Fferm West Ford
Coetir newydd ei blannu a grëwyd trwy gydweithrediad eithriadol.
Gan helpu i dyfu'r Goedwig Genedlaethol, mae Fferm West Ford yn goetir sydd newydd ei blannu. Fe'i crëwyd drwy gydweithio effeithiol rhwng grwpiau gwirfoddol, Cyngor Sir Benfro, tirfeddianwyr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Byrddau Iechyd gan arwain at y fenter gymunedol unigryw hon lle dechreuodd bydwragedd blannu coed ar gyfer pob babi a anwyd neu a fabwysiadwyd yn Sir Benfro.
Gan gysylltu â'r gymuned, mae'n adnodd pwysig yn amgylcheddol ac ar gyfer llesiant meddyliol. Mae'n lle i archwilio, gwirfoddoli a chysylltu â natur. Mae plannu'r coed hefyd wedi cefnogi llesiant y bydwragedd lleol a'r gwirfoddolwyr gan gynnig gweithgaredd hamdden a buddiol i ffwrdd o straen eu swydd.
Mae amrywiaeth o rywogaethau o goed wedi'u plannu ar Fferm West Ford, gan gynnwys Derw, Cwyros, Cyll, Drain Gwyn a Helyg. Gan fod y tir yn arfer bod yn rhy wlyb at unrhyw bwrpas arall, mae wedi bod o fudd i'r ardal yn ecolegol ac yn amgylcheddol. Nod y goedwig newydd hon yw rhoi hwb i fioamrywiaeth a helpu i leihau llifogydd, gan gyfrannu at fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Gobeithio y bydd llwyddiant Fferm West Ford yn arwain at greu coetiroedd tebyg yn y blynyddoedd i ddod.
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Dysgwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.
