Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i greu dolenni i wefannau allanol o LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y mae dolen yn un allanol?

Mae dolenni o graidd LLYW.CYMRU, gwasanaethau, ymgyrchoedd neu sefydliadau LLYW.CYMRU yn allanol, pan fônt yn mynd i:

  • feicrowefannau LLYW.CYMRU, er enghraifft Gyrfa Cymru
  • unrhyw wefan arall

Mae dolenni o feicrowefannau LLYW.CYMRU yn allanol, pan fônt yn mynd i:

  • graidd LLYW.CYMRU, gwasanaethau, ymgyrchoedd neu sefydliadau LLYW.CYMRU
  • unrhyw wefan arall

Sut i greu dolen i wefan allanol?

Rhaid i chi greu dolen i'r dudalen sy'n bodloni anghenion y defnyddiwr orau, nid dim ond yr hafan.

Rhaid i chi roi gwybod i'r defnyddwyr eu bod yn gadael LLYW.CYMRU.

Dilynwch y canllawiau sy'n ymwneud â sut y caiff y ddolen ei chyflwyno ar y dudalen:

Rhesymau dros greu dolenni i wefannau eraill

  • Creu dolen i wasanaeth neu wefan y Llywodraeth.
  • Mae tystiolaeth bod angen rhywbeth ar y defnyddiwr sy'n ymwneud â pholisi Llywodraeth Cymru, ond nad oes modd ei gyhoeddi ar wefan LLYW.CYMRU.