Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut i ddefnyddio'r dolenni mewnol ('node'), dolenni mewnol ('terms') a dolenni allanol ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w defnyddio

Cyn ei ddefnyddio, dylech sicrhau bod yr elfen hon yn briodol ar gyfer y math o gynnwys LLYW.CYMRU rydych yn ystyried ei ddefnyddio arno.

Dylech ddefnyddio dolenni perthnasol ar y bar ochr i wneud y canlynol:

  • creu dolenni at gynnwys LLYW.CYMRU neu'r tu allan i LLYW.CYMRU sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys

Sut i'w defnyddio

Ymgorffori dolenni perthnasol ar y bar ochr

Pan fyddwch yn ymgorffori dolenni ar y bar ochr yn eich cynnwys, dylech:

  • beidio, yn fwriadol, ag ailadrodd yr holl ddolenni perthnasol o fewn brawddegau (dolenni mewnol)
  • ddim ond cynnwys hyd at tua 5 dolen fel arfer
  • ddim ond creu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr
  • ddim ond creu dolenni i wefannau eraill lle y bo'n briodol

Ysgrifennu testun dolenni bar ochr

Pan fyddwch yn ysgrifennu testun dolenni bariau ochr:

  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at wybodaeth, dylai enwi'r wybodaeth honno
  • ar gyfer dolenni sy'n mynd at dudalennau lle gall defnyddiwr ddechrau ar dasg, dechreuwch gyda berf
  • ar gyfer dolenni sy'n llywio i wefannau eraill, gwnewch yn glir bod defnyddwyr yn gadael LLYW.CYMRU drwy ychwanegu 'ar wefan [enw cwmni]' mewn testun nad yw'n ddolen o dan y ddolen ei hun

Ar y dudalen sy'n cyflwyno dolenni i LLYW.CYMRU Gall defnyddwyr Drupal ddim ond olygu testun sy'n ymddangos ar gyfer dolenni allanol. Dilynwch y canllawiau ar y math o gynnwys i osod y meysydd dolenni cysylltiedig

Enghreifftiau

Dolenni cysylltiedig mewn bar ochr gan gynnwys dolenni at LLYW.CYMRU a gwefannau eraill

Gosodiad y bar ochr