Neidio i'r prif gynnwy

Present

Jackie Murphy: Cadeirydd

Hannah Lamb: Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc

Plam: Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc

Paul Apreda: FNF Both Parents Matter Cymru

Rocio Cifuentes: EYST Cymru

Sarah Coldrick: Cymdeithas ar gyfer Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru

Beth Flowers: Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru

Gareth Jenkins: Cynrychiolydd y Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol

Wanjiku Mbugua: BAWSO

Sean O'Neill: Plant yng Nghymru

Samantha Williams: Anabledd Dysgu Cymru

Nigel Brown: Cafcass Cymru

Matthew Pinnell: Cafcass Cymru

Beth Altman: Cafcass Cymru:

De Litchfield: Cafcass Cymru

Anna Sinclair: Cafcass Cymru

Rhianon James: Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

1. Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd y cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys Wanjiku Mbugua, Prif Weithredwr Dros Dro BAWSO, a oedd yn bresennol am y tro cyntaf. Hefyd, rhoddodd y cadeirydd groeso arbennig o gynnes i Plam a Hannah, sydd yn aelodau o’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Tracey Holdsworth: NSPCC Cymru
  • Sharon Lovell: Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru
  • Don Ronson: Cyngor Cyfryngu Teuluol 
  • HHJ Jayne Scannell: Barnwriaeth

2. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021 – eu cymeradwyo cyn eu cyhoeddi ar wefan Cafcass Cymru – a materion sy'n codi

Wedi cytuno. Nid oedd unrhyw ddiwygiadau i'r cofnodion ac nid oedd unrhyw faterion yn codi. 

3. Braenaru Gogledd Cymru – Trosolwg o'r model gweithredol

Cyflwynodd Nigel Beth Altman, Arweinydd Cafcass Cymru ar gyfer Diwygio Cyfraith Breifat, ac Anna Sinclair, Rheolwr Sicrhau Ansawdd Cafcass Cymru. Fe roddon nhw gyflwyniad ar Ddiwygio Cyfraith Breifat a rhoi trosolwg manwl o Gynllun Peilot Braenaru Gogledd Cymru. Yn dilyn y cyflwyniad, cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a rhoi adborth.

Diolchodd y cadeirydd i Beth ac Anna am eu cyflwyniad ysgogol, a ysgogodd drafodaeth fywiog ac addysgiadol.

4. Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol – Cyflwyniad

Rhoddodd Plam a Hannah gyflwyniad ar waith y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc ledled Cymru.  Fe wnaethon nhw hefyd gyflwyno llyfr y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc, “In Our Shoes”, sy’n manylu ar brofiadau plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder teuluol.   Mae copïau o'r llyfr ar gael ar wefan y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc ac mae copïau caled ar gael ar gais.

Argymhellodd Nigel fod pawb yn darllen y llyfr, sy’n cynnwys adroddiadau grymus am brofiadau pobl ifanc.

Diolchodd y cadeirydd i Plam a Hannah am eu cyflwyniad rhagorol.

5. Gwybodaeth reoli

Rhoddodd Nigel drosolwg o'r atgyfeiriadau a'r ffigurau perfformiad ar gyfer Chwefror 2022. Cafwyd trafodaeth fanwl wedyn ac ymatebodd Nigel a Matthew i gwestiynau a godwyd gan aelodau o'r pwyllgor.

6. Bwrdd Cyfiawnder Teuluol – Chwe blaenoriaeth allweddol

Rhoddodd Nigel amlinelliad o chwe blaenoriaeth allweddol y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol. Y tair blaenoriaeth ar gyfer cyfraith gyhoeddus yw:

  1. Nodi ffyrdd o fynd i'r afael ag achosion sydd yn y system hiraf a deall effaith gohiriadau ar hyd achosion
  2. Deall y nifer uchel o geisiadau brys / byr rybudd a'r cynnydd ar y flwyddyn flaenorol / blynyddoedd blaenorol
  3. Gwella arferion yn ystod y cam cyn-achos

Y tair blaenoriaeth ar gyfer cyfraith breifat yw:

  1. Llywodraeth a phob partner yn deall ac yn dylanwadu ar farn gymdeithasol ehangach ar wahanu a defnyddio’r llysoedd
  2. Gwell cefnogaeth i ardaloedd lleol i graffu ar eu heriau o ran perfformiad a rhannu arferion gorau
  3. Cynyddu effeithlonrwydd yn y broses cyfraith breifat

7. Diweddariad ar y gyfraith gyhoeddus

Gan iddi hyn gael ei drafod yn rhannol o dan eitem chwech, cytunwyd y byddai Matthew yn rhoi diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.

8. Unrhyw fater arall

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf Rocio yn ei rôl bresennol, manteisiodd y cadeirydd ar y cyfle i’w llongyfarch ar ei swydd newydd fel Comisiynydd Plant Cymru a dymunodd bob llwyddiant iddi yn y dyfodol.

Gan nad oedd unrhyw faterion eraill i'w trafod, daeth y cyfarfod i ben.

9. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf o bell am 4pm, ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022.

Diolchodd y cadeirydd i aelodau Pwyllgor Cynghori Cafcass Cymru, yn enwedig i’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol Pobl Ifanc, am eu hamser a'u cyfraniad gwerthfawr i'r cyfarfod.