Neidio i'r prif gynnwy

Enghreifftiau o sut i drosi tablau sy'n cynnwys testun yn unig yn ffurfiau eraill sy’n cynnwys testun yn unig ac sy’n fwy hygyrch a hawdd eu defnyddio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Dim ond er mwyn cyflwyno data y dylech ddefnyddio tablau, dylai’r data yma fod yn rhifol fel arfer.

Yn aml, ceir dulliau gwahanol o drosi'r un tabl i ffurf arall sy’n cynnwys testun yn unig. Yn ddelfrydol bydd yr arbenigwr pwnc yn gwneud y trosi hwn yn gynnar yn y broses o greu cynnwys.  Yn aml mae trosi tabl yn golygu newidiadau bach i'r testun hefyd, er enghraifft:

  • ysgrifennu is-bennawd byr am fod y testun yng nghelloedd y tabl yn rhy hir
  •  ychwanegu testun ychwanegol i gysylltu is-bennawd yn glir â’r cynnwys cysylltiedig

Mae pob un o'r enghreifftiau canlynol yn cynnwys y tabl gwreiddiol a dewis arall ar ffurf testun.

Enghraifft o dabl 2 golofn syml

Aelodau Bwrdd y Rhaglen
Enw Yn cynrychioli
Enw cyntaf, ail enw (cadeirydd) CBI Cymru
Enw cyntaf, ail enw (dirprwy gadeirydd) Unite
Enw cyntaf, ail enw
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Enw cyntaf, ail enw
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Enw cyntaf, ail enw
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Enw cyntaf, ail enw Prifysgol Caerdydd
Enw cyntaf, ail enw Llywodraeth Cymru
Enw cyntaf, ail enw Llywodraeth Cymru

Enghraifft o dabl 2 golofn cymhleth

  • Enw cyntaf, ail enw (cadeirydd), CBI Cymru
  • Enw cyntaf, ail enw (dirprwy gadeirydd), Unite
  • Enw cyntaf, ail enw, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Enw cyntaf, ail enw, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Enw cyntaf, ail enw, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Enw cyntaf, ail enw, Prifysgol Caerdydd
  • Enw cyntaf, ail enw, Llywodraeth Cymru
  • Enw cyntaf, ail enw, Llywodraeth Cymru

Enghraifft o dabl 2 golofn cymhleth

Atal a rheoli heintiau
Camau gweithredu Crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd

Byddwn yn creu templed cynllunio clinigol ac yn rhoi cyngor i gartrefi gofal ar sut i’w gwblhau.

Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddatblygu rhestr wirio atal heintiau ar gyfer cartrefi gofal.

Cyhoeddwyd fideo hyfforddi.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddarparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth i gartrefi gofal.

Cyhoeddwyd safonau glendid ar gyfer cartrefi gofal.

Byddwn yn adolygu'r trefniadau ar gyfer profi preswylwyr a staff cartrefi gofal yn rheolaidd.

Darparwyd rhaglen brofi ar gyfer cartrefi gofal:

  • profi ymwelwyr â chartrefi gofal gan gynnwys gweithwyr proffesiynol
  • cynnal profion ddwywaith yr wythnos i staff cartrefi gofal

Ers dechrau Ionawr mae’r profion â chanlyniad positif mewn cartrefi gofal wedi parhau i ostwng.

Atal a rheoli heintiau

Cam gweithredu 1: templed trefniadau clinigol wrth gefn

Byddwn yn creu templed cynllunio clinigol ac yn rhoi cyngor i gartrefi gofal ar sut i’w gwblhau.

Cam gweithredu 1: crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd

Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddatblygu rhestr wirio atal heintiau ar gyfer cartrefi gofal.

Cyhoeddwyd fideo hyfforddi.

Cam gweithredu 2: gweithio gyda’r Grŵp Trosglwyddo

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

Cam gweithredu 2: crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd

Buom yn gweithio gyda'r Grŵp Trosglwyddo i ddarparu hyfforddiant, arweiniad a chymorth i gartrefi gofal.

Cyhoeddwyd safonau glendid ar gyfer cartrefi gofal

Cam gweithredu 3: profi preswylwyr a staff

Byddwn yn adolygu'r trefniadau ar gyfer profi preswylwyr a staff cartrefi gofal yn rheolaidd.

Cam gweithredu 3: crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd

Darparwyd rhaglen brofi ar gyfer cartrefi gofal:

  • profi ymwelwyr â chartrefi gofal gan gynnwys gweithwyr proffesiynol
  • cynnal profion ddwywaith yr wythnos i staff cartrefi gofal

Ers dechrau Ionawr mae’r profion â chanlyniad positif mewn cartrefi gofal wedi parhau i ostwng.

Enghraifft o dabl cymhleth 4 colofn

Maes ansawdd 2: wedi’i gynllunio’n dda
Maen prawf ansawdd Tystiolaeth o gydymffurfio

Maen prawf ar gyfer boddhaol neu dda

Maen prawf ar gyfer eithriadol

2.1. Mae gan y gwasanaeth gylch gwaith clir, yn seiliedig ar angen, sy’n nodi manylion:

  • y math o wasanaeth mae’r gwasanaeth yn ei ddarparu
  • sut bydd y cyngor yn cael ei rannu

Mae cylch gwaith ysgrifenedig ar gael ar gyfer y Gwasanaeth.

Mae’r deunyddiau hyrwyddo yn cynnwys y mathau o gyngor a ddarperir gan y gwasanaeth.

Asesiad anghenion wedi'i gwblhau.

Cylch gwaith ysgrifenedig clir wedi’i gyhoeddi.

Tystiolaeth o gynllunio ac adolygu'r cylch gwaith mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol eraill.

Tystiolaeth o ymgynghori cyhoeddus ar y cylch gwaith.

2.2 Strwythur rheoli clir gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio.

Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli.

Rolau a chyfrifoldebau ysgrifenedig i bawb sy'n rhan o ddarparu'r gwasanaeth.

Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli wedi’i adolygu o fewn y 12 mis blaenorol.

Tystiolaeth o gynnwys strwythurau rheoli o fewn cynlluniau sefydlu staff.

Rhaid i bob aelod o staff gael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa.

Cynllun olyniaeth ar gyfer rolau rheoli a llywodraethiant pwysig.

Maes ansawdd 2: wedi’i gynllunio’n dda

2.1 Maen prawf ansawdd: cylch gwaith clir

Mae gan y gwasanaeth gylch gwaith clir, yn seiliedig ar angen, sy’n nodi manylion:

  • y math o wasanaeth mae’r gwasanaeth yn ei ddarparu
  • sut bydd y cyngor yn cael ei rannu

Cylch gwaith clir: tystiolaeth o gydymffurfio

Mae cylch gwaith ysgrifenedig ar gael ar gyfer y Gwasanaeth.

Mae’r deunyddiau hyrwyddo yn cynnwys y mathau o gyngor a ddarperir gan y gwasanaeth.

Cylch gwaith clir: maen prawf ar gyfer boddhaol neu dda

Asesiad anghenion wedi'i gwblhau.

Cylch gwaith ysgrifenedig clir wedi’i gyhoeddi.

Cylch gwaith clir: maen prawf ar gyfer eithriadol

Tystiolaeth o gynllunio ac adolygu'r cylch gwaith mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol eraill.

Tystiolaeth o ymgynghori cyhoeddus ar y cylch gwaith.

2.2 Maen prawf ansawdd: strwythur rheoli clir

Strwythur rheoli clir gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio

Strwythur rheoli clir: tystiolaeth o gydymffurfio

Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli.

Rolau a chyfrifoldebau ysgrifenedig i bawb sy'n rhan o ddarparu'r gwasanaeth.

Strwythur rheoli clir: maen prawf ar gyfer boddhaol neu dda

Disgrifiad ysgrifenedig o’r strwythur rheoli wedi’i adolygu o fewn y 12 mis blaenorol.

Tystiolaeth o gynnwys strwythurau rheoli o fewn cynlluniau sefydlu staff.

Strwythur rheoli clir: maen prawf ar gyfer eithriadol

Rhaid i bob aelod o staff gael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa.

Cynllun olyniaeth ar gyfer rolau rheoli a llywodraethiant pwysig