Neidio i'r prif gynnwy

Pam rydym yn osgoi cwestiynau cyffredin ar LLYW.CYMRU a sut i gael cymorth os ydych yn cael cwestiynau rheolaidd mewn canolfan alwadau neu drwy ohebiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn osgoi defnyddio cwestiynau cyffredin ar LLYW.CYMRU. Y rheswm dros hyn yw bod y pethau y mae defnyddwyr angen eu gwybod yn aml wedi’u cuddio ar dudalen cwestiynau cyffredin. Mae angen i ddefnyddwyr weithio’n galetach i ddod o hyd i gynnwys a’i ddeall.

Y problemau gyda chwestiynau cyffredin:

  • yn aml, mae’n dyblygu cynnwys sydd eisoes ar y safle
  • ni all y defnyddwyr ddod o hyd i gynnwys drwy chwilio gan eu bod yn chwilio am rywbeth penodol, er enghraifft ‘bathodyn glas’ yn hytrach na chwestiynau cyffredin
  • mae’n anodd rhoi’r geiriau pwysicaf yn gyntaf i helpu defnyddwyr i ddeall yn gyflym (yr enw Saesneg ar hyn yw 'front-loading’)
  • maent yn hirach nag sydd ei angen ac nid ydynt yn glir  
  • ni all y defnyddwyr eu darllen yn gyflym, mae mwy o eiriau na sydd eu hangen

Cymorth

Os ydych yn cael cwestiynau cyffredin gan ddefnyddwyr, cysylltwch â’r rheolwr gwe neu’r cynllunydd cynnwys. Byddant yn eich helpu ac yn darganfod yr ateb gorau ar gyfer anghenion y defnyddwyr.