Neidio i'r prif gynnwys

Canllawiau i gyrff cyhoeddus ddod i benderfyniadau gwybodus am goffadwriaethau cyhoeddus presennol ac yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 14 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Tachwedd 2024

Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: diben a chwmpas

Diben a Chwmpas

Pwrpas y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a chyrff cyhoeddus eraill i ddod i benderfyniadau hyddysg ynghylch coffáu cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn eu helpu i chwarae eu rhan wrth wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol, a dathlu unigolion o bob rhan o'n cymdeithas sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymru. Mae cefndir y canllawiau hyn yn cael ei esbonio yn yr Atodiad.

Nod 'Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru' yw helpu cyrff cyhoeddus i wneud y canlynol:

  • deall y materion cymhleth sy'n ymwneud â choffáu cyhoeddus yn well
  • sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol
  • sefydlu amcanion ar gyfer coffáu cyhoeddus
  • sefydlu meini prawf i lywio penderfyniadau ar gyfer cofebion presennol a rhai newydd
  • cymryd camau i sicrhau bod coffáu cyhoeddus yn addas ar gyfer y presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r canllawiau'n canolbwyntio ar goffáu pobl neu ddigwyddiadau'n gyhoeddus ac yn barhaol a bwriadol ar ffurf cerfluniau a mathau eraill o gerflunwaith, placiau, murluniau a phaentiadau mewn adeiladau cyhoeddus, ac enwau coffa ar gyfer strydoedd a chyfleusterau cyhoeddus. Fodd bynnag, gall yr egwyddorion a'r syniadau a nodir fod o gymorth wrth ystyried mathau eraill o goffáu, gan gynnwys cofebion rhyfel a choffáu lled-breifat, gydag effaith gyhoeddus fel henebion eglwysig neu eiddo preifat, yn ogystal â choffáu fel perfformiadau, digwyddiadau, gosodiadau celf, gwyliau ac arddangosfeydd deongliadol. 

Mae'r canllawiau'n adeiladu ar ganfyddiadau'r Archwiliad o Goffáu yng Nghymru, ac mae'n canolbwyntio'n gryf ar etifeddiaeth y fasnach gaethweision a'r ymerodraeth Brydeinig. Ni safodd Cymru ar wahân i gaethwasiaeth ac ecsbloetio trefedigaethol. Roedd y ddau wedi'u hymwreiddio yn economi a chymdeithas y genedl, ac yn briodol iawn, y materion hyn yw'r ffocws yma. 

Mae dadwladychu mannau cyhoeddus yn agwedd bwysig ar yr ymrwymiad i Gymru wrth-hiliol. Nid yw hyn yn golygu sensro neu ddileu'r cofnod hanesyddol, ond mae'n golygu bod anghyfiawnder hanesyddol yn cael ei gydnabod, bod enw da yn agored i drafodaeth a bod naratifau sy'n dibrisio bywyd dynol yn cael eu herio. Mae dadwladychu’n ceisio atal parhad mythau gwladychol hiliol ynghylch rhagoriaeth y gwynion, ond nid yw'n golygu cael gwared ar yr holl dystiolaeth o'r gorffennol ymerodrol. 

Mae pwyslais y canllawiau hyn ar wrth-hiliaeth, ond mae'r dull o wneud penderfyniadau maen nhw’n eu cyflwyno yn berthnasol wrth fynd i'r afael â mathau eraill o wahaniaethu, ac ym mhob maes lle gall cydbwysedd wrth goffáu fod yn broblem. Un o'r rhain yw profiad Cymru ei hun o wladychu, sy'n destun un o'r astudiaethau achos. 

Mae'r canllawiau hyn yn cyflwyno egwyddorion cyffredinol ar gyfer gwneud penderfyniadau, ond nid yw'n gwneud unrhyw argymhellion penodol ar ba benderfyniadau i'w gwneud na chamau i'w cymryd. Nid yw'n rhoi cyngor ar bob agwedd ar goffáu ychwaith; er enghraifft, polisïau cynllunio, rheoli strwythurau a restrir oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, codi arian, iechyd a diogelwch, cynnal a chadw neu atebolrwydd cyhoeddus.

Mae 'Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru' wedi'i rannu'n ddwy ran. Bydd y rhan gyntaf yn helpu cyrff cyhoeddus i ddeall problemau ac effaith coffáu cyhoeddus. Mae'r ail ran yn egluro'r pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd wrth wneud penderfyniadau ynghylch cofebion newydd neu rai sy'n bodoli eisoes. 

  1. Sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol
  2. Gosod amcanion ar gyfer coffáu cyhoeddus
  3. Sefydlu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau
  4. Gweithredu

Mae astudiaethau achos ar gofebion dadleuol yn helpu i ddangos y problemau ac effaith coffáu cyhoeddus a sut y gellir eu lliniaru drwy wneud penderfyniadau sensitif a chyfunol. Mae llawer o'r astudiaethau achos yn manteisio ar brofiad y tu allan i Gymru, gan gydnabod themâu cyffredin sy'n sail i hanesion a hunaniaethau gwahanol iawn. 

Mae'r canllawiau wedi elwa ar y safbwyntiau a fynegwyd mewn cyfres o weithdai wedi'u hwyluso a ddaeth â sbectrwm eang o randdeiliaid at ei gilydd (gweler yr Atodiad). Mae'r dyfyniadau sy'n ymddangos drwy'r testun gan gyfranogwyr yn y gweithdai hyn.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft cynharach o'r canllawiau hyn rhwng Hydref 2022 a Chwefror 2023, a chyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Medi 2023. 

Cyflwyniad

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Nid yw straeon byth yn dod i ben.

Mae coffáu pobl a digwyddiadau yn yr amgylchedd cyhoeddus, yn enwedig ar ffurf cerfluniau, cerflunwaith, placiau ac enwi strydoedd ac adeiladau, yn gyfarwydd i ni i gyd. Mae'r rhan fwyaf o'r cofebion hyn yn ychwanegu cymeriad at ein hamgylchedd ac yn gallu ein helpu i ddeall agweddau ar ein gorffennol. Er nad yw'r mwyafrif helaeth yn ddadleuol, mae rhai cofebion yn destun dadl. Mae rhinwedd neu berthnasedd rhai pobl neu ddigwyddiadau wedi cael ei herio erioed, naill ai wrth eu coffáu yn y lle cyntaf neu'n ddiweddarach wrth i safbwyntiau newid. Mae coffáu wedi bod yn broblem fyw erioed.

Nid yw'n syndod bod gan gofebion o'r gorffennol arwyddocâd negyddol ambell waith. Er enghraifft, efallai bod yr ochr 'fuddugol' mewn gwrthdaro gwleidyddol neu filwrol wedi ceisio dathlu eu harwyr gan wybod y gallai eraill fod wedi eu hofni neu eu casáu. Er bod grwpiau gwirfoddol a thanysgrifiadau cyhoeddus wedi arwain at goffáu amrywiaeth ehangach o bobl weithiau, yn amlach bu tuedd i goffáu pobl bwerus neu gyfoethog yn unig. Fodd bynnag, yn ddiweddar bu mwy o gydnabyddiaeth y dylai coffáu cyhoeddus fod yn fwy eang. Ni ddylai sarhau na brifo cyd-ddinasyddion ac ni ddylai gynrychioli unigolion dadleuol mewn ffyrdd sy'n rhannu cymdeithas. Er enghraifft, gall cenedlaethau'r presennol deimlo bod y dathliad parhaus o ffigurau sy'n adnabyddus am eu creulondeb, hiliaeth neu gysylltiadau â'r fasnach gaethweision yn parhau eu gormes ac yn anwybyddu’r anghyfiawnder  yn ymwneud â sut y cafodd y rhai a goffeir eu cyfoeth neu eu henwogrwydd. Yng ngeiriau'r nofelydd Americanaidd, William Faulkner: ‘The past is never dead. It's not even past.’ (William Faulkner, 'Requiem for a Nun', 1951)

Mae gan Gymru etifeddiaeth o gannoedd o gofebion mewn ffurfiau amrywiol. Er y gallai'r cofebion hyn fod o ddiddordeb hanesyddol neu esthetig ynddyn nhw eu hunain, efallai na fyddant yn cynrychioli dymuniadau na gwerthoedd y presennol. Fodd bynnag, gall cofebion newydd wneud iawn am y cydbwysedd hwn a chyfoethogi'r amgylchedd cyhoeddus drwy ddathlu digwyddiadau a phobl sy'n gallu bod yn fodelau rôl positif i bawb yng Nghymru.

Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: deall y problemau

Rhan 1: Deall y problemau

Yn y gorffennol a'r presennol, mae pobl wedi creu cofebion at ddibenion amrywiol. Yn gyffredinol, maent wedi gwneud hynny gyda bwriad anrhydeddus; er enghraifft:

  • i ychwanegu at gymeriad ac ansawdd mannau cyhoeddus
  • i gyfrannu at hunaniaeth leol a chreu lleoedd
  • i fynegi balchder mewn unigolyn neu gyflawniad
  • i ymateb i drawma fel erledigaeth, gwrthdaro neu drychinebau
  • i nodi aberth eithriadol; er enghraifft, bywydau a roddir er mwyn achub neu amddiffyn
  • i godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau hanesyddol pwysig a llefydd sy'n gysylltiedig â nhw
  • i gynorthwyo dealltwriaeth a chymod.

Beth bynnag yw'r bwriad gwreiddiol, gall cofebion gael effaith niweidiol os teimlir eu bod yn hawlio gormod o sylw mewn llefydd ar ran unigolion neu grwpiau penodol. Gallai hyn gynnwys gogoneddu unigolion dadleuol neu arddel un dehongliad o ddigwyddiadau'r gorffennol yn hytrach nag eraill.  

1.1 Coffáu dadleuol a'i effaith

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mae coffáu fel pigiadau gwenyn - i mi fe allai fod yn ddim ond pigiad gwenyn, ond i chi fe allai fod yn ymateb erchyll.

Prin yw'r ffigyrau cyhoeddus sy'n cael eu gweld yn yr un modd gan bawb; gall rhai fod yn arbennig o ddadleuol. Mae gwleidyddion, yn arbennig, yn ddadleuol yn aml oherwydd effaith eu polisïau ar ein bywydau bob dydd, felly gall pobl ymateb yn gryf o'u plaid neu yn eu herbyn. Yn yr un modd, gellir cofio ffigyrau milwrol gan rai am eu dewrder a'u haberth, a chan eraill am y rhai a gollwyd yn eu hymgyrchoedd. 

Mae'r graddau y mae'r gwahanol ganfyddiadau hyn yn dod yn broblem i gymunedau'n dibynnu ar ddyfnder teimlad a loes. Ni fyddai'r rhan fwyaf ohonom am weld cofebion yn cael eu codi a allai sbarduno unigolion i ail-fyw trawma a brofwyd ganddynt. Gall pobl sydd wedi dioddef rhagfarn neu ymosodiadau hiliol ei chael hi'n drawmatig gweld ffigyrau oedd â chysylltiadau hysbys â pholisïau neu weithredoedd hiliol, yn cael eu dathlu mewn modd amlwg.

Gall cofebion dadleuol gael effaith negyddol ddifrifol ar bobl sy'n gorfod byw gyda nhw. Er enghraifft, gall cerfluniau o ffigurau gormesol ysgogi ofn neu gasineb (yn fwriadol neu fel arall). 

Gall cofebion gael effaith arbennig o ddadleuol mewn amgylcheddau lle nad oes amrywiaeth o ran cynrychiolaeth; er enghraifft, os mai dim ond pobl o un dreftadaeth mewn cymdeithas sy'n gymysg yn ethnig a gydnabyddir. Felly gall cynyddu amrywiaeth cofebion fod yn ffordd bwysig o leihau niwed. 

Mae cofebion sy'n ysgogi rhaniad yn niweidiol i gydlyniad cymdeithasol. Ond gall ysgogi meddwl, neu herio agweddau fod yn ymateb cadarnhaol i gofebion dadleuol. Efallai ei bod yn bwysig iawn coffáu digwyddiad fel terfysg neu ryfel y gallai rhai ddymuno ei anghofio. Yn yr un modd, efallai y bydd yn ddefnyddiol coffáu ffigyrau hanesyddol mawr a oedd yn euog o gamdriniaeth os gallwn ddysgu gwersi o'r gorffennol drwy gyd-destun a dehongli. 

I nodi:

  • Mae angen i'r broses o wneud penderfyniadau fod yn sensitif i'r ffyrdd y gall cofebion gael eu gweld a'r effaith y gallent ei chael ar gymdeithas drwyddi draw: gall cymunedau amrywiol sydd â diwylliannau, credoau a safbwyntiau gwahanol gael eu heffeithio gan gofebion cyhoeddus mewn ffyrdd gwahanol. 

Astudiaeth achos: Cerfluniau cydffederal fel propaganda

Image
Cerflun o Robert E Lee yn cael ei symud yn Charlottesville UDA.
Cerflun o Robert E Lee yn cael ei symud yn Charlottesville UDA. (Evelyn Hockstein, Reuters).


Roedd Robert E. Lee (1807 i 1870) yn berchennog planhigfa Americanaidd. Yn ystod rhyfel cartref 1861-65, arweiniodd luoedd Taleithiau Cydffederal America oedd yn gwrthwynebu diddymu caethwasiaeth. Ymhell ar ôl y rhyfel, codwyd cofebion cyhoeddus amlwg yn nhaleithiau'r de i Lee ac arweinwyr Cydffederal eraill, yn enwedig yn ystod cyfnod 'Jim Crow' o arwahanu hiliol. Codwyd cofeb Lee yn Charlottesville, Virginia, ym 1924 y tu allan i'r llys cyhoeddus. Yn 2017 pleidleisiodd cyngor y ddinas i symud y cerflun oddi yno yn dilyn rali dreisgar, ond cafodd hyn ei ohirio gan heriau cyfreithiol a phrotestiadau gan oruchafiaethwyr gwyn. Difwynwyd y cerflun ac fe'i symudwyd i'w storio yn 2021 yn y pen draw. Mae tua 100 o gofebion Cydffederal wedi'u symud ers 2015 ond mae 700 yn dal yn eu lle. Ysgrifennodd yr Athro Ty Seidule o Academi Filwrol West Point yn 2021 fod y genhedlaeth a'u hadeiladodd wedi creu 'mythau a chelwyddau', yr oedd ef ac eraill wedi credu ers amser maith eu bod yn cynnal hierarchaeth hiliol sy'n ymroddedig i bŵer gwleidyddol gwyn a atgyfnerthir gan drais.

1.2 Effaith math, arddull a symbolaeth wrth goffáu

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Rwyf am ddweud pa bynnag goffâd a wneir, y dylent ei wneud yn feddylgar, yn chwaethus ac yn onest.

Mae rhai cofebion yn ymwneud â phobl unigol, gan eu delfrydu ar ffurf cerflun yn aml drwy eu rhoi ar bedestal - yn llythrennol. Mae cofebion o'r fath yn tueddu i gyflwyno'r unigolyn mewn golau cadarnhaol ac anwybyddu unrhyw agweddau negyddol ar ei weithredoedd. Ar y llaw arall, efallai y bydd coffáu digwyddiadau'n gwneud dim mwy na chydnabod bod y digwyddiadau wedi digwydd yn hytrach na'u dathlu. Er enghraifft, cyflwynir y Llyngesydd Nelson ar ben ei golofn yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain fel arweinydd bonheddig sy'n agos at galon y brifddinas; fodd bynnag, gellid ystyried y gofeb i Frwydr Trafalgar (1805) yn Portsmouth, sy'n cynnwys angor o long Nelson, fel cofnod o ffaith hanesyddol.

1.2.1 Placiau

Gall placiau fod yn llai dadleuol na chofebion oherwydd gellid ystyried eu bod yn nodi, yn hytrach nag anrhydeddu, digwyddiad neu gysylltiad unigolyn â lle. Yn wir, mae rhai placiau'n amlygu agweddau negyddol ar y gorffennol, megis bodolaeth carchar, lleoliad terfysg neu fan geni ffigwr dadleuol. Gwybodaeth ffeithiol fer yn unig sydd ar y rhan fwyaf o blaciau, megis enw person, dyddiadau, galwedigaeth a chysylltiad â lle. Serch hynny, gallai enghreifftiau mwy cynhwysfawr gynnig golwg ar unigolyn neu ddigwyddiad mewn testun neu ddelweddau a allai fod yn ddadleuol. Gall placiau fod yn ddadleuol hefyd am hepgor manylion pwysig am berson neu ddigwyddiad. 

1.2.2 Enwau strydoedd ac aneddiadau 

Efallai y bydd yn ymddangos bod enwau strydoedd yn cael llai o effaith ar yr ymwybyddiaeth na mathau eraill o goffáu, ond serch hynny gallant gadarnhau gwerthoedd a chysylltiadau problemus. Efallai y bydd y rhain yn llai amlwg pan fyddant yn defnyddio cyfenw a allai gyfeirio at lawer o wahanol bobl, er y gallai cyfenwau prin neu enwau brwydrau tramor fod yn haws eu hadnabod. Mae gan enwau strydoedd a sgwariau amlwg yng nghanol trefi, sy'n cael eu defnyddio gan lawer o bobl, broffil llawer uwch na phroffil strydoedd preswyl a lonydd cefn. Efallai i'r rhain gael eu henwi heb fawr o feddwl, heb werthfawrogi'n llawn y gall fod gan enw gysylltiadau â ffigwr dadleuol. Ambell waith, gellir enwi aneddiadau cyfan ar ôl unigolion, er mai prin yw hyn yng Nghymru. Awdurdodau Lleol sy'n gyfrifol am enwi a rhifo strydoedd ac maent yn destun gofynion statudol.

1.2.3 Enwau adeiladu 

Mae enwau adeiladu ar gyfer mannau sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus neu sefydliadau elusennol yn awgrymu bod yr unigolyn sy'n cael ei goffáu yn cael ei anrhydeddu mewn rhyw ffordd. Mae'r enghreifftiau amlycaf yn cynnwys ysgolion, adeiladau prifysgol, neuaddau cyhoeddus, adeiladau cymunedol a swyddfeydd cyhoeddus. Gan fod yr enw'n cael ei roi’n llawn yn aml, mae hunaniaeth y person yn glir fel arfer. Mewn llawer o achosion, ceir plac neu banel gwybodaeth hefyd. Mae enwi sefydliadau addysgol yn arbennig o sensitif oherwydd yr effaith ar bobl ifanc.

1.2.4 Enwau tafarndai 

Er nad yw tafarndai mewn perchnogaeth gyhoeddus, mae ganddynt amlygrwydd arbennig fel adeiladau sy'n weladwy yn gyhoeddus. Mewn llawer o achosion nid yw gwreiddiau eu henwau'n glir. Hyd yn oed pan fydd unigolion yn cael eu coffáu gall fod yn anodd dweud a yw'r enw’n cyfeirio at deulu tiriog neu deitl sydd wedi hen ennill ei blwyf yn hytrach nag unigolyn penodol.

1.2.5 Cerfluniau a cherflunwaith 

Gall cerfluniau'n enwedig fod yn gyforiog o werthoedd dieiriau. Yn draddodiadol, delfrydwyd y 'dyn ar bedestal' yn y modd clasurol ac roedd ei wisg ffurfiol neu bropiau cysylltiedig yn cyfleu neges benodol ynglŷn â'i gyflawniadau neu ei statws. Roedd cerfluniau marchogol, gyda'r testun wedi'i osod yn uchel ar geffyl, yn dyrchafu'r sawl oedd yn cael ei goffáu ymhellach uwchlaw'r 'werin’. Er efallai bod noddwyr cerfluniau wedi bod eisiau rhoi'r parch eithaf i'w testunau, gall hyn fod yn sarhaus i bobl heddiw sy'n eu gweld mewn golau gwahanol; er enghraifft, fel ymosodwyr a orchfygodd bobloedd i ehangu'r Ymerodraeth Brydeinig neu ddiwydianwyr a oedd yn peryglu ac yn cam-fanteisio ar eu gweithwyr. Mae rhai dylunwyr mwy diweddar wedi ystyried eu testunau mewn ffyrdd anhraddodiadol, gan geisio datgelu eu hunigoliaeth yn hytrach na'u delfrydu. Er enghraifft, mae'r cerflun o Betty Campbell yng Nghaerdydd yn anrhydeddu ei destun ond nid yw'n ei delfrydu. 

Gall ffurf cofebion greu problemau penodol i rai grwpiau diwylliannol yng Nghymru. Er enghraifft, mae portreadu ffigurau dynol yn cael ei wahardd gan Islam a rhai traddodiadau Iddewig a Christnogol. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o safbwyntiau o'r fath wrth wneud dewisiadau rhwng cerfluniau, cerflunwaith nad yw’n ffiguraidd, placiau neu fathau eraill o gofebion.

Gall cerflunwaith ar wahân i gerfluniau goffáu pobl neu ddigwyddiadau mewn ffyrdd mwy cynnil ac amwys. Mae defnyddio symbolau neu haniaeth yn gallu cyflwyno naratifau neu syniadau i gynulleidfaoedd eu dehongli. Gallant gynnig coffadwriaeth mwy cytbwys neu addysgiadol na cherfluniau confensiynol.

1.2.6 Paentiadau mewn mannau cyhoeddus

Er bod y rhan fwyaf o bortreadau wedi'u paentio yn eiddo preifat neu mewn amgueddfeydd, dylid ystyried rhai fel coffâd cyhoeddus am eu bod yn cael eu harddangos mewn llefydd cyhoeddus fel ystafelloedd llys neu siambrau cyngor. Gall artistiaid ddehongli pobl a digwyddiadau mewn ffyrdd cynnil a sensitif, ond mae rhai paentiadau wedi profi'n ddadleuol. Yn aml, roedd portreadau ffurfiol o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn defnyddio’r un dull delfrydu â cherfluniau traddodiadol; er enghraifft, dangos milwyr yn falch yn eu hiwnifform neu wleidyddion yng ngwisg eu swydd. Mae'n bosib bod paentiadau i goffáu digwyddiadau wedi gorsymleiddio'r gorffennol hefyd. 

I nodi:

  • Gellir cyfleu gwerthoedd drwy fath ac arddull y goffadwriaeth yn ogystal â'r testun. Mae hyn yn berthnasol wrth ystyried camau i fynd i'r afael â chofebion sy’n bodoli eisoes a lliniaru unrhyw effeithiau niweidiol, ac wrth ystyried mathau newydd o goffáu. 

Astudiaeth achos: Cerflun Teddy Roosevelt, Efrog Newydd

Image
Cerflun o Teddy Roosevelt y tu allan i Amgueddfa Hanes Natur Efrog Newydd.
Cerflun o Teddy Roosevelt y tu allan i Amgueddfa Hanes Natur Efrog Newydd. (Edward H Blake CC2.0)


Mae Theodore Roosevelt yn gyn-arlywydd yr Unol Daleithiau a oedd yn y swydd rhwng 1901 a 1909, sydd, ar y cyfan, yn uchel ei barch. Serch hynny, symudwyd ei gerflun, sy’n dyddio o 1939, y tu allan i'r Amgueddfa Hanes Natur yn Efrog Newydd yn 2022. Nid oedd hyn oherwydd pwy oedd yn cael ei goffáu ond sut y cafodd ei gynrychioli. Darluniwyd Roosevelt ar gefn ceffyl gydag Affricanwr ac Americanwr Brodorol a ymddangosai’n eilradd iddo y naill ochr iddo. Disgrifiodd y cerflunydd, James Earle Fraser, y gwaith fel 'grŵp arwrol' gan esbonio'r ddau ffigwr fel: 

… guides symbolizing the continents of Africa and America, and if you choose may stand for Roosevelt's friendliness to all races.

Yng nghyd-destun yr amgueddfa, fodd bynnag, roedd y ddelweddaeth hon wedi ysgogi'r hyn a elwir yn 'hiliaeth wyddonol' a disgrifiodd yr hanesydd James Loewen y cerflun ym 1999 fel 'datganiad o oruchafiaeth wen.’ Cynhaliwyd y protestiadau cynharaf yn erbyn y cerflun gan Americanwyr brodorol ym 1971. Barnodd Americanwyr Affricanaidd hefyd ei fod yn eu cyflwyno fel 'dynion cyntefig' ac mewn hierarchaeth islaw'r dyn gwyn 'gwaraidd’. Yn 2021, pleidleisiodd Comisiwn Dylunio Cyhoeddus Efrog Newydd yn unfrydol i gael gwared ar y cerflun, sydd i'w ail-arddangos gyda dehongliad yn Llyfrgell Arlywyddol Roosevelt yng Ngogledd Dakota.

1.3 Lleoliad

Mae lleoliad yn ffactor allweddol o ran effaith coffáu. Er enghraifft, gall gosod plac i nodi lle ganwyd rhywun neu godi cofeb lle digwyddiad rhywbeth gael ei weld fel rhywbeth sy'n tynnu sylw at ffaith hanesyddol yn hytrach na dathlu'r person neu'r achlysur. Efallai na fyddai coffáu'r un unigolyn mewn lleoliad llai perthnasol neu mewn cymuned lle'r oedd yr unigolyn yn ddadleuol yn ymddangos mor niwtral. 

Gall cerfluniau amlwg yn arbennig fod yn ddadleuol, yn enwedig yng nghanol dinasoedd lle gwelir nhw’n amlach. Lleolwyd rhai’n fwriadol i roi stamp awdurdod un teulu neu grŵp ar le. Mewn geiriau eraill, mae modd ystyried bod y cerflun yn dweud 'mae'r lle hwn yn perthyn i ni' yn hytrach na 'mae'r lle hwn i bawb’. Mae mannau cyhoeddus, fel sgwariau trefi, neu lefydd a ddylai drin pawb yn deg ac yn gyfartal, fel llysoedd barn neu neuaddau tref, yn lleoliadau mwy sensitif na rhai lled-breifat, fel blaen swyddfeydd. Gellir ystyried bod cofeb sydd mewn lle sydd wedi’i neilltuo’n bwrpasol i anrhydeddu pobl, megis 'neuadd arwyr', yn rhoi cymeradwyaeth unfrydol cymdeithas i'r rhai sy’n cael eu coffáu oni bai bod dehongliad cysylltiedig i egluro'r gofeb a sut y gallai canfyddiadau fod wedi newid ers ei chreu.

I nodi:

  • Mae effaith lleoliad yn ffactor pwysig, wrth ystyried camau i fynd i'r afael â chofebion sy'n bodoli eisoes ac wrth ystyried cynigion ar gyfer rhai newydd. 

Astudiaeth achos: Lleoliadau cerfluniau Margaret Thatcher

Image
Margaret Thatcher yn Grantham, Lloegr
Margaret Thatcher yn Grantham, Lloegr. (Eye35, Alamy).


Roedd Margaret Thatcher yn ffigwr hanesyddol bwysig, ond mae pobl yn ei chael hi'n anodd ei gweld hi’n wrthrychol. Fel prif weinidog, rhwng 1979 a 1990, cafodd ei heilunaddoli a'i chasáu. Hi oedd yn arwain mewn cyfnod o ddiweithdra mawr ac anghydfod diwydiannol, gan gynnwys streic y glowyr a greodd raniadau dwfn. Serch hynny, hi oedd prif weinidog benywaidd cyntaf Prydain; enillodd dri etholiad cyffredinol, arweiniodd y wlad yn ystod Rhyfel y Falklands ac roedd yn cael ei hadnabod y byd fel y 'Ddynes Haearn’ ym mhedwar ban byd.

Roedd bwriad i godi cerfluniau o Margaret Thatcher yn fuan wedi iddi adael ei swydd ond maent wedi profi'n anodd i'w lleoli. Torrwyd pen un mewn oriel yn 2002 a chafodd yr arddangosfa dros dro o ddelwedd fawr ohoni yn y Senedd yn 2008 ei beirniadu'n gryf a'i galw'n 'sarhad ar bobl Cymru’. Yn 2017, cwblhaodd Douglas Jennings gerflun i Sgwâr Senedd San Steffan ond gwrthododd Cyngor San Steffan ganiatâd am sawl rheswm, gan gynnwys costau plismona. Mae wedi'i osod bellach yn ei thref enedigol, Grantham, lle’r awgrymodd ymgynghoriad y byddai'n gymharol annadleuol, er iddo gael ei bledio ag wyau yn fuan ar ôl ei ddadorchuddio.

Fodd bynnag, mae dau gerflun o Margaret Thatcher i’w cael mewn lleoliadau addas, mae'n debyg: lobi’r Aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin ac ar Ynysoedd y Falkland.

1.4 Persbectif: pwysigrwydd edrych yn ôl a thystiolaeth

Gall dealltwriaeth pobl a digwyddiadau newid wrth edrych yn ôl neu pan ddaw gwybodaeth newydd i'r amlwg. Gall penderfyniadau i goffáu rhywun ymddangos fel camgymeriad ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae gan nifer o awdurdodau a sefydliadau lleol reol na ellir ystyried unigolion i'w coffáu tan o leiaf 10 mlynedd ar ôl eu marwolaeth. Serch hynny, gall fod pwysau i weithredu’n gynt, yn enwedig yn dilyn trychineb proffil uchel neu os yw ffigwr poblogaidd yn marw'n annisgwyl. 

Jimmy Savile yw un o'r enghreifftiau cliriaf o'r risg o goffáu pobl yn rhy fuan. Daeth tystiolaeth ei fod wedi cam-drin oedolion a phlant bregus yn hysbys iawn yn fuan ar ôl iddo farw, ond erbyn hynny roedd pwll nofio yn Glasgow yn arddangos cerflun ohono ac roedd plac wedi ei roi ar ei dŷ yn Scarborough, gan ei alw'n 'ddiddanwr a dyngarwr’. Cafodd y ddau eu tynnu i lawr o fewn misoedd. 

Efallai y bydd angen cyfnodau llawer hirach er mwyn i arwyddocâd hanesyddol pobl neu ddigwyddiadau gael eu deall gan ymchwilwyr neu eu gwerthfawrogi gan y cyhoedd yn ehangach. Er enghraifft, y methiant tan yn ddiweddar i gydnabod yr aberth a wnaed gan filwyr o drefedigaethau Prydeinig yn ne Asia, Affrica a'r Caribî mewn dau ryfel byd. Ni chafodd y milwyr hyn eu darlunio na'u henwi ar gofebion rhyfel Prydeinig tan ddegawdau ar ôl eu cyd-filwyr gwyn, y buont yn ymladd ochr yn ochr â nhw. 

I nodi:

  • Mae heriau annisgwyl yn fwy tebygol os nad yw’r coffâd yn cael ei lywio gan wybodaeth hanesyddol gywir a 'diwydrwydd dyladwy’.
  • Mae gan ddigwyddiadau a gweithredoedd pobl effeithiau tymor byr a hirdymor felly gall canfyddiadau o goffáu newid yn ddramatig dros amser.

Astudiaeth achos: Cerflun o Ferch dros Heddwch, Seoul

Image
Pyeonghwaui sonyeosang, Seoul. (Maria S., Alamy)
Pyeonghwaui sonyeosang, Seoul. (Maria S., Alamy)


Mae’r cerflun efydd 'Pyeonghwaui sonyeosang' (평화의 소녀상, Saesneg: 'Statue of a Girl for Peace') yn darlunio merch yn ei harddegau yn nillad traddodiadol Korea yn eistedd gyda’i dyrnau ar gau. Mae cadair wag wrth ei hymyl ac mae aderyn bach yn eistedd ar ei hysgwydd. Ar y ddaear y tu ôl iddi mae cynrychiolaeth o gysgod menyw gefngrwm hŷn. Lleolir y cerflun gwreiddiol yn Seoul, De Korea, gyferbyn â'r brif fynedfa i lysgenhadaeth Japan. Cafodd ei ddadorchuddio yn 2011 gan Gyngor Korea i’r Menywod a Ddrafftiwyd ar gyfer Caethwasiaeth Rywiol Filwrol gan Japan.

O tua 1932 ymlaen, yn ystod rhyfeloedd ehangu Japan, bu'r Fyddin Imperialaidd yn gweithio gydag asiantau lleol i ddatblygu rhwydwaith o buteindai milwrol. Erbyn i Japan ildio ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd tua 200,000 o fenywod caeth wedi cael eu masnachu i'r 'gorsafoedd cysur' hyn, y rhan fwyaf ohonynt o Korea, gwlad a gymerwyd gan Japan ym 1910. Roedd tynged yr hyn a elwid yn 'comfort women' yn bwnc tabŵ am ddegawdau ond, gyda democrateiddio De Korea yn yr 1980au, daeth yn bosib trafod y pwnc mewn print. Arweiniodd hyn at alwadau cynyddol i Japan ymddiheuro a digolledu'r goroeswyr oedrannus. 

Sicrhawyd cytundeb yn 2015 a fyddai'n golygu bod Japan yn talu swm mawr ac yn cydnabod ymwneud uniongyrchol milwyr Japan â’r puteindai, ond roedd hyn yn amodol ar gael gwared ar y cerflun. Methodd y cytundeb pan ymddangosodd replica o'r cerflun ger swyddfa conswl Japan yn Busan. Mae awdurdodau Korea wedi ceisio cael gwared ar y ddau gerflun sawl gwaith ond maen nhw wedi cael eu hatal gan brotestwyr. Mae replicas tebyg iawn o'r cerflun wedi'u comisiynu gan gymunedau alltud Korea yn yr Almaen, Awstralia ac UDA hefyd. Er bod y replicas hyn wedi'u gosod mewn parciau cyhoeddus yn hytrach na'n agos i swyddfeydd llywodraeth Japan, mae sawl un yn UDA wedi achosi tensiwn rhwng cymunedau Koreaidd a Japaneaidd lleol.

Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: gwneud penderfyniadau, egwyddorion ac ymarfer

Rhan 2: Gwneud penderfyniadau, egwyddorion ac ymarfer

Fel mae Rhan 1, Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: deall y problemau, wedi dangos, mae coffáu cyhoeddus yn rhan hynod weladwy o'r naratif hanesyddol ac i anrhydeddu'r cyfrifoldeb hwn, dylai cyrff cyhoeddus gymryd pedwar cam. 

  1. Rhoi fframwaith ar waith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol sy'n clywed ac yn gweithredu ar brofiad cymunedau amrywiol.
  2. Pennu amcanion clir ar gyfer yr hyn y mae cyrff cyhoeddus am ei gyflawni. 
  3. Cytuno ar feini prawf i lywio penderfyniadau.
  4. Gweithredu i sicrhau bod coffáu cyhoeddus yn addas ar gyfer cenedlaethau’r a'r dyfodol.

Trafodir hyn yn fanylach isod.

2.1 Cam 1: Gwneud penderfyniadau cynhwysol

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mae'n ymwneud â grymuso ein cymunedau i wneud penderfyniadau ar y cyd sy'n ymwneud â chofebion cyhoeddus sy’n bodoli eisoes ... dylid dilyn prosesau ymgynghori ac ymgysylltu i alluogi cymaint o gynhwysiant â phosibl.

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Dwi eisiau cerdded i lawr y stryd a gweld newid go iawn.

Mae gwneud penderfyniadau cynhwysol lle gwneir ymdrech wirioneddol i gael ac i glywed lleisiau cymunedau amrywiol, gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn hanfodol os yw coffáu cyhoeddus am helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd. 

Yn anochel, bydd adegau pan fydd pobl yn gwahaniaethu'n sylweddol yn eu barn am goffáu cyhoeddus neu yn eu hymatebion iddynt, gan ddibynnu ar eu gwleidyddiaeth, crefydd, cefndir ethnig, teulu, diddordebau, cysylltiadau lleol, neu brofiad arall o fywyd. Er mwyn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a chreu Cymru deg, agored a gwrth-hiliol, mae angen ffyrdd o wrando ar safbwyntiau gwahanol er mwyn i'r penderfyniadau gorau posibl gael eu gwneud am sut i ymdrin â chofebion sy'n bodoli eisoes ac ystyried prosiectau newydd.

Mae gwneud penderfyniadau cynhwysol lle gwneir ymdrech wirioneddol i gael ac i glywed lleisiau cymunedau amrywiol, gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn hanfodol os yw coffáu cyhoeddus am helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd.

Yn anochel, bydd adegau pan fydd pobl yn gwahaniaethu'n sylweddol yn eu barn am goffáu cyhoeddus neu yn eu hymatebion iddynt, gan ddibynnu ar eu gwleidyddiaeth, crefydd, cefndir ethnig, teulu, diddordebau, cysylltiadau lleol, neu brofiad arall o fywyd. Er mwyn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol a chreu Cymru deg, agored a gwrth-hiliol, mae angen ffyrdd o wrando ar safbwyntiau gwahanol er mwyn i'r penderfyniadau gorau posibl gael eu gwneud am sut i ymdrin â chofebion sy'n bodoli eisoes ac ystyried prosiectau newydd.

Yn ddelfrydol, bydd y dewis o ba hanes i'w goffáu yn ein gofodau cyhoeddus a sut rydyn ni'n gwneud hynny’n fynegiant o werthoedd a delfrydau sy'n cael eu rhannu gan bawb. Yn hanesyddol, gwnaed penderfyniadau o'r fath ar ran cymdeithas gan yr ychydig breintiedig oedd â dylanwad gwleidyddol ac oedd â'r cyfoeth i greu cofebion. Yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain ni ddylid coffáu heb gynrychiolaeth i gymunedau sydd wedi eu heffeithio, a ddylai gael llais pryd bynnag y cynigir newidiadau.

Astudiaeth achos: Comisiwn Hanes ‘We are Bristol’ a Cherflun Colston

Image
Cerflun o Edward Colston yn Amgueddfa M-Shed, Bryste.
Cerflun o Edward Colston yn Amgueddfa M-Shed, Bryste. (Adrian Boliston CC2.0)


Dyfyniad gan ymatebydd yn The Colston Statue: What Next? gan Gomisiwn Hanes 'We are Bristol’:

Nawr ei fod wedi’i symud rwy’n teimlo’n bositif, ond rwy’n anghytuno â’r ffordd y cafodd ei symud. Ddylai torf flin ddim gallu gwneud penderfyniadau o’r fath. Dylai fod wedi cael ei dynnu i lawr yn gynharach gan y cyngor.

Ar 7 Mehefin 2020, yng nghanol protestiadau byd-eang Black Lives Matter yn erbyn hiliaeth yn dilyn llofruddiaeth George Floyd gan yr heddlu yn UDA, cafodd y cerflun o fasnachwr caethweision o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Edward Colston ym Mryste ei ddymchwel a'i daflu i'r harbwr. Cafodd y cerflun ei adfer yn ddiweddarach a'i ddefnyddio fel canolbwynt ar gyfer arddangosfa dros dro yn amgueddfa M Shed Bryste, a wahoddodd ymwelwyr i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein ar ddyfodol y cerflun a'i blinth. Derbyniwyd bron i 14,000 o ymatebion. Dywedodd 65% o drigolion Bryste eu bod yn teimlo'n gadarnhaol am dynnu’r cerflun i lawr tra bod 27% yn teimlo'n negyddol am hynny. Roedd 74% o blaid arddangos y cerflun mewn amgueddfa ym Mryste. Roedd 12% am weld y cerflun yn cael ei drwsio a'i adfer ar ei blinth tra bod 4% yn gobeithio y byddai'n cael ei ddinistrio neu ei osod mewn storfa allan o olwg y cyhoedd. Cyhuddodd aelodau o'r ddau leiafrif hyn eu gwrthwynebwyr o 'wyngalchu' neu geisio 'dileu' hanes. Ymhlith yr ymatebwyr a oedd yn teimlo'n negyddol am ddymchwel y cerflun, anaml y soniwyd am ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y cerflun rhestredig gradd II: roedd y pryder yn fwy ynghylch natur 'dreisgar' ac 'annemocrataidd' y weithred gyda thrigolion hŷn Bryste yn enwedig yn pryderu am 'mob rule.’ Anogodd un ymatebwr Gyngor Dinas Bryste i'w 'Roi yn ôl nes bod ymgynghoriad priodol. Ni ddylai gael ei benderfynu gan fandaliaid.’ 

2.1.1 Ymgysylltu cynnar

Mae 'Dim byd amdanom ni, hebom ni' yn egwyddor sylfaenol o wneud penderfyniadau cynhwysol, lle mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau’n gwrando ar bob cymuned yr effeithir arnynt ac yn eu hystyried. Pan fydd penderfyniadau i'w gwneud ynglŷn â chofebion presennol neu newydd, neu ynglŷn â chreu polisïau ar gyfer coffáu cyhoeddus, dylai cyrff cyhoeddus gynnwys cymunedau amrywiol a chlywed amrywiaeth o safbwyntiau o'r cychwyn cyntaf. Bydd ymgysylltu â phobl yn gynnar yn y broses a gwrando ar leisiau anghytûn yn helpu i sicrhau consensws eang. Mae prosiectau'n debygol o gael canlyniadau llawer gwell pan fydd cymunedau'n cymryd rhan o gamau cynnar prosiect pan fydd llawer o opsiynau'n dal i fod ar gael. Mae'n rhy hwyr i'w cynnwys pan fydd rhywbeth sydd eisoes wedi'i gynllunio heb eu mewnbwn yn mynd o'i le. 

I nodi:
  • Mae ymgysylltu cynnar yn egwyddor bwysig pan gychwynnir prosiect, boed hynny gan gyrff cyhoeddus, grwpiau gwirfoddol neu ddatblygwyr preifat.
  • Dylai cyrff cyhoeddus sicrhau bod lleisiau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu hesgeuluso mewn naratifau hanesyddol o'r gorffennol a'r presennol, yn cael mwy o sylw a'u dathlu.

2.1.2 Adnabod eich cymuned

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Y broblem ... y mae angen i awdurdodau lleol ymdrin ag ef yw beth yw ystyr cymunedau iddyn nhw. Mae angen iddyn nhw egluro hyn. Oherwydd mae'n wahanol pan fyddwch chi'n ymdrin â'r lleoliad neu'r gofod cymdeithasol. Mae dwy agwedd ar hyn sy'n achosi llawer o ddryswch — a dwi'n siarad fel cymdeithasegydd nawr — beth yw ystyr cymunedau iddyn nhw, a beth yw cymdogaethau iddyn nhw? … Beth yw cenedligrwydd, beth yw ethnigrwydd a beth yw hil? … Mae llawer o bobl liw sy'n [ystyried eu hunain yn] Gymry o ran cenedligrwydd ac yn Gymreig o ran ethnigrwydd, am fod llawer ohonynt yn hanner Cymry ... Mae yna bobl â lliw croen gwahanol yn ystyried eu hunain yn Gymry ac yn dod o drydedd neu bumed genhedlaeth.

Mae'r term 'cymuned' yn cael ei ddefnyddio'n eang iawn ac yn llac iawn mewn cyd-destunau gwahanol. Gallai gyfeirio at ardal neu gymdogaeth (megis ardal cyngor cymuned) neu at grŵp o bobl sy'n gysylltiedig mewn rhyw ffordd arall; er enghraifft, drwy iaith, ethnigrwydd, diddordeb arbennig, ffydd, neu rywedd. Mae coffáu cyhoeddus yn cyffwrdd â llawer o'r canfyddiadau hyn o gymuned sy’n gorgyffwrdd.

Gall coffáu weithio ar fwy nag un lefel. Gall fod yn ddatganiad am gymeriad a hanes yr ardal leol, felly mae’n bosib mai pobl leol sydd â'r diddordeb mwyaf ynddynt. Mae deall sut y gall yr effaith gael ei theimlo’n lleol yn dibynnu ar gael darlun da o'r ddemograffeg o ran oedran, iaith, hil a rhyw, er enghraifft. Mae hon yn llinell sylfaen werthfawr ar gyfer sefydlu ffyrdd effeithiol o ymgysylltu. 

Ond mae coffáu’n ddatganiadau am berthynas yr ardal â hanes llawer ehangach hefyd. Efallai eu bod nhw 'am' lawer iawn o bobl sy'n byw ymhell y tu hwnt i'r ardal leol. Efallai y bydd dimensiwn rhyngwladol i bersonoliaethau a digwyddiadau a goffeir yng Nghymru. Mae gan ardaloedd lleol ffiniau hydraidd felly gall coffáu cyhoeddus gael ei brofi gan lawer o bobl o'r tu allan i'r ardal gyfagos; er enghraifft, pobl sy'n dod i'r gwaith neu ddefnyddio gwasanaethau, ac ymwelwyr. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bwysig ystyried pa neges sy'n cael ei chyfleu i'r cynulleidfaoedd ehangach hyn hefyd.

Gall penderfyniadau ynglŷn â choffáu gael effeithiau ymhell y tu hwnt i'r gymdogaeth gyfagos felly. Efallai y bydd angen i ymgysylltu â gwneud penderfyniadau gwmpasu nid yn unig gymunedau gwahanol o fewn y fro, ond grwpiau buddiant arbennig y tu hwnt iddi hefyd (er enghraifft, disgynyddion, cymdeithasau dinesig a hanes, cymdeithasau cyn-filwyr a sefydliadau sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig perthnasol). Lle mae cysylltiadau rhyngwladol clir, efallai y bydd cyfle hefyd i weithio gyda phartneriaid rhyngwladol sydd â diddordeb cyffredin mewn archwilio'r cysylltiadau hanesyddol hyn yn onest. 

I nodi:
  • Dylai fod gan gyrff cyhoeddus ddealltwriaeth dda o gymeriad a chyfansoddiad y cymunedau lluosog lle gellid teimlo effaith cofebion cyhoeddus.
  • Dylen nhw ystyried a fydd eu penderfyniadau’n cael effaith ar bobl y tu hwnt i'r ardal gyfagos a nodi dulliau priodol o ymgysylltu â nhw. 

2.1.3 Meithrin cysylltiadau

I fod yn llwyddiannus, mae gwneud penderfyniadau cynhwysol yn dibynnu ar berthynas gref a pharhaol rhwng y corff cyhoeddus a'i gymunedau lleol. Wrth feithrin y cysylltiadau hyn mae angen datblygu dyfnder; er enghraifft, gweithio'n agos gyda grŵp penodol, a datblygu ehangder hefyd, megis estyn allan i sawl cymuned yn yr ardal a thu hwnt iddi. 

Mae yna lawer o gymunedau sy'n parhau'n anweledig mewn dulliau traddodiadol o ymgynghori. Gall cyrff cyhoeddus ehangu eu hymgysylltiad drwy weithio gyda; er enghraifft, grwpiau ffydd, cymdeithasau mudiadau gwirfoddol, cymdeithasau buddiant arbennig a sefydliadau eraill yn y trydydd sector. Mae ganddynt eu swyddogion cydlyniant cymunedol eu hunain hefyd sy'n gallu nodi a darparu cysylltiadau â phartneriaid newydd. 

I nodi:
  • Dylai cyrff cyhoeddus feithrin perthynas gynhwysol o'r dechrau yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • Dylen nhw fod yn ymwybodol o’r lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed ac ymgysylltu â'r gymuned yn yr ystyr ehangaf, gan gofio pobl o bob treftadaeth ac ethnigrwydd.
  • Dylen nhw fod yn greadigol yn y broses ymgynghori drwy estyn allan i grwpiau newydd.

2.1.4 Cyrraedd y gymuned

Gall ymgynghori fod yn gymhleth ac yn gostus, ond mae estyn allan i'r gymuned i sefydlu consensws trwy brosesau cynhwysol yn cyfrannu at gydlyniad cymunedol ac yn helpu i sicrhau newid cadarnhaol. Mae penderfyniadau ar beth i'w wneud ag enghreifftiau o goffáu dadleuol neu gytuno ar feini prawf ar gyfer rhai newydd yn werth buddsoddi ynddyn nhw. Serch hynny, dylai'r dulliau ymgysylltu fod yn gymesur â sensitifrwydd ac effaith yr unigolyn. 

Ffynonellau gwybodaeth ffurfiol ac anffurfiol 

Cyfranogwr mewn gweithdy:

… mae gan bobl ar lawr gwlad lawer o wybodaeth na fyddai gan yr arbenigwyr o reidrwydd ... mae'n debyg na fyddai'r arbenigwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth honno.

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mae'n bwysig ein bod yn gofalu am yr ymchwil, y bobl rydym ni am eu dathlu, a'n bod yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r farn bresennol o'r hyn yr ydym yn ei wneud ... Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn bod yr addysg, bod yr ymchwil a'r dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a phrofiadau'r gorffennol yn cael eu hystyried o ddifri.

Mae angen i benderfyniadau am goffáu cyhoeddus fod yn ymateb i bryderon y gymuned a chael eu llywio gan wybodaeth arbenigol. Mae'r ddealltwriaeth o fewn cymunedau ac arbenigedd arbenigol yn amhrisiadwy yn y broses o wneud penderfyniadau a gellir eu dwyn ynghyd mewn fforymau neu baneli a sefydlir i geisio safbwyntiau a dod o hyd i gonsensws.

Gall arbenigwyr, fel cymdeithasegwyr a haneswyr, gyfrannu llawer i'r broses ond mae ail farn yn werthfawr bob amser. Efallai bod gan haneswyr, er enghraifft, ddehongliadau gwahanol neu wahanol ffynonellau o dystiolaeth ond nid ffeithiau gwahanol. Gall eu dehongliadau o hanes fod yn hynod bersonol, gan gysylltu ffeithiau â theimladau ac â'u hymdeimlad eu hunain o hunaniaeth yn ddibynnol ar eu cefndir. Mae'n werth cofio bod y niferoedd uchel o haneswyr gwyn o gymharu â hunaniaethau eraill yn gallu gwyro dealltwriaeth. Felly, dylid ystyried ffyrdd o gefnogi mwy o ymchwil sy'n cael ei chreu o fewn cymunedau lleiafrifol.

Ymgysylltu: dyfnder

Er mwyn ymgysylltu'n drylwyr, gall gweithio gyda nifer fach o bobl sy'n cynrychioli gwahanol fuddiannau fod yn werthfawr. Mae llawer o ffyrdd o ffurfio grŵp i werthuso materion a chynnig atebion, ond gall recriwtio drwy wahoddiad fod yn fwy effeithiol na galwad agored, yn enwedig ar gyfer estyn allan i rannau o'r gymuned nad ydynt yn ymgysylltu fel arfer. 

Wrth weithio'n uniongyrchol gyda chynrychiolwyr o wahanol gymunedau, mae'n bwysig bod yn glir ynglŷn â phwy sy'n cael eu cynrychioli a sut. Mae'n annhebygol y bydd un neu ddau o bobl yn gallu siarad ar ran cymunedau cymhleth, heb sôn am gynrychioli grwpiau ethnig neu gyfandiroedd cyfan, neu wareiddiadau gyda miloedd o flynyddoedd o hanes. Fel y dywedodd un cyfranogwr gweithdy: ‘Y cyfan alla i ei ddweud yw fy mod i’n casglu lleisiau ein cymuned.’ Bydd cyrff cyhoeddus yn agored bob amser i'r cyhuddiad o fethu ag ymgynghori â'r bobl gywir ond mae dangos parodrwydd i ddeall hanes a diwylliant pwy sydd yn y fantol a gwerthfawrogi cymhlethdod cymunedau yr effeithir arnynt yn fan cychwyn pwysig.

Bydd angen i gyrff cyhoeddus gydnabod a mynd i'r afael â'r rhwystrau i gymryd rhan, sy’n amrywio o sinigiaeth am werth ymgynghori i gyfyngiadau amser ac arian ac ystyriaethau lleoliad ac iaith. 

Ymgysylltu: ehangder

Mae gan ymgysylltu ar-lein, gan ddefnyddio rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol i ledaenu a chasglu gwybodaeth, y potensial i gyrraedd llawer o bobl yn rhad ac yn gyflym waeth beth fo'u lleoliad. Gall arolygon barn byr ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, gyrraedd cynulleidfaoedd iau a chymunedau anghysbell sydd â buddiant. Ond mae perygl i leisiau lleol gael eu boddi gan natur agored y byd digidol ac mae perygl o allgau digidol hefyd. 

Er mwyn lliniaru'r risgiau hyn, mae rôl gyflenwol i ddulliau mwy traddodiadol megis holiaduron ymateb hir, arolygon byr neu daflenni drwy’r drws neu a gaiff eu gadael mewn cyfleusterau cymunedol. Mae cyfweliadau wyneb yn wyneb, lle gall pobl fynegi eu hunain ar lafar, neu gyfarfodydd cyhoeddus yn werthfawr hefyd. Dylid eu hwyluso bob amser fel bod cyfranogwyr yn teimlo'n gyfforddus ynghylch cymryd rhan mewn trafodaethau heriol a allai fod yn emosiynol.

Bydd angen i gyrff cyhoeddus estyn allan at bobl nad ydynt yn ymgysylltu sy'n byw gerllaw'r coffâd hefyd. Efallai na fyddant yn gweld eu hunain fel rhan o unrhyw grŵp a ddiffinnir yn ethnig neu'n ddiwylliannol, ond er hynny maent yn rhyngweithio â'r cofebion o'u cwmpas mewn bywyd bob dydd. Dylid ystyried posteri ar neu o amgylch safleoedd coffáu, canfasio ar y stryd, neu daflen leol sy'n rhoi gwybodaeth a gwahodd cyfranogiad. 

I nodi:
  • Diffiniwch rolau’n glir ar y cychwyn i helpu i fagu hyder yn y broses a sicrhau bod cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
  • Ystyriwch dalu treuliau a thaliadau i bobl sy'n gwirfoddoli eu hamser.
  • Ystyriwch y dewis o leoliad ac amser ar gyfer cyfarfodydd. 
  • Byddwch yn barod i weithio drwy sawl iaith — nid dim ond Cymraeg a Saesneg. 
  • Defnyddiwch sawl dull o ymgysylltu i ymestyn cyrhaeddiad ac annog mwy o gyfranogiad.
  • Gweithiwch gyda phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i nodi a chodi rhwystrau i ymgysylltu.

2.1.5 Y broses ymgysylltu

Mae'n anochel y bydd ymgysylltu cymunedol eang a dwfn yn codi disgwyliadau, ac mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus allu eu rheoli. Mae tryloywder ynglŷn â sut y cyrhaeddir penderfyniadau a chydnabod gwahaniaethau mewn safbwyntiau’n elfennau pwysig wrth feithrin ymddiriedaeth a fydd yn cadw perthynas weithio gadarnhaol yn fyw gyda grwpiau cymunedol.

Mae angen i gyrff cyhoeddus fod yn glir, yn realistig ac yn onest ynglŷn ag amserlenni. Gall grwpiau cymunedol fod yn rhwystredig oherwydd oedi neu ddiffyg gweithredu tybiedig. Dylid egluro prosesau'n glir fel bod pawb dan sylw yn gwybod pryd a sut y bydd eu cyfraniadau'n cael eu cynnwys, a sut y ceir casgliadau terfynol. 

Bydd angen i gyrff cyhoeddus ystyried lles gweithwyr hefyd, a allai wynebu iaith ymosodol, gohebiaeth fygythiol neu dystiolaeth ofidus wrth weithio gyda threftadaeth ddadleuol.

I nodi:
  • Dylai cyrff cyhoeddus fod yn dryloyw am ddyfnder ac ehangder cyfraniad y gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • Dylen nhw fod yn glir ac yn agored am y broses a sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.
  • Dylen nhw reoli disgwyliadau drwy fod yn agored am yr amserlenni a'r cyllidebau.

2.2 Cam 2: Pennu amcanion ar gyfer coffáu cyhoeddus

Dylai fod gan gofebion cyhoeddus ystyr a phwrpas yn y presennol yn ogystal â’r gorffennol. Mae hyn yn golygu y dylai cyrff cyhoeddus fod yn glir ynglŷn â'r hyn y maen nhw am ei gyflawni drwy goffáu. Mae pennu amcanion clir sy'n diffinio rôl coffáu yn ein mannau cyhoeddus yn fan cychwyn pwysig a dylai gyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i hybu dilysrwydd a chydbwysedd, a dealltwriaeth glir wedi’i ddad-wladychu o'r byd. 

Gall yr amcanion hyn gynnig cyfleoedd i ddyfnhau dealltwriaeth a chreu naratif hanesyddol mwy dilys sy'n archwilio straeon heriol yn ogystal â dathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol. Efallai y bydd cyfle hefyd i annog cynhwysiant a chynrychiolaeth. 

Beth bynnag yw'r amcanion y cytunwyd arnynt, dylent fod yn sail i'r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymateb i unrhyw gynigion sy'n ymwneud â chofebion presennol neu newydd, yn ogystal ag unrhyw gamau gweithredu y gallai cyrff cyhoeddus ddymuno eu cymryd eu hunain.

Gall coffáu fod â gwerth cymunedol clir a gall gyfrannu at lesiant, ond mae angen ystyried ei rôl mewn cyd-destun ehangach hefyd. Mae hyn yn cynnwys sut mae straeon yn cael eu hadrodd mewn mannau eraill, er enghraifft gydag addysgu mewn ysgolion sy'n adlewyrchu natur amlethnig Cymru, ac mewn amgueddfeydd, gan weithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac ystyried sut y gellir adrodd straeon sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth ac ymerodraeth drwy eu casgliadau.  Mae hefyd yn cynnwys y ffyrdd y mae ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn rhan annatod o bolisïau ac arferion y corff cyhoeddus ei hun.

Astudiaeth achos: Mudiad Rhodes Must Fall ym Mhrifysgol Cape Town

Image
Cerflun o Cecil Rhodes yn cael ei symud o Brifysgol Cape Town.
Cerflun o Cecil Rhodes yn cael ei symud o Brifysgol Cape Town. (Roger Sedres, Alamy).


Ar 9 Mawrth 2015 cafodd cerflun o Cecil Rhodes ar gampws Prifysgol Cape Town ei bledio â charthion. Dros yr wythnosau canlynol bu protestwyr myfyrwyr yn cynnal gorymdeithiau ac yn meddiannu adeiladau gweinyddol, ac ym mis Ebrill pleidleisiodd y brifysgol i symud y cerflun. 

Ganwyd Rhodes (1853 i 1902) yn Lloegr a'i anfon i Drefedigaeth Cape yn Ne Affrica fodern yn ei arddegau. Credai yng ngoruchafiaeth yr hil Eingl-Sacsonaidd a gwelai sefydliadau Prydeinig yn gyfrwng i'r hil hon reoli'r byd. Gwnaeth ffortiwn mewn diemwntau a mwyngloddio aur a sefydlodd y British South Africa Company; daeth yn brif weinidog Trefedigaeth Cape hefyd. Ehangodd diroedd Prydain yn ne Affrica i gynnwys ardal fawr newydd o'r enw Rhodesia (Zimbabwe a Zambia erbyn hyn). Gadawodd gryn gyfoeth i achosion addysgol. Mae’r rhan fwyaf o gampws Prifysgol Cape Town ar ei hen stad, a adawodd i dalaith De Affrica yn ei ewyllys. Dadorchuddiwyd y cerflun o Rhodes ym 1934. 

Mae gan Brifysgol Cape Town draddodiad o brotestiadau myfyrwyr ac roedd yn anghytuno â'r drefn apartheid yn aml, a gwympodd ym 1990. Ym 1994 gwelwyd etholiadau rhydd cyntaf De Affrica a hefyd cafodd cerflun o'r Prif Weinidog Hendrik Verwoerd, un o benseiri apartheid, ei ddymchwel yn gathartig. Ni chafodd cofebion i Rhodes eu targedu ar yr adeg honno. Gwelir y pryder mwy diweddar gyda choffáu Rhodes gan lawer yn Ne Affrica fel rhan o ymgyrch brotest gan fyfyrwyr a ysgogir gan ymdeimlad nad yw addewid blynyddoedd Mandela'r 1990au wedi ei gyflawni. Mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng ymgyrchoedd 'Rhodes Must Fall' a 'Fees Must Fall', gan fod addysg prifysgol yn dal i fod tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol Du yn Ne Affrica. Mae protestwyr yn pryderu hefyd am ragfarnau trefedigaethol mewn cwricwla a pholisïau a welir fel rhai sy’n ffafrio'r iaith Afrikaan dros ieithoedd Bantu. 

Mae ymgyrch gysylltiedig ym Mhrifysgol Rhydychen wedi galw am gael gwared ar gerflun Rhodes yng Ngholeg Oriel.

2.2.1 Dilys: dyfnhau dealltwriaeth

Mae cofio'r gorffennol a cheisio deall a dysgu ohono yn nodweddion o gymdeithasau iach. Dros amser, mae cerfluniau neu enwau lleoedd yn dod yn bwyntiau cyfeirio cyfarwydd yn y llefydd lle mae pobl yn byw. Gallant ddod yn bynciau ar gyfer astudiaeth hanesyddol a nodweddion o werth treftadaeth. Ar un olwg, maen nhw'n 'ysgrifennu' gwerthoedd, pobl a digwyddiadau'r gorffennol yn y tirlun ac yn dod yn ddogfennau hanesyddol y gallwn eu darllen i ddysgu am y ffordd yr oedd cenedlaethau cynharach yn gweld y byd.

Gall cymunedau yn y presennol ychwanegu haenau newydd o ddehongli neu sylwadau a all ddyfnhau dealltwriaeth a helpu cofebion i gael eu deall mewn ffyrdd newydd; er enghraifft, pan fo cofebion cynharach wedi mawrygu unigolion fel ‘arwyr’ ond wedi diystyru a chamliwio’r gorffennol. Gall y broses hon fod yn weithred o ymgysylltu ar y cyd â’r materion anodd a godir gan ein hanes ac mae’n fwy adeiladol na dileu tystiolaeth o’i hagweddau mwy cythryblus. 

I nodi:
  • Dylai cyrff cyhoeddus ymgysylltu'n ddwfn a gonest gyda'r materion sy'n deillio o goffáu ac wynebu straeon heriol, clywed lleisiau gwahanol, rhoi cyfle i safbwyntiau amrywiol gael eu mynegi, a galluogi i agweddau negyddol o'r gorffennol gael eu deall. 
  • Dylent ystyried sut y gellir defnyddio coffáu i ddyfnhau cyfleoedd addysgol a dealltwriaeth y cyhoedd o faterion a digwyddiadau. 

Astudiaeth achos: Stolpersteine

Image
Stolperstein yn coffáu'r actores Terka Csillag y tu allan i Theatr Bochum yn Bochum, yr Almaen.
Stolperstein yn coffáu'r actores Terka Csillag y tu allan i Theatr Bochum yn Bochum, yr Almaen. (Gisbert).


Ceir cofebion mawr i'r Holocost ledled y byd, a leolir yn aml yng nghanol prifddinasoedd neu ardaloedd penodedig. Mae'r Stolpersteine (Almaeneg: Cerrig yn syrthio) yn gofeb i'r dioddefwyr ar raddfa wahanol. Maent yn giwbiau concrit 10cm gyda phlât pres ag arysgrif mewn un iaith swyddogol leol. Mae'r arysgrifau byrion yn amrywio o ran fformat ond gan amlaf yn dechrau gyda 'Here lived' ac yna enw'r dioddefwr, dyddiad geni a beth ddigwyddodd iddo: caethiwo, hunanladdiad, alltudio neu, yn y mwyafrif llethol o achosion, alltudio a llofruddio. Mae'r cerrig wedi'u gosod yn y palmant y tu allan i gyfeiriad olaf a ddewiswyd yn rhydd gan y sawl a goffeir. Mae'r ymchwil ar gyfer Stolpersteine yn cael ei wneud gan ysgolion a grwpiau hanes lleol yn aml. 

Mae'r cerrig yn cael eu gosod yn y palmant gan yr arlunydd Gunter Demnig yn aml, ym mhresenoldeb perthnasau sydd wedi goroesi. Ers dechrau'r prosiect ym 1995, mae dros 75,000 Stolpersteine wedi'u gosod ar draws Ewrop. Mae edmygwyr y Stolpersteine wedi eu canmol fel coffadwriaeth fwy effeithiol na chofebion mwy, sy'n cael eu gweld gan dwristiaid ac yn hawdd eu hanwybyddu gan bawb arall. Mae'r micro-gofebion hyn ar y llaw arall yn dod â chof yr Holocost i gymdogaethau preswyl a mannau bob dydd. Mae'r hanesydd Aidan Turner-Bishop wedi awgrymu enghraifft Stolpersteine o gofebion ar raddfa fach ond wedi'u dosbarthu'n eang fel model posibl ar gyfer coffáu caethwasiaeth yn y DU.

2.2.2 Cytbwys: mynd i'r afael â chynrychiolaeth annigonol

Cyfranogwr mewn gweithdy :

Bu llawer o bobl Ddu yn brwydro dros Brydain, ac fe wnaethon nhw a doedd dim unrhyw hanes amdanyn nhw. Doedden nhw ddim yn cael eu dathlu o gwbl. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod yn rhan o'r hanes hwnnw, oherwydd pe bawn i'n cerdded yn Abertawe a gweld cerflun o un Milwr Du ... byddai'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn.

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mae angen cynrychiolaeth fwy parhaol arnom drwy goffáu i ddathlu a gwerthfawrogi'r cyfraniadau a'r aberth a wnaed gan bobl sy'n edrych fel ni, er budd pawb, nid ni’n unig.

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mae yna bobl y dylid eu dathlu, ac mae yna bobl na ddylid eu dathlu sydd wedi cael eu dathlu. Am nad oedden ni'n rhan o'r penderfyniadau yna, a nawr yn y dyfodol, mae wedi dod yn ôl fel bwgan i darfu arnom ni.

Nid yw coffáu cyhoeddus yn y gorffennol wedi cynrychioli cymdeithas yn gyfartal. Fodd bynnag, dros y degawdau diwethaf yng Nghymru, fel mewn sawl gwlad arall, mae 'na olwg fwy egalitaraidd wedi bod ar y cyfraniadau a wnaed i'n cymunedau gan bobl na fyddent wedi cael eu cydnabod yn y gorffennol o reidrwydd, gan gynnwys gweithwyr, menywod, pobl anabl, ffoaduriaid, pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol neu eraill. 

Rydym yn gymdeithas amrywiol, ond go brin fod llawer o nodweddion y boblogaeth i'w gweld o gwbl mewn coffáu cyhoeddus. Yng Nghymru, ychydig iawn o fenywod sy'n cael eu henwi sydd wedi eu cydnabod gan gerfluniau; mae'n anodd dod o hyd i unrhyw gynrychiolaeth o bobl anabl a dim ond llond llaw o Gymry o dreftadaeth lleiafrifoedd ethnig wedi’u coffáu yn gyhoeddus mewn unrhyw ffordd hyd yn hyn. Er y dylai cenedlaethau'r dyfodol allu tyfu i fyny gyda chofebion sy'n adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth heddiw, mae'r anghydbwysedd presennol yn golygu nad yw llawer o ddinasyddion yn gweld fawr ddim modelau rôl perthnasol yn cael eu coffáu ac efallai eu bod yn teimlo nad yw pobl fel nhw yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hon yn broblem ryngwladol ac nid yw Cymru ddim gwaeth na llawer o wledydd eraill. Ym Melbourne, Awstralia, er enghraifft, canfu astudiaeth o 525 o gofebion mai dim ond tair oedd yn gysylltiedig â phobl frodorol y wlad.

Efallai ei bod hi'n amhosibl cynrychioli pob nodwedd neu bob un grŵp sy'n cyfrannu at ein cymdeithas. Ond mae'n bosibl mynegi mwy o amrywiaeth a chwalu'r canfyddiad mai'r cyflawniadau y mae cymdeithas yn eu hystyried yn nodedig yw rhai dynion gwyn pwerus, hŷn ac abl. Cyhyd â bod gwahaniaethu'n parhau yn y gymdeithas, mae'r negeseuon mae coffáu cyhoeddus yn eu cyfleu yn bwysig.

Mae rhestr o rai o’r bobl mwy adnabyddus â threftadaeth Ddu sydd wedi eu cofnodi yn llenyddiaeth bresennol hanes Cymru wedi’i chynnwys yn Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru, ond does dim dwywaith y bydd cymunedau am ddewis unigolion eu hunain i’w coffáu yn y dyfodol.

Dylai cyrff cyhoeddus archwilio unigolion newydd i’w coffáu sy'n sicrhau gwell cynrychiolaeth ar gyfer gwahanol rannau o'r boblogaeth, a chydnabod y cyfraniadau cadarnhaol i gymdeithas gan grwpiau o bob math sydd wedi'u tangynrychioli, yn y gorffennol a'r presennol.

Astudiaeth achos: Cerflun Mary Seacole, Ysbyty St Thomas

Image
Cerflun Mary Seacole y tu allan i Ysbyty St Thomas, Llundain.
Cerflun Mary Seacole y tu allan i Ysbyty St Thomas, Llundain. (Matt Brown CC2.0)


Yn 2016, gosodwyd cerflun yn Ysbyty St Thomas yn Llundain i gydnabod gwaith Mary Seacole, nyrs Jamaicaidd-Albanaidd - iachawraig oedd yn defnyddio meddyginiaethau naturiol - a oedd yn nyrsio milwyr Prydeinig yn ystod Rhyfel y Crimea (1853 i 56). Mae hunangofiant bywiog yn disgrifio'i phrofiadau yno. Fe wnaeth apêl ar gyfer cerflun o Mary Seacole godi £500,000 dros 12 mlynedd. Roedd yn un o'r cerfluniau cyntaf ym Mhrydain i fenyw Ddu, ond fe ddenodd feirniadaeth gan rai o edmygwyr Florence Nightingale. Cwynodd y beirniaid fod gan Nightingale gysylltiad cryfach â St Thomas' a bod Seacole yn cael ei defnyddio i'w 'disodli’. Gosodwyd cerflun o Nightingale mewn man arall yn Llundain ym 1915 ac mae'n dal i fod yno. 

Gwnaeth y cerflunydd, Martin Jennings, y ffigwr o Seacole yn fwy na’i maint gwirioneddol ond ei osod ar blinth isel er mwyn i bobl fod ar yr un lefel. Mae hi'n cario bag meddygol ar ei hysgwydd ac yn brasgamu i ddannedd y gwynt. Mae'r ddisg efydd y tu ôl iddi’n darlunio'r tir creigiog lle adeiladodd gyfleusterau yn y Crimea. Gellir ei weld fe’ symbol o'r byd a deithiwyd ganddi a 'wal gerrig' hiliaeth a wynebodd pan gafodd ei gwrthod i wasanaethu fel nyrs gan y Swyddfa Ryfel; yn y diwedd fe gyrhaeddodd hi’r rhyfel a helpu'r clwyfedig heb gymorth swyddogol.

2.2.3 Dad-wladychu: ymateb i werthoedd sy'n newid

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dathlu pobl ... sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n cymuned. Felly, pan fyddwch chi'n codi rhywbeth, mae pawb yn y gymuned yn cydnabod bod y person yma wedi gweithio'n galed i gael effaith ar ein cymuned. A dylai fod yn amrywiol hefyd ... mae'n gwneud mwy o synnwyr dathlu rhywun sydd wedi gweithio'n galed yn eu cymuned i sicrhau newid cadarnhaol.

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mae mor bwysig wynebu problem gwahaniaethu ar sail hil a [hyrwyddo] cyfiawnder cymdeithasol drwy fwy o ddealltwriaeth o ddathlu ein cewri. Dwi'n falch bod pobl fel Betty Campbell gennym ni, ac mae gennym ni gymaint mwy yn ein cymunedau ... Dwi am weld agwedd bositif at yr hyn mae ein cymunedau wedi’i gyfrannu i Gymru, gan roi gobaith i'n pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.

Gall gwerthoedd moesol a moesegol newid dros ddegawdau a chanrifoedd, gan effeithio ar sut rydyn ni'n deall gweithredoedd y gorffennol. Gellir diwygio safbwyntiau am ddigwyddiadau'r gorffennol yn sylweddol dros amser a gallai'r hyn a oedd yn ennyn parch mewn un genhedlaeth gael ei ddilorni mewn un arall, neu i'r gwrthwyneb. Ar un adeg derbyniwyd caethwasiaeth gan bron bawb o bwys yng nghymdeithas y gorllewin ond ers hynny mae wedi cael ei chydnabod fel trosedd yn erbyn dynoliaeth. Er enghraifft, mae'r masnachwr caethweision o Fryste, Edward Colston, yn ffigwr nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddinas am ei ddathlu heddiw yn y ffordd yr oedd elît y ddinas wedi'i wneud yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond nid caethwasiaeth yw'r unig beth; mae yna sawl math o ymddygiad arall a ystyriwyd yn gyfreithlon yn eu dydd sydd bellach yn wrthun i'r rhan fwyaf o bobl. Maent yn cynnwys, er enghraifft, ymosodiadau milwrol ar sifiliaid, erlid pobl am eu crefydd, neu gam-drin plant yn gorfforol. 

Ar y llaw arall, mae ein dealltwriaeth newidiol o ryddid ac amrywiaeth dynol yn golygu bod pobl a oedd yn cael eu dilorni ym Mhrydain ar un adeg oherwydd eu credoau, ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol yn cael eu gwerthfawrogi bellach. Er enghraifft, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif cafodd y swffragetiaid eu dilorni gan lawer o'r wasg gyfoes a'r sefydliad gwleidyddol, ond erbyn hyn maent yn cael eu dathlu a'u coffáu'n eang. Mae'n sicr y bydd gwerthoedd yn parhau i newid a bydd pobl yn y dyfodol yn deall agweddau a digwyddiadau heddiw mewn gwahanol ffyrdd.

Gall cymdeithasau newid beth a phwy maen nhw'n ei gydnabod yn yr amgylchfyd cyhoeddus neu sut maen nhw'n eu cyflwyno i adlewyrchu eu gwerthoedd eu hunain. Gallant gynyddu cynrychiolaeth rhai unigolion sydd newydd eu cydnabod am eu pwysigrwydd, lleihau cynrychiolaeth y rhai nad ydynt yn cael eu hystyried yn deilwng o sylw mwyach, neu ail-ddehongli unigolion yn ôl tystiolaeth newydd a safbwyntiau cyfredol. Mae'n arbennig o bwysig ystyried effeithiau coffáu ar bobl iau a darparu modelau rôl positif. 

Yn ystod ymdrechion i ddiogelu'r amgylchedd hanesyddol, weithiau nid yw Cadw a chyrff treftadaeth eraill wedi rhoi digon o ystyriaeth i safbwyntiau eraill a sut y gallai agweddau at ffigurau a digwyddiadau hanesyddol sydd wedi'u coffáu fod wedi newid neu gael eu gweld yn wahanol gan wahanol rannau o'r boblogaeth. 

Er bod llawer o gofebion yn amlwg iawn ac yn parhau i fod yn arwyddocaol i bobl leol, mae rhai’n llithro o ymwybyddiaeth dros y cenedlaethau. Gall y broses hon o anwybyddu neu anghofio helpu i ganolbwyntio sylw ar gofebion sydd â mwy o ystyr i'r presennol.

I nodi:
  • Dylai cyrff cyhoeddus ddefnyddio cofebion i gyfleu negeseuon cryf am ein gwerthoedd heddiw i ymgysylltu, ysbrydoli a dod â chymunedau at ei gilydd nawr ac yn y dyfodol. Gellid cyflawni hyn trwy ail-werthuso ac ail-ddehongli cofebion presennol, yn ogystal â thrwy gyflwyno rhai newydd.

Astudiaeth achos: Gwlad Belg, Congo a’r Brenin Leopold II

Image
Cerflun marchogol o Leopold II, Place du Trone, Brwsel.
Cerflun marchogol o Leopold II, Place du Trone, Brwsel. (Associated Press, Alamy).


Wedi i'r fforiwr o Ddinbych, Henry Morton Stanley, gyrraedd dyfnderoedd y Congo, daeth ardal fawr dan reolaeth y Brenin Leopold II o Wlad Belg ym 1885. Cafodd pobl leol eu trin yn greulon ar blanhigfeydd rwber ac roedd yr holl fywydau a gollwyd wedi arswydo’r ymerodraethau trefedigaethol eraill hyd yn oed. Buddsoddodd y brenin yr elw enfawr mewn harddu dinasoedd Gwlad Belg, ac fe gafodd ei goffáu gyda cherfluniau a thrwy enwi adeiladau a strydoedd ar ei ôl. Sefydlwyd Amgueddfa Frenhinol Canolbarth Affrica yn Tervueren, Brwsel ym 1908 i ddathlu 'cenhadaeth wareiddio' Gwlad Belg yn Affrica. Dysgwyd y naratif trefedigaethol hwn mewn ysgolion hefyd ac mae llawer o bobl hŷn Gwlad Belg yn dal i gredu'n gryf ynddo. 

Mae cymunedau Du Gwlad Belg wedi herio'r naratif cadarnhaol hwn ers tro. Yn 2018 cwblhaodd Amgueddfa Tervueren ailddatblygiad anodd i gyflwyno golwg fwy cytbwys ar y prosiect imperialaidd a hanes Du Gwlad Belg. Yn dilyn protestiadau byd-eang Black Lives Matter yn 2020, penododd Hoofdstedelijk Gewest (Prifddinas-Ranbarth) weithgor i ystyried symbolau sy'n gysylltiedig â threfedigaethedd mewn mannau cyhoeddus. 

Roedd y panel o arbenigwyr yn derbyn y dylid dinistrio rhai cerfluniau trefedigaethol ond yn dadlau y dylai hyn fod yn eithriad yn hytrach na'r rheol. Mae llawer o bortreadau a cherfluniau o Leopold II wedi’u difwyno gyda graffiti. Roedd yr adroddiad yn cydnabod hyn fel gweithred gyfiawn o brotest ac yn cynnig addasu is-ddeddfau i gyfreithloni graffiti ar gofebion o'r fath i bob pwrpas. Argymhellodd y dylid creu parc cerfluniau pwrpasol ar gyfer cofebion wedi'u hadleoli mewn un lle gyda dehongliad. Mae'r safle a ddewiswyd ym Mharc Cinquantenaire yn cynnwys rhai cofebion dadleuol eisoes ac roedd yn un o leoliadau'r Ail Gyngres Pan-Affricanaidd ym 1921. 

Argymhellodd y gweithgor ddau opsiwn ar gyfer y cerflun dadleuol o Leopold II ar gefn ceffyl ar Place du Trône. Gellid naill ai adleoli’r cerflun i'r 'parc cerfluniau' neu ei doddi a'i ail-lunio fel cofeb i ddioddefwyr Leopold II yn y Congo. Gwelodd y gweithgor angen dybryd am gofeb amlwg i ddioddefwyr trefedigaethedd Felgaidd ym mhrifddinas y genedl.

2.3 Cam 3: Sefydlu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Bydd [meini prawf cytûn] yn grymuso ein cymunedau i wneud penderfyniadau ar y cyd. Mae angen mwy o gyfrifoldeb moesol yn ogystal ag atebolrwydd gan y rhai sydd yn y swyddi hynny. Mae angen i ni ddefnyddio meini prawf yn effeithiol ar gyfer barnu pa mor briodol yw gweithredoedd o goffáu. Ac mae angen manteision amlwg i gynllunio'r meini prawf hynny. [Bydd y rhain yn] rhoi syniad da a yw coffáu yn debygol o fod yn briodol ai peidio.

Mae cytundeb cyffredinol y dylai pob penderfyniad ynghylch coffáu'r gorffennol a'r dyfodol fod yn seiliedig ar feini prawf clir a phenodol, wedi’u datblygu drwy ymgynghoriad cyhoeddus a’u hadolygu’n rheolaidd. Mae hon yn sail bwysig ar gyfer sefydlu consensws yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae cael set o feini prawf yn darparu rhestr wirio ddefnyddiol wrth wneud penderfyniadau am bwy sy'n cael eu cofio, ac ym mha ffordd.

Dylid cytuno ar feini prawf yn lleol ond ceir rhai awgrymiadau isod.

2.3.1 Arwyddocâd

Mae sefydlu arwyddocâd yn broses amlweddog, a gallai'r pedwar gwerth treftadaeth fod yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer diweddaru coffadwriaethau presennol yn sensitif yn ogystal ag ystyried pwnc a ffurf coffadwriaethau newydd. Esbonnir y rhain yn fanylach yng nghyhoeddiad Cadw Egwyddorion Cadwraeth ar gyfer rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru mewn ffordd gynaliadwy, ond y pedwar gwerth yw:

  • Gwerth tystiolaethol
  • Gwerth hanesyddol
  • Gwerth esthetig
  • Gwerth cymunedol

Mae gwerth tystiolaethol a hanesyddol coffadwriaethau’n cydblethu'n agos ac yn cwmpasu'r straeon y gall coffadwriaethau eu hadrodd a'r ffordd y maent yn taflu goleuni ar agweddau ar y gorffennol, gan gynnwys y gorffennol diweddar. Mae coffadwriaethau, yn sgil eu natur, yn ymwneud â phobl a digwyddiadau a gall fod ganddynt briodoleddau darluniadol cryf. Efallai y bydd ffurf ffisegol y gofeb ei hun yn dweud rhywbeth wrthym am y gwerthoedd sydd ynghlwm wrth y ffigur neu'r digwyddiad y mae'n ei goffáu, ond y tu ôl i bob coffâd mae rhinweddau a gweithredoedd, digwyddiadau a phenodau unigol a allai fod wedi bod yn ddylanwadol.

Bydd yn bwysig cydnabod y gallai person neu ddigwyddiad gael ei ganmol nid yn unig ar lefel ryngwladol neu genedlaethol, ond hefyd yn lleol: Hoffai llawer o randdeiliaid weld mwy o goffâd i bobl gyffredin sydd wedi cyfrannu at eu cymuned mewn ffordd sydd wedi arwain at newid cadarnhaol. 

Mae gwerth esthetig yn ymwneud â rhinweddau gweledol, a gall fod gan goffadwriaethau werth esthetig yn eu dyluniad a'u crefftwaith neu yn eu cyfraniad at ansawdd treflun. Gall sefydlu gwerth esthetig fod yn broses eithaf goddrychol gan fod chwaeth yn amrywio ac yn newid dros amser. 

Mae gwerth cymunedol yn arbennig o berthnasol i goffáu, oherwydd mae'n ymwneud â'r hyn y mae asedau'n ei olygu i'r bobl a'r cymunedau sy'n uniaethu â nhw. Gall coffáu cyhoeddus fod yn gysylltiedig â phrofiad neu gof ar y cyd, neu gall helpu i ddiffinio lle penodol.

Efallai y bydd gwerth cyhoeddus wedi'i briodoli i rai cofebau presennol eisoes os ydynt wedi'u rhestru oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

2.3.2 Effaith

Gallai fod yn ddefnyddiol meddwl am effaith yn hytrach na chyflawniadau. Ni ddylai cyrff cyhoeddus osgoi wynebu pob ochr i’r sawl sy'n cael ei goffáu. Dylent gydnabod cymhlethdod cymeriad a'r ffyrdd amrywiol y profwyd gweithredoedd yn y gorffennol. Hyd yn oed ar y pryd, ni fyddai pawb wedi rhannu'r gwerthoedd a fynegwyd mewn coffâd cyhoeddus. Mae deall pwy oedd yn gyfrifol am y coffáu, gan ofyn pa werthoedd y mae'n eu harddel a phwy sydd ddim yn cael eu clywed yn bwysig. Bydd ystyried ffigurau cyhoeddus o sawl safbwynt, gan gynnwys rhai gwahanol gymunedau, yn hanesyddol ac yn y presennol, yn ysgogi ymatebion i gofebion presennol ac yn llywio'r dull o ymdrin â rhai newydd.

2.3.3 Gwerthoedd

Bydd yn ddefnyddiol cynnwys meini prawf ynglŷn â pha werthoedd i fynd i'r afael â nhw mewn cofebion newydd. Mae awydd cryf i gydnabod gwerthoedd a modelau rôl positif drwy goffáu ffigurau a fydd yn ysbrydoli pobl ifanc ac yn ymgorffori balchder cymunedol. Mae amrywiaeth cofebion yn arbennig o bwysig yn y cyd-destun hwn. Felly hefyd coffáu gweithredoedd sy'n rhydd o wleidyddiaeth pleidiau. 

Gellid defnyddio meini prawf sy'n seiliedig ar werthoedd hefyd wrth ystyried pa gamau i'w cymryd mewn perthynas â chofebion presennol; er enghraifft, mynd i'r afael â gwerthoedd croes drwy ddehongli. 

Astudiaeth achos: Cysylltiadau cymunedol yng Ngogledd Iwerddon

Image
Cerflun dwylo ar draws y rhaniad gan Maurice Harron, dadorchuddiwyd yn 1992 i nodi 20 mlynedd ers Sul y Gwaed yn Derry.
Cerflun dwylo ar draws y rhaniad gan Maurice Harron, dadorchuddiwyd yn 1992 i nodi 20 mlynedd ers Sul y Gwaed yn Derry. (Brian Jannsen, Alamy).


Does yr un rhan o'r DU wedi cael hanes mwy chwerw na Gogledd Iwerddon. Yma, gallai coffáu cyhoeddus fod yn fygythiol a pheri rhwyg, neu fe allai gymodi pobl. Mae'r cyfnod tymhestlog rhwng 1912 a 1922, o’r argyfwng Hunanlywodraeth drwy'r Rhyfel Byd Cyntaf hyd at ymraniad Iwerddon, yn arbennig o sensitif. Mae atgofion hanesyddol o'r digwyddiadau hyn wedi siapio'r ymdeimlad o hunaniaeth Brydeinig a Gwyddelig yng Ngogledd Iwerddon. Yn 2010, wrth baratoi at y 'Degawd Canmlwyddiant' hwn, cytunodd partneriaeth rhwng y Cyngor Cysylltiadau Cymunedol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri ar egwyddorion ar gyfer prosiectau coffa:

  • dechrau o'r ffeithiau hanesyddol
  • cydnabod goblygiadau a chanlyniadau'r hyn a ddigwyddodd
  • deall bod gwahanol ganfyddiadau a dehongliadau’n bodoli
  • dangos sut y gall digwyddiadau a gweithgareddau ddwysáu dealltwriaeth o'r cyfnod.

Gan ddefnyddio'r egwyddorion hyn, gellir gweld y dathlu canmlwyddiant yng nghyd-destun 'cymdeithas gynhwysol sy’n barod i dderbyn'.

Fe wnaeth adolygiad o brosiectau ganfod bod llawer wedi’i gyflawni ‘ond yr hyn sydd heb ddigwydd yw gogoneddu cyfnod cythryblus, neu drais cymunedol yn deillio o goffáu... Bu'r cyfnod yn un o ddysgu a dealltwriaeth wirioneddol.’

2.4 Cam 4: Gweithredu

Mae angen i gyrff cyhoeddus gymryd camau i gyflawni eu hamcanion a mynd i'r afael â'r materion sydd wedi'u nodi mewn adrannau blaenorol. Gallai hyn fod trwy gamau y maent yn eu cymryd eu hunain, neu drwy gyngor y maent yn ei roi ar gynigion trydydd parti. 

Roedd cyfranogwyr y gweithdy yn unfryd eu barn ar y cyfan y dylai coffáu cyhoeddus barhau i fod yn rhan o'r dirwedd gyhoeddus a rennir, ond nad yw cofebion traddodiadol o ffigurau gwleidyddol, milwrol, neu ddyngarol, sy'n osgoi archwiliad llawn o'u gweithredoedd neu eu cymeriad, yn dderbyniol. Mae'n werth mynd ati i adolygu sut y gellid cyflwyno a gweld cofebion cynharach fel eu bod yn rhan o gofnod cytbwys, dilys wedi’u dad-wladychu o’r gorffennol y disgwylir i gyrff cyhoeddus ei hyrwyddo. Mae yna lawer o ffyrdd y gellid gwneud hyn, ac ni fwriedir i'r canllawiau hyn fod yn gynhwysfawr. Gall y broses o ymgysylltu â'r gymuned esgor ar syniadau newydd ynghylch pwy a sut i goffáu. 

2.4.1 Casglu tystiolaeth

Dylid seilio unrhyw benderfyniad ar sail tystiolaeth dda fel y dylai cyrff cyhoeddus. Wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r hyn sydd eisoes wedi'i goffáu. Mae Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer adnabod treftadaeth ddadleuol, ond mae agweddau cythryblus a dadleuol eraill ar ein hanes a allai gael ei adlewyrchu mewn cofebion sydd heb eu cynnwys yn yr archwiliad hwn. Dylai cyrff cyhoeddus fod yn ymwybodol hefyd o'r bylchau mewn coffáu cyhoeddus — pobl a digwyddiadau o arwyddocâd i'w cymunedau nad ydynt yn cael eu cydnabod yn gyhoeddus hyd yma. 

2.4.2 Dehongli cofebion presennol

Dehongli ar y safle

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Felly fel arfer ar waelod cerflun, mae gennych chi un plac, ac fe ysgrifennwyd y plac hwnnw yn y 1960au a does neb yn gwybod pwy a’i hysgrifennodd. Ond yn hytrach na rhwygo'r plac i lawr neu ei ddisodli, sef ein harfer, dylem greu’r sylwadau o'i gwmpas fel y gallwn gerdded o amgylch y cerflun, cerdded o amgylch y blynyddoedd, cerdded o amgylch y dehonglwyr, a gallwn ganfod neu weld drosom ein hunain nad oes angen ei ail-ddehongli gan rywun arall. Mae'r wybodaeth wreiddiol yno. Ac i agor y gofod o dro i dro, i gael cerflun sydd wedi bod yno am gyfnod neu ofod a fu yno am gyfnod, i'w ailddehongli gan gymuned wahanol sy'n gysylltiedig â'r cerflun yn y lle cyntaf, byddai hynny'n sefyllfa ddelfrydol.

Mae cofebion presennol yn rhan o'n hetifeddiaeth o'r gorffennol felly mae deall y cyd-destun y cawsant eu creu ynddo’n bwysig. Nid yw hyn yn gyfystyr ag esgusodi gweithredoedd y byddai cymdeithas yn eu condemnio’n awr, ond mae'n cynnig cyfle i ddysgu ac ail-ddehongli, ac archwilio straeon heriol. Mae dehongli ar y safle yn ffordd hygyrch o gyflwyno gwybodaeth gyd-destunol ar unwaith, gan ddarparu dyfnder a chydbwysedd, a chaniatáu cyfleoedd i ail-fframio’r naratif hanesyddol heb ddileu tystiolaeth.

Mae rhai cofebion cyhoeddus parhaol yn cynnwys ychydig eiriau o esboniad eisoes fel rhan o'r cynllun gwreiddiol. Gall y wybodaeth hon fod yn ddadleuol os yw'n ymddangos ei bod yn cyflwyno pynciau mewn ffordd unochrog. Er enghraifft, honnodd y plac o dan y cerflun o'r masnachwr caethweision, Edward Colston, ei fod: ‘Erected by the citizens of Bristol as a memorial to one of the most virtuous and wise sons of their city’. Mewn amgylchiadau o'r fath, gellir defnyddio panel gwybodaeth ategol i gyflwyno darlun mwy crwn a allai gynnwys lleisiau croes i fynegi beth mae'r unigolyn yn ei olygu i wahanol rannau o'r gymuned. Ar gyfer unigolion nad ydynt yn ddadleuol hefyd, gall y math hwn o ddehongli ar y safle helpu cynulleidfaoedd i ddeall y gorffennol neu feddwl am berthnasedd modelau rôl i'w bywydau eu hunain. 

Bydd y farn yn amrywio a yw'n fwy priodol dweud y gwir yn gyhoeddus am gofebion dadleuol neu a fydd ychwanegu panel yn peri mwy o dramgwydd. Bydd llawer yn dibynnu ar bwy neu beth sy'n cael ei goffáu, a barn pwy y gofynnir amdani. Ni fydd effaith cerflun yn cael ei liniaru bob amser gan ddehongliad ar y safle y gellir ei anwybyddu'n hawdd. 

Efallai na fydd dweud y stori lawn ar y safle’n briodol bob tro, ac efallai y bydd angen esbonio rhai o'r straeon anoddach neu boenus yn llawnach mewn mannau eraill; er enghraifft, mewn amgueddfa neu gyd-destun addysgol. Gall cysylltu â gwybodaeth mewn fformatau eraill gan ddefnyddio cyfryngau digidol ddarparu mwy o ddyfnder a chyd-destun hefyd.

Astudiaeth achos: Cofeb Thomas Picton yng Nghaerfyrddin

Image
Cofeb Picton, Caerfyrddin gyda phaneli dehongli newydd.
Cofeb Picton, Caerfyrddin gyda phaneli dehongli newydd (chwith isaf). (Cadw, Hawlfraint y Goron).


Lladdwyd Thomas Picton (1758 i 1815), milwr proffesiynol o Sir Benfro, ym Mrwydr Waterloo ym 1815. Cyn hynny, roedd yn adnabyddus yn bennaf am y sgandal cyhoeddus a achoswyd gan y dulliau creulon a ddefnyddiodd tra bu’n llywodraethwr milwrol ar Trinidad (1797 i 1803), gan gynnwys arteithio a dienyddio heb dreial. Elwodd yn bersonol hefyd ar fod yn berchen ar gaethweision a’u masnachu. 

Arweiniodd pryderon ynghylch ei ymddygiad at ei alw'n ôl i Brydain maes o law lle cafodd ei roi ar brawf am arteithio Luisa Calderón, merch 14 oed oedd yn cael ei hamau o ladrata. Fe’i cafwyd yn euog i ddechrau, cafodd y dyfarniad ei wyrdroi ar apêl, ond cyfrannodd y dadlau a achoswyd gan yr achos at y ddadl gynyddol ym Mhrydain ynglŷn â'r fasnach gaethweision. Serch hynny, yn dilyn ei farwolaeth yn Waterloo, cafodd Picton ei anrhydeddu fel arwr cenedlaethol a'i gladdu yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Yng Nghymru, cafodd ei goffáu â chofeb fawr yng Nghaerfyrddin, a gynlluniwyd yn wreiddiol gan John Nash ac a adeiladwyd ar ddiwedd y 1820au, ond yn ddiweddarach disodlwyd hi gan y golofn sy'n bodoli heddiw sydd wedi newid llawer ac yn llawer byrrach, ar Deras Picton.

Yn dilyn datblygiad yr ymgyrch Black Lives Matter ym Mhrydain, gofynnodd deiseb wedi'i harwyddo gan tua 20,000 o bobl am dynnu Cofeb Picton i lawr. Mewn ymateb, fe sefydlodd Cyngor Sir Caerfyrddin weithgor trawsbleidiol i ymgynghori â'r gymuned leol a chyrff eraill oedd â buddiant, gan gynnwys Race Council Cymru a Chyngor Tref Caerfyrddin. O'r 2,300 a mwy o ymatebion, roedd 1,613 o blaid cadw a 744 yn ffafrio symud, gyda chanran sylweddol yn cefnogi addysg ehangach am Picton. Ar sail hyn, argymhellodd y gweithgor y dylai'r gofeb aros, ond y dylid gosod byrddau gwybodaeth mewn mannau amlwg yn egluro'i gysylltiadau â chaethwasiaeth yn ogystal â'i yrfa filwrol. Mae tri bwrdd gwybodaeth wedi eu gosod o amgylch y gofeb erbyn hyn gan roi gwybodaeth llawer llawnach a chyfrif cynhwysfawr o fywyd ac effaith Picton. 

Dulliau digidol o ddehongli

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Dwi'n meddwl os oes gennych chi gerfluniau, bod cael gwybodaeth ychwanegol yn bwysig iawn. Felly, efallai bod y placiau gennych chi, ond yna fe allech chi ddarparu cod QR sy'n mynd â chi i wefan i gael mwy o wybodaeth am y person hwnnw.

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Gyda'r genhedlaeth iau, defnyddiwch fwy o dechnoleg. Mae gennym ni straeon gwahanol neu hyd yn oed dim ond y ffeithiau ... mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl ... Yn hytrach na chael placiau, gallai fod codau QR lle gallwch chi eu sganio a gall pobl ddysgu cymaint mwy a ffurfio eu barn eu hunain, oherwydd wedyn dydych chi ddim yn cael eich arwain i lawr un ffordd benodol trwy glywed dehongliad un person yn unig ... Gallai technoleg ddenu cenedlaethau iau at hynny.

Mae sawl ffordd y gellir dehongli cofebion presennol neu newydd ar wahân i destun byr neu baneli. Mae technoleg yn cynnig cyfle i estyn allan i gynulleidfaoedd newydd ac iau, yn ogystal â chymell aelodau hŷn o'r gymuned i ymddiddori mewn treftadaeth gyhoeddus. Mae’n cynnig cyfle hefyd i wella hygyrchedd i bobl anabl neu i'r rheini sydd â sgiliau iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg. 

Gellir gwella hygyrchedd drwy wneud defnydd creadigol o dechnoleg, yn amrywio o ddefnyddio codau QR, llwybrau treftadaeth a mapiau rhyngweithiol i realiti estynedig. Efallai bod rôl i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol wrth gyrraedd pobl ifanc, ond mae risg iddynt fod yn arwynebol ac efallai mai’r defnydd gorau ohonynt yw ond fel man cychwyn i gyrraedd cynnwys mwy manwl.

Defnyddio cyfryngau amgen

Gall digwyddiadau ac ymyriadau artistig helpu pobl i feddwl o'r newydd am gerfluniau y maent yn eu pasio bob dydd a gallant gynnig dewis arall yn lle coffáu corfforol parhaol. Gall cysylltu digwyddiadau a gweithgareddau â gwyliau a digwyddiadau calendr gynyddu perthnasedd ac annog cyfranogiad.

Ystyried dulliau o ddehongli

Pa bynnag ddull o ddehongli sy'n cael ei ddefnyddio, dylai gael ei ategu gan reolaeth sensitif o'r hyn sy'n cael ei ddehongli a thrwy greadigrwydd wrth ddenu sylw pobl, a'u hannog i ymgysylltu.

  • Dewiswch y wybodaeth a ddangosir o amgylch cofeb yn ofalus. Ni fydd plac neu banel dehongli fydd y lle mwyaf priodol i roi manylion cam-drin o reidrwydd. Mae angen archwilio rhai pynciau’n ddyfnach a bydd angen dulliau gwahanol o ddehongli.
  • Ystyriwch gysylltu dehongliad ar y safle â gwybodaeth fanylach mewn mannau eraill, gan ddefnyddio TG i rannu manylion pellach. 
  • Gweithiwch gydag ysgolion i archwilio sut y gellir rhannu straeon anodd gyda chynulleidfaoedd iau.
  • Mae dylunio a lleoliad yn bwysig — dylai dehongli gael ei integreiddio'n dda gyda'r gofeb wreiddiol.
  • Meddyliwch am gynhwysiant - sut y gall cofebion a’u dehongliad fod yn hygyrch i bawb? Yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg, pa ieithoedd y dylid eu defnyddio? Pa fynediad sydd i bobl anabl? 
  • Ystyriwch ddefnyddio codau QR. Maent yn cynnig cyfle i ddefnyddio sawl iaith ac yn rhoi gwybodaeth fanylach. 
  • Ystyriwch gofebion realiti estynedig. Gellir cyflwyno bron unrhyw fath o goffáu fel hyn, gan ddarparu cyfleoedd i rannu naratifau lluosog ar faterion cymhleth. 
  • Byddwch yn greadigol. Er enghraifft, mae celf, barddoniaeth, llenyddiaeth, fideo, golau a sain, a pherfformiad i gyd yn adnoddau dehongli sy'n cynnig cyfle i gymryd rhan mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnig safbwyntiau newydd a syniadau heriol.
  • Defnyddiwch gofebion dros dro - ystyriwch ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â digwyddiadau calendr megis Pride, Mis Hanes Pobl Ddu, Mis Treftadaeth De Asia a Mis Sipsiwn a Theithwyr Roma.

Astudiaeth achos: ‘Statues Redressed’ yn Lerpwl

Image
Mae'r artist Larry Achiampong yn goruchwylio lapio cerflun o William Gladstone mewn baner sy'n cynrychioli Affrica.
Mae'r artist Larry Achiampong yn goruchwylio lapio cerflun o William Gladstone mewn baner sy'n cynrychioli Affrica. (© Larry Achiampong. Cedwir pob hawl, DACS/Artimage 2023. Wedi'i wneud gyda chefnogaeth gan Sky Arts & Culture Liverpool. Trwy garedigrwydd yr artist a Copperfield, Llundain. Ffotograffiaeth gan David Edwards).


'Statues Redressed' yn brosiect a oedd yn cael ei redeg gan Gyngor Dinas Lerpwl a theledu Sky Arts a ysgogwyd gan ddadleuon am gofebion cyhoeddus. Yn ystod haf 2021, gwnaed ymyriadau artistig dros dro i 50 o gerfluniau'r ddinas, yn para rhwng diwrnod a phedair wythnos, y rhan fwyaf yn cynnwys 'ail-wisgo' cerfluniau gyda dillad neu bropiau. Ffilmiwyd y prosiect ar gyfer rhaglen ddogfen. Roedd y cerfluniau a gafodd eu dewis yn cynnwys y prif weinidogion Fictoraidd, Benjamin Disraeli a William Gladstone, y Frenhines Fictoria a ffigyrau mwy diweddar fel The Beatles a Bill Shankly. Y nod oedd annog pobl i 'edrych eto, meddwl eto, ac asesu sut rydyn ni'n teimlo am y cerfluniau sydd o'n cwmpas.’

Image
Artist Daniel Lismore with his redressed statue of Disraeli.
Yr artist Daniel Lismore gyda'i gerflun o Disraeli wedi'i ailwisgo. (David Edwards, Llun 61).


Gosodwyd clogyn clytwaith sidan ar y cerflun o'r Frenhines Victoria a gwisg gotwm a hesian wedi'i hysbrydoli gan y ffilm, Gone with the Wind, yn seiliedig ar y cyfnod pan oedd caethweision yn pigo cotwm, a chwaraeodd ran allweddol yng ngweithgareddau masnachu Lerpwl. Mae'r hesian wedi’i uwchgylchu yn atgof o’r sachau a ddefnyddiwyd i ddod â nwyddau Americanaidd i Lerpwl hefyd. Cafodd cerflun o Gladstone, oedd wedi ymgyrchu dros iawndal i berchnogion caethweision wrth ddiddymu caethwasiaeth, ei lapio gan Larry Achiampong mewn baner oedd yn cynnwys 54 o sêr ar gyfer 54 cenedl-wladwriaeth Affrica. Ar y plinth gwag yn Toxteth, lle gynt roedd y cerflun o'r AS oedd o blaid caethwasiaeth, William Huskisson, gosododd Harold Offeh waith sain fel y gallai pobl glywed cyfrif llygad-dyst o'r adeg pan gafodd y cerflun ei ddymchwel flwyddyn ar ôl terfysgoedd Toxteth ym 1981.

2.4.3 Symud ac adleoli

Roedd rhanddeiliaid o'r farn y dylid dehongli cerfluniau dadleuol yn llawn bob amser boed hynny yn eu lleoliad neu ar ôl eu hadleoli. Mae yna berygl o ddileu tystiolaeth wrth symud cerfluniau ac efallai fod hynny ynddo’i hun yn ddadleuol, ond, lle mae consensws, gellid ystyried adleoli i leoliad llai sensitif.

Nid oes gan gerfluniau yn y mannau cyhoeddus amlycaf hawl barhaol ar ein hamgylchfyd cyhoeddus o reidrwydd. Lle maent wedi colli perthnasedd a bod yna ewyllys ddemocrataidd, gallent gael eu symud i wella lleoliad llai amlwg i ryddhau llefydd allweddol ar gyfer rhywbeth sydd o fwy o werth i'r gymuned bresennol.

Mae rôl bwysig i amgueddfeydd yn y cyd-destun hwn hefyd:

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Os ydych chi'n tynnu'r cerflun i lawr, rydych chi'n ceisio dileu neu guddio hanes. Ond rwy'n credu efallai mai dyna lle y gallai rôl amgueddfeydd fod yn bwysig iawn oherwydd bod amgueddfeydd yn cofnodi hanes.

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ei roi mewn amgueddfa. Mae angen iddo fod yn rhywle achos mae angen i chi weld y darlun cyfan. Rydyn ni'n siarad am addysg byth a hefyd. Mae'n bwysig iawn gweld y ddwy ochr ... y ffigyrau dadleuol ... mae angen siarad amdanyn nhw, ac mae angen iddo fod yn naratif y gall pobl ddeall beth bynnag fo’ch oedran.

  • Dylai cyrff cyhoeddus ystyried a oes amgylchiadau lle y gellid cyfiawnhau ei dynnu o'i leoliad neu ei adleoli; nodwch y risgiau a'r camau lliniaru posibl.

Astudiaeth achos: Parciau Cerfluniau

Image
Lenin a cherfluniau eraill yn Szoborpark, Budapest.
Lenin a cherfluniau eraill yn Szoborpark, Budapest. (Gary Blake, Alamy)


Mewn sawl gwlad, yr ymateb i gerfluniau nad ydynt yn cyd-fynd â'r gwerthoedd presennol fu eu symud i barciau pwrpasol. 

Yn sgil diddymu'r Undeb Sofietaidd (1988 i 91), roedd llawer o wledydd yr hen Floc Comiwnyddol yn awyddus i gael gwared ar y cofebion i Lenin, Marx ac arweinwyr Comiwnyddol eraill oedd wedi eu codi mewn niferoedd mawr ar ôl 1947. Yn Hwngari, penderfynodd yr awdurdodau ddod â cherfluniau at ei gilydd yn y Szoborpark neu’r 'Parc Memento' yn Budapest, a agorwyd ym 1993. Wrth ymgynghori, roedd pobl yn fodlon yn aml i gerfluniau aros, ond roedd pob plaid yn y senedd newydd yn cytuno eu bod yn groes i adnewyddu cymdeithasol a chenedlaethol.

Bwriad y parc oedd mynegi arwyddocâd artistig yn ogystal ag arwyddocâd hanesyddol y cerfluniau ond gan wrthod eu syniadaeth gysylltiedig. Mae’n ‘ymwneud â chwymp Comiwnyddiaeth, nid Comiwnyddiaeth ei hun’. Mae graffiti o tua 1989 ar rai o'r arddangosion o hyd, gyda geiriau fel, er enghraifft, ‘Russians, go home!!' ac mae difrod amlwg i rai ohonynt. Y canolbwynt yw 'Stalin's Boots', replica o gerflun cofiannol y ddinas o Stalin fel yr edrychai ar ôl i brotestwyr ei chwalu yn ystod yr ymgais ar chwyldro ym 1956, gan adael dim ond esgidiau'r arweinydd Sofietaidd yn eu lle. Mae twristiaid o dramor, sef mwyafrif yr ymwelwyr, yn tueddu i ystyried bod elfen o hiwmor yn perthyn i’r parc.

Image
Cerfluniau o George V a dau Raglaw yn ystod gwaith cynnal a chadw ym Mharc Coronation, Delhi.
Cerfluniau o George V a dau Raglaw yn ystod gwaith cynnal a chadw ym Mharc Coronation, Delhi. (Associated Press, Alamy).


Ym mhrifddinas India, Delhi, mae rhai cofebion sy'n gysylltiedig â'r Ymerodraeth Brydeinig wedi cael eu symud i Barc Coronation, safle Durbar coroni’r Brenin Siôr V ym 1911. Symudwyd cerflun o George V i'r parc ym 1968 gan ymuno â nifer o gyn-raglawiaid a gweision sifil Prydeinig. Mae llawer o'r plinthau, fodd bynnag, yn wag: mae rhai o'r cerfluniau wedi cael eu rhoi i'r DU a gwledydd eraill, ac mae rhai wedi eu gwerthu i gasglwyr preifat.

2.4.4 Gwaith newydd: ystyried cofebion newydd

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mewn gwirionedd, mae llawer o gymunedau gwahanol wedi helpu i adeiladu Cymru fel gwlad. Felly, rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn bod gennym y gynrychiolaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i deimlo gwir ymdeimlad o berthyn….

Mae cyflwyno cofebion newydd yn rhoi cyfle i gofio am ffigurau neu ddigwyddiadau sy’n anghofiedig hyd yma, i anrhydeddu unigolion neu ddigwyddiadau diweddar ac i ymestyn cynrychiolaeth gyhoeddus i'r cymunedau niferus sydd wedi cyfrannu at greu Cymru.

Mae awydd am ffurfiau newydd o goffáu a fydd yn cyffroi pobl nid yn unig o ran cynnwys, ond hefyd o ran ffurf. Mae angen i gofebion newydd hyrwyddo gwerthoedd cymdeithasol cryf o hunaniaeth, undod a pherthyn, a defnyddio ffyrdd creadigol o addysgu cymunedau am eu pobl eu hunain. O ran eu math a'u harddull, dylid eu haddasu i'w pwnc.

Mae angen adnoddau amrywiol ar gyfer cofebion newydd. Mae’n bosibl na fydd enwi mannau cyhoeddus yn costio fawr ddim ac mae placiau’n costio ychydig gannoedd o bunnoedd ond gall cost cofebion a’r gwaith o’u gosod amrywio o £10,000 i £500,000 neu fwy.

I nodi:
  • Dylai cyrff cyhoeddus fynd ati i ystyried y posibiliadau ar gyfer cyflwyno cofebion newydd, gan weithio'n agos â chymunedau wrth iddynt nodi mathau, safleoedd a phynciau posibl.

Astudiaeth achos: Cerflunwaith a chestyll Cymreig

Image
“Cerflun "Etifeddiaeth" gan Rubin Eynon yng Nghastell Caernarfon.
Cerflun "Etifeddiaeth" gan Rubin Eynon yng Nghastell Caernarfon. (Cadw, Hawlfraint y Goron)


Mae Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Nghaernarfon, Conwy, Harlech a Biwmares yn Safle Treftadaeth y Byd a reolir gan Cadw ar ran Gweinidogion Cymru. Fe’u disgrifiwyd gan UNESCO fel "campwaith o athrylith creadigol dynol" ac maent yn atyniadau pwysig i ddiwydiant twristiaeth Cymru. Mae Castell Caernarfon yn unig yn derbyn 195,000 o ymwelwyr y flwyddyn, llawer o Loegr. Yng Nghymru, ystyrir y cestyll gyda rhywfaint o amwysedd gan iddynt gael eu hadeiladu yn dilyn y goncwest dan arweiniad Edward I. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cadw wedi comisiynu sawl cerflun i geisio hyrwyddo'r cestyll a mynd i'r afael â gwahanol agweddau o'r hanes hwn sy’n destun dadlau. Mae'r Athro Howard Williams wedi beirniadu dull Cadw drwy ddweud: “Gadewch i ni roi tipyn o gelf yno a honni ei fod yn meithrin ffyrdd newydd o feddwl.

Yn 2017 dadlenwydwyd cynigion ar gyfer cerflun anferth ar ffurf 'cylch haearn' yng nghysgod Castell y Fflint. Bwriad y cerflun oedd cyfeirio at ildio coron Richard II i Harri IV yn y castell yn 1399 ac roedd i'w arysgrifio gyda dyfyniadau o Richard II gan Shakespeare. Fodd bynnag, dewisodd rhai carfannau o'r cyhoedd yng Nghymru ddehongli'r cerflun mewn ffordd wahanol iawn. Castell y Fflint oedd y cyntaf o'r rhai a adeiladwyd gan Edward I, gan amgylchynu gogledd Cymru yn yr hyn a alwodd haneswyr o'r 19eg ganrif ymlaen yn "Gylch Haearn”. Roedd y dehongliad amgen hwn o'r gwaith celf, i rai, yn llawer mwy cymhellol na’r cyfeiriad gan Shakespeare, a chyn pen dim casglodd deiseb yn gwrthwynebu'r cerflun fel dathliad o "ddarostyngiad a gormes y Cymry" dros 11,000 o lofnodion. Cafodd y cynllun ei ganslo. 

Yn fwy diweddar yn 2023 gosododd Cadw un ar ddeg  darn newydd o waith celf, gan gynnwys cerfluniau, ym mhrif borthdy Castell Caernarfon a'r cyffiniau. Gyda thema "y dwylo a adeiladodd y castell" mae'r gwaith celf yn dathlu'r llafurwyr a'r crefftwyr niferus y mae eu henwau wedi mynd yn angof. Yr eithriad yw'r cerflun "Etifeddiaeth" gan Rubin Eynon, sy'n debyg i bentwr o ddarnau toredig o gerflun dychmygol Edward I ei hun, gyda cherdd Gymraeg wedi ei cherfio ar ei foch yn cyfleu natur fyrhoedlog grym a marwoldeb y Brenin ei hun. Mae'r dehongliad sy'n cyd-fynd ag ef yn cyflwyno stori fwy cyflawn o'r castell, gan dynnu sylw at y gwrthwynebiad i reolaeth Lloegr pan adeiladwyd y castell a hefyd ddatganoli pŵer yn fwy diweddar.

Astudiaeth achos: Cerflun Betty Campbell, Caerdydd

Image
Cerflun o Betty Campbell gan Eve Shepherd, Caerdydd.
Cerflun o Betty Campbell gan Eve Shepherd, Caerdydd. (Cadw, Hawlfraint y Goron)


Roedd Betty Campbell (1934 i 2017) yn adnabyddus fel ymgyrchydd a phennaeth ysgol Du cyntaf Cymru. Ymrestrodd yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Caerdydd ym 1960, a hithau’n un o ddim ond chwe myfyriwr benywaidd i gael eu derbyn, aeth ymlaen i ddysgu yn Ysgol Gynradd Mount Stuart am 28 mlynedd, lle daeth yn bennaeth. Yma, dechreuodd addysgu am gaethwasiaeth, hanes Pobl Dduon ac apartheid a ddaeth yn dempled ar gyfer addysg amlddiwylliannol yn y DU. Ysbrydolodd ei gwaith y cam o sefydlu Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU yn uniongyrchol.

Yn dilyn ei hymddeoliad o fyd addysgu, aeth ymlaen i fod yn gynghorydd lleol annibynnol yn cynrychioli Butetown, aelod o fwrdd BBC Wales, aelod o Bwyllgor Cynghori ar Hil y Swyddfa Gartref ac aelod o'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Ym mhob rôl, tyfodd ei dylanwad ar fywyd cyhoeddus, wrth iddi chwarae rhan bwysig mewn sgyrsiau beirniadol ar amrywiaeth a chydraddoldeb.

Wedi ei marwolaeth yn 2017, bu galw am godi cerflun er cof amdani. Ar y pryd, yr unig gerflun o fenyw benodol oedd un Buddug yn Neuadd Dinas Caerdydd. Er mwyn unioni'r anghydbwysedd hwn roedd tasglu eisoes wedi'i sefydlu yn 2016, 'Monumental Welsh Women’, ac yn 2019, cynhaliodd y BBC ymgyrch 'Arwresau Cudd' i benderfynu pwy ddylai fod yn destun cerflun cyntaf Cymru o fenyw Gymreig go iawn, i'w benderfynu gan bleidlais gyhoeddus. Roedd pum menyw ar y rhestr fer ac ar 18 Ionawr 2019, cyhoeddwyd fod Betty Campbell wedi ennill y bleidlais, ac y byddai ei cherflun yn cael ei godi ym mhlaza Sgwâr Canolog, Caerdydd. Dadorchuddiwyd ei cherflun ar 29 Medi 2021.

Crynodeb o gamau gweithredu

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Mae’n amlwg nad yw gadael pethau fel maen nhw yn opsiwn.

Crynhoir camau posibl a allai gael eu hystyried mewn amgylchiadau gwahanol isod ynghyd â rhai o'u manteision a'u hanfanteision.

Cam gweithredu: creu cofebion newydd  

Er enghraifft, cofebion newydd, cerfluniau, murluniau, placiau, enwau strydoedd neu baentiadau mewn adeiladau cyhoeddus. Nid yw'r tabl hwn yn cynnwys pob un dim.

Manteision:

  • Cyfrannu at adfywio a chreu lleoedd gyda gweithiau celf newydd
  • Mae angen enwau ar strydoedd neu adeiladau newydd 
  • Gellir gosod placiau’n gymharol rad
  • Gall nodi modelau rôl o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol
  • Creu cyfle i ddysgu / deall

Anfanteision:

  • Mae angen llawer o gyllid ac amser i gynllunio a dylunio cofebion a cherfluniau 
  • Risg o orlenwi mannau cyhoeddus gyda gwrthrychau wedi'u cynllunio'n wael
Cam gweithredu: Buddsoddi adnoddau mewn digwyddiadau dros dro

Er enghraifft, digwyddiadau celfyddydol cymunedol, partïon stryd, cyngherddau, sgyrsiau, cynyrchiadau drama a fideo.

Manteision:

  • Gall digwyddiadau fod yn hynod effeithiol drwy gynnwys llawer o bobl a newid canfyddiadau
  • Gallu dwyn pobl ynghyd o gwmpas digwyddiadau bywiog
  • Gallu ymgysylltu â rhaglenni, er enghraifft, Pride, Mis Hanes Pobl Dduon, Mis Treftadaeth De Asia a Mis Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Anfanteision:

  • Mae digwyddiadau angen arian a chynllunio 
Cam gweithredu: cuddio cofebion

Pacio cofebion o’r golwg neu eu hamgáu’n greadigol mewn gweithiau celf newydd.

Manteision:

  • Gwneud datganiad gweledol am newid gwerthoedd
  • Cadw nodweddion hanesyddol ar gyfer astudio
  • Caniatáu i genedlaethau'r dyfodol benderfynu
  • Amgáu creadigol yn gyfle i adrodd stori wahanol

Anfanteision:

  • Gall cuddio roi'r argraff o guddio'r broblem yn hytrach na mynd i'r afael â hi
  • Ddim yn mynd i'r afael â phroblem pobl neu weithredoedd negyddol
Cam gweithredu: darparu dehongliad 

Paneli ar y safle neu wybodaeth oddi ar y safle sy'n gysylltiedig â llwybrau, codau QR a VR er enghraifft.

Manteision:

  • Creu cyfleoedd i ddysgu am agweddau cadarnhaol neu negyddol ar y gorffennol
  • Cynnig cyfle i fynegi safbwyntiau amgen

Anfanteision:

  • Gallu canolbwyntio hyd yn oed mwy o sylw ar ffigyrau negyddol o'r gorffennol
  • Gellir gadael cofebion diangen yn eu lle
Cam gweithredu: comisiynu ymyriadau neu ymatebion artistig

Gwisgo cofebion, cynnig ymatebion llenyddol, ychwanegu sain neu fideo, defnyddio digwyddiadau neu berfformiad i ddehongli.

Manteision:

  • Helpu cymunedau i adlewyrchu ar gofebion presennol mewn ffyrdd difyr
  • Gallu dwyn pobl ynghyd o gwmpas digwyddiadau bywiog
  • Gallu defnyddio technolegau newydd diddorol fel technoleg rithwir

Anfanteision:

  • Gall leihau gwerth treftadaeth cofebion
  • Gall beri gofid neu dramgwyddo pobl
  • Gall digwyddiadau neu berfformiad untro fod yn gyfyngedig o ran effaith
Cam gweithredu: symud i storfa neu arddangos mewn amgueddfa neu leoliad llai sensitif arall 

Tynnu cofebion dadleuol iawn i lawr a'u rhoi mewn storfa neu mewn amgueddfeydd, neu eu hadleoli i leoliad llai sensitif.

Manteision:

  • Tynnu eitemau tramgwyddus neu ddiangen o fannau cyhoeddus
  • Caniatáu i eitemau gael eu gweld fel gwrthrychau mewn cyd-destun hanesyddol yn hytrach nag fel coffâd 
  • Gweithred hynod amlwg dros newid

Anfanteision:

  • Efallai na fydd gan amgueddfeydd gapasiti na chyd-destun i arddangos eitemau
  • Costau cymharol uchel
  • Tynnu nodweddion cyfarwydd o'r dirwedd
  • Proses gynhwysfawr lle mae'n ddoeth ymgynghori â chymunedau yr effeithir arnynt. Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio a/neu gydsyniad adeilad rhestredig
Cam gweithredu: newid yn barhaol neu ddinistrio ar ôl y drefn briodol

Dinistrio cofebion neu newid eu pwrpas i goffáu digwyddiadau yn lle unigolion,

Manteision:

  • Gallu cael gwared ar gofebion tramgwyddus neu ddiangen 
  • Gallu bod yn weithred greadigol proffil uchel
  • Gall newid canfyddiadau o gofebion o ddathlu i hanes mwy gwrthrychol

Anfanteision:

  • Gallu tynnu nodweddion cyfarwydd o'r dirwedd
  • Proses gynhwysfawr lle mae'n ddoeth ymgynghori â chymunedau yr effeithir arnynt.Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio a/neu adeilad rhestredig.
  • Gallai barhau’r canfyddiad o hanes rhagfarnllyd
Cam gweithredu: newid enwau strydoedd/adeiladu

Rhoi enwau newydd i strydoedd ac adeiladau neu gyfleusterau cyhoeddus presennol.

Manteision:

  • Gallu cael gwared ar enwau tramgwyddus neu ddiangen 
  • Rhoi diwedd ar niwed i enw da cyrff cyhoeddus a chysylltiadau negyddol i gleientiaid
  • Gall nodi modelau rôl o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol

Anfanteision:

  • Gall newid enwau strydoedd amharu'n sylweddol ar drigolion a busnesau
  • Gall adfywio cysylltiadau â ffigyrau hanesyddol a fu’n angof ers tro

Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: crynodeb ac atodiad

Crynodeb a Chasgliad

Nod y canllaw arfer gorau hwn yw helpu awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned a chyrff cyhoeddus eraill i ddod i benderfyniadau hyddysg ynghylch coffáu cyhoeddus sy'n bodoli eisoes ac yn y dyfodol, a thrwy wneud hynny'n cyfrannu at Gymru wrth-hiliol. 

Mae Rhan 1, Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: deall y problemau, yn cyflwyno'r materion cymhleth sy'n ymwneud â choffáu cyhoeddus. Mae ei ffocws ar effaith cofebion ar gymunedau drwy’r hyn a gaiff ei goffáu, math, arddull a lleoliad. Mae’n ystyried pwysigrwydd edrych yn ôl a thystiolaeth hefyd. 

Mae Rhan 2, Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: gwneud penderfyniadau, egwyddorion ac ymarfer, yn nodi pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd i wireddu'r cyfleoedd y mae coffáu cyhoeddus yn eu cynnig i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn Rhan 1, a gwneud cyfraniad cadarnhaol at Gymru wrth-hiliol.

Mae Cam 1 yn ymwneud â gwneud penderfyniadau cynhwysol

I gydnabod eu heffaith gyhoeddus, dylai gwneud penderfyniadau am gofebion cyhoeddus fod yn wirioneddol gynhwysol, ac ni ddylid cael cofebion newydd heb gynrychiolaeth i bawb yr effeithir arnynt. Mae'r canllawiau’n nodi rhai egwyddorion cyffredinol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol:  

  • cynnwys cymunedau amrywiol a gwrando ar amrywiaeth o safbwyntiau o'r cychwyn
  • ystyried lle gallai effaith penderfyniadau gael eu teimlo — cydnabod cymunedau anghysbell o ddiddordeb yn ogystal â'r ardal leol, ac ymateb i amrywiaeth o fewn yr ardal leol
  • meithrin perthynas barhaol gyda chymunedau lleol
  • parchu dealltwriaeth leol yn ogystal â gwybodaeth a barn arbenigol
  • ystyried y ffyrdd gorau o estyn allan i gymunedau amrywiol, a mynd i'r afael â rhwystrau i ymgysylltu
  • sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw.

Mae Cam 2 yn ymwneud â phennu amcanion ar gyfer cofebion cyhoeddus

Dylai cyrff cyhoeddus fod yn glir ynglŷn â'r hyn maen nhw am ei gyflawni drwy goffáu cyhoeddus. Dylent bennu amcanion sy'n diffinio'i rôl yn unol â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol er mwyn hyrwyddo dilysrwydd a chydbwysedd, a dealltwriaeth glir wedi’i dad-drefedigaethu o'r byd. Nid yw hyn yn golygu sensro na dileu'r cofnod hanesyddol, ond mae'n golygu bod anghyfiawnder hanesyddol yn cael ei gydnabod, bod enwau da ffigyrau hanesyddol yn destun trafod a bod naratifau sy'n dibrisio bywydau dynol yn cael eu herio. Mae dad-drefedigaethu yn ceisio osgoi parhau mythau trefedigaethol hiliol am oruchafiaeth pobl wyn, ond nid yw'n golygu cael gwared ar bob tystiolaeth o'r gorffennol ymerodrol. Wrth bennu amcanion dylai cyrff cyhoeddus:

  • ymgysylltu'n ddwfn a gwirioneddol gyda'r straeon sy'n codi o goffáu, clywed lleisiau gwahanol, a chaniatáu i safbwyntiau amrywiol gael eu mynegi 
  • ystyried sut y gellir defnyddio coffáu i ddyfnhau cyfleoedd addysgol a dealltwriaeth y cyhoedd o faterion a digwyddiadau
  • archwilio pynciau newydd i’w coffáu sy'n sicrhau gwell cynrychiolaeth ar gyfer gwahanol rannau o'r boblogaeth, a chydnabod y cyfraniadau cadarnhaol i gymdeithas gan grwpiau o bob math sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn y gorffennol a'r presennol
  • defnyddio coffáu i gyfleu negeseuon cryf am ein gwerthoedd heddiw i ymgysylltu, ysbrydoli a dod â chymunedau at ei gilydd nawr ac yn y dyfodol. 

Mae Cam 3 yn ymwneud â sefydlu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau

Dylai penderfyniadau am gofebion y gorffennol a’r dyfodol fod yn seiliedig ar feini prawf clir a phenodol, wedi’u datblygu drwy ymgynghoriad cyhoeddus, ac sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd. Mae hon yn sail bwysig ar gyfer sefydlu consensws yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae set o feini prawf yn darparu rhestr wirio ddefnyddiol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â phwy sy'n cael eu cofio ac ym mha ffordd.

Dylid cytuno ar feini prawf yn lleol, ond awgrymir y byddai fframwaith defnyddiol yn ystyried arwyddocâd, effaith a gwerthoedd.

Mae Cam 4 yn ymwneud â gweithredu 

Dylai cyrff cyhoeddus fod yn barod i weithredu i gyflawni eu hamcanion a mynd i'r afael â'r materion a godir gan goffáu cyhoeddus. Dylai unrhyw gamau gael eu seilio ar sylfaen dystiolaeth dda. Dylai cyrff cyhoeddus fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n cael ei goffáu eisoes a bod yn ymwybodol o'r hyn a allai fod ar goll. Mae'r camau sydd ar gael yn cynnwys:

  • dehongli sy'n galluogi cofebion cyhoeddus i ffurfio rhan o gofnod cytbwys, dilys wedi’i ddad-wladychu o’r gorffennol y disgwylir i gyrff cyhoeddus ei hyrwyddo   
  • tynnu ac adleoli, lle mae cytundeb y gallai lleoliad llai sensitif fod yn fwy priodol 
  • gwaith newydd sy'n rhoi cyfle i gofio am ffigurau neu ddigwyddiadau anghofiedig hyd yma, i anrhydeddu unigolion neu ddigwyddiadau diweddar, ac i ymestyn cynrychiolaeth gyhoeddus i'r cymunedau niferus sydd wedi cyfrannu at lunio Cymru.

Wrth gymryd y pedwar cam hyn, bydd cyrff cyhoeddus yn gallu cyflawni eu cyfrifoldeb o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i ‘adolygu ac ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu yn ein mannau cyhoeddus a chasgliadau, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.’ Byddant yn gallu defnyddio digwyddiadau coffa cyhoeddus yn fwy cyffredinol hefyd i gyfrannu at Gymru wrth-hiliol, i ddyfnhau dealltwriaeth o'n gorffennol a'i gwaddol, ac i ddathlu cyflawniadau ein cymdeithas amrywiol. 

Atodiad: cefndir

Ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru. Cafodd yr archwiliad ei gynhyrchu gan grŵp gorchwyl a gorffen o dan arweiniad Gaynor Legall. Ei fwriad oedd adnabod cofebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladu yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r fasnach gaethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig, yn ogystal â chael cipolwg ar gyfraniadau hanesyddol pobl o dreftadaeth Ddu i fywyd Cymreig. 

Yn dilyn cyhoeddi'r archwiliad cafwyd adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, 'Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o rai o agweddau anoddach a phoenus ein hetifeddiaeth o’r gorffennol. Daethant i'r casgliad, er y dylai'r awdurdod am benderfyniadau sy'n ymwneud â cherfluniau, cofebion neu goffáu dadleuol fod yn nwylo awdurdodau lleol a chymunedau yn y pen draw, y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arweiniad a chyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022. Mae cyrff cyhoeddus yn gyfrifol am ‘gyflwyno’r naratif hanesyddol priodol, gan hyrwyddo a chyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi’i ddad-gwladychu o’r gorffennol - disgrifiad sy’n cydnabod anghyfiawnderau hanesyddol ac effaith gadarnhaol cymunedau lleiafrifoedd ethnig’.' Mae camau penodol i ‘adolygu ac ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu yn ein mannau cyhoeddus a chasgliadau, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.’

Paratowyd y canllawiau hyn fel cam nesaf wedi'r archwiliad gan Gaynor Legall ac mewn ymateb i argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ac i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae wedi elwa ar gyfres o weithdai wedi'u hwyluso gan ddod â sbectrwm eang o randdeiliaid at ei gilydd, ac mae'n cael ei lywio gan eu barn. Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, addysg a'r byd academaidd, llywodraeth leol, y lluoedd arfog, grwpiau ffydd, grwpiau cadwraeth treftadaeth a phobl LHDTC+. Mae dyfyniadau gan gyfranogwyr y gweithdy yn ymddangos yn y testun drwyddo draw. 

Rhagor o Wybodaeth

Cyffredinol

Commonwealth War Graves, 2021. 'Report of the Special Committee to Review Historical inequalities in Commemoration'. Maidenhead: Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.

Rodney Harrison, 2013. 'Heritage: Critical Approaches'. Oxon, Routledge.

Olivette Otele, Luisa Gandolfo, Yoav Galai (gol), 2021. 'Post-Conflict Memorialization: Missing Memorials, Absent Bodies'. Llundain: Palgrave Macmillan.

Ben Stephenson, Marie-Annick Gournet a Joanna Burch-Brown, 2021. 'Reviewing contested statues, memorials and place names: Guidance for public bodies'. Bryste, Prifysgol Bryste.

Llywodraeth Cymru, 2021. Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o goffáu yng Nghymru. Caerdydd, Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru, 2022. Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru, 2021. Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus, Caerdydd: Comisiwn y Senedd.

Astudiaethau achos

Cerfluniau Cydffederal, UDA

Memorialization of Robert E. Lee and the Lost Cause, US National Park Service. 

Southern Poverty Law Centre, 2019. ‘Whose Heritage? Public Symbols of the Confederacy’ gan y Southern Poverty Law Centre. 

Gwefan United Daughters of the Confederacy.

Ty Seidule, 2021. Robert E. Lee and Me: A Southerner's Reckoning with the Myth of the Lost Cause. Efrog Newydd, St Martin’s Publishing group.

Teddy Roosevelt, Efrog Newydd

Dinas Efrog Newydd, 2018. Mayoral advisory commission on city art, monuments, and markers: Report to the City of New York. Efrog Newydd, Dinas Efrog Newydd.

James Loewen, 1999. Lies across America: What our historic markers and monuments get wrong. Efrog Newydd, The New Press.

‘Addressing the statue’ tudalennau ar Wefan yr American Museum of Natural History.

Sinclaire Devereux Marber, 2019. ‘Bloody Foundation? Ethical and Legal Implications of (Not) Removing the Equestrian Statue of Theodore Roosevelt at the American Museum of Natural History’.

Margaret Thatcher, DU

Dawn Foster, 2019. A statue of Margaret Thatcher? No plinth will be too high for the vandals. The Guardian.

Will it ever go up? Plinth still awaits Thatcher statue in Grantham yn The Lincolnite (2021).

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2008. Crynodeb o ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ar P-03-142: Deiseb i dynnu cerflun Margaret Thatcher o’r Senedd.  Caerdydd, Llywodraeth Cymru.

Cerflun o Ferch dros Heddwch, Seoul

Thomas J.Ward a William D.Lay, 2019. Park Statue Politics: World War II Comfort Women Memorials in the United States. Bryste, E-international Relations.

David Shim, 2021. Memorials’ Politics: Exploring the material rhetoric of the Statue of Peace. Memory Studies.  Thousand Oaks, SAGE Journals.

Comisiwn Hanes ‘We are Bristol’, Bryste

Cole, T. a Burch-Brown, J. et al. 2022. The Colston Statue: What Next? ‘We are Bristol’ History Commission Full Report. Bryste, Cyngor Dinas Bryste.

Gwybodaeth Amgueddfeydd Bryste.

Cais cynllunio am ail blac yn 2018.

Adroddiad Bristol Live ‘How the city failed to remove Edward Colston’s statue for years’.

Antonia Layard, 2021. Listing Controversy II: Statues, Contested Heritage and the Policy of ‘Retain and Explain’  . Bryste, Ysgol y Gyfraith Bryste.

Rhodes Must Fall, University of Cape Town

Britta Timm Knudsen a Casper Andersen, 2019. Affective politics and colonial heritage, Rhodes Must Fall at UCT and Oxford. Llundain,Taylor a Francis. 

Amit Chaudhuri, 2016. The real meaning of Rhodes Must Fall. The Guardian.

Stolpersteine, Europe

Gwefan Stolpersteine

Natalie Bennie, 2019. The rhetoric of counter-monumentality: The Stolpersteine Project. Ann Arbor, Pro Quest.

Mary Seacole, Llundain

Gwefan Mary Seacole Trust.

Gwefan Nightingale Society.

Adebayo, Dotun MBE, 2015. ‘What Did Mary Seacole Ever Do For Us As Black People?’ 

Leopold II, Gwlad Belg

Gia Abrassart et al. 2022. For the decolonisation of public space in the Brussels-Capital Region: a framework for reflection and recommendations. Brwsel, Senedd Ranbarthol Brwsel.

Adam Hochschild, 2020. The fight to decolonize the museum. The Atlantic. Washington DC, The Atlantic.

Decade of Centenaries, Gogledd Iwerddon

Gwefan Decade of Centenaries gan y Community Relations Council, Belfast.

Jonathan Evershed, 2015. From Past Conflict to Shared Future?: Commemoration, peacebuilding and the politics of Loyalism during Northern Ireland’s "Decade of Centenaries". Cork, University College Cork.

Cofeb Picton, Caerfyrddin

Disgrifiad Rhestr Cadw.

Dylan Rees, 2020. Sir Thomas Picton (1758-1815): Hero and Villain? Caerfyrddin, Cymdeithas Hynafiaethau sir Gaerfyrddin.

Statues Redressed, Lerpwl

Gwefan Statues Redressed.

Parciau Cerfluniau, Hwngari ac India

Gwefan Szoborpark.

Gitta Hammarberg, 1995. Dead Statues – or alive? Signs of Ambivalence in Transition-Era Hungary. Berkeley, Macalester. 

Matthew de Tar, 2015. National Identity After Communism: Hungary’s Statue Park. Llundain, Taylor a Francis.

Tom Wilkinson, LSE blog 2019 ‘Coronation Park and the Forgotten Statues of the British Raj’

Paul M. McGarr ,2015. ‘The Viceroys are Disappearing from the Roundabouts in Delhi’: British symbols of power in post-colonial India. . Caergrawnt, Cambridge University press.

Cerflunwaith a Chestyll Cymru

Cadw, 2023, ‘A king’s welcome to Caernarfon Castle’ in 'Heritage in Wales' rhifyn 76, Caerdydd, Llywodraeth Cymru.

Howard M. Williams, 2017, The Art of Failure at Flint, a gyhoeddwyd i awduron blog ‘Archaeodeath’.

Howard M. Williams, 2023, Hands of Memory: Caernarfon’s New Heritage Art, a gyhoeddwyd i awduron blog ‘Archaeodeath’.

Betty Campbell, Caerdydd  

Gwefan Monumental Welsh Women.

 

Dolenni o'r ddogfen hon 

Lle mae’r ddogfen hon yn cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Ni ddylid ystyried dolen fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth ar gynnwys neu argaeledd tudalennau cysylltiedig ac nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a all godi yn sgil eich defnydd ohonynt.