Gardd Furiog Fictoraidd Erlas
Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yw un o'r safleoedd coetir lleiaf yn y Goedwig Genedlaethol, ond eto mae ei effaith ar y rhwydwaith cynyddol o Goedwigoedd Cenedlaethol i Gymru yn sylweddol.
Mae gan y Goedwig Genedlaethol ddull cynhwysol sy'n cynnwys pob math, maint a lleoliad o goetiroedd, gan gydnabod y rôl hanfodol y mae coetiroedd yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau Natur a'r Hinsawdd, tra hefyd yn darparu buddion cymdeithasol ac economaidd i bobl Cymru.
Mae Erlas yn enghraifft o ganlyniadau'r Goedwig Genedlaethol, gan arddangos coetir o ansawdd da, wedi'i reoli'n dda, sy'n cynnwys coed unigryw. Un enghraifft yw’r hen goeden ferwydden sydd oddeutu 250-300 mlwydd oed, a gydnabyddir fel un o asedau mwyaf gwerthfawr yr elusen
Mae Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yn rhagori mewn cyfranogiad cymunedol trwy gefnogi iechyd a lles ei chymuned drwy gyfleoedd i bobl ag anghenion ychwanegol, gwirfoddoli ac addysg. Mae'r safle'n cynnwys llwybrau coetir a gerddi sy'n hygyrch i bawb, gan feithrin cynwysoldeb ac annog pobl leol i'w ddefnyddio. Mae ei statws diweddar fel rhan o'r Goedwig Genedlaethol wedi cynyddu ei phoblogrwydd ymhellach.
Mae'r elusen yn dangos arloesedd yn ei dull o reoli coetiroedd. Mae'r safle amlbwrpas yn cynnal amrywiol ddigwyddiadau, yn cynnig sesiynau hyfforddi gan gynnwys sgiliau coetir ac ysgolion coedwigaeth, ac yn gwerthu amrywiol gynnyrch coetir a chynnyrch gardd.
Mae'r coetiroedd yng Ngardd Furiog Fictoraidd Erlas yn fan gwyrdd gwerthfawr yn ardal Wrecsam, fel rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru, maent yn gwella cysylltedd â'r dirwedd goediog ehangach a safleoedd eraill Coedwig Genedlaethol Cymru.
Coedwig Genedlaethol i Gymru
Dysgwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.