Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am berfformiad contractwyr a chydnabod arferion da ar gyfer Hydref 2019 i Fedi 2020.

Cyflwynwyd y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd fel rhan o'r broses o ddiwygio contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2019-20. Mae'n disodli'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, a gyflwynwyd yn wreiddiol yn 2004.

O ganlyniad i effaith pandemig coronafeirws (COVID-19), cafodd trefniadau adrodd y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd ar gyfer 2019-20 eu hatal a phennwyd y lefel gyflawniad i bwyntiau llawn. Felly, ni chaiff data ar gyflawniad eu cyflwyno yn y cyhoeddiad hwn.

Cyflwynir data mynychder clefydau ar gyfer cofrestrau a bennir yn y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd mewn offeryn rhyngweithiol newydd.

Prif bwyntiau

  • Gorbwysedd sydd â'r gyfradd mynychder uchaf yng Nghymru, gyda 15.9% o gleifion ar restrau meddygon teulu ar y gofrestr hon.
  • Roedd 7.8% o gleifion 17 oed neu fwy, a gofrestrwyd i feddygon teulu yng Nghymru ar y gofrestr diabetes mellitus.
  • Roedd 2.4% o'r cleifion a gofrestrwyd i feddygon teulu yng Nghymru ar y gofrestr clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.