Rydym ni yn cynnig cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Nghymru.
Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi'u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maent fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig gyda gweithgaredd uchel i gerddwyr.
Gallai lleihau'r terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn weld nifer o fuddion, gan gynnwys:
- lleihad mewn gwrthdrawiadau
- mwy o gyfleon i gerdded a beicio yn ein cymunedau
- helpu i wella ein iechyd a’n lles
- gwneud ein strydoedd yn fwy diogel, a
- diogelu ein amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pasiodd y Senedd Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 yn gynharach eleni. Mae hyn yn golygu bod y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig yn gostwng o 30mya i 20mya o Fis Medi 2023.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth sy’n lleihau’r terfyn cyflymder ar ffyrdd lle mae ceir yn cymysgu â cherddwyr a beicwyr, ac rydym ymhlith y gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hyn.
Mae’r newidiadau hyn yn cefnogi:
- yr ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu
- Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy’n rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio dros pob math arall o deithio
- Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol ar gyfer 2040, sydd â’r nod o sicrhau bod pobl yn byw mewn mannau lle mae teithio’n cael effaith amgylcheddol isel
Y camau nesaf
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau priffyrdd, Asiantiaid Cefnffyrdd ac awdurdodau lleol sy’n cyfrifol am ffyrdd gwledig. Rydym yn cydnabod na fydd yn briodol newid pob ffordd 30mya bresennol i 20mya. Gelwir y ffyrdd hyn yn eithriadau.
Rhaid i bob awdurdod priffyrdd dilyn y broses statudol ar gyfer Gorchmynion Rheoli Traffig.
Cefndir
Cafodd Tasglu 20mya Cymru ei sefydlu yn mis Mai 2019 o dan arweiniad Lee Waters, a oedd yn Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd. Cafodd eu hadroddiad ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020: Adroddiad Grŵp Tasglu 20mya
Cafodd wyth cymuned eu dewis ar gyfer cam cyntaf y rhaglen 20mya genedlaethol:
- Llandudoch, Sir Benfro
- Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
- Sant-y-brid, Bro Morgannwg
- Canol Gogledd Caerdydd
- Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
- Y Fenni, Sir Fynwy
- Glan Hafren, Sir Fynwy
- Bwcle, Sir y Fflint
Cyflwynodd yr wyth cymuned hyn gyflymderau 20mya o fis Gorffennaf 2021 i fis Mai 2022.