Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn datblygu a chynnal gwasanaeth LLYW.CYMRU, bydd angen i’ch tîm fod yn amlddisgyblaethol a meddu ar amrywiaeth o sgiliau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rolau y dylai eich tîm eu cael

Mae angen i dîm sy’n datblygu gwasanaeth LLYW.CYMRU gael pobl sydd â’r rolau neu’r sgiliau canlynol, naill ai’n rhan o’r tîm neu ar gael iddo:

  • rheolwr cynnyrch
  • perchennog y gwasanaeth
  • rheolwr cyflenwi
  • ymchwilydd defnyddwyr
  • dylunydd cynnwys
  • dylunydd
  • datblygwr

Bydd y sgiliau sydd eu hangen arnoch yn newid drwy gydol cylch oes eich gwasanaeth.

Rhaid i'ch tîm cyfan, ac yn arbennig eich dylunwyr, ymchwilwyr defnyddwyr, dylunwyr cynnwys a'ch datblygwyr, gydweithio i ddylunio, datblygu a chyflwyno gwasanaeth sy'n seiliedig ar anghenion y defnyddwyr y mae eich gwasanaeth yn eu targedu.

Rheolwr cynnyrch

Bydd eich rheolwr cynnyrch yn gweithio gyda’r tîm cyflawni i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod eich gwasanaeth yn cyd-fynd â blaenoriaethau eich sefydliad
  • diffinio beth yw nod y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol (gelwir hyn yn ‘gweledigaeth cynnyrch’ yn aml mewn gwaith rheoli prosiectau ystwyth)
  • sicrhau y bydd eich gwasanaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr
  • sicrhau bod eich gwasanaeth yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl anabl
  • blaenoriaethu straeon defnyddwyr ar gyfer pob sbrint
  • rhoi sylw ar atebion technegol, cynnwys a dylunio
  • derbyn straeon defnyddwyr pan maen nhw’n barod

Dysgwch am yr hyn y mae rheolwr cynnyrch yn ei wneud, a'i sgiliau, ar GOV.UK.

Perchennog y gwasanaeth

Mae’n rhaid i berchennog eich gwasanaeth gael yr awdurdod i wneud penderfyniadau er mwyn cyflawni pob agwedd ar y prosiect. Hefyd:

  • bydd ganddynt gyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu, gweithredu a gwella’ch gwasanaeth yn barhaus
  • bydd yn cynrychioli’r gwasanaeth yn ystod asesiadau gwasanaethau
  • bydd yn sicrhau eich bod yn dilyn y prosesau angenrheidiol o ran y prosiect a chymeradwyo
  • bydd yn nodi a lliniaru risgiau i’ch prosiect
  • bydd yn annog y nifer mwyaf posibl o bobl i ddefnyddio’ch gwasanaeth digidol
  • bydd yn gyfrifol am gymorth digidol eich gwasanaeth

Dysgwch am yr hyn y mae perchennog y gwasanaeth yn ei wneud, a'i sgiliau, ar GOV.UK.

Rheolwr cyflenwi

Bydd eich rheolwr cyflenwi yn gyfrifol am y canlynol:

  • gosod yr amgylchedd ystwyth sydd ei angen ar eich tîm i ddatblygu a chyflwyno gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • chwalu rhwystrau neu’r hyn sy’n atal cynnydd rhag digwydd
  • helpu tîm eich gwasanaeth i ddod yn well am drefnu eu gwaith eu hunain yn annibynnol
  • sicrhau bod hygyrchedd yn cael ei ystyried ym mhob nodwedd neu weithgarwch y mae’r tîm yn gweithio arno

Dysgwch am yr hyn y mae'r rheolwr cyflawni yn ei wneud, a'i sgiliau, ar GOV.UK.

Ymchwilydd defnyddwyr

Bydd eich ymchwilydd defnyddwyr yn helpu eich tîm i ddysgu am y bobl a fydd yn defnyddio eich gwasanaeth. Bydd hyn yn eich helpu i ddylunio a datblygu gwasanaeth sy'n gweithio'n dda i'ch holl ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl anabl a'r rhai sydd angen cymorth.

Fel rhan o’ch tîm, byddant yn:

  • cynllunio a gwneud gwaith ymchwil gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • cynnwys y tîm mewn ymchwil defnyddwyr er mwyn helpu pawb i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o'ch defnyddwyr
  • creu canfyddiadau clir yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, a fydd yn helpu eich tîm i wella eich gwasanaeth yn barhaus

Dysgwch am yr hyn y mae'r ymchwilydd defnyddwyr yn ei wneud, a'i sgiliau, ar GOV.UK.

Dylunydd cynnwys

Bydd dylunydd cynnwys yn gyfrifol am y cynnwys yn eich gwasanaeth. Bydd yn cyfrannu at ddylunio gwasanaethau drwy:

  • ddatblygu cynlluniau a strategaethau cynnwys yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr
  • ysgrifennu cynnwys clir, hawdd ei ddefnyddio a hygyrch mewn Saesneg clir
  • adolygu cynnwys i sicrhau ei fod yn gywir, yn berthnasol, yn hygyrch ac wedi'i ysgrifennu yn unol ag arddull LLYW.CYMRU
  • cyfleu egwyddorion gwaith dylunio cynnwys i dîm eich gwasanaeth ac i eraill ar draws eich sefydliad
  • dadlau dros ddefnyddwyr eich gwasanaeth drwy herio ceisiadau nad ydynt yn cefnogi eu hanghenion

Dysgwch am yr hyn y mae dylunydd cynnwys yn ei wneud, a'i sgiliau, ar GOV.UK.

Dylunydd

Mae dylunwyr yn helpu eich tîm i greu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, gwasanaethau hygyrch a phrofiad cyson i ddefnyddwyr.

Yn dibynnu ar y math o wasanaeth rydych yn ei ddatblygu, efallai y bydd angen tîm o ddylunwyr arnoch gydag ystod o sgiliau gwahanol, er enghraifft dylunwyr rhyngweithio, cynnwys, gwasanaeth neu graffeg. Fodd bynnag, rydym wedi dysgu ei fod yn aml yn well penodi dylunydd rhyngweithio fel aelod cyntaf eich tîm.

Dysgwch fwy am ddylunwyr rhyngweithio ar GOV.UK.

Dysgwch fwy am ddylunwyr gwasanaethau ar GOV.UK.

Dysgwch fwy am ddylunwyr graffeg ar GOV.UK.

Datblygwr a datblygwr blaen

Mae angen datblygwyr ar eich tîm i:

  • ddatblygu meddalwedd hygyrch sy'n canolbwyntio ar yr hyn y mae defnyddwyr ei angen o'ch gwasanaeth a sut y byddant yn ei ddefnyddio
  • cynghori ar ddichonoldeb technegol dyluniadau
  • ysgrifennu, addasu, cynnal a chefnogi cod
  • gwella'r gwasanaeth yn barhaus gydag adnoddau a thechnegau newydd
  • datrys problemau technegol

Dysgwch am yr hyn y mae datblygwr yn ei wneud, a'i sgiliau, ar GOV.UK.

Dysgwch am yr hyn y mae datblygwr blaen yn ei wneud, a'i sgiliau, ar GOV.UK.

Rolau eraill efallai y bydd eu hangen arnoch

Yn dibynnu ar faint a chymhlethdod y gwasanaeth, efallai y bydd angen y rolau hyn ar eich tîm hefyd:

  • dadansoddwr perfformiad
  • pensaer technegol
  • peiriannydd datblygu a gweithrediadau
  • dadansoddwr busnes
  • swyddogion sicrhau ansawdd a phrofwyr
  • awduron technegol
  • dadansoddwr perfformiad

Dysgwch fwy am yr holl rolau Digidol, Data a Thechnoleg ar GOV.UK.

Gofynnwch am gymorth i drafod pa rolau sydd eu hangen arnoch

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rolau yn nhimau gwasanaethau LLYW.CYMRU, e-bostiwch digital@llyw.cymru.