Neidio i'r prif gynnwy

Yn achos taliadau plant sy’n dechrau cael oriau o dan y Cynnig Gofal Plant o fis Ionawr 2023 ymlaen, rhaid defnyddio’r gwasanaeth digidol hwn.

Cyn i chi ddechrau

I agor cyfrif, rhaid sicrhau bod eich lleoliad gofal plant wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (neu Ofsted, os ydych chi wedi’ch lleoli yn Lloegr).

Dylai un person arweiniol gofrestru pob lleoliad ar wasanaeth newydd Cynnig Gofal Plant Cymru.

Dylech fod yn aelod presennol o staff sydd â’r awdurdod i:

  • gael gwybodaeth am y gwasanaeth Cynnig Gofal Plant a’i rannu ag aelodau eraill o staff
  • derbyn y telerau ac amodau a’r hysbysiadau preifatrwydd
  • cymeradwyo ceisiadau i ymuno â’r lleoliad gan aelodau pellach o staff

Y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi agor cyfrif Porth y Llywodraeth.

Os ydych chi wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), bydd angen arnoch:

  • Rif Cofrestru AGC eich lleoliad
  • eich RhALl (Rhif Achos y Lleoliad), dewch o hyd iddo ar AGC ar-lein ac ar ohebiaeth gan AGC
  • cod post cofrestredig eich lleoliad
  • y cyfrif banc i gael y taliadau Cynnig Gofal Plant

Os ydych wedi cofrestru yn Lloegr ac felly wedi cofrestru ag Ofsted, bydd angen arnoch:

  • Rif Cofrestru Ofsted eich lleoliad (os nad ydych chi’n gwybod eich rhif Ofsted, cysylltwch â’r awdurdod lleol yng Nghymru rydych chi mewn cyswllt ag ef fel arfer)
  • y cyfrif banc i gael y taliadau Cynnig Gofal Plant

Os oes gennych fwy nag un lleoliad

Gallwch gofrestru sawl lleoliad ar y gwasanaeth digidol. Bydd angen i chi gofrestru pob lleoliad yn unigol. Wedi i chi gwblhau’r broses gofrestru ar gyfer y lleoliad cyntaf, cewch opsiwn i gofrestru rhagor o leoliadau.

Cofrestru ar-lein

Ar ôl cofrestru

Bydd eich cais cofrestru yn cael ei adolygu gan eich awdurdod lleol. Os caiff eigymeradwyo, bydd PIN actifadu yn cael ei anfon atoch. Defnyddiwch hwn i
actifadu’ch lleoliad.