Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Bydd person yn ddarparwr llety ymwelwyr os yw’r person hwnnw, trwy fasnach neu fusnes, yn:

  • darparu neu gynnig darparu llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru, ac
  • yn feddiannydd ar y lleoliad lle y darperir y llety ymwelwyr.

Gall person olygu dau neu fwy o bobl sydd:

  • mewn partneriaeth â’i gilydd
  • yn gweithredu fel corff anghorfforedig neu gorfforedig

Ystyr darparu

Mae person yn darparu llety ymwelwyr os yw’r person hwnnw yn ymrwymo i gontract sy’n caniatáu neu’n arwain at ganiatáu i un neu ragor o bobl gael hawl i breswylio yn y llety ymwelwyr am o leiaf un noson, mewn lleoliad yng Nghymru.

Enghraifft o ddarparu llety ymwelwyr

Mae Joan yn rhedeg llety gwely a brecwast o leoliad sy’n eiddo iddi hi. Mae hi'n ymrwymo i gontractau gyda gwesteion sy’n caniatáu iddynt aros dros nos yn ei llety gwely a brecwast, sy’n cael ei ystyried yn llety ymwelwyr. Mae Joan yn ddarparwr llety ymwelwyr.

Ystyr yn cynnig darparu

Mae person yn cynnig darparu llety ymwelwyr os ydynt yn fodlon ymrwymo i gytundebau gyda rhywun a chaniatáu iddynt aros o leiaf un noson yn eu lleoliad yng Nghymru, ac mae'n cynnwys hysbysu eraill bod eu llety ar gael i aros ynddo. Byddai cytundebau yn cynnwys y rhai a wneir trwy farchnadoedd ar-lein, cytundebau llafar ac archebion trwy sianeli eraill.

Os yw person yn marchnata neu'n hysbysebu ei leoliad, boed hynny ar wefan, y cyfryngau cymdeithasol, ar blatfform ar-lein arall, mewn llyfrynnau, ar hysbysfyrddau siop neu unrhyw le arall, a’u bod yn fodlon ymrwymo i gytundebau sy’n caniatáu i eraill aros yn eu lleoliad, byddant yn cynnig darparu llety ymwelwyr.

Os yw person yn fodlon derbyn archebion ar gyfer y dyfodol, maent hefyd yn cynnig darparu llety ymwelwyr.

Enghraifft o gynnig darparu llety ymwelwyr

Mae Liam yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu ei ystafell sbâr dros gyfnodau gwyliau prysur. Gan ei fod yn hysbysebu ei ystafell sbâr ar y rhyngrwyd, mae'n bodloni’r prawf o gynnig darparu llety ymwelwyr.

Ystyr meddiannydd

Fel arfer, meddiannydd y lleoliad yw’r sawl sy’n rheoli’r lleoliad a’r defnydd a wneir ohono, megis rhedeg busnes llety ymwelwyr. Gallant hefyd fod yn gyfrifol am gydymffurfio â gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r lleoliad a'i gadw mewn cyflwr da. Mae'n debygol y bydd meddiannydd hefyd yn elwa o ddarparu llety ymwelwyr yn y lleoliad.

Gallai meddiannydd, er enghraifft, fod yn berchennog cyfreithiol ar y lleoliad, yn denant o dan les, neu yn berson sydd â hawl i feddiannu'r lleoliad o dan drwydded i feddiannu.

Mae asiant neu gwmni rheoli sy'n gweithredu ar ran y darparwr llety ymwelwyr yn annhebygol o fod yn feddiannydd ar y lleoliad.

Enghraifft o feddiannydd yn berchennog eiddo

Mae Mr Jones yn berchen ar lety gwely a brecwast yn Ne Cymru, ac mae gwesteion yn aros yn ei leoliad yn aml; daw ei incwm o'r busnes hwn. Ef yw meddiannydd y llety gwely a brecwast, mae'n ymrwymo i gontractau gydag ymwelwyr sy'n caniatáu iddynt aros dros nos ac felly mae'n ddarparwr llety ymwelwyr.

Enghraifft o feddiannydd ar safle sy’n cael ei rentu

Mae Margaret yn rhentu fflat yng Nghaerdydd. Gyda chaniatâd ei landlord, mae hi'n gosod ei hystafell sbâr i bobl aros dros nos ar benwythnosau at ddibenion teithio hamdden. Mae hi'n gwneud hyn i ychwanegu at ei hincwm. Margaret yw meddiannydd y fflat ac mae'n cynnig darparu llety ymwelwyr, felly mae hi'n ddarparwr llety ymwelwyr.

Enghraifft o feddiannydd tai gwyliau

Mae Norman a Grace yn briod. Maent yn berchen ar fferm ac yn rhedeg y busnes ffermio mewn partneriaeth â'i gilydd. Maent wedi penderfynu arallgyfeirio, gan adeiladu tri o dai gwyliau ar y fferm er mwyn ychwanegu at eu hincwm. Maent yn hysbysebu'r llety gwyliau ar-lein, ac yn cymryd archebion am arosiadau dros nos am 8 mis o'r flwyddyn. Maent yn ddarparwyr llety ymwelwyr, a bydd angen iddynt gofrestru gyda ACC.

Ystyr contractau

Fel arfer, byddai contractau yn cynnwys unrhyw archebion am arosiadau yn y lleoliad a wneir gan ddefnyddio blatfform archebu, dros y ffôn neu yn uniongyrchol gyda'r darparwr llety ymwelwyr. 

Os mai’r unig reswm i berson aros yn y lleoliad yw i ddarparu gwasanaethau i'r darparwr llety, yna ni fydd unrhyw:

  • gontract gwasanaeth, neu
  • gontract prentisiaeth, pan fo prentisiaid yn aros yn y lleoliad

yn cyfrif fel contract.

Contractau a hawliau

Fel arfer, bydd contractau’n cael eu ffurfio pan fo’r archeb yn cael ei gadarnhau, boed hynny trwy blatfform archebu, dros y ffôn, ar-lein neu trwy gysylltu â’r darparwr yn uniongyrchol.

Gall contractau, a sut yr ymrwymir iddynt, amrywio’n fawr. Nid yw fformat y contract yn bwysig, yr hyn sydd yn bwysig yw bod contract yn bodoli a’i fod yn rhoi hawl i un neu fwy o bobl aros am un neu fwy o nosweithiau yn neu yn y llety ymwelwyr.

Esemptiadau i gontractau

Nid yw contract yn cynnwys: 

  • contract gwasanaeth
  • contract prentisiaeth, na
  • chontract gwasanaethau, sy’n rhoi hawl i berson breswylio yn y llety ymwelwyr er mwyn darparu gwasanaethau i’r darparwr llety ymwelwyr
Gweld fersiwn argraffadwy o bob tudalen