Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymchwil defnyddwyr ar greu Cymru fwy cyfartal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Hoffai Tîm Ymchwil Defnyddwyr Llywodraeth Cymru ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd i gasglu barn a chanfyddiadau ynghylch sut i greu Cymru fwy cyfartal. 

Bydd y Tîm yn cynnal Ymchwil Defnyddwyr ar ran y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Nod y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yw cael gwared ar anghydraddoldebau a brofir gan bobl anabl mewn cymdeithas, y tu hwnt i bandemig COVID-19. Mae'r Tasglu yn ystyried yr argymhellion allweddol sydd eu hangen i sicrhau gwelliannau i blant ac oedolion anabl yng Nghymru, y bydd Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus ehangach a phobl anabl yn gweithio gyda'i gilydd i'w cyflawni.

Mae eich cyfranogiad yn y gwaith ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol, ond bydd y safbwyntiau a'r profiadau a ddarperir gennych yn bwysig iawn er mwyn i ni wybod beth sydd ei angen arnoch i gael gafael ar yr wybodaeth a'r cymorth sydd ar gael i chi.

Fel rhan o'r gwaith ymchwil, bydd angen i'r Tîm Ymchwil Defnyddwyr gasglu'r wybodaeth bersonol a chategori arbennig canlynol:

  • enw
  • e-bost personol/gwaith (eich dewis)
  • a oes gennych amhariad neu beidio
  • eich oedran
  • eich rhyw
  • eich ethnigrwydd
  • eich lleoliad
  • eich delwedd (llun neu fideo)
  • eich llais (fideo a/neu sain)
  • unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble y daw’r wybodaeth hon?

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Pan fo'r wybodaeth yn gyfystyr â data categori arbennig, byddwn yn ei phrosesu er budd sylweddol y cyhoedd o sicrhau cyfle cyfartal fel y nodir yn y Canllawiau GDPR.

Ni fydd unrhyw ddata personol a roddwch ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn cael eu rhannu y tu hwnt i aelodau staff Llywodraeth Cymru o'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl neu'r Tîm Ymchwil Defnyddwyr. Ni fydd y data yn cael eu defnyddio ganddynt hwy na Llywodraeth Cymru at unrhyw ddiben arall.

Y gweithgareddau y gallech fod yn rhan ohonynt yw llenwi arolwg a chyfweliad rhithwir.

Hoffai'r Tîm Ymchwil Defnyddwyr recordio cyfweliadau rhithwir (techneg a ddefnyddir i gael gafael ar sylwadau gan gyfranogwyr). Bydd hyn yn cael ei wneud yn glir i chi cyn y sesiwn. Os nad ydych am gael eich recordio, bydd gennych yr opsiwn i ddewis peidio ar ddechrau'r cyfweliad neu'r sesiwn brawf. Byddwch yn dal i allu cymryd rhan ac ni fyddwch yn cael eich adnabod o'ch sylwadau.

Os byddwch yn dewis rhoi rhagor o ddata personol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch enw â'r ymatebion hynny. Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n cwyno ac yn rhoi data personol er mwyn gallu cael ymateb, bydd yr ymchwilydd yn eu hanfon ymlaen at y swyddog perthnasol ac yn eu dileu maes o law o gronfa ddata’r ymchwil.

Bydd recordiadau yn cael eu dileu cyn gynted ag y bydd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi cael yr holl awgrymiadau ac nad oes angen y recordiadau mwyach. Ni fydd data personol yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol a byddant yn cael eu dileu yn ystod cam dadansoddi'r cyfweliadau rhithwir. Bydd unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi'u dileu yn cael eu dileu dri mis ar ôl i'r prosiect ddod i ben.

Hawliau unigolion

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i'r canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch a’u gweld
  • i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os ydych yn dymuno cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, cewch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru.

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Fodd bynnag, byddwn yn delio â chais sut bynnag byddwch chi'n cysylltu â ni.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House, 
Water Lane, 
Wilmslow, 
Cheshire, 
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Yr enwau cyswllt yw: