfer unrhyw ymdrechion i greu coedwigoedd glaw Celtaidd newydd yn y dyfodol, i fod yn gartref i rywogaethau prin.
Yn ogystal â threftadaeth mwyngloddio llechi yr ardal, mae'r coetir hefyd yn gartref i rai darganfyddiadau archaeolegol hanesyddol a mannau diwylliannol. Mae un o lwybrau cerdded y safle yn mynd â chi at destun un o baentiadau enwocaf Kyffyn Williams, sef yr hen ysgoldy yng Nghwm Pennant.
Wrth glirio'r safle yn ystod y gwaith o'i adnewyddu, darganfuwyd hen ffiniau caeau, tŷ hir canoloesol a thomen gladdu archaeolegol yn y rhedyn, gan dynnu sylw at hanes cyfoethog yr ardal.
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Dysgwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.
