Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru i adolygu’r modd y gweithredir ein system gyfiawnder ac i bennu gweledigaeth hirdymor ar ei chyfer. I’n cynorthwyo rydym yn gwahodd syniadau gan aelodau y cyhoedd ar sut i wella cyfiawnder troseddol, cyfiawnder sifil a mynediad am gyfiawnder. Mae modd i chi gyfrannu tuag at hyn gyda’r ymarfer casglu data yma.

Data personol

Yn ôl diffiniad y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, mae data personol yn cynnwys ‘any information relating to an identifiable person who can be directly or indirectly identified by reference to an identifier’. Nid yw'r ymarfer casglu data yn gofyn yn benodol am ddata personol adnabyddadwy, ond gall cyfranwyr cyfrannu data personol drwy'r cwestiwn penagored.

Sail gyfreithiol prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw’n tasg gyhoeddus, hynny yw ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Mae unigolion yn cymryd rhan yn y broses ar sail wirfoddol.

Storio data

Cesglir data ar gyfer yr ymarfer hwn ar ffurf arolwg ar-lein lle gall data gael eu lawrlwytho gan nifer gyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw ddata personol adnabyddadwy yn cael eu dileu gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru cyn i ddata cyfunol gael eu trosglwyddo i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Ar ddiwedd yr ymarfer casglu data hwn (diwedd mis Chwefror 2019), caiff pob ymateb unigol ei ddileu a dim ond data lefel grŵp fydd yn cael eu cadw.

Hawliau unigol

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, mae gennych yr hawliau canlynol o ran y wybodaeth personol rydych yn ei rhoi fel rhan o'r gwerthusiad hwn:

  • Hawl mynediad (gofyn am gopi o'ch data eich hun)
  • Yr hawl i gywiro (cywiro gwybodaeth sy'n anghywir)
  • Yr hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.

Gallwch hefyd gysylltu â'r:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen cwyn am Lywodraeth Cymru.

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.

Cysylltu

Os hoffech drafod y broses o storio a phrosesu eich data, gallwch e-bostio'r swyddog diogelu data ar gyfer meddalwedd yr arolwg yn af@foyentorkildsen.no neu gallwch gysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru (SwyddogDiogeluData@llyw.cymru). O ran yr hawl olaf yn y rhestr a nodir uchod, gallwch gysylltu â:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Churchill House
17 Churchill Way
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn:

029 2067 8400 / 0303 123 1113