Cofrestru llety ymwelwyr: canllawiau technegol - Pryd a sut i gofrestru
Canllawiau manwl ar sut i gofrestru llety ymwelwyr i ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Pryd i gofrestru
Rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr gofrestru eu hunain, a phob un o'r lleoliadau yng Nghymru lle maent yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety.
Wrth gofrestru, bydd angen i'r darparwr llety ymwelwyr lenwi ffurflen gofrestru ACC a darparu:
- eu manylion a'u gwybodaeth am y llety ymwelwyr
- unrhyw wybodaeth arall y mae ACC yn gofyn amdano
Os bodlonir yr amodau hyn, bydd ACC yn eich hysbysu i ddweud eich bod wedi cofrestru ac yn rhoi rhif cofrestru i chi.
Gall person lenwi'r ffurflen gofrestru hyd at 30 diwrnod cyn iddynt ddechrau darparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru.
Enghraifft o pryd ddylai person gofrestru fel darparwr llety ymwelwyr
Mae Gwendolen yn prynu llety Gwely a Brecwast ar 1 Rhagfyr 2027. Mae hi’n bwriadu dod yn ddarparwr llety ymwelwyr yn 2028, ac yn gwneud rhywfaint o waith adnewyddu ar y lleoliad. Pan ddaw’r gwaith adnewyddu i ben ar 10 Ionawr 2028, mae hi’n dechrau cynllunio sut y bydd yn hysbysebu ei busnes. Mae hi'n dechrau cynnig llety ar 6 Chwefror 2028, ac yn cymryd archebion o 1 Mawrth 2028.
Bydd angen i Gwendolen gofrestru ei llety gwely a brecwast a bydd angen iddi gwblhau’r broses gofrestru erbyn 6 Chwefror 2028, gan mai ar y diwrnod hwnnw y bydd hi’n dechrau cynnig darparu llety ymwelwyr mewn lleoliad yng Nghymru. Gallai Gwendolen hefyd gofrestru unrhyw bryd hyd at 30 diwrnod cyn 6 Chwefror 2028.
Os fydd ACC yn derbyn cofrestriad
Pan fydd darparwr llety ymwelwyr yn gwneud cais i gofrestru ac yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol, bydd rhaid i ACC eu cofrestru os nad ydynt eisoes wedi cofrestru. Bydd ACC hefyd yn cyhoeddi hysbysiad i'r person i ddweud eu bod wedi'u cofrestru.
Os fydd ACC yn gwrthod cofrestriad
Gall ACC benderfynu peidio â chofrestru person, er enghraifft, os nad yw’r holl fanylion am y darparwr llety neu'r lleoliad wedi’u rhoi.
Bydd ACC yn hysbysu'r person i egluro pam nad ydynt wedi'u cofrestru ac i ddweud sut y gallant geisio adolygiad o'r penderfyniad hwnnw neu wneud apêl.
Os ydych wedi cyflwyno eich ffurflen gofrestru i ACC ond heb gael yr un o’r canlynol hyd yma:
- hysbysiad i gadarnhau eich cofrestriad, neu
- hysbysiad i ddweud bod ACC wedi penderfynu peidio â'ch cofrestru
cewch fynd ati i ddarparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr yn y cyfnod rhwng cyflwyno eich ffurflen gofrestru a dyddiad yr hysbysiad gan ACC heb fod yn ddarostyngedig i ddirwy am fethu â chofrestru.
Cofrestriadau gan ACC
Os nad yw darparwr llety ymwelwyr wedi cofrestru, a’u bod heb gyflwyno ffurflen gofrestru i ACC, gall ACC gofrestru'r person dan sylw.
Dim ond os yw ACC o’r farn bod y person yn bodloni’r canlynol y cânt gofrestru person:
- eu bod yn darparu llety ymwelwyr ar hyn o bryd, neu
- eu bod wedi darparu llety ymwelwyr yn y 14 diwrnod diwethaf
Cyn y gall ACC gofrestru person a chreu cofnod ar y gofrestr gyhoeddus, bydd yn cyhoeddi hysbysiad i'r person dan sylw sy'n nodi:
- pa wybodaeth y mae ACC yn bwriadu ei chynnwys yn y cofnod
- pa wybodaeth ofynnol y mae ar ACC ei angen i gwblhau’r cofnod
- unrhyw wybodaeth o’r cofnod a allai fod yn anghywir yn nhyb ACC
- y dyddiad pan fydd ACC yn creu’r cofnod ar y gofrestr, oni fydd y person yn cwblhau'r ffurflen gofrestru ei hun cyn y dyddiad hwnnw, neu os yw ACC yn fodlon nad oes angen i'r person gofrestru, a
- gwybodaeth sy'n ymwneud ag adolygiadau ac apeliadau mewn perthynas â'r hysbysiad
Ni all ACC wneud cofnod ar y gofrestr nes y bydd o leiaf 14 diwrnod wedi bod ers cyhoeddi'r hysbysiad y cyfeirir ato uchod.
Pan fo ACC wedi cofrestru person, bydd y cofnod ar y gofrestr yn nodi mai ACC gofrestrodd y person. Ni fydd y dangosydd hwn yn cael ei ddangos ar y cofnod os bydd y darparwr llety ymwelwyr yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i ACC yn nes ymlaen, gan fodloni ACC bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir.
Ni fydd person sydd wedi’u cofrestru gan ACC yn cael eu hystyried fel person wedi cofrestru at ddibenion cosbau am fethu â chofrestru. Mae hyn yn golygu y gallant wynebu cosbau am fethu â chofrestru nes y byddant yn rhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i greu cofnod cyflawn a chywir i ACC. Os nad oes angen am fwy o wybodaeth, bydd angen iddynt gadarnhau bod y cofnod ar y gofrestr yn gyflawn ac yn gywir, neu wneud cais i gael eu tynnu oddi ar y gofrestr.
