Neidio i'r prif gynnwy

Mae Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwryain Cymru heddiw (16 Gorffennaf) wedi cyhoeddi adroddiad, yn rhoi amlinelliad o’r prif ganfyddiadau a’r casgliadau newydd a fydd yn fframio yr argymhellion yn y dyfodol i fynd i’r afael â thagfeydd ar yr M4.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn dilyn gwaith dadansoddi manwl a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid.    

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar y gyfres o argymhellion terfynol yn seiliedig ar y casgliadau newydd, a chaiff y rhain eu cyflwyno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.

Meddai yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru: 

Rydym wedi gweld bod y tagfeydd ar yr M4 yn broblem oriau brig yn bennaf, yn gysylltiedig â chymudo.  Ychydig o ddewisiadau credadwy sydd gan bobl o ran trafnidiaeth gyhoeddus am y mathau o siwrneau y mae angen iddynt eu gwneud.  

Mae Covid-19 wrth gwrs wedi lleihau traffig yn sylweddol, er bod lefelau yn cynyddu’n araf tuag at y lefel cyn Covid.  Nid ydym yn credu bod Covid-19 yn newid y broblem o dagfeydd yn sylfaenol, a’n prif ffocws o hyd yw awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael ag ef.  Fodd bynnag, blaenoriaeth newydd yw ysytried effaith Covid-19, yn enwedig y posibilrwydd bod mwy o weithio o bell.  

Ar y cyfan, ein barn yw bod angen rhwydwaith integredig o opsiynau eraill ar gyfer trafnidiaeth yn y rhanbarth sydd ddim yn dibynnu ar y draffordd.  Ein ffocws nawr bellach yw penderfynu ar y gwasanaethau trafnidiaeth ddylai lunio rhan o’r rhwydwaith trafnidiaeth hwn, yn enwedig gorsafoedd rheilffordd newydd, gwasanaethau bws dibynadwy a llwybrau beicio newydd.