Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Tracey Holdsworth (Cadeirydd) NSPCC Cymru
  • Jennifer Gibbon Lynch Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Flora Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Gergo Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
  • Paul Apreda FNF Both Parents Matter Cymru
  • Sarah Coldrick Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Sara Kirkpatrick Cymorth i Ferched Cymru
  • HHJ Jayne Scannell Y Farnwriaeth Glesni Carter GLlTEF
  • Astrid Davis Cadeirydd Panel Teulu Caerdydd ac Ynad
  • Nigel Brown Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell Cafcass Cymru
  • Kate Thomas Cafcass Cymru
  • Lydia Hall-Mulvaney Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso ac Ymddiheuriadau

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • De Litchfield Cafcass Cymru
  • Gareth Jenkins Cynrychiolydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Mike Clark TGP Cymru
  • Sharon Lovell Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2025

Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2025 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi. Cadarnhaodd Nigel fod y camau gweithredu yn ymwneud ag ymgysylltiad y rhieni yn barhaus.

Diversity Highlight Report: 2023 i 2024

Darparodd Kate Thomas ddiweddariad cynhwysfawr ar y Diversity Highlight Report diweddar ar gyfer 2023 i 2024. Dywedodd Kate mai hwn yw'r adroddiad cyntaf ar gyfer amrywiaeth ar draws pob rhanbarth. Darparodd Kate drosolwg o'r meysydd gwahanol lle y cesglir amrywiaeth, yr hyfforddiant mae'r Ymarferwyr yn ei gwblhau ar gyfer dysgu a datblygiad pellach a grwpiau hyrwyddo amrywiaeth sefydliadol.

Ymatebodd Kate i gwestiynau a godwyd gan aelodau o'r Pwyllgor a chafodd ei chanmol am ei hadroddiad a chyflwyniad manwl.

Data / Perfformiad

Darparodd Nigel drosolwg o'r adroddiadau newydd ar ddata a pherfformiad ar gyfer achosion Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat. Dywedodd Nigel y bydd yn gallu darparu diweddariad ar y dangosyddion perfformiad allweddol nesaf yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynghori. 

Atebodd Nigel unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor.

Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc

Rhoddodd Flora a Gergo gyflwyniad ardderchog yn ymdrin â'r pynciau canlynol:

  • Trosolwg gwybodus o'r amrediadau o amrywiaeth ar draws y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc.
  • Disgwylir i gynhadledd ‘Llais y Plentyn’ nesaf y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc gael ei chynnal ar-lein ar 31 Gorffennaf a thema'r flwyddyn hon yw 'Fy Ngrymuso ar gyfer Fy Nyfodol'. Anogodd Flora a Gergo y Pwyllgor i fynychu'r gynhadledd a gwnaethant groesawu cwestiynau i'r panel.
  • Teithiodd Aiden a Milo i Gaerdydd yn ddiweddar i gyfweld â Matthew ynglŷn â'i natur unigryw, ei rôl a'r gwahaniaeth mae'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc yn ei wneud yng ngwaith Cafcass Cymru. Cafodd y fideo ei recordio a bydd yn cael ei ddefnyddio i ffurfio rhan newydd o brosesau sefydlu'r staff. Canmolwyd Aiden a Milo am eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled.

Diolchodd y Cadeirydd ac aelodau o'r Pwyllgor Cynghori i Flora a Gergo am eu cyflwyniad rhagorol.

Canllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig

Darparodd Nigel ddiweddariad ar y Canllawiau Ymarfer ar gyfer Cam-drin Domestig a gafodd ei lansio ym mis Mai. Rhoddodd Nigel wybod i'r Pwyllgor bod Cafcass Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i integreiddio ymarfer sy'n ystyriol o drawma a phwysigrwydd llais y plentyn. 

Cafodd fideo gan Olivia, aelod o'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc, ei chwarae i'r Pwyllgor a nododd y Pwyllgor bwysigrwydd profiad bywyd a gwrando ar lais y plentyn. 

Gwnaeth y Pwyllgor hefyd ganmol Olivia am ei fideo pwerus. Gwnaeth y Pwyllgor hefyd ganmol Nigel am ei arweinyddiaeth gadarnhaol a chynhwysol a'i ymrwymiad parhaus i bwysigrwydd llais y plentyn.

Adroddiad Cwynion Blynyddol Cafcass Cymru

Rhoddodd Nigel wybod i'r Pwyllgor Cynghori am yr adroddiad blynyddol ar gwynion a chanmoliaeth ar gyfer 2024 i 2025. Nododd Nigel fod newidiadau yn cael eu gwneud o ran sut y caiff adborth ei gasglu gan blant a phobl ifanc a chydnabu bod y gwaith hwn yn barhaus er mwyn sicrhau cysondeb ynghylch canmoliaeth a chwynion, ac roedd y Pwyllgor yn croesawu hyn.

Diweddariad ar Gyflwyno'r Cynllun Braenaru

Rhoddodd Nigel ddiweddariad byr ar y Cynllun Braenaru, a nododd bod Cymru gyfan bellach yn gweithredu o dan y model Braenaru. De Orllewin Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru oedd yr ardaloedd olaf i roi'r Cynllun Braenaru ar waith ac maent yn y cyfnod trosglwyddo a sefydlu o hyd. 

Nododd Matthew hefyd fod Cafcass Cymru ar y rhestr fer ynghyd â GLlTEF ar gyfer gwobr ODP cydweithredol ac ym mis Ebrill cyhoeddwyd ein bod wedi ennill y wobr.

Unrhyw Fater Arall

Gofynnodd Sarah Coldrick a oedd lle i ddysgu o'r Cynllun Braenaru mewn perthynas â llais y plentyn yn cael ei ystyried ym maes Cyfraith Gyhoeddus. Y consensws cyffredinol ymhlith y Pwyllgor oedd bod cyfleoedd i drosglwyddo'r dysgu hwn i faes Cyfraith Gyhoeddus.

Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben.

Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 11 Tachwedd 2025 drwy Teams