Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar enwi eich gwasanaeth neu declyn ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r enw a ddewiswch ar gyfer eich gwasanaeth neu eich offeryn yn bwysig i’w lwyddiant.

Drwy ddewis yr enw cywir, gall defnyddwyr:

  • ddod o hyd i’ch gwasanaeth yn haws wrth chwilio ar-lein
  • deall beth mae eich gwasanaeth yn ei wneud a phenderfynu’n hawdd a ydynt am ei ddefnyddio

Pryd i enwi eich gwasanaeth neu offeryn

Dylech geisio enwi eich gwasanaeth neu eich offeryn erbyn diwedd y cyfnod darganfod. Erbyn y cam hwn dylech fod wedi:

  • diffinio’r broblem rydych yn ceisio’i datrys
  • dysgu mwy am gyd-destun y dasg mae eich defnyddwyr yn ceisio ei gwneud

Sut i enwi eich gwasanaeth neu eich offeryn

Mae enwau gwasanaethau neu offerynnau da yn:

  • defnyddio’r geiriau y mae defnyddwyr yn eu defnyddio
  • seiliedig ar ddadansoddeg ac ymchwil defnyddwyr
  • disgrifio tasg, nid technoleg
  • nid oes angen ei newid pan fydd polisi neu technoleg yn newid
  • yn ferfau
  • nid ydynt yn cynnwys enwau adrannau’r llywodraeth neu asiantaethau
  • nid ydynt yn cael eu gyrru gan frand nac yn canolbwyntio ar farchnata

Problemau wrth enwi eich gwasanaeth

Os ydych yn cael trafferth enwi eich gwasanaeth, efallai nad ydych wedi creu cwmpas eich gwasanaeth yn gywir. Yn yr achos hwn, dylech adolygu eich anghenion defnyddiwr a chynnal ymchwil ar y dasg y mae defnyddwyr yn ceisio ei wneud.

Efallai y byddwch am ymestyn neu leihau cwmpas eich gwasanaeth os yw’n cynnwys sawl gwasanaeth cysylltiedig (er enghraifft, os yw’n wasanaeth treth neu grant).

Enghreifftiau o enwau gwasanaeth neu offeryn

Gallwch ddefnyddio’r enwau rhain fel enghreifftiau da o enwau gwasanaethau:

  • Gwneud cais am Fathodyn Glas neu adnewyddu
  • Dod o hyd i brentisiaeth

Gallwch weld sut mae’r enw’n perfformio

Dylech edrych sut mae enw eich gwasanaeth neu offeryn yn perfformio cyn ac ar ôl mynd yn fyw.

Defnyddio ymchwil a phrofi

Dylech ddefnyddio ymchwil a phrofion i wneud yn siŵr bod yr enw’n galluogi defnyddwyr i wybod yn gyflym beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud.

Gallwch ddefnyddio tree testing (ar Wikipedia) i weld os yw defnyddwyr yn gallu:

  • llywio o hafan at eich gwasanaeth
  • gwahaniaethu rhwng eich gwasanaeth chi a gwasanaethau cysylltiedig eraill

Edrych ar dermau chwilio

Dylech edrych ar ddata chwilio i weld pa dermau y mae defnyddwyr yn chwilio amdanynt sy’n ymwneud â’ch gwasanaeth chi.

Defnyddio metrigau

Gallwch edrych ar fertigau i gael syniad o sut mae enw gwasanaeth yn perfformio. Er enghraifft, gallwch weld:

  • faint sydd wedi edrych ar y dudalen o chwiliadau organig
  • cyfradd clicio at fotwm ‘cychwyn;
  • faint o chwiliadau allanol a geir ar gyfer yr hen enw a’r enw newydd
  • nifer is o chwiliadau ar y dudalen am y gwasanaeth
  • nifer y defnyddwyr sy’n cysylltu i ofyn ‘Sut ydw i yn...?’