Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'sefydliad' ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i'w ddefnyddio
Cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol i drafod defnyddio'r math yma.
Defnyddiwch ar gyfer:
- cyrff a restrir ar gofrestr cyrff cyhoeddus Cymru
- grwpiau ffurfiol Llywodraeth Cymru sy'n cynghori aelod o'r Cabinet, ni chynhelir y rhan fwyaf o aelodau fel arfer gan staff Llywodraeth Cymru
Defnyddiwch i:
- roi trosolwg o waith, cyfrifoldebau a blaenoriaethau'r sefydliad
Mae'r cynnwys gan ac am y sefydliad, er enghraifft
- cofnodion ac adroddiadau a gyhoeddir gan y sefydliad
- llythyr cylch gwaith y sefydliad a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru
Mae hyn yn golygu bod y crynodeb sydd ar dudalen hafan y sefydliad yn cael ei ysgrifennu amdanyn nhw ac nid ganddynt, er enghraifft:
- cywir: Mae Grŵp Llywio Iechyd Coed Cymru yn cynghori ar blâu a chlefydau sy’n effeithio ar goed
- anghywir: rydym yn rhoi cyngor ar blâu a chlefydau sy'n effeithio ar goed
Pan fydd y cyhoeddiadau wedi eu tagio'n gywir i sefydliad allanol, byddant yn ymddangos ar hafan y sefydliad.
Sut i'w greu
Cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol i greu sefydliad. Unwaith iddo gael ei greu, gallwch ei addasu ac ychwanegu cynnwys iddo.
Golygu sefydliad mewnol presennol
- Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
- Dewch o hyd i'r sefydliad naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
- Agorwch y sefydliad.
- Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
- Peidiwch â newid y maes Title.
- Gallwch ddewis ychwanegu mwy o wybodaeth yn What we do read more. Rhowch deitl eitem Gwybodaeth gorfforaethol i greu dolen iddo.
- Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio FEATURE VIEW ALL BUTTON cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
- Golygwch unrhyw ddolenni GUIDANCE INFORMATION AND SERVICES presennol. Os nad ydych yn defnyddio'r maes yma, ond yr hoffech wneud, cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
- Defnyddiwch CORPORATE INFORMATION AND SERVICES i greu dolen i wybodaeth fel aelodaeth e chylch gorchwyl.
- Teipiwch enw'r dudalen yr ydych am greu dolen iddi yn y blwch top.
- Dewiswch y dudalen gywir o'r gwymplen.
- Os ydych am ddefnyddio teitl gwahanol ar gyfer y dudalen yn y sefydliad, rhowch hyn yn y blwch Link text.
- Dewiswch Add another item i greu dolen i fwy o eitemau a dilynwch gamau 9 i 11 eto.
- Gwnewch yn siŵr bod CONTACT INFORMATION yn gywir.
- Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio SOCIAL MEDIA LINKS cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
- Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio Newsletter link cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
- Peidiwch â newid CATEGORY LINKS.
- Rhowch Review Date.
- Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
- Dewiswch Save and Create New Draft.
- I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
- Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
- Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
- Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.
Golygu sefydliad allanol presennol
- Dewch o hyd i'r sefydliad naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
- Agorwch y sefydliad.
- Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
- Os oes angen, golygwch y maes Title.
- Os oes gan y sefydliad wefan allanol, rhaid i chi ddewis y maes External ar y chwith.
- Peidiwch â newid CATEGORY LINKS.
- Rhowch wefan y sefydliad yn Organisation URL.
- Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio gwybodaeth Remit cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
- Rhowch Review Date.
- Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
- Dewiswch Save and Create New Draft.
- I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
- Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
- Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
- Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.
Sut i gau
Cau sefydliad pan nad yw'n weithgar yn barhaol.
Os gallai ddod yn weithgar eto yn y dyfodol:
- gadewch ef ar agor
- ystyriwch ychwanegu rhywfaint o destun yn egluro pam nad oes gweithgarwch diweddar
- Dewch o hyd i'r sefydliad presennol boed trwy borwrio'r safle cyhoeddus neu ddewis Workbench ac yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid golygu'r cynnwys Saesneg yn gyntaf.
- Agorwch yr sefydliad
- Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
- Gwiriwch os yw'r Teaser yn wahanol i'r adran Beth rydyn ni'n ei wneud. Os felly, newidwch y testun i'r amser gorffennol. Dim angen newid os yw'n dangos [node:field_summary].
- Golygu'r adran Beth rydym yn ei wneud i newid y testun i'r ansoddaf gorffennol. Nodwch os yw swyddogaethau'r sefydliad wedi'u trosglwyddo i sefydliad gwahanol.
- Os oes gan y sefydliad wefan wedi'i lletya'n allanol sydd hefyd wedi cau, dewiswch External. Dileu URL y sefydliad.
- Adolygu'r Contact information. Os yw'r swyddogaethau wedi'u trosglwyddo i sefydliad arall ychwanegwch ddolen i'r sefydliad newydd. Os nad oes ffordd mwy i gysylltu â'r sefydliad neu adran Llywodraeth Cymru gysylltiedig, newidwch hyn i cymorth@llyw.cymru.
- Sgrolio i lawr i'r diwedd a dewis Closed (all languages)
- Os ydych chi'n gwybod y dyddiad y cauodd yr ymchwil, ychwanegwch hyn at Closed date (all languages).
- Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
- Dewiswch Save and Create New Draft.
- I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
- Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
- Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
- I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
- Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.
Unwaith y cyhoeddir, bydd blwch galw allan yn cael ei arddangos ar ben y dudalen yn nodi 'Nid yw'r sefydliad hwn bellach mewn gwasanaeth'. Os ydych wedi ychwanegu dyddiad cau bydd hyn hefyd yn ymddangos. Bydd y rhan Beth rydym yn ei wneud yn dod yn Beth oedden ni'n wneud.
