Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'person allweddol' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.

Defnyddiwch i greu proffiliau ar gyfer:

  • gweinidogion (siaradwch gyda'r Tîm Digidol Corfforaethol cyn creu gweinidogion)
  • swyddog uchaf sefydliad (er enghraifft prif weithredwr neu gadeirydd)
  • haen uchaf rheoli sefydliad
  • uwch swyddogion gyda rôl arwain gyhoeddus (er enghraifft Prif Ymgynghorydd Gwyddonol, Prif Swyddog Meddygol)

Peidiwch:

  • creu tudalennau ar gyfer unrhyw berson arall

Sut i'w greu

Creu person allweddol newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Key person.
  5. Cwblhewch y maes Name.
  6. Llenwch y maes Summary.
  7. Llenwch y maes Job title.
  8. Os yw'r person allweddol yn aelod o'r cabinet, ticiwch y blwch Cabinet member. Os yw'r person allweddol yn weinidog, ticiwch y blwch Minister.
  9. Os yw'r person o sefydliad, cwblhewch y maes External organisation.
  10. Darllenwch y wybodaeth ar lluniau ar gyfer pobl allweddol. Dewiswch Choose photo i lanlawytho llun. Dylech ddewis Photo large o'r ddewislen Image size ar gyfer aelodau'r cabinet neu weinidogion yn unig.
  11. Os nad ydych am i'r llun ymddangos ar brif dudalen key person, dad-diciwch y blwch Show image in bio page.
  12. Dewiswch Add Content a gludo gwybodaeth y person allweddol i'r maes Content.
  13. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  14. I gynnwys cyfrif cyfryngau cymdeithasol, cwblhewch y meysydd SOCIAL MEDIA LINKS .
  15. Rhowch Review Date.
  16. Dewiswch Save and Create New Draft.
  17. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  18. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  19. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  20. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  21. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Manylion lluniau ar gyfer person allweddol

Rhaid i bob llun person allweddol:

  • fod yn jpeg
  • fod ar ogwydd tirlun
  • gael dimensiynau lleiaf o 600px lled x 400px uchder

Dylai'r llun fod yn glir, â chyferbynnedd uchel ac o ansawdd uchel. Dylai fod yn llun pen ac ysgwyddau traddodiadol o'r person allweddol yn unig, lle:

  • mae'r pen a'r ysgwyddau'n weladwy, mewn ffocws, ac mewn golau da
  • mae'r person yn weladwy'n glir yn erbyn y cefndir
  • na ddylai'r pen a'r ysgwyddau gymryd ,wy na 80% o'r holl lun

Dylai'r llun:

  • fod wedi posio, ond heb fod yn rhy ffurfiol
  • gael cefndir syml ond naturiol - ddim 100% yn wyn, dim llythrennau gweladwy, ac mewn ffocws meddal os oes modd
  • fod wedi cael ei dynnu yn y 5 mlynedd ddiwethaf

Golygu person allweddol presennol

  1. Dewch o hyd i'r person allweddol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y person allweddol.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y person allweddol.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content section

Defnyddiwch y paragraff adran cynnwys i dorri tudalennau hirach yn llai gyda phenawdau.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

Peidiwch â defnyddio'r paragraff acordion ar dudalennau person allweddol.

Paragraphs: call out message

Peidiwch â defnyddio'r paragraff neges alw ar dudalennau person allweddol.

Paragraphs: contact details

Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.

Paragraphs: related links

Dilynwch ddiffiniad dolenni perthnasol i ychwanegu dolenni perthnasol.

 

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.