Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio pryd nad yw’n ofynnol i ddarparwr gofal plant, chwarae neu weithgareddau i blant gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru ac yn arolygu darparwyr gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru. Gall hyn gynnwys:

  • gwarchodwyr plant
  • gofal dydd llawn
  • gofal dydd sesiynol
  • gofal plant y tu allan i oriau ysgol
  • crèches
  • darpariaeth chwarae mynediad agored.

Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol i bob darparwr sy'n cynnig gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn nodi amgylchiadau pan na fo'n ofynnol cofrestru yn seiliedig ar ffactorau fel y canlynol:

  • y math o ddarpariaeth
  • oriau gweithredu
  • y berthynas â'r plentyn
  • lleoliad y gofal
  • oedran y plant

Mae'n debygol na fydd unrhyw gais a gyflwynir gan berson nad yw'n ofynnol iddo gofrestru yn cael ei gymeradwyo.

Eithriadau i gofrestru fel darparwr gofal plant ag Arolygiaeth Gofal Cymru

Eithriadau i gofrestru fel darparwr gofal plant ag Arolygiaeth Gofal Cymru

Darpariaeth pan fo rhiant / aelod o'r teulu yn bresennol

Os yw rhiant neu aelod o'r teulu yn bresennol mewn gweithgaredd ac yn gyfrifol am ofalu am y plentyn yn llawn, nid ystyrir bod y gwasanaeth yn cynnig darpariaeth gwarchod plant na gofal dydd ac nid yw'n ofynnol i gofrestru.

Enghreifftiau

Clwb chwaraeon llawr gwlad

Mae plentyn yn mynychu grŵp chwaraeon llawr gwlad ac mae'r rhiant yn gwylio o'r llinell ystlys. Nid yw'n ofynnol i'r clwb chwaraeon gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd byddai'r rhiant yn diwallu anghenion gofal y plentyn.

Grŵp rhieni a phlant

Mae plentyn bach yn mynychu grŵp rhieni a phlant gyda'i warcheidwad cyfreithiol / rhiant. Nid yw'n ofynnol i'r grŵp gofrestru fel darparwr gofal dydd oherwydd byddai'r warcheidwad cyfreithiol / rhiant yn diwallu anghenion gofal y plentyn.

Gofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano, neu blentyn y mae'n byw gydag ef

Nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant i ofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano na phlentyn y mae'n byw gydag ef.

Nanis ac Au Pairs

Os yw person yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y naill deulu neu'r llall, nid yw'n ofynnol i'r nani neu'r au pair gofrestru fel gwarchodwr plant na darparwr gofal dydd. Mae Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref, y cyfeirir ato weithiau fel y "Cynllun Nanis", y gall nanis ac au pairs sy'n bodloni'r meini prawf ymuno ag ef.

Gofal Gyda'r Nos a Gofal Dros Nos

Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant na darparwr gofal dydd. Os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad tebyg arall ar gyfer plentyn sy'n aros yno, caiff y person sy'n darparu'r gofal wneud hynny ar gyfer dim mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.

Gofalu am blentyn ffrind heb gael taliad naill ai ar ffurf arian neu roddion

Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel gwarchodwr plant na darparwr gofal dydd am na wneir taliad am y gofal.

Darparu gofal mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd 

Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd a gofrestrwyd eisoes i ddarparu gofal o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Ysgolion pan fo'r gofal yn gysylltiedig ag addysg

Nid yw'n ofynnol i ddarparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd pan fyddant yn gofalu am blant mewn ysgol ac mae'r gofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r addysg.

Gwasanaethau Ieuenctid 

Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 11 oed o leiaf, mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid ac mae taliad nominal, neu ddim taliad o gwbl, am y gwasanaeth hwn.

Gwasanaethau sy'n gweithredu am 2 awr neu lai y dydd

Os yw gwarchodwr plant neu ddarparwr gwasanaeth gofal dydd yn gweithredu ei wasanaeth am 2 awr yn union y dydd neu lai na 2 awr y dydd, nid yw'n ofynnol iddynt gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Enghreifftiau

Clwb ar ôl ysgol

Mae ysgol yn rhedeg clwb ar ôl ysgol ar safle'r ysgol am 1 awr a 55 munud y dydd. Nid yw'n ofynnol iddynt gofrestru fel darparwr gofal dydd.

Mwy nag un sesiwn

Mae grŵp chwarae yn rhedeg 2 sesiwn y dydd, sy'n para awr yr un. Nid yw cyfanswm yr oriau a ddarperir mewn diwrnod yn fwy na 2 awr felly nid yw'n ofynnol i gofrestru fel darparwr gofal dydd.

Gofal am 5 diwrnod neu lai y flwyddyn

Os yw'r gwasanaeth yn gweithredu mewn lleoliad penodol am 5 diwrnod neu lai mewn unrhyw flwyddyn galendr, nid yw'n ofynnol i gofrestru fel darparwr gofal dydd. Bydd angen i'r darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru am y dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod cyntaf o weithredu yn y flwyddyn honno.

Enghreifftiau

Crèche symudol

Mae awdurdod lleol yn darparu crèche symudol i ofalu am blant tra bod eu rhieni'n mynychu dosbarthiadau addysgol. Mae'n gweithredu mewn gwahanol leoliadau. Mae pob sesiwn yn para mwy na 2 awr. Os yw'r gwasanaeth yn mynd dros 5 diwrnod mewn unrhyw leoliad unigol, bydd angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd yn y lleoliad hwnnw.

Chwarae mynediad agored

Mae darparwr chwarae mynediad agored yn gweithredu am 4 awr y dydd, ar 5 diwrnod y flwyddyn mewn 2 leoliad gwahanol. Ystod oedran y plant yw 4-11 oed. Nid yw'n ofynnol iddynt gofrestru fel darparwr gofal dydd am eu bod yn cynnig gofal am lai na 6 diwrnod mewn unrhyw un lleoliad.

Hyfforddiant a Gwersi

Mae'r eithriad hwn yn berthnasol pan roddir hyfforddiant a gwersi mewn mathau penodol o feysydd ar safle annomestig, ac mae unrhyw ofal a roddir yn gysylltiedig â'r hyfforddiant a'r gwersi.

Mae'n ofynnol i ddarparwr gofrestru os cynigir hyfforddiant a gwersi mewn mwy na dau o'r mathau canlynol o feysydd:

  • Chwaraeon
  • Celfyddydau perfformio
  • Celf a chreff
  •  Cymorth gydag astudiaethau ysgol neu waith cartref
  • Astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol

Gall y darparwr wneud unrhyw nifer o weithgareddau ym mhob maes gweithgaredd, ar yr amod mai'r ffocws yw bod y plant yn cael hyfforddiant neu wersi yn y gweithgaredd ac mae unrhyw ofal a roddir yn gysylltiedig.

Os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 5 oed neu'n hŷn, nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd. Fodd bynnag, os yw'n darparu gwasanaeth hyfforddiant a gwersi i blant o dan 5 oed ac maent yn bresennol am fwy na 4 awr y dydd, rhaid iddo gofrestru.

Enghreifftiau

Hyfforddiant a gwersi aml-weithgaredd

Mae darparwr yn cynnig hyfforddiant pêl-droed a thenis, ynghyd â gwersi dawns a chanu. Mae'n cynnig 2 fath o weithgaredd (chwaraeon a chelfyddydau perfformio). Nid yw'n darparu gweithgareddau heb hyfforddiant o unrhyw fath arall ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn. Mae'r plant sy'n bresennol i gyd yn 5 oed neu'n hŷn. Nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd.

Hyfforddiant a gwersi aml-weithgaredd

Mae darparwr yn cynnig sesiynau o fwy na dwy awr mewn gwersi paentio, astudiaethau Sbaeneg a hyfforddiant badminton. Mae pob un o'r 3 gweithgaredd hyn yn dod o dan fath gwahanol o weithgaredd (celf a chrefft, astudiaethau diwylliannol, a chwaraeon). Bydd angen i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod yr hyfforddiant a'r gwersi hyn yn cwmpasu mwy na 2 fath o weithgaredd.

Hyfforddiant a gwersi aml-weithgaredd

Mae darparwr yn cynnig hyfforddiant gymnasteg am ddwy awr allan o sesiwn pum awr. Am weddill y sesiwn, mae'n darparu ystod o weithgareddau corfforol fel castell bownsio a gemau parasiwt. Mae'r plant yn gwylio ffilmiau ac yn darllen llyfrau ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn. Mae'r plant sy'n bresennol i gyd yn 5 oed neu'n hŷn. Bydd angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd gan fod ystod o weithgareddau y tu hwnt i hyfforddiant a gwersi yn cael eu cynnig am fwy na 2 awr.

Adolygu eithriadau

Mae adolygiad o'r Gorchymyn Eithriadau yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Diben yr adolygiad yw ystyried a yw unrhyw newidiadau i'r Gorchymyn Eithriadau yn ofynnol er mwyn sicrhau y gall plant yng Nghymru gael mynediad at ofal plant a gweithgareddau sy'n diwallu eu hanghenion hwy a rhai eu teuluoedd.

Ni fydd unrhyw newidiadau i'r Gorchymyn Eithriadau yn cael effaith tan 2026/27. 

Diogelu

Fel darparwr sy'n gweithio gyda phlant, rydych chi'n gyfrifol am ddiogelu plant.

Ystyr diogelu yw:

  • cadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed
  • gwybod beth i'w wneud os byddwch yn meddwl bod rhywun mewn perygl.

Mae gwybod beth i'w wneud, pryd i'w wneud a sut i'w wneud yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

I'r rhai nad ydynt wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unigolion, grwpiau neu sefydliadau sy'n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ddilyn y cyngor yn Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu. Bydd hyn yn helpu i ddangos bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau diogelwch plant.

Mae'r trefniadau hyn yn cynnwys cael polisi amddiffyn plant, arweinydd diogelu dynodedig, gwybodaeth i rieni/gofalwyr, arferion recriwtio a chyflogaeth diogel (e.e. cymwysterau, gwiriadau adnabod a DBS) a hyfforddiant, goruchwyliaeth a chefnogaeth briodol i staff/gwirfoddolwyr.

Mae chwe bwrdd diogelu rhanbarthol ledled Cymru a all ddarparu gwybodaeth a chyngor, gan gynnwys am gyfleoedd hyfforddi lleol a sut i riportio a chofnodi unrhyw bryderon.

Os oes gennych wybodaeth neu os ydych yn amau bod plentyn yn dioddef, wedi dioddef, neu'n debygol o fod mewn perygl o gamdriniaeth, esgeulustod neu niwed, dylai hyn gael ei riportio i wasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol

Os gallai plentyn fod mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â'r gwasanaethau brys gan ddefnyddio 999 neu 101, yn ddi-oed.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar blatfform Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Rhagor o wybodaeth am gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru

Os oes gennych gwestiynau ynghylch a ddylai darparwr fod wedi ei gofrestru, neu a yw gwasanaeth yn gweithredu o fewn unrhyw ddarpariaethau yn y Gorchymyn Eithriadau, dylech gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru.