Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ac mae'n seiliedig ar gyngor presennol y DU sy'n gysylltiedig â pandemig y Coronafeirws. Rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraethau eraill y DU i sicrhau dull gweithredu cyson sy'n cael ei arwain gan iechyd y cyhoedd wrth ymdrin â sefyllfa'r Coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Cyhoeddir canllawiau cyffredinol y Coronafeirws gennym ni ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ein gwefannau priodol, ac mae’r canllawiau hyn yn cael eu diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cael gwybod am y camau y bydd angen eu cymryd, ac ystyrir na fydd unrhyw newidiadau y mae angen eu gweithredu yn effeithio ar y gofynion ar gyfer achredu rhaglenni o ystyried yr amgylchiadau eithriadol y mae COVID-19 yn eu cyflwyno.

Mae'r canllawiau hyn yn ddiweddariad i Coronafeirws (COVID-19): Canllawiau dros dro ar gyfer partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) 2020 a gyhoeddwyd ar 9 Ebrill 2020 a bydd diweddariadau'n parhau i gael eu darparu os bydd unrhyw newidiadau.

Rhaid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r canllawiau blaenorol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020 a mis Mehefin 2020 a'r bwriad yw rhoi manylion am y diwygiadau ychwanegol i'r gofynion ar gyfer partneriaethau AGA yng ngoleuni'r sefyllfa sy’n parhau o ran COVID-19.

Byddwn yn parhau i gael trafodaethau gyda phartneriaethau AGA ar faterion penodol sydd heb eu cynnwys yn y canllawiau a gyhoeddwyd, a bydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi yn ôl y gofyn.

Derbyniadau: gofynion mynediad 2021 i 2022

Bydd y recriwtio ar gyfer carfan 2021/22 yn parhau er mwyn sicrhau parhad yn y ddarpariaeth.

Bydd y diwygiadau i brosesau a gofynion mynediad a ddaeth i rym ar gyfer cylch recriwtio 2020/21 yn parhau ar gyfer cylch 2021/22.

Lleoliadau a phrofiad mewn ysgolion

Mae’r Meini Prawf Achredu yn nodi ei bod yn ofynnol i fyfyrwyr gael 24 wythnos (120 diwrnod) o brofiad mewn ysgol, ac o dan amgylchiadau arferol byddai hyn yn cael ei gyflwyno drwy ddysgu wyneb yn wyneb. Mae'r gofyniad hwn wedi'i leihau i isafswm o 90 diwrnod o brofiad mewn ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21. Dylai Partneriaethau AGA barhau i ymdrechu i basio'r isafswm o 90 diwrnod lle bynnag y bo modd. Yn ogystal, bydd y gofyniad i’r profiad mewn ysgol gael ei wneud mewn dau leoliad gwahanol yn cael ei atal dros dro.

Nid y profiad o ddysgu wyneb yn wyneb yn unig sydd ei angen i gyflwyno profiad ysgol. Gall myfyrwyr gael profiad o gyfuniad o wersi wyneb yn wyneb, lle bynnag y bo modd, a hefyd gwersi cydamserol neu anghydamserol. Mae gan bartneriaethau AGA y disgresiwn i ddiffinio’r profiad ysgol, er bod rhaid cael cyfran briodol o brofiad yn yr ystafell ddosbarth drwy ba ddull bynnag sydd ar gael. Dylai partneriaethau AGA sicrhau bod y ffocws o hyd ar ansawdd y profiad y gall myfyrwyr ei gael, a'r cyfleoedd i ddatblygu eu hunaniaeth addysgu a'u gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu.

Dylai partneriaethau AGA:

  • sicrhau bod y gwaith o arsylwi a chraffu ar y dystiolaeth sydd ei hangen i ddangos y safonau yn drylwyr ac yn gadarn, partneriaethau unigol fydd yn penderfynu ar y dulliau a ddefnyddir
  • bod â'r hyblygrwydd i ailgynllunio rhaglenni i ddiwallu anghenion myfyrwyr tra'n glynu wrth egwyddorion y profiad dysgu fel y nodir yn y meini prawf
  • parhau i weithio'n agos gydag ysgolion partner i ddatblygu cynlluniau i alluogi'r ddarpariaeth hon i gael ei chyflawni
  • rhoi gwybod i ni a Chyngor y Gweithlu Addysg am unrhyw ddiwygiadau arwyddocaol y maent yn bwriadu eu gwneud i'w rhaglenni i ymateb i'r heriau hyn, mae'n dal i fod yn ofynnol cynnal deialog barhaus rhwng partneriaethau, Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg

Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar dybiaeth y bydd cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrofiad wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth cyn diwedd y flwyddyn academaidd. Os bydd cyfnod estynedig o gau ysgolion ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, yna dylai’r profiad yn yr ystafell ddosbarth barhau drwy ddulliau cydamserol/anghydamserol, a bydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi.

Materion diogelu

Darllenwch ein canllawiau ar gyflwyno gwersi ar-lein.

Mae'r canllawiau hyn yn dweud mai cyfarpar yn yr ysgol yn unig y dylid eu defnyddio wrth gynnal gwersi ar-lein. Er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau o ran argaeledd cyfarpar mewn ysgolion ar gyfer myfyrwyr AGA, cytunwyd y gallant ddefnyddio offer personol i gymryd rhan mewn gwersi ar-lein ar yr amod bod y sesiwn yn cael ei harwain gan athro cymwysedig sydd â mynediad at gyfarpar yn yr ysgol.

Paratoi ar gyfer ymsefydlu: trefniadau asesu a dyfarnu SAC ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021

Bydd partneriaethau AGA:

  • yn parhau i fod yn gyfrifol am asesu myfyrwyr am eu haddasrwydd ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC)
  • yn ymgymryd â'r asesiad hwn gan ddefnyddio eu sgil a'u crebwyll proffesiynol ynghylch a yw myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth ei fod yn bodloni'r safonau gofynnol, cydnabyddir efallai na fydd myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth lawn o'r gofynion yn erbyn pob safon ond dylai partneriaethau fodloni eu hunain bod digon o dystiolaeth ar gael i gefnogi dyfarnu SAC

Er mwyn sicrhau bod y garfan hon o athrawon newydd gymhwyso yn cael y cymorth priodol ar ddechrau eu blwyddyn ymsefydlu (2021/22), bydd angen i bartneriaethau AGA ddilyn y camau a nodir isod cyn diwedd y flwyddyn academaidd hon (2020/21):

  • asesu bylchau yng ngwybodaeth a sgiliau’r athro/athrawes dan hyfforddiant, a'r camau gofynnol i'w datrys, yn ôl disgresiwn y bartneriaeth AGA. Gall partneriaethau gynnal asesiadau o'r fath yn seiliedig ar eu crebwyll a'u harbenigedd proffesiynol
  • sicrhau bod unrhyw fylchau yng ngwybodaeth a sgiliau’r athro/athrawes dan hyfforddiant oherwydd y pandemig COVID-19 yn cael eu nodi, gan argymell camau gweithredu a thargedau clir a hylaw, bydd hyn yn caniatáu i'r cymorth priodol fod ar gael ar ddechrau'r cyfnod ymsefydlu
  • helpu’r myfyrwyr i gwblhau'r Proffil Dechrau Gyrfa (PDG) ar-lein, gan sicrhau bod PDG myfyriwr wedi'i gyd-ysgrifennu ac yn adlewyrchiad cywir o anghenion datblygu unigol y myfyriwr
  • hysbysu’r myfyrwyr am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael y cymorth unigol gan y consortia rhanbarthol sydd ei angen arnynt yn ystod eu blwyddyn ymsefydlu. Mater i athrawon dan hyfforddiant yw sicrhau eu bod wedi cymryd y camau priodol sydd eu hangen er mwyn cael gafael ar y cymorth a ddarperir gan y consortia rhanbarthol

Cymorth i fyfyrwyr sy'n dechrau’r cyfnod ymsefydlu ym mis Medi 2021

ydnabyddir y bydd angen cymorth ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dechrau’r cyfnod ymsefydlu ym mis Medi 2021 i fodloni'r gofynion a nodir yn eu proffil dechrau gyrfa uwch. Byddwn yn parhau i weithio gyda Phartneriaethau AGA ac Arweinwyr Sefydlu Consortia Rhanbarthol i ddatblygu pecyn cymorth i'r myfyrwyr hyn. Byddwn yn nodi'r adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen ar ysgolion i ddarparu cymorth penodol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, a byddwn yn ceisio rhoi cymorth ariannol i ysgolion i'w galluogi i gyflawni hyn.

Cymorth i athrawon dan hyfforddiant na ddyfarnwyd SAC iddynt ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021

Mae’r asesiad o addasrwydd ar gyfer SAC yn digwydd yn ôl disgresiwn y bartneriaeth AGA, a gall partneriaethau gynnal asesiadau o'r fath yn seiliedig ar brosesau asesu, crebwyll proffesiynol ac arbenigedd eu sefydliad.

Mae gan bartneriaethau AGA y disgresiwn i beidio â dyfarnu SAC i fyfyriwr yn seiliedig ar lefel eu llwyddiant, neu lwybr clir o ran llwyddiant, yn y naill neu'r llall o’r canlynol:

  • gwaith academaidd
  • tystiolaeth o fodloni, yn llwyr neu'n rhannol, ddisgrifyddion SAC y safonau o'u profiad addysgu, hyd yn oed lle nad yw'r rhain yn cyrraedd y trothwy 24 wythnos

Nid ydym am i unrhyw fyfyriwr fod o dan anfantais oherwydd effaith COVID-19, ac fe fyddwn yn ceisio rhoi cymorth i'r myfyrwyr sy’n gorfod ymgymryd â phrofiad pellach er mwyn ennill SAC. Bydd rhagor o fanylion i ddilyn pan fydd tystiolaeth am y garfan hon ar gael.

Cymorth i athrawon dan hyfforddiant na ddyfarnwyd SAC iddynt ac na allant ddychwelyd i ardal eu partneriaeth AGA

Efallai y bydd rhai athrawon dan hyfforddiant heb ennill SAC nad ydynt yn gallu manteisio ar y cyfle i orffen eu lleoliad profiad addysgu fel y nodir yn yr adran uchod. Gall y rhain fod yn athrawon dan hyfforddiant sy'n byw gryn bellter o'u partneriaeth AGA, er enghraifft myfyrwyr rhyngwladol.

Rydym am gefnogi ein hathrawon dan hyfforddiant gymaint â phosibl a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaethau AGA i adnabod y garfan benodol hon a'r ffordd orau y gallwn eu cefnogi fesul achos, o dan ddull cyffredin i sicrhau cysondeb a thegwch.

ANG nad ydynt wedi ennill statws cyflogaeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod unrhyw ANG sydd wedi methu sicrhau cyflogaeth neu sy'n ymuno â'r sector cyflenwi yn gallu cael cynnig y cyfle i gwblhau unrhyw ofynion ychwanegol y cytunir arnynt gan bartneriaethau AGA yn eu PDG.

Myfyrwyr AGA ac ysgolion

Atgoffwyd Awdurdodau Lleol ac ysgolion bod caniatâd i fyfyrwyr AGA gael mynediad i ysgolion lle y bo'n briodol ac y dylid eu hystyried yn rhan o'r gweithlu ac nid fel ymwelwyr. I'r perwyl hwn, dylid rhoi'r un darpariaethau iddynt ag y gall y gweithlu presennol eu defnyddio mewn perthynas â threfniadau ar gyfer COVID-19.

Rydym wedi cyhoeddi rhestr o weithwyr hanfodol, sy’n cynnwys staff addysgu ac at ddibenion y canllawiau hyn mae hefyd yn cynnwys myfyrwyr AGA.

Yn dilyn y cyhoeddiad am ailagor ysgolion yn rhannol ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb o 22 Chwefror ymlaen, dyma gadarnhau y dylai myfyrwyr sydd ar leoliad gael eu hystyried yn rhan o'r gweithlu. Mae hyn yn golygu eu bod hefyd yn gymwys i gael y Profion Llif Unffordd ddwywaith yr wythnos sy'n cael eu darparu.

Myfyrwyr AGA: profion cyflym mewn ysgolion yn ystod eu lleoliad

Dyma gadarnhau nad yw'n ofynnol i fyfyrwyr AGA gynnal profion COVID ar ddysgwyr yn ystod eu lleoliad mewn ysgol. Yr unig eithriad yw'r rhai ar lwybr TAR Cyflogedig gan fod ganddynt gytundeb cyflogaeth gyda'r ysgol; dim ond yn ystod eu hamser 'cyflogaeth' y dylid gwneud unrhyw waith profi, ac nid yn ystod yr amser TAR a neilltuwyd iddynt.

Ystyriaethau ar gyfer carfan 2020 i 2021

Rydym yn monitro'r sefyllfa'n rheolaidd yn unol â'r cyngor gwyddonol diweddaraf, ac yn cydnabod y gall fod angen rhywfaint o hyblygrwydd, fel y gwelwyd i garfan 2020/21, hefyd i garfan 2021/22. Byddwn yn parhau i gynnig cymorth priodol ar gyfer ein partneriaethau a/neu ein hathrawon dan hyfforddiant.

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n rheolaidd yn unol â'r cyngor gwyddonol diweddaraf.

Bydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi yn unol ag unrhyw newidiadau i gyngor gan y cyrff perthnasol.

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaethau AGA i ddatblygu canllawiau pellach lle bo angen. Byddwn yn cynnal cyfarfodydd bob pythefnos gyda phartneriaethau AGA, gan gynnwys aelodau eraill o'r haen ganol o bosib, er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â datblygiadau, diweddariadau ac unrhyw faterion sy'n codi.

Rhaid i bartneriaethau AGA roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw faterion eraill sy'n codi yn ystod y cyfnod hwn fel y gellir cyhoeddi canllawiau pellach.

Am y cyngor diweddaraf un, edrychwch ar llyw.cymru/coronafeirws