Neidio i'r prif gynnwy

Pryd i ddefnyddio tablau a sut i’w gwneud yn ddealladwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i’w defnyddio

Dim ond er mwyn cyflwyno data y dylech ddefnyddio tablau, dylai’r data yma fod yn rhifol fel arfer. Peidiwch â defnyddio tablau i gyflwyno gwybodaeth y gallech ei dangos ar ffurf rhestr. Enghreifftiau o sut i drosi tablau sy'n cynnwys testun yn unig yn ffurfiau eraill sy’n cynnwys testun yn unig ac sy’n fwy hygyrch a hawdd eu defnyddio.

Gwneud tablau’n ddealladwy

Rhaid cynnwys pennawd ar dabl i esbonio beth sy’n cael ei gynnwys yn y colofnau neu’r rhesi neu’r ddau.

Enghraifft o dabl â phennawd rhes
Methu â chyflwyno ffurflen dreth mewn da brydCosb
1 diwrnod yn hwyr£100
6 mis yn hwyr£300 yn ychwanegol neu 5% o unrhyw dreth sydd heb ei dalu, pa un bynnag sydd fwyaf
12 mis yn hwyr£300 arall neu 5% o unrhyw dreth sydd heb ei dalu, pa un bynnag sydd fwyaf
Enghraifft o dabl â phennawd rhes a phennawd colofn
 30 awr yr wythnos neu fwyLlai na 30 awr yr wythnos
16 i 24 oed£4000£2000
25 oed a hŷn£2000£1000
Ailgyflogi prentisiaid a ddiswyddwyd£2600£1300

Arddull

Rhaid ichi:

  • alinio’r data mewn colofnau i’r ochr dde er mwyn gallu cymharu rhifau (yn yr achos hwn, aliniwch y pennawd i’r dde hefyd)
  • gosod coma mewn rhifau dros 999 i sicrhau eglurder, er enghraifft 9,000
  • sicrhau nad oes gennych gelloedd gwag, er enghraiff, rhowch 0 os oes dim

Cadwch y testun yn y celloedd yn gryno ac yn glir, a dilynwch y canllaw arddull. Peidiwch â rhoi’r canlynol mewn celloedd mewn tablau:

  • rhestrau
  • penawdau
  • byrfoddau
  • symbolau heb esboniad
  • dolenni 
  • llinellau wedi’u hollti

Dylech osgoi rhannu celloedd unigol neu gyfuno nifer o gelloedd.

Cewch wyro oddi wrth arddull LLYW.CYMRU er mwyn: 

  • byrhau enwau misoedd i arbed lle ond dim ond os ydych yn brin o le, er enghraifft, Ion, Chwe
  • defnyddio gwahannod i ddangos rhychwant rhwng rhifau, ond dim ond os ydych yn brin o le, er enghraifft, 500-900
  • defnyddio rhifau drwy’r tabl (peidiwch â defnyddio trefnolion, er enghraifft, cyntaf, ail, 10fed)

Maint

Mae maint y tabl yn effeithio ar ba mor hawdd yw hi i bobl ei ddarllen a’i ddeall.  Cyfyngwch ar faint y tabl trwy ei ddefnyddio i ateb un gofyn yn unig, er enghraifft i ddangos yr isafswm cyflog ar gyfer pob grŵp

Ni ddylai tabl fod yn llai na 2 golofn a 3 rhes (gan gynnwys pennawd colofn), ond os yw’ch tabl mor fach â hynny, efallai y byddai’n well defnyddio testun normal.

Ceisiwch beidio â defnyddio mwy na 4 colofn. Gan ddibynnu ar y testun, gall tablau o’r fath ffitio’n gyfforddus ar sgrin ffôn clyfar fel arfer. Os oes mwy na 4 colofn, gofalwch fod modd gweld y tabl cyfan a’i fod yn printio’n iawn.

Defnyddio’r offeryn tabl yn Drupal

Copïwch a phastiwch dablau i Drupal i wneud yn siŵr bod y cynnwys yn para’n gywir. Ar ôl pastio’r tabl, gofalwch ei fod yn bodloni’r safon o ran arddull a’ch bod yn gallu ei weld.

I fewnosod tabl gwag mewn paragraff cynnwys:

  1. dewiswch yr eicon tablau ar y bar offer
  2. dewiswch nifer y rhesi a'r colofnau y mae eu hangen arnoch ar gyfer eich tabl
  3. trowch header column neu header row ymlaen i wneud y tabl yn hygyrch
  4. ychwanegwch destun y pennawd er mwyn rhoi teitl i’r tabl
  5. llenwch gelloedd y tabl

Defnyddiwch y ddewislen style yn y bar offer i alinio data’r gell i table cell align right.