Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i greu dolenni o fewn brawddegau yn y cynnwys ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w defnyddio

Dylech ddefnyddio dolenni mewnol i wneud y canlynol:

Sut i'w defnyddio

Ymgorffori dolenni mewnol perthnasol

Pan fyddwch yn ymgorffori dolenni mewnol yn eich cynnwys, dylech:

Ysgrifennu testun dolenni mewnol

Pan fyddwch yn ysgrifennu testun dolenni mewnol, dylai:

  • fod yn ddisgrifiadol a gwneud synnwyr ar ei ben ei hun, er enghraifft 'gwnewch gais am bàs bws' nid 'cliciwch yma'
  • bod yn llawn termau perthnasol
  • bod yn hawdd ei ddewis; gall dolen un gair fod yn anodd ei ddewis
  • peidio â chael ei ddefnyddio mwy nag unwaith i fynd i wahanol fannau
  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at wybodaeth, dylai enwi'r wybodaeth honno
  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at dudalennau lle gall defnyddiwr ddechrau ar dasg, dechreuwch gyda berf
  • gwneud yn glir bod defnyddwyr yn gadael LLYW.CYMRU

Enghreifftiau

Dolenni mewnol at wybodaeth

Mae'r wybodaeth ar LLYW.CYMRU:

Nid yw'r wybodaeth ar LLYW.CYMRU:

Dolenni mewnol at dasgau

Mae'r dasg ar LLYW.CYMRU:

Nid yw'r dasg ar LLYW.CYMRU:

Sut i ychwanegu dolenni mewnol yn Drupal

Rhaid ichi agor a gwirio pob dolen yn y teclyn dolenni. Rhaid i ddolenni at dudalennau eraill ar LLYW.CYMRU edrych yn debyg i /node/20648 ac ni ddylent ond dechrau ag https:// os ydynt yn ddolen at angor ar dudalen arall.

I greu dolen fewnol, dylech:

  1. amlygu testun y ddolen
  2. dewis eicon y ddolen
  3. dechrau teipio teitl y dudalen (neu ludo’r teitl llawn) yn y maes URL a bydd y rhestr awtogwblhau yn ymddangos
  4. dewis y dudalen fewnol yr hoffech greu dolen ati

Bydd hyn yn creu dolen sy’n ymddangos yn debyg i /node/20648. Mae hyn yn golygu y bydd y ddolen yn cael ei diweddaru os bydd URL tudalen y gyrchfan yn newid.

I greu dolen allanol neu ddolen at angor ar dudalen arall, dylech:

  1. amlygu testun y ddolen
  2. dewis yr eicon @ neu eicon y ddolen
  3. gludo’r URL llawn yn y maes URL
  4. os ydych yn creu dolen at angor, cynnwys # ac yna ID neu enw’r angor

Creu angor a chreu dolen at angor ar yr un dudalen:

I greu angor, dylech:

  1. roi’r cyrchwr ar ddechrau’r testun lle’r hoffech i’r angor fod
  2. dewis yr eicon baner
  3. rhoi enw unigryw i’r angor heb unrhyw fylchau na nodau arbennig

I greu dolen at angor, dylech:

  1. amlygu testun yr angor
  2. dewis yr eicon @
  3. newid y math o ddolen yn y gwymplen i ‘Ddolen at angor yn y testun’ (‘Link to anchor in the text’)
  4. dewis angor yn ôl ID elfen