Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o’r hyn y mae rhaid i bawb sy’n ysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU ei wneud i fodloni anghenion y defnyddiwr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut mae pobl yn darllen ar-lein

Mae defnyddwyr yn darllen mewn ffordd wahanol ar y we o gymharu â darllen ar bapur. Maen nhw:

  • yn annhebygol o ddarllen y cynnwys i gyd
  • yn tueddu i fwrw golwg dros y cynnwys i ddod o hyd i’r darn y maen nhw ei angen

Mae cynnwys ar-lein da yn hawdd ei ddarllen, gan ddefnyddio:

  • brawddegau byr
  • is-benawdau
  • Cymraeg clir

Mae hyn yn helpu pobl i ddod o hyd i’r hyn maen nhw ei angen, a’i ddeall, yn gyflym. Mae hefyd yn ei gwneud yn haws i ni ddiweddaru cynnwys, gyda llai o eiriau i’w diweddaru a’u cyfieithu.

Mae ein canllawiau ar ysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU wedi’u seilio ar ymchwil i sut mae pobl yn darllen ar-lein ac yn defnyddio LLYW.CYMRU.

Bodloni anghenion y defnyddiwr

Peidiwch â chyhoeddi popeth y gallwch chi ar-lein. Dechreuwch drwy feddwl beth mae angen i’r defnyddiwr ei wybod ac yna ysgrifennu i fodloni’r angen hwnnw.

Mwy am anghenion defnyddwyr.

Cymraeg clir

Defnyddiwch Gymraeg clir: mae'n haws i ddefnyddwyr ei ddarllen a'i ddeall.

Y prif egwyddorion yw:

  • bod yn fyr ac yn gryno, hyd at 20 gair y frawddeg
  • peidio â defnyddio ffurfiau benywaidd a lluosog ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf honno yn air cyffredin iawn
  • defnyddio iaith neu gystrawen syml
  • defnyddio brawddegau uniongyrchol a gweithredol yn hytrach na brawddegau goddefol
  • defnyddio llai o ferfau amhersonol
  • rhannu brawddeg amlgymalog yn frawddegau llai
  • defnyddio berfenw yn lle enw ac ansoddair lle bo modd
  • osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg

Cynnwys ar gyfer arbenigwyr

Mae’n well gan bobl â lefelau llythrennedd uwch iaith syml (yn GOV.UK) gan ei bod yn eu galluogi i ddeall yr wybodaeth yn gyflym.

Mae pobl yn deall iaith arbenigol gymhleth, ond nid ydyn nhw eisiau ei darllen os oes dewis arall. Y rheswm dros hyn yw bod pobl â’r lefelau llythrennedd uchaf a’r arbenigedd mwyaf yn tueddu i fod â mwy i’w ddarllen.

Peidiwch â defnyddio Cwestiynau Cyffredin

Peidiwch â defnyddio Cwestiynau Cyffredin. Maen nhw fel arfer yn gorfodi defnyddwyr i weithio’n galetach i ddod o hyd i gynnwys, a’i ddeall.

Mwy am Gwestiynau Cyffredin a beth i’w wneud os yw defnyddwyr yn gofyn cwestiwn yn aml.

Teitlau tudalennau

Mae’r mwyafrif o ddefnyddwyr yn cyrraedd o beiriant chwilio. Defnyddiwch eiriau’ch defnyddwyr i’w helpu i ddod o hyd i’ch cynnwys, a’i ddeall. Mae modd cymharu gwahanol eiriau drwy Google Trends.

Defnyddiwch ddim mwy na 65 o nodau a byddwch yn benodol, er enghraifft peidiwch â defnyddio:

  • newidiadau i wasanaethau iechyd

Byddwch yn fwy penodol, er enghraifft nodi’r gynulleidfa a’r diben:

  • gwneud newidiadau i wasanaethau iechyd: canllawiau i’r GIG

Mwy am deitlau.

Penawdau

Ambell i air o destun disgrifiadol ddylai penawdau fod. Dylen nhw helpu’r darllenydd i fwrw golwg dros y dudalen.

Ceisiwch ddefnyddio pennawd bob 2 baragraff i helpu ymwelwyr i weld pa ddarnau o destun maen nhw eu hangen wrth iddyn nhw fwrw dros y dudalen.

Defnyddiwch yr arddull pennawd briodol ar gyfer pob pennawd. H1 (lefel pennawd 1) yw teitl y dudalen ac yna H2 yw’r is-bennawd cyntaf.

Dylech osgoi cyflwyno penawdau ar ffurf cwestiwn. ‘Pwy all ymgeisio’ nid ‘Pwy all ymgeisio?’.

Dolenni

Defnyddiwch ddolenni i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i’w gweithgarwch presennol.

Mae testun dolen da:

  • yn disgrifio ei ddiben
  • yn gwneud synnwyr heb gyd-destun

Peidiwch â defnyddio dolenni fel:

  • cliciwch yma
  • mwy o wybodaeth
  • lawrlwytho

Defnyddiwch ddolenni fel:

Mwy am greu dolenni o fewn brawddegau.

Tablau

Dim ond er mwyn cyflwyno data y dylech ddefnyddio tablau. Dylai’r data yma fod yn rhifol fel arfer.

Peidiwch â defnyddio tablau i gyflwyno gwybodaeth y gallech ei dangos ar ffurf rhestr.

Mwy am ddefnyddio tablau a dewisiadau eraill yn lle tabl.

Delweddau

Peidiwch â defnyddio delweddau oni bai eu bod:

  • yn angenrheidiol er mwyn egluro rhywbeth na ellid ei egluro drwy ddefnyddio testun, map er enghraifft
  • yn helpu defnyddwyr i ddeall gwybodaeth mewn ffordd wahanol, graff er enghraifft

Caiff testun ei ffafrio oherwydd:

  • mae’n fwy hygyrch, er enghraifft mae’n haws i’w ddarllen gan ddefnyddio chwyddwydr sgrin
  • mae’n haws newid maint testun rhwng gwahanol ddyfeisiau
  • mae’n dueddol o fod yn fwy amlwg wrth wneud chwiliad

Dylech osgoi delweddau sy’n cynnwys testun. Ysgrifennwch yn y corff yn hytrach.

Mwy am ddelweddau.

Ysgrifennwch yn unol ag arddull LLYW.CYMRU

Dilynwch ganllaw arddull LLYW.CYMRU. Mae wedi’i seilio ar brofion gyda defnyddwyr a chyngor gan gydweithwyr ar iaith briodol, gan gynnwys:

  • osgoi rhoi priflythrennau i bob llythyren mewn geiriau ac osgoi rhoi priflythrennau i lythrennau cyntaf geiriau
  • bod yn benodol am ystod dyddiadau, er enghraifft mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 nid 2021 i 2022
  • geiriau i’w defnyddio wrth ysgrifennu am anabledd
  • peidiwch â defnyddio testun trwm
  • peidiwch â defnyddio ffont italig
  • sut i ysgrifennu rhifau

Canllaw arddull LLYW.CYMRU.

Defnyddiwch y fformat cywir

Dylai’r mwyafrif o ddeunyddiau gael eu cyhoeddi fel tudalennau gwe (a elwir weithiau’n dudalennau HTML). Bydd hyn yn golygu y gall pawb ddefnyddio ein gwefan.

Mwy am gyhoeddi ffeiliau.

Ar ôl cyhoeddi

Gwnewch yn siŵr bod eich cynnwys yn bodloni anghenion defnyddwyr, drwy:

  • adolygu data dadansoddeg gwe
  • annog ac adolygu adborth

Adolygwch eich cynnwys i sicrhau ei fod yn gywir o hyd a’i fod yn cael ei ddileu pan nad oes ei angen mwyach.