Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'gwybodaeth gorfforaethol' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch ar gyfer gwybodaeth gorfforaethol ynghylch sefydliad sydd â thudalen sefydliad. Er enghraifft:

  • diben y sefydliad
  • safonau gwasanaeth
  • Cylch gorchwyl

Peidiwch â'i ddefnyddio ar gyfer deunyddiau a gynhyrchir fel rhan o waith y sefydliad fel:

  • cyhoeddiadau
  • canllawiau
  • cyhoeddiadau
  • gwybodaeth gyffredinol ynghylch y gwasanaethau

Sut i'w greu

Creu gwybodaeth gorfforaethol newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Corporate information.
  5. Llenwch y maes Title.
  6. Llenwch y maes Summary.
  7. Os ydych am rannu eich cynnwys yn adrannau, dewiswch Add Content Section.
  8. Llenwch y maes  Section title.
  9. Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
  10. Os ydych am ychwanegu mwy o adrannau cynnwys, ewch drwy gamau 6 i 8 eto.
  11. Cwblhewch y maes EXTERNAL ORGANISATION  gyda'r sefydliad perthnasol.
  12. Rhowch Review Date.
  13. Dewiswch Save and Create New Draft.
  14. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  15. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  16. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  17. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  18. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Golygu gwybodaeth gorfforaethol presennol

  1. Dewch o hyd i'r wybodaeth gorfforaethol bresennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y dudalen gwybodaeth gorfforaethol.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y wybodaeth gorfforaethol.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar wybodaeth gorfforaethol.

Paragraphs: related links

Dilynwch ddiffiniad dolenni perthnasol i ychwanegu dolenni perthnasol.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar wybodaeth gorfforaethol. 

Paragraphs: contact details

Peidiwch â defnyddio'r paragraff manylion cyswllt ar wybodaeth gorfforaethol. 

Paragraphs: launcher

Peidiwch â defnyddio'r paragraff lansiwr ar wybodaeth gorfforaethol

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.