Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Jackie Murphy, (Cadeirydd), TGP Cymru
  • Fateha Ahmed, EYST
  • Aiden Jones, Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
  • Danielle Brooks, Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
  • Paul Apreda, FNF Both Parents Matter Cymru
  • Sarah Coldrick, Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
  • Sam Williams, Anabledd Dysgu Cymru
  • Tracey Holdsworth, NSPCC Cymru
  • Gareth Jenkins, Cynrychiolydd ADSS
  • Donna Mulhern, HMCTS HHJ
  • Jayne Scannell,Y Farnwriaeth
  • Samantha Williams, Anabledd Dysgu Cymru
  • Nigel Brown, Cafcass Cymru
  • Matthew Pinnell, Cafcass Cymru
  • Laura Scales, Cafcass Cymru

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan gynnwys yr aelod newydd Fateha Ahmed, EYST, a oedd yn bresennol am y tro cyntaf. Yn ogystal, gofynnodd y Cadeirydd i'r holl aelodau gyflwyno eu hunain a'u rolau.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

  • Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru
  • Beth Flowers, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
  • Wanjiku Mbugua, BAWSO
  • Sean O’Neill, Plant yng Nghymru

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 – eu cymeradwyo cyn eu cyhoeddi ar wefan Cafcass Cymru – a Materion yn Codi

Cytunwyd nad oedd unrhyw newidiadau i’r cofnodion ac nad oedd unrhyw faterion yn codi.

Perfformiad data

Rhoddodd Nigel drosolwg o’r atgyfeiriadau a’r ffigurau perfformiad ar gyfer mis Medi 2022 a oedd yn cynnwys dau adroddiad ar wahân. Roedd yr adroddiad cyntaf yn cynnwys y set arferol o ddata a rennir ag aelodau ac roedd yr ail adroddiad yn darparu data ar y Cynllun Peilot Braenaru yng Ngogledd Cymru. Yna cafwyd trafodaeth fanwl ac ymatebodd Nigel a Matthew i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r Pwyllgor.

Bwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol – Effaith yr Oedi

Rhoddodd Aiden a Danielle gyflwyniad ar effaith yr “Oedi” ar blant sy’n rhan o achosion llys teulu, a oedd yn rhoi trosolwg o gynnwys Cynhadledd Llais y Plentyn a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022. Cyflwynodd Danielle ac Aiden wybodaeth yn deillio o'r adborth a gafwyd gan blant ar yr effaith y cafodd oedi mewn achosion llys arnynt.

Diolchodd y Cadeirydd a sawl aelod o'r Pwyllgor Cynghori i Aiden a Danielle am eu cyflwyniad rhagorol.

Llythyr Gwirio Sicrwydd Ansawdd AGC

Rhoddodd Nigel drosolwg o’r llythyr sicrhau ansawdd a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn yr haf yn dilyn ei gwiriad sicrwydd o Cafcass Cymru. Eglurodd Nigel fod y gwiriad sicrwydd yn amlinellu nifer o feysydd o gryfder sefydliadol a rhai meysydd i'w gwella. Ers hynny mae Cafcass wedi cyfarfod ag AGC ac wedi datblygu cynllun gweithredu er mwyn ymateb i'r meysydd i'w gwella.

Diweddariad Cyfraith Gyhoeddus

Rhoddodd Laura drosolwg o Gyfraith Gyhoeddus gan gynnwys cynllun peilot FDAC, gwaith sy’n cael ei wneud gan y gweithgor Cyfraith Gyhoeddus, oedi mewn achosion gofal a chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus yn Cafcass Cymru.

Data cau achosion Cyfraith Gyhoeddus Cafcass Cymru

Rhoddodd Matthew drosolwg o’r cynllun peilot a gynhaliwyd gan Cafcass Cymru yn 21/22 i gasglu gwybodaeth ar adeg cau achosion ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus. Yn dilyn adolygiad o'r cynllun peilot, gwnaed diwygiadau i'r ffurflen casglu data ac mae'r ffurflen hon bellach wedi'i rhoi ar waith.

Unrhyw fater arall

Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben.

Cyfarfod nesaf

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau Pwyllgor Cynghori Cafcass Cymru, yn enwedig aelodau FJYPB, am eu hamser a'u cyfraniad gwerthfawr i'r cyfarfod.

Dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen i bawb a diolchodd iddynt am eu mewnbwn dros y flwyddyn ddiwethaf.

Caiff dyddiadau cyfarfodydd 2023 eu dosbarthu yn fuan.