Sut dylech ysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU.
A
A*
Y radd uchaf mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch. Defnyddiwch y symbol * ac nid y gair 'seren'.
adran
Llythrennau bach heblaw mewn teitl: yr Adran Gwaith a Phensiynnau.
addysg bellach (AB)
Llythrennau bach.
Addysg gorfforol neu AG
Gallwch ddefnyddio’r enw llawn, neu'r blaenlythrennau, os yw hi'n amlwg am beth yr ydych yn sôn.
addysg grefyddol
Llythrennau bach.
addysg gychwynnol i athrawon
Llythrennau bach.
addysg uwch (AU)
Llythrennau bach.
Aelod o'r Senedd (AS)
Priflythrennau. Aelod Cynulliad (AC) yn flaenorol.
aelod-wladwriaeth yr UE
Llythrennau bach.
Agile
Priflythrennau wrth gyfeirio at y Maniffesto Agile a'r egwyddorion a'r prosesau, fel arall, llythrennau bach.
Yr Ail Ryfel Byd
Priflythrennau ac ysgrifennu'r rhif allan yn llawn.
Agored i niwed
Peidiwch â'i ddefnyddio i gyfeirio at bobl anabl. Gall unrhyw un fod yn agored i niwed am wahanol resymau ar wahanol adegau yn eu bywydau. Yn aml caiff pobl anabl eu disgrifio fel agored i niwed ac yn aml mae hyn yn anghywir ac nid yw'n helpu i hybu cydraddoldeb.
anghenion addysgol arbennig neu anghenion addysgol arbennig ac anabledd (AAA)
Llythrennau bach, ond defnyddiwch briflythrennau ar gyfer yr acronym.
Anghenion arbennig
Peidiwch â'i ddefnyddio. Gan ddibynnu ar y cyd-destun, defnyddiwch anghenion dysgu ychwanegol neu gofynion mynediad.
Ampersand
Defnyddiwch 'a/ac' yn hytrach na '&'. Nid yw’r ampersand byth yn dderbyniol yn y Gymraeg.
Anabledd
Y pethau y mae'r gymdeithas, yr amgylchedd neu bolisi yn gwneud i berson sydd â nam sy'n eu rhoi dan anfantais.
Nid yw nam ac anabledd yn golygu'r un peth.
Anabledd cudd
Peidiwch â'i ddefnyddio Defnyddiwch nam anweladwy.
Ardal Economaidd Ewropeaidd
Ceisiwch osgoi ei ddefnyddio gan nad yw'n adnabyddus iawn. Defnyddiwch 'yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein'.
Pan fo rheolau sy'n cynnwys yr Ardal Economaidd Ewropeaidd hefyd yn cynnwys y Swistir, defnyddiwch 'yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein’.
Yr arddulliadur
Canllawiau arddull ac iaith i gyfieithwyr Llywodraeth Cymru ac i gyfieithwyr sy’n gwneud gwaith i Lywodraeth Cymru. Dylech ddefnyddio’r arddulliadur ar y cyd â’r canllawiau hyn.
Arian
Defnyddiwch y symbol £: £75
Peidiwch â defnyddio degolion heblaw bod ceiniogau: £75.50 ond dim £75.00
Peidiwch â defnyddio £0.xx miliwn ar gyfer symiau llai na £1 miliwn.
Ysgrifennwch ceiniog yn llawn: bydd galwadau'n costio 4 ceiniog y funud o ffôn cartref.
athro newydd gymhwyso
Llythrennau bach.
awdurdod harbwr
Llythrennau bach, heblaw fel rhan o enw penodol: Awdurdod Harbwr Caerdydd.
awdurdod lleol
Llythrennau bach. Peidiwch â defnyddio ALl.
Defnyddiwch ‘awdurdod lleol’, yn hytrach na ‘cyngor lleol’ lle bo modd.
B
Bacs (Bankers Automated Clearing System)
Dylid defnyddio'r acronym yn gyntaf gan ei fod yn fwy adnabyddus na'r enw llawn. Nodwch fod yr acronym wedi newid i Bacs.
BBaChau
Mae'r acronym yn golygu busnesau bach a chanolig. Defnyddiwch BBaCh ar gyfer yr unigol.
Bagloriaeth Cymru
Teitl llawn yw Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC). Prif lythrennau.
Bagloriaeth Ryngwladol
Prif lythrennau.
BAME
Peidiwch â defnyddio hwn. Defnyddiwch pobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Ar gyfer unrhyw gyfeiriadau eraill ar yr un dudalen, defnyddiwch 'lleiafrifoedd ethnig' neu 'cymunedau lleiafrifoedd ethnig'.
blynyddoedd cynnar
Llythrennau bach.
Y Brenin
Prif lythrennau.
Brexit
Mae Brexit wedi digwydd. Defnyddiwch cyfnod pontio i gyfeirio at yr amser rhwng 1 Chwefror a 31 Rhagfyr 2020.
Byddar
Priflythyren, cyfeirio at bobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf neu eu dewis iaith. Mae hefyd yn ddiffiniad diwylliannol ar gyfer pobl sy'n rhan o'r gymuned Fyddar.
byddar
Llythrennau bach. Gall byddar ddisgrifio neu ddynodi unrhyw un sydd wedi colli ei glyw mewn unrhyw ffordd.
Bylchau
Un bwlch ar ôl atalnod llawn, nid 2.
C
cadeirydd y llywodraethwyr
Llythrennau bach.
canlyniadau profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol
Llythrennau bach.
canllawiau
Llythrennau bach. Canllawiau terminoleg Cymraeg.
Canllawiau arddull yn Saesneg
Mae canllawiau gwahanol ar gael ar ochr Saesneg y canllawiau hyn. Dylech ddefnyddio’r canllawiau Cymraeg wrth ysgrifennu yn Gymraeg a’r canllawiau Saesneg wrth ysgrifennu yn Saesneg gan fod rhag agweddau’n berthnasol mewn un iaith yn unig.
cenedlaethol
Llythrennau bach.
Yn cyfeirio at Gymru. Os yw'n faes polisi megis cyfiawnder, sy'n cynnwys Cymru a Lloegr, dylid cyfeirio ato fel 'Cymru a Lloegr'. Dylid cyfeirio at unrhyw faes polisi, er enghraifft lles neu amddiffyn, sy'n cynnwys y DU i gyd, fel polisi'r DU, mater i’r DU gyfan neu bolisi llywodraeth y DU.
cerdyn caffael y llywodraeth
Llythrennau bach.
CHAPS (Clearing House Automated Payment System)
Dylid defnyddio'r acronym yn gyntaf gan ei fod yn fwy adnabyddus na'r enw llawn.
Clic
Peidiwch â defnyddio 'clic' wrth sôn am ryngwynebau defnyddwyr, gan nad yw pob defnyddiwr yn clicio. Defnyddiwch 'dewiswch'.
clwy'r traed a'r genau
Llythrennau bach.
Cofrestr Mabwysiadu Cymru
Prif lythrennau.
y cod derbyn i ysgolion
Llythrennau bach.
cod ymarfer
Llythrennau bach.
Comisiwn Ewropeaidd
Peidiwch â'i dalfyrru i'w wahaniaethu o'r Gymuned Ewropeaidd. Ysgrifennwch allan yn llawn y tro cyntaf, yna defnyddiwch y Comisiwn.
Corff llywodraethu
Enw unigol. Mae’r corff llywodraeth yn cyfarfod heddiw. Bydd yn penderfynu pwy i benodi.
Corfforol abl
Peidiwch â’i ddefnyddio. Defnyddiwch person nad yw’n anabl.
coronafeirws (COVID-19)
Coronafeirws yw’r math o feirws sy’n achosi salwch COVID-19. Ceir sawl math o coronafeirws. Feirws SARS-CoV-2 sydd wedi achosi’r pandemig hwn, ac mewn rhai pobl mae wedi achosi’r salwch COVID-19.
Pan fo angen i chi gyfeirio ato yn y teitl, defnyddiwch ‘coronafeirws (COVID-19)’ oni bai bod y teitl dros 65 nod. Os yw’r teitl yn fwy na 65 nod, defnyddiwch ‘COVID-19’ yn unig. Os byddwch yn defnyddio ‘COVID-19’ yn unig yn y teitl, ystyriwch ddefnyddio ‘coronafeirws’ yn y crynodeb, fel bod y teitl a’r crynodeb gyda’i gilydd yn crybwyll y ddau.
Defnyddiwch ‘coronafeirws (COVID-19)’ yn y testun wrth gyfeirio ato am y tro cyntaf, yna ‘COVID-19’ wedi hynny.
Rhowch ‘coronafeirws’ mewn llythrennau bach. Defnyddiwch ‘COVID-19’ mewn priflythrennau yn unol â safonau Sefydliad Iechyd y Byd.
Peidiwch â defnyddio ‘Covid-19’ gyda phriflythyren, na ‘covid-19’ i gyd mewn llythrennau bach.
Cosb
Gweler dirwy.
Cromfachau
Defnyddiwch (gromfachau crwn), ac nid [cromfachau sgwâr]. Yr unig bryd y dylech ddefnyddio cromfachau sgwâr yw ar gyfer nodiadau esboniadol o fewn araith.
"Diolch [Weinidog Tramor] Mr Smith."
Peidiwch â defnyddio cromfachau crwn i gyfeirio at rywbeth a allai fod yn unigol neu'n lluosog 'Gwiriwch pa ddogfen(nau) y mae angen i chi eu hanfon at Daliadau Gwledig Cymru'.
Defnyddiwch y lluosog bob tro, gan y bydd hyn yn darparu ar gyfer pob achos: 'Gwiriwch pa ddogfennau y mae angen i chi eu hanfon at Daliadau Gwledig Cymru'.
Cronfa Cymorth Dewisol
Prif lythrennau.
cronfa ddata genedlaethol y disgyblion
Llythrennau bach.
Crynodebau
Gweler crynodebau.
crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad
Llythrennau bach i gyd.
Cwestiynau cyffredin
Dylech osgoi defnyddio cwestiynau cyffredin ar LLYW.CYMRU. Os dechreuwch ag anghenion y defnyddiwr wrth ysgrifennu cynnwys, fydd dim angen cwestiynau cyffredin arnoch.
cwricwlwm cenedlaethol
Llythrennau bach.
Cwricwlwm i Gymru
Prif lythrennau.
cydnerthu cymunedol
Llythrennau bach.
cyfarwyddwr
Llythrennau bach mewn testun. Prif lythrennau mewn teitlau.
cyfarwyddwr cyffredinol
Llythrennau bach.
cyfarwyddwr anweithredol
Llythrennau bach mewn testun, priflythrennau mewn teitlau: [enw], Cyfarwyddwr Anweithredol, [adran neu sefydliad].
cyfarwyddwr gweithredol
Llythrennau bach mewn testun. Prif lythrennau mewn teitlau.
Cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol
Prif lythrennau.
Cyfeiriad e-bost
Ysgrifennwch gyfeiriadau e-bost yn llawn, mewn llythrennau bach ac fel dolenni byw. Peidiwch â chynnwys unrhyw eiriau eraill yn y ddolen, er enghriafft labeli fel hyn:
- e-bost: enw@parth.gov.uk
Ni ddylid cyhoeddi cyfeiriadau e-bost personol. Defnyddiwch flwch e-bost cyffredinol.
Cyfnod Allweddol
Priflythrennau a rhifolyn: Cyfnod Allweddol 4.
cyfnod gweithredu
Llythrennau bach bob tro.
cyfnod pontio
Y cyfnod rhwng 1 Chwefror a 31 Rhagfyr 2020 lle mae'r DU a'r UE yn negodi eu perthynas i'r dyfodol. Peidiwch â defnyddio termau eraill.
Ar gyfer perthynas gyda'r UE defnyddiwch 'negodiadau ynglŷn â’r berthynas â’r UE yn y dyfodol'.
Llythrennau bach.
cyfnod sylfaen
Llythrennau bach.
cyfraith, y gyfraith
Llythrennau bach, hyd yn oed gyda 'y gyfraith'.
Cyfrif Twitter
Prif lythrennau. Mae Twitter yn enw nod masnach.
cyngor bwrdeistref sirol
Llythrennau bach heblaw mewn enw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
cyngor cymuned
Llythrennau bach heblaw mewn enw: Cyngor Cymuned Pentyrch.
cyngor tref
Llythrennau bach, heblaw fel rhan o enw: Cyngor Tref Aberhonddu.
Cymraeg clir
Priflythrennau yn enw'r ymgyrch, llythrennau bach fel arall.
Defnyddiwch Gymraeg clir, mae'n haws i ddefnyddwyr ei ddarllen a'i ddeall.
Peidiwch â defnyddio geiriau hir a ffurfiol pan fydd rhai byr a hawdd yn gwneud y tro. Defnyddiwch frawddegau byr.
Ry'n ni'n colli hyder pobl drwy ddefnyddio jargon y llywodraeth. Yn aml, mae'r geiriau hyn yn rhy gyffredinol ac amwys, a gallant arwain at gamddehongli neu destun dibwrpas.
cymorth cyfreithiol
Llythrennau bach.
cynllun addysg unigol
Llythrennau bach.
cynllun busnes
Llythrennau bach. Peidiwch â defnyddio priflythrennau, hyd yn oed mewn teitl cyhoeddiad cynllun busnes.
cynllun datblygu unigol
Llythrennau bach.
cynllun datblygu ysgol
Llythrennau bach.
cyllid a chaffael
Llythrennau bach.
Cymhwyster Prosiect Estynedig
Prif lythrennau.
Cynghorau
Defnyddiwch 'awdurdod lleol' i gyfeirio at y cynghorau.
cyngor lleol
Llythrennau bach.
Defnyddiwch awdurdod lleol, yn hytrach na cyngor lleol lle bo modd.
cynllun mewn argyfwng
Llythrennau bach.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gweler Senedd Cymru.
Cynulliad Cymru
Peidiwch â defnyddio Cynulliad Cymru.
Y 2 sefydliad yw Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru.
Cyn ysgol
Dau air.
Cysylltnodi
Ar gyfer amrediad, defnyddiwch air yn hytrach na chysylltnod. Er enghraifft, defnyddiwch '18 i 20 oed'.
Yn gyffredinol, mae angen cysylltnod mewn geiriau cyfansawdd pan fydd yr ail elfen yn air unsill. Nid oes angen cysylltnod pan fydd mwy nag un sill yn yr ail elfen.
Er enghraifft:
- ail-greu ond ailddefnyddio
- cam-drin ond camddefnyddio
Yr eithriad cyffredin yw pan fydd llythyren yn cael ei hailadrodd:
- ad-daliad
Trowch at restr ar-lein Comisiynydd y Gymraeg o enwau lleoedd safonol Cymru i sicrhau bod cysylltnodau’n gywir mewn enwau lleoedd.
Ch
chweched dosbarth
Llythrennau bach.
D
Daear, y Ddaear
Prif lythrennau ar gyfer y Ddaear a gwyddorau'r Ddaear.
Daearyddiaeth a rhanbarthau
Mae cyfeiriadau'r cwmpawd i gyd mewn llythrennau bach, ond wrth gyfeirio at ardaloedd o Gymru, dylid defnyddio priflythyren: gogledd Cymru / y Gogledd, de Cymru / y De.
Mae'r un peth yn wir am ranbarthau geowleidyddol: y gorllewin, gorllewin Ewrop, y dwyrain pell, de-ddwyrain Asia.
Nodwch y canlynol: y Dwyrain Canol, Canolbarth America, Gogledd America, De America, America Ladin.
Gallwch ddefnyddio priflythyren ar gyfer fersiwn wedi'i byrhau o ardal neu ranbarth os caiff ei adnabod yn gyffredin yn ôl yr enw hwnnw, er enghraifft 'y Gwlff' am gwlff Persia. Os nad yw'n adnabyddus yn y cyfryngau ac ati, defnyddiwch lythrennau bychain, er enghraifft 'y culfor' am 'Culfor Hormuz'.
Mae Prydain Fawr yn cyfeirio at Gymru Lloegr a’r Alban, heb gynnwys Gogledd Iwerddon.
Os ydych yn dweud wrth ddefnyddwyr am nifer o ardaloedd, defnyddiwch: 'Cymru, Lloegr a’r Alban'.
Defnyddiwch y DU a'r Deyrnas Unedig yn hytrach na y DG a’r Deyrnas Gyfunol neu Prydain a Prydeinig (busnes y DU, polisi tramor, llysgennad ac uchel gomisiynydd y DU). Noder - llysgenhadaeth Prydain, nid llysgenhadaeth y DU.
Data
Enw lluosog. Nodwch fod data yn unigol yn Saesneg.
datganiad busnes
Llythrennau bach.
datganiad llafar
Llythrennau bach.
datganiad polisi
Llythrennau bach.
Debyd Uniongyrchol
Prif lythrennau.
deddf, deddf Senedd Cymru
Llythrennau bach. Defnyddiwch lythrennau mawr wrth ddefnyddio'r teitl llawn yn unig: Er enghraifft Gorchymyn Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
diploma
Llythrennau bach, heblaw ei fod yn rhan o deitl fel Diploma Edexcel L2 mewn TG.
dirprwy ysgrifennydd parhaol
Llythrennau bach mewn testun. Priflythrennau mewn teitlau: Owen Evans, y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dirwy
Defnyddiwch 'dirwy' yn hytrach na 'cosb ariannol'.
Er enghraifft, 'Byddwch yn talu dirwy o £50'.
Ar gyfer mathau arall o gosbau, dywedwch beth fydd yn digwydd i'r defnyddiwr - byddwch yn cael pwyntiau ar eich trwydded, mynd i'r llys, ac ati. Defnyddiwch 'cosb sifil' os oes tystiolaeth bod defnyddwyr yn chwilio am y term yn unig.
Disgrifiwch beth allai'r defnyddiwr orfod gwneud, yn hytrach na beth mae'r llywodraeth yn ei alw'n rhywbeth.
Diwrnod HMS
Priflythrennau.
Dolenni
Rhowch y termau perthnasol ar ddechrau testun y ddolen, a gwnewch yn siŵr ei fod yn weithredol a phenodol. Anfonwch bobl at wasanaethau ar-lein yn gyntaf. Cynigiwch ddewisiadau amgen all-lein, lle bo hynny'n bosib.
Gweler:
Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Defnyddiwch hwn. Peidiwch â defnyddio BAME. Ar gyfer unrhyw gyfeiriadau eraill ar yr un dudalen, defnyddiwch 'lleiafrifoedd ethnig' neu 'cymunedau lleiafrifoedd ethnig'.
Dyfynodau
Mewn darnau hir o araith, agorwch ddyfynodau ar gyfer pob paragraff, ond caewch y dyfynodau ar ddiwedd y paragraff olaf yn unig.
Defnyddiwch ddyfynodau sengl:
- mewn penawdau
- mewn dolenni
- mewn termau anarferol
- wrth gyfeirio at eiriau neu gyhoeddiadau, er enghraifft: 'Lawrlwythwch y cyhoeddiad 'Deall Treth ar Enillion Cyfalaf'.'
Defnyddiwch ddyfynodau dwbl mewn testun corff ar gyfer dyfyniadau uniongyrchol.
Defnyddiwch y fformat bloc dyfynnod ar gyfer dyfynodau sy'n hirach nag ychydig o frawddegau.
Dyddiadau ac amseroedd
Defnyddiwch briflythrennau ar gyfer misoedd: Ionawr, Chwefror. Os nad oes dyddiad, mae angen cynnwys y gair ‘mis’ ee ‘Bydd y pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad ddiwedd mis Hydref’.
Peidiwch â defnyddio atalnod rhwng y mis a'r flwyddyn: 14 Mehefin 2012.
Nid ydym yn defnyddio cysylltnodau, en rule nac em dash mewn amrediadau dyddiad. Er enghraifft:
- blwyddyn dreth 2011 i 2012
- Dydd Llun hyd ddydd Gwener, 9am hyd 5pm (rhowch wahanol ddyddiau ar linell newydd, peidiwch â defnyddio atalnod)
- 10 Tachwedd hyd 21 Tachwedd
Peidiwch â defnyddio ‘chwarter’ ar gyfer dyddiadau, defnyddiwch y misoedd: 'treuliau'r adran, mis Ionawr hyd fis Mawrth 2013'.
Canol nos yw munud gyntaf y diwrnod, ac nid yr olaf. Dylech ystyried defnyddio ‘11:59pm’ i osgoi dryswch ynghylch amser penodol. Er enghraifft, dim ond mewn 1 ffordd y gellid darllen ‘Rhaid ichi gofrestru erbyn 11:59pm ddydd Mawrth 14 Mehefin’. Ond gellid darllen ‘Rhaid ichi gofrestru erbyn canol nos, nos Fawrth 14 Mehefin’ mewn 2 ffordd (diwedd dydd Llun 13, neu ddiwedd dydd Mawrth 14).
Wrth gyfeirio at heddiw (fel mewn erthygl newyddion) cynhwyswch y dyddiad: 'Cyhoeddodd y gweinidog heddiw (14 Mehefin 2012) fod....'
Esboniwch beth mae eich ystod dyddiad yn ei gynrychioli, er enghraifft 'blwyddyn dreth 2013 hyd 2014' neu 'Medi 2013 hyd Gorffennaf 2014'. Gall ystodau dyddiad fod yn flwyddyn academaidd, blwyddyn galendr, neu flwyddyn dreth. Felly mae'n rhaid i ystodau dyddiad fod yn hynod o glir.
Dd
E
Eco-ysgolion
Gyda chysylltnod.
Enwau gwyddonol
Priflythyren ar gyfer llythyren gyntaf rhan gyntaf yr enw gwyddonol. Peidiwch â defnyddio ffont italig.
etholiad cyffredinol
Llythrennau bach, ond priflythrennau os yw'n cyfeirio at etholiad penodol. Er enghraifft Etholiad Cyffredinol 2019.
ewros, yr ewro
Llythrennau bach.
Excel
Prif lythrennau gan fod Excel yn enw brand.
F
Y Frenhines
Prif lythrennau.
Ff
Ffont italig
Peidiwch â defnyddio ffont italig. Defnyddiwch ddyfynodau sengl wrth gyfeirio at ddogfen, cynllun neu fenter.
Ffont trwm
Defnyddiwch ffont trwm i gyfeirio at destun rhyngweithio mewn dogfennaeth neu gyfarwyddyd technegol.
Gallwch ddefnyddio ffont trwm i esbonio pa faes mae angen i ddefnyddiwr lenwi ar ffurflen, neu pa fotwm i ddewis. Er enghraifft: Dewiswch Creu cynnwys.
Peidiwch â defnyddio ffont trwm mewn sefyllfaoedd eraill, er enghraifft i bwysleisio testun.
I bwysleisio geiriau neu frawddegau, gallwch wneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth bwysig ar ddechrau brawddegau
- defnyddio penawdau
- defnyddio pwyntiau bwled
Fformatau amgen
Fel arfer, bydd fformatau amgen yn cael eu cyhoeddi yn ychwanegol at y fersiwn sylfaenol o’r cynnwys, ac maent yn cynnwys:
- fideo (er enghraifft ar gyfer cyflwyno Iaith Arwyddion Prydain)
- sain
- Hawdd ei Ddeall
Wrth greu dolenni at gynnwys mewn fformat amgen, peidiwch â nodi unrhyw ddefnyddwyr y bwriedir ef ar eu cyfer, er enghraifft nodwch:
- Cynllun gweithredu iechyd nadroedd (Iaith Arwyddion Prydain)
Peidiwch â chyflwyno'r ddolen drwy gyhoeddi datganiadau tebyg i 'Fideo Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw'.
Fforwm Cymru Gydnerth (a Fforwm Lleol Cymru Gydnerth)
Prif lythrennau.
G
Geiriau i'w hosgoi
Rydym yn defnyddio Cymraeg clir ar LLYW.CYMRU, felly dylech osgoi defnyddio'r geiriau hyn:
- agenda (heblaw ar gyfer cyfarfod)
- ymrwymo neu addo (mae angen bod yn fwy penodol - rydym un ai yn gwneud rhywbeth neu ddim)
- deialog (ry'n ni'n siarad â phobl)
- hwyluso (yn hytrach, dywedwch rywbeth penodol ynghylch sut rydych yn helpu)
- ffocysu
- maethu (heblaw wrth sôn am blant)
- trosfwaol
- hyrwyddo (heblaw eich bod yn siarad am ymgyrch hysbysebu neu farchnata arall)
- cadarn
- cryfhau (heblaw ei fod yn cryfhau pontydd neu strwythurau eraill)
- taclo neu ymgodymu (heblaw ei fod am rygbi, pêl droed, neu ryw chwaraeon arall)
- trawsnewid (beth ydych chi'n ei wneud i'w newid?)
Dylech osgoi defnyddio trosiadau - dy'n nhw ddim yn dweud yr hyn yr ydych yn ei olygu, a gallant olygu bod pobl yn cymryd mwy o amser i ddeall. Er enghraifft gyrru (gallwch yrru cerbydau, ond nid cynlluniau na phobl).
Gyda'r rhain i gyd, gallwch ddefnyddio geiriau sy'n disgrifio yn union beth yr ydych yn ei wneud, yn hytrach na'r trosiad. Byddwch yn agored ac yn benodol.
Mae mwy o gyngor ynghylch geiriau jargonllyd a phryd a sut i’w hosgoi wrth gyfieithu testun i’r Gymraeg yn yr Arddulliadur ar BydTermCymru.
gofal plant
Llythrennau bach.
gorchymyn cymhwysedd
Llythrennau bach, heblaw os defnyddir fel y teitl llawn Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008.
gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol
Priflythyren os defnyddir y teitl llawn Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008.
Llythrennau bach heblaw hynny: caiff y gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol eu cymeradwyo, eu gwrthod neu eu tynnu yn ôl.
graddau sylfaen
Llythrennau bach.
Grant Datblygu Disgyblion
Prif lythrennau.
Grŵp
Priflythrennau ar gyfer enwau grwpiau, cyfarwyddiaethau a sefydliadau: Grŵp Gwybodaeth Tai.
Llythrennau bach pan fod gan grŵp deitl generig fel grŵp cynghori.
Gwasanaeth Sifil
Prif lythrennau.
gwasanaethau ar-lein
Llythrennau bach os yw enw'r gwasanaeth yn dechrau gyda berf - ysgrifennwch y frawddeg fel bod y defnyddiwr yn gwybod pa gamau i'w cymryd. Er enghraifft: Gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio ar-lein.
Defnyddiwch briflythrennau os yw enw'r gwasanaeth yr ydych yn cyfeirio ato'n cynnwys peth a enwir yn benodol. Er enghraifft: Gallwch wneud cais am Achrediad Amgueddfa ar-lein.
Canllawiau ar enwi eich gwasanaeth neu declyn ar LLYW.CYMRU.
gwasanaethau tân ac achub
Llythrennau bach.
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Prif lythrennau.
gwasanaethu
Llythrennau bach, hyd yn oed wrth gyfeirio at wasanaethu'r lluoedd arfog.
gweinidog
Defnyddiwch briflythrennau ar gyfer y teitl llawn, fel Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, neu pan ddefnyddir gydag enw, fel teitl, fel y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
gweinyddiaethau datganoledig
Llythrennau bach.
gweision sifil
Llythrennau bach.
gwelliant parhaus
Llythrennau bach.
Gwe-sgwrs
Un gair gyda chysylltnod. Dim 'gwe sgwrs'.
Y Gwir Anrh
Dim atalnod llawn.
Gwobr Genedlaethol BTEC
Prif lythrennau.
gwylwyr y glannau
Llythrennau bach.
Ng
H
Hanner colon
Dylech osgoi defnyddio hanner colon gan fod pobl yn eu camddarllen yn aml. Dylid rhannu brawddegau hir sy'n defnyddio hanner colon yn frawddegau ar wahân.
harbwrfeistr
Llythrennau bach.
heddlu
Llythrennau bach, hyd yn oed wrth gyfeirio at 'yr heddlu'.
Hyd brawddegau
Peidiwch â defnyddio brawddegau hir. Cadwch frawddegau i 20 gair neu lai.
I
Iaith gyfreithiol
Gellir ysgrifennu cynnwys cyfreithiol mewn Cymraeg clir. Mae'n bwysig bod defnyddwyr yn deall cynnwys a'n bod yn cyflwyno gwybodaeth gymhleth yn syml.
Os ydych chi'n siarad am ofyniad cyfreithiol, defnyddiwch 'rhaid'. Er enghraifft, 'rhaid i'ch cyflogwr dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol'.
Os nad ydych yn teimlo bod 'rhaid' yn rhoi digon o bwyslais, yna defnyddiwch 'gofyniad cyfreithiol', 'hawl gyfreithiol' ac ati. Er enghraifft: 'Ar ôl i'ch plentyn gael ei gofrestru mewn ysgol, mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch i wneud yn siŵr ei fod yn mynychu yn rheolaidd'.
Wrth benderfynu a ddylech ddefnyddio 'rhaid' ynteu 'hawl gyfreithiol', ystyriwch pa mor bwysig yw hi i ni siarad am yr agwedd gyfreithiol, yn ogystal â naws y darn.
Os yw gofyniad yn un cyfreithiol, ond hefyd yn weinyddol, neu'n rhan o broses heb ôl-effeithiau troseddol, yna defnyddiwch: 'angen'. Er enghraifft: 'Bydd angen i chi ddarparu copïau o'ch tystysgrif priodas'.
Efallai bod hwn yn ofyniad cyfreithiol, ond ni fyddai rhywun yn cyflawni trosedd ddifrifol trwy beidio â’i wneud. Yr oll a fyddai’n digwydd yw na allai’r unigolyn symud ymlaen at gam nesaf y broses.
Idiomau
Osgowch idiomau a phriod-ddulliau os oes ffordd fwy eglur ac arferol o fynegi’r un ystyr.
Efallai na fydd rhai darllenwyr yn gyfarwydd â rhai idiomau, ac y byddant yn eu dehongli’n llythrennol neu fesul gair. Gall idiomau hefyd fod yn anodd eu cyfleu’n gywir mewn ieithoedd eraill. Er enghraifft, mae’n debyg byddai’n fwy addas defnyddio ‘gorffen’ neu ‘cwblhau’ yn hytrach na ‘cau pen y mwdwl’ neu ‘rhoi’r ffidil yn y tro’.
iechyd anifeiliaid
Llythrennau bach.
iechyd y cyhoedd
Llythrennau bach.
Ieithoedd amgen
Defnyddiwch i ddisgrifio gwybodaeth a gyhoeddir mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg.
Ieithoedd tramor
Peidiwch â'i ddefnyddio i ddisgrifio gwybodaeth a gyhoeddir mewn ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg. Defnyddiwch 'ieithoedd amgen' yn hytrach.
ieithoedd tramor modern
Llythrennau bach.
J
Jargon
Dylech osgoi jargon diangen, ystrydebu cyfreithiol, talfyriadau neu acronymau nas esbonnir, termau Lladin na ddefnyddir yn rheolaidd (er enghraifft inter alia, ad hoc, ibid) ac ati.
Fydd defnyddwyr ddim yn ymddiried ynom os byddwn yn defnyddio jargon llywodraeth. Yn aml, mae'r geiriau hyn yn rhy gyffredinol ac amwys, a gallant arwain at gamddehongli neu destun gwag, dibwrpas. Rhaid i ni ddefnyddio Cymraeg clir.
Mae mwy o gyngor ynghylch geiriau jargonllyd a phryd a sut i’w hosgoi wrth gyfieithu testun i’r Gymraeg yn yr Arddulliadur ar BydTermCymru.
L
Loteri
Defnyddiwch y Loteri Genedlaethol, os mai dyna ydych yn ei olygu.
Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Prif lythrennau.
Ll
lluoedd arfog
Llythrennau bach.
llywodraeth
Llythrennau bach oni bai ei fod yn rhan o enw. Er enghraifft, ‘llywodraeth y DU’, ond ‘Llywodraeth Ei Fawrhydi Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon’.
‘Llywodraeth Cymru’ gan mai dyna enw'r sefydliad.
Llywodraeth Cymru
Defnyddiwch Llywodraeth Cymru. Peidiwch â defnyddio Cynulliad Cymru.
Llywodraeth y DU
Byth llywodraeth EM.
llywodraethwr
Llythrennau bach.
M
Manylion banc
Wrth ychwanegu manylion banc mewn cynnwys ynghylch talu corff llywodraethol:
- defnyddiwch fylchau yn hytrach na chysylltnodau mewn codau didoli - 60 70 80 (nid 60-70-80)
- peidiwch â defnyddio bylchau mewn rhifau cyfrif - 10025634
Mathemateg
Defnyddiwch arwydd minws ar gyfer rhifau negyddol: –6
Does dim bwlch naill ochr i'r colon: 5:12
Un bwlch bob ochr i'r symbolau: +, –, ×, ÷ a = (felly: 2 + 2 = 4)
Defnyddiwch yr arwydd minws ar gyfer tynnu. Defnyddiwch y symbol cywir ar gyfer lluosi (×), ac nid y llythyren x. Mae'r arwydd lluosi i'w gael yn Word drwy fynd i Mewnosod>Symbol.
Ysgrifennwch ffracsiynau’n llawn: dwy ran o dair, tri chwarter.
Ysgrifennwch ffracsiynau degol fel rhifolion. Defnyddiwch yr un fformat rhifau ar gyfer dilyniant: 0.75 a 0.45. Gweler rhifau.
Meddalwedd fasnachol
Nid 'meddalwedd trydydd parti'. Defnyddiwch 'masnachol' ar gyfer mathau o feddalwedd, er enghraifft 'prosesydd geiriau masnachol'.
meddalwedd ffynhonnell agored
Dim 'meddalwedd Ffynhonnell Agored' (gyda phrif lythrennau) neu 'meddalwedd Open Source' na 'meddalwedd OS'.
memorandwm cyd-ddealltwriaeth
Llythrennau bach.
mesurau arbennig
Llythrennau bach.
Mesuriadau
Defnyddiwch rifolion a rhowch y mesuriadau yn llawn y tro cyntaf:
- 4 metr
- 10 cilometr yr awr
Peidiwch â defnyddio bwlch rhwng y rhifolyn a'r mesuriad a dalfyrrir: 3,500kg ac nid 3,500 kg.
Mae talfyrru cilogramau i kg yn iawn - does dim rhaid ei roi yn gyfan.
Os yw'r mesuriad yn fwy nag un gair, er enghraifft 'cilometr yr awr' yna rhowch yn llawn y tro cyntaf gyda'r talfyriad. Defnyddiwch y talfyriad o hynny ymlaen. Os mai dim ond unwaith y caiff ei ddefnyddio, peidiwch â thalfyrru.
Defnyddiwch Celsius ar gyfer tymheredd, 37°C.
Gweler rhifau.
Miliynau
Defnyddiwch miliwn mewn arian (a biliwn): £138 miliwn.
Defnyddiwch miliynau mewn brawddegau: miliynau o bobl.
Ond peidiwch â defnyddio £0.xx miliwn ar gyfer symiau llai na £1 miliwn.
Peidiwch â thalfyrru miliwn i m.
Mae angen gofal wrth drafod miliynau a biliynau er mwyn osgoi amwysedd wrth dreiglo’n feddal. Peidiwch felly â threiglo ‘biliwn’.
milwrol
Llythrennau bach.
Misoedd
Gweler dyddiadau ac amseroedd.
Model cymdeithasol o anabledd
Mae’n dweud bod y gymdeithas, yr amgylchedd, polisïau ac arferion yn gallu gwneud pobl yn anabl drwy greu rhwystrau. Polisi Llywodraeth Cymru yw defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd o ran iaith ac arferion.
Gweler:
- nam
- anabledd
- anabledd cudd
- nam anweladwy
- person nad yw'n anabl
- person corfforol abl
- anghenion arbennig
- agored i niwed
N
Nam
Y peth sy'n wahanol am berson.
Nid yw nam ac anabledd yn golygu'r un peth.
Nam anweladwy
Defnyddiwch hwn. Peidiwch â defnyddio anabledd cudd.
Neu
Peidiwch â defnyddio slaesys yn hytrach na 'neu'. Er enghraifft, 'Gwnewch hyn 3/4 gwaith'.
Nod masnach
Ceisiwch osgoi enwau â nod masnach lle bo modd - felly llechen ac nid iPad.
O
Oedran
Byddwch yn glir pwy sydd wedi'u cynnwys wrth ddefnyddio grwpiau oedran. Er enghraifft, 'pawb sy’n 11 oed ac yn hŷn' yn hytrach na 'dros 10 oed'.
P
Papur Gwyn
Prif lythrennau.
Papur Gwyrdd
Prif lythrennau.
Prif lythrennau. Does dim angen esbonio'r acronym.
Penawdau
Dylai penawdau fod yn ychydig eiriau o destun defnyddiol a disgrifiadol sy'n helpu wrth sganio tudalen. Ceisiwch ddefnyddio o leiaf 1 pennawd am bob 2 baragraff i helpu ymwelwyr i benderfynu pa flociau o destun sy'n berthnasol iddyn nhw wrth iddyn nhw sganio tudalen. Rhowch briflythyren i'r gair cyntaf yn unig.
Defnyddiwch y steil pennawd cywir ar gyfer pob pennawd.
Peidiwch ag ofni bod yn greadigol i sicrhau eich bod yn cyfleu beth sydd yn y testun oddi tano, ond osgowch gyflwyno penawdau fel cwestiynau. ‘Y bobl sy’n gallu gwneud cais’ ac nid ‘Pwy all wneud cais?’
Person nad yw'n anabl
Defnyddiwch hwn. Peidiwch â defnyddio corfforol abl.
Plant y lluoedd arfog
Term cydnabyddedig ar gyfer plant y mae eu rhieni yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Pobl ag anabledd neu berson ag anabledd
Peidiwch â'u defnyddio. Defnyddiwch pobl anabl neu person anabl yn y mwyafrif o gyd-destunau. Os yw eich cyd-destun yn golygu eich bod yn cyfeirio at bobl â nam, yna defnyddiwch nam. Er enghraifft "mae pobl â nam yn cael eu gwneud yn anabl gan rwystrau yn ein cymdeithas".
Pobl anabl neu person anabl
Defnyddiwch y rhain. Peidiwch â defnyddio pobl ag anabledd neu berson ag anabledd.
Postiad blog
Defnyddiwch y 2 air wrth gyfeirio at erthygl yn cael ei chyhoeddi ar flog. Enw'r safle lle cyhoeddir postiad blog yw blog.
prawf llif unffordd (LFT)
Llythrennau bach, ond defnyddiwch briflythrennau ar gyfer yr acronym. Peidiwch â defnyddio dyfais LFT na dyfais prawf llif unffordd.
prif gwnstabl
Llythrennau bach, heblaw pan ei fod yn deitl gydag enw'r person, fel y Prif Gwnstabl Matt Jukes.
Priflythrennau
Peidiwch byth â defnyddio PRIFLYTHRENNAU ar gyfer llawer o destun, gan ei fod yn anodd ei ddarllen.
Defnyddiwch briflythrennau ar gyfer:
- adeiladau
- enwau llefydd
- enwau brand
- teitlau swyddi, teitlau rolau gweinidogion: Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
- y Ddaear (ein planed), a gwyddorau'r Ddaear
- cyfadrannau, adrannau, athrofeydd ac ysgolion
- enwau grwpiau a chyfarwyddiaethau, er enghraifft y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- teitlau deddfau neu filiau penodol: Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (ond defnyddiwch 'y ddeddf' neu 'y bil' ar ôl y tro cyntaf i chi ddefnyddio teitl llawn y ddeddf neu'r bil.)
- enwau cynlluniau penodol gan y llywodraeth sy'n adnabyddus i bobl o'r tu allan, ee Hawl i Brynu
Peidiwch â rhoi priflythrennau i'r canlynol:
- llywodraeth, gweler llywodraeth
- gweinidog, byth Gweinidog, heblaw ei fod yn rhan o deitl swydd penodol, fel y Gweinidog Gwyddoniaeth a Sgiliau, neu wrth gyfeirio at Weinidogion Cymru fel grŵp
- adran neu weinyddiaeth - byth Adran neu Weinyddiaeth, heblaw wrth gyfeirio at un benodol: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, er enghraifft
- teitlau tudalennau neu deitlau cyhoeddiadau - dim ond priflythyren ar y gair cyntaf a'r teitl cyfan mewn dyfynodau sengl, er enghraifft 'Gweithredu hunanariannu ar gyfer tai cyngor' (heblaw ei fod yn cynnwys rhywbeth a ddylai gael priflythrennau am resymau eraill er enghraifft 'Adolygu'r cynllun Hawl i Brynu')
- papur gwyn, papur gwyrdd, papur gorchymyn
- grŵp neu gyfarwyddiaeth, heblaw ei fod yn cyfeirio at gyfarwyddiaeth neu grŵp penodol, er enghraifft Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Ddiwygio Lles
- bwrdd adrannol, bwrdd gweithredol, y bwrdd
- themâu polisi, ee cymunedau cynaliadwy, ardaloedd menter lleol
Prif Weinidog
Defnyddiwch 'y Prif Weinidog [enw]', a 'y Prif Weinidog'.
Profi, Olrhain, Diogelu (TTP)
Priflythrennau, gydag atalnod. Dylech ei ysgrifennu’n llawn: Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru (TTP).
Profion Cenedlaethol Cymru
Priflythrennau.
Proforma
Peidiwch â defnyddio proforma - dywedwch beth yw e mewn Cymraeg clir: er enghraifft templed neu ffurflen. Byddwch yn benodol ynghylch beth i wneud ag ef.
Prydain
Gweler daearyddiaeth a rhanbarthau.
prydau ysgol am ddim
Llythrennau bach.
Pwyntiau bwled
Defnyddiwch bwyntiau bwled rhwng paragraffau, ac yn yr achos hwn:
- defnyddiwch frawddeg arweiniol a rhoi colon ar ei diwedd (:)
- defnyddiwch lythrennau bach ar ddechrau pob bwled
- peidiwch â defnyddio atalnodau llawn o fewn pwyntiau bwled, lle bo modd dechreuwch bwynt bwled arall neu defnyddiwch atalnod neu hanner colon i ymhelaethu ar eitem.
- peidiwch â rhoi atallnod llawn, 'neu', 'a/ac', ';' ar ôl y bwledi
- sicrhewch fod y bwledi'n gwneud synnwyr yn dilyn y frawddeg arweiniol
- peidiwch â defnyddio bwledi wedi'u rhifo heblaw ei fod yn briodol, er enghraifft 7 prif amcan i blant a phobl ifanc
Gallwch ddefnyddio pwyntiau bwled yn syth ar ôl pennawd, ac yn yr achos yma, mae pob pwynt bwled:
- yn dechrau gyda phriflythyren
- yn gorffen gydag atalnod llawn
- yn fyr (ddim yn hirach nag un frawddeg)
Fel arfer, dylai pwyntiau bwled ffurfio brawddeg gyflawn, yn dilyn o'r frawddeg arweiniol. Ond weithiau mae'n angenrheidiol i ychwanegu brawddeg fer i egluro os yw pob un neu ond rhai o'r pwyntiau'n berthnasol. Er enghraifft, 'Gallwch gofrestru cynllun pensiwn sydd (yn un o'r canlynol yn unig):'
Gall y nifer neu'r math o esiamplau mewn rhestr arwain y defnyddiwr i gredu fod y rhestr yn gynhwysfawr. Gellir delio gyda hyn drwy:
- wirio os oes amodau eraill (neu os yw'r rhestr yn gyflawn)
- restru'r amodau sy'n berthnasol i'r mwyafrif o ddefnyddwyr a chael gwared ar y gweddill
- ystyried termau ehangach yn y rhestr sy'n cwmpasu mwy o senarios (a gallai wneud y rhestr yn fwy cynhwysfawr)
- greu siwrnai i gynnwys arbenigol i gynnwys yr amodau sy'n weddill
Ph
R
Roma
Priflythrennau gan fod Roma yn grŵp ethnig amddiffynnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Rh
rhaglen
Llythrennau bach.
rheol
Llythrennau bach heblaw fel y teitl llawn: Rheol Sefydlog 22.
rheol sefydlog
Llythrennau bach heblaw fel teitl llawn: Rheol Sefydlog 22.
rheoli perfformiad
Llythrennau bach.
Rhestrau
Dylai rhestrau fod â phwyntiau bwled i'w gwneud yn haws eu darllen. Gweler pwyntiau bwled.
Dylech osgoi defnyddio lythrennau wrth drefnu’r eitemau mewn rhestr. Defnyddiwch rifau i drefnu’r eitemau mewn rhestr neu er mwyn ei gwneud hi’n bosibl cyfeirio at eitem o fan arall.
Ni ddylech ond defnyddio rhestri wedi’u rhifo lle y bo’n briodol, er enghraifft y 7 prif amcan i blant a phobl ifanc.
Gallwch ysgrifennu rhestrau hir iawn fel paragraff gyda brawddeg arweiniol os yw'n edrych yn well: 'Mae'r gwledydd canlynol yn yr UE: Sbaen, Ffrainc, yr Eidal...'
rhif unigryw'r disgybl
Llythrennau bach.
Rhifau
Ysgrifennwch bob rhif mewn rhifolion (gan gynnwys 2 i 9).
Peidiwch â defnyddio rhifolion pan ei fod yn rhan o ymadrodd cyffredin, fel 'un neu ddau ohonyn nhw'.
Ceisiwch osgoi defnyddio rhifau ar ddechau brawddeg. Efallai gallwch wneud hyn drwy newid trefn y frawddeg. Er enghraifft:
2020 oedd y flwyddyn boethaf ar record.
Gellir ei newid i:
Y flwyddyn boethaf ar record oedd 2020.
Os oes rhaid i chi ddefnyddio rhif i ddechau brawddeg, ysgrifennwch y rhif allan yn llawn (Tri deg pedwar, er enghraifft). Dim ond ar ddechrau teitl neu is-deitl dylid defnyddio rhifolion.
Defnyddiwch ‘un’ heblaw:
- pan fyddwch yn siarad am gam neu bwynt mewn rhestr, er enghraifft ‘ym mhwynt 1 y cyfarwyddiadau dylunio’
- pan fyddai’r rhifolyn yn gwneud mwy o synnwyr, er enghraifft wrth gymharu rhifau fel ‘1 ym mhob 13 o bobl’
Ar gyfer rhifolion dros 999, rhowch goma er eglurder. Peidiwch â defnyddio K yn lle mil. Er enghraifft defnyddiwch 'roedd dros 9,000'.
Defnyddiwch % ar gyfer canrannau, felly 50%.
Defnyddiwch 'rhwng 500 a 900' ac nid '500-900'.
Ysgrifennwch ffracsiynau cyffredin yn llawn, fel hanner.
Defnyddiwch 0 pan nad oes digid cyn y pwynt degol.
Cyfeiriadau: defnyddiwch 'rhwng...a...' mewn ystodau cyfeiriad: rhwng 49 a 53 Stryd y Dderwen.
Gweler mesuriadau.
Gweler trefnolion.
Gweler mathemateg.
Rhifau ffôn
Defnyddiwch 'Rhif ffôn: 011 111 111' neu 'Ffôn symudol:'.
Rhowch fwlch rhwng y prif god a'r rhif. Dyma'r ffurfiau gwahanol i'w defnyddio:
- 01273 800 900
- 029 2087 2087
- 0800 890 567
- 07771 900 900
- 077718 300 300
- +44 (0)29 2087 2087
- +39 1 33 45 70 90
Pan fo rhif wedi ei ddewis i fod yn gofiadwy, grwpiwch y rhifau fel bod modd eu cofio'n hawdd, er enghraifft 0800 80 70 60.
Dywedwch fod croeso i alwadau defnyddwyr yn Gymraeg. Pan fydd y rhif yn rhan o baragraff ychwanegwch y testun canlynol mewn cromfachau, peidiwch â defnyddio cromfachau os yw'r rhif y tu allan i baragraff:
- Pan fydd nifer ar gyfer gwasanaeth a ddarperir yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru:
- Tudalen Saesneg ychwanegu 'Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.'
- Tudalen Gymraeg ychwanegu 'Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.'
- Pan fydd nifer ar gyfer gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu a ddarperir ar ei ran:
- Tudalen Saesneg ychwanegu 'Croesawir galwadau yn Gymraeg / Calls are welcome in Welsh.'
- Tudalen Gymraeg ychwanegu 'Croesawir galwadau yn Gymraeg'
Er enghraifft, gweler cyswllt â Llywodraeth Cymru.
Rhyddid Gwybodaeth
Gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth, ond nid cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Priflythrennau ac ysgrifennu'r rhif allan yn llawn.
rhyngrwyd
Llythrennau bach.
Rhyngweithiau defnyddwyr
Canllawiau ar greu cynnwys clir a hawdd eu deall ar gyfer gwasanaethau ac offerynnau LLYW.CYMRU.
S
Safonau Masnach
Prif lythrennau.
safonau craidd
Llythrennau bach.
sector cyhoeddus
Llythrennau bach.
Sefydliadau
Unigol yw pob sefydliad: Mae’r llywodraeth wedi penderfynu gwerthu ei hasedau.
Sylwer mai benywaidd yw ‘llywodraeth’ yn ramadegol ac felly bod angen cyfeirio’n ôl gan ddefnyddio’r ffurf fenywaidd ‘ei hasedau’. Bydd angen gwneud yr un fath gydag unrhyw sefydliad, gan ddefnyddio cenedl ramadegol y gair dan sylw.
seiberfwlio
Un gair. Llythrennau bach.
Senedd
Prif lythrennau.
Senedd Cymru
O 6 Mai 2020, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei adnabod fel Senedd Cymru.
Sipsiwn
Priflythrennau gan fod Sipsiwn yn cael eu cydnabod fel grŵp ethnig amddiffynnir gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Slaesys
Defnyddir symbol '/' fel arfer i ddangos 'neu' neu 'ac'. Defnyddiwch 'neu' neu'r fersiwn cywir o 'ac' yn hytrach na'r slaes i osgoi dryswch.
Os oes angen blaenslaes i wahanu:
- 2 air unigol, peidiwch â rhoi bwlch bob ochr iddo, er enghraifft 'rhieni/gofalwyr'
- mwy na 2 air unigol, rhowch fylchau bob ochr i’r blaenslaes, er enghraifft ‘Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh'
Siarad â'r defnyddiwr
Cyfeiriwch at y defnyddiwr fel 'chi' lle bo hyn yn bosib. Mae cynnwys ar y safle'n aml yn apelio'n uniongyrchol i gymryd rhan neu i wneud rhywbeth: Er enghraifft 'gallwch wneud cais am fathodyn glas drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol'. Os yw’r defnyddwyr yn ifanc, er enghraifft myfyrwyr neu blant, gellir ystyried defnyddio ‘ti’ llai ffurfiol lle bo’n briodol.
Y stad weithredol
Defnyddiwch y stad weithredol yn hytrach na'r stad oddefol er enghraifft ‘Rhaid ichi gynnwys yr holl wybodaeth yn y cais’ yn hytrach na ‘Rhaid i’r holl wybodaeth gael ei chynnwys yn y cais’.
statws athro cymwysedig
Llythrennau bach.
strategaeth
Llythrennau bach. Peidiwch â rhoi priflythrennau ar gyfer strategaeth a enwir: strategaeth trafnidiaeth.
swyddfeydd y llywodraeth
Llythrennau bach.
T
Tablau
Pryd i ddefnyddio tablau a sut i’w gwneud yn ddealladwy.
Talfyriadau ac acronymau
Rhaid i chi esbonio talfyriad neu acronym yn llawn y tro cyntaf i chi ei ddefnyddio ar bob tudalen, heblaw ei fod yn un cyffredin fel y DU, y GIG neu'r BBC. Mae hyn yn cynnwys adrannau neu gynlluniau'r llywodraeth. Yna cyfeiriwch ato gan ddefnyddio’r blaenlythrennau.
Peidiwch â defnyddio atalnodau llawn: Y GIG ac nid y G.I.G.
Peidiwch â defnyddio acronym os nad ydych yn mynd i'w ddefnyddio eto yn y testun.
Teitlau
Dylai teitlau tudalennau fod fel a ganlyn:
- yn 65 nod neu'n llai
- yn unigryw, clir a disgrifiadol
- â'r wybodaeth bwysicaf gyntaf ac ar y ffurf fwyaf addas ar gyfer chwilio
- yn defnyddio colon os oes angen
- heb gysylltnod na blaenslaes
- heb atalnod llawn ar y diwedd
- heb acronym heblaw ei fod yn gyfarwydd, megis UE
- â phriflythyren ar ddechrau'r teitl yn unig
Dylai teitlau dogfennau (ffeil) fod fel a ganlyn:
- yn deitl ffurfiol y ddogfen
- heb atalnod llawn ar y diwedd
- â phriflythyren ar ddechrau'r teitl yn unig
Dilynwch y canllawiau manylach yn mathau o gynnwys > cyhoeddiadau.
Teitlau swyddi
Dylid defnyddio priflythrennau ar gyfer teitlau swyddi penodol a theitlau rolau gweinidogion: Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.
Bydd teitlau swyddi cyffredinol a rolau gweinidogion i gyd mewn llythrennau bychain: cyfarwyddwr, gweinidog.
Teithwyr
Priflythrennau.
Mae rhai Teithwyr gan gynnwys Teithwyr Gwyddelig ac Albanaidd, yn grwpiau ethnig sy’n cael eu diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Termau technegol
Defnyddiwch dermau technegol pan fod angen i chi. Nid jargon yw termau technegol. Mae angen i chi esbonio beth maen nhw'n golygu y tro cyntaf i chi eu defnyddio.
TGAU
Dim atalnod llawn rhwng y llythrennau.
tîm
Llythrennau bach: tîm troseddwyr ifanc.
tîm diogelu iechyd
Llythrennau bach heblaw fel teitl sefydliad: Swyddfa Diogelu Iechyd Gogledd Cymru.
Trefnolion
Ysgrifennwch cyntaf i'r nawfed yn llawn. Ar ôl hynny defnyddiwch 10fed, 11eg ac ati.
Mewn tablau, defnyddiwch rifolion bob tro. Gweler rhifau.
Troednodiadau
Yn gyntaf, edrychwch i weld a ydych yn gallu osgoi creu nod tudalen ar gyfer troednodyn. Er enghraifft:
- ers i Storm Dennis daro Cymru ym mis Chwefror 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £194m i helpu gyda'r perygl o lifogydd. [troednodyn 1]
Efallai y byddai’n bosibl rhoi dolen yn y llinell a pheidio â defnyddio troednodyn:
- ers i Storm Dennis daro Cymru ym mis Chwefror 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £194m i helpu gyda'r perygl o lifogydd
Os bydd yn rhaid defnyddio troednodyn mewn testun:
- Os bydd yn rhaid defnyddio troednodyn:
- yn y prif gynnwys ychwanegwch y gair ‘troednodyn’ a’r rhif mewn cromfachau sgwâr gan ddefnyddio uwchysgrif (superscript), er enghraifft [troednodyn 1]
- crëwch ddolen angori ar gyfer testun y troednodyn
- grwpiwch yr holl droednodiadau (heblaw mewn tablau a siartiau) o dan bennawd ‘Troednodiadau’ ar ddiwedd y dudalen
- defnyddiwch destun normal ar gyfer troednodiadau ac ychwanegwch rif y troednodiadau mewn cromfachau sgwâr ar y dechrau, er enghraifft [1]
- rhowch ddolen o’r prif gynnwys, er enghraifft [troednodyn 1], i’r troednodyn (dim ond ar y rhif a’r gair troednodyn dylai’r ddolen fod)
- os mai dim ond unwaith y cyfeirir at y troednodyn, crëwch ddolen angor o rif y troednodyn (er enghraifft [1]) yn ôl at y troednodyn yn y prif gynnwys
- cadwch destun y troednodyn yn y ffont normal, yn hytrach na defnyddio ffont llai
Os oes troednodyn yn hanfodol mewn tablau neu siartiau:
- peidiwch â defnyddio’r gair ‘troednodyn’ yn y prif gynnwys, dim ond y rhif mewn cromfachau sgwâr mewn uwchysgrif
- dylai testun y troednodyn fod o dan y siart neu’r tabl perthnasol
Trosiadau
Gweler geiriau i'w hosgoi.
Tymheredd
Defnyddiwch Celsius: 37°C
Tymhorau
Mae gwanwyn, haf, hydref a gaeaf yn llythrennau bach.
Th
U
undebau credyd
Llythrennau bach.
Yr Undeb Ewropeaidd a'r Gymuned Ewropeaidd
Defnyddiwch yr UE wrth sôn am aelod-wladwriaethau'r UE: Gwledydd yr UE, busnesau'r UE, defnyddwyr yr UE, nwyddau a allforir o'r UE, rhifau TAW'r UE.
Dylid defnyddio CE ar gyfer cyfarwyddebau'r CE, Rhestr Werthu'r CE.
uned cyfeirio disgyblion
Llythrennau bach.
undeb tollau
Llythrennau bach. Defnyddiwch briflythrennau pan ei fod yn rhan o deitl undeb tollau penodol: Undeb Tollau'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft.
URL
Prif lythrennau. Does dim angen esbonio'r acronym.
V
VPN
Prif lythrennau. Does dim angen esbonio'r acronym.
W
Word
Priflythrennau wrth gyfeirio at y cynnyrch Microsoft gan ei fod yn enw brand.
Yr wrthblaid
Llythrennau bach, hyd yn oed ar gyfer yr wrthblaid ac arweinydd yr wrthblaid.
Y
Y cant
Defnyddiwch y cant neu canran. Defnyddiwch % gyda rhif bob tro. Gweler rhifau.
Y Dreth Gyngor
Prif lythrennau.
ymatebion i ymgynghoriad
Llythrennau bach.
ysgol feithrin
Llythrennau bach.
ysgol haf
Llythrennau bach.
ysgolion sefydledig
Llythrennau bach.
Yswiriant Gwladol
Prif lythrennau. Ond mae geiriau sy'n dod cyn hynny yn llythrennau bach, er enghraifft rhif Yswiriant Gwladol.