Neidio i'r prif gynnwy

Mae Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, wedi gweld Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru ar waith heddiw yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ochr yn ochr â’r Aelod Arweiniol Dynodedig, Siân Gwenllian AS, fe agorodd hi’r 'Camp Cymru' cyntaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Camp Cymru yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. Mae’n dod ag artistiaid, pobl greadigol ac aelodau o'r gymuned LHDTC+ ynghyd i drafod y celfyddydau cwiar Cymraeg yng Nghymru.

Mae’n bum mlynedd ers sefydlu Mas ar y Maes – sef mannau cyfrwng Cymraeg ar y maes i gynnwys a dathlu pobl LHDTC+ - yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2018. Felly, bydd digwyddiad cyntaf Camp Cymru yn achlysur arall sy’n digwydd am y tro cyntaf – gan mai hon fydd y sgwrs gelfyddydol cwiar genedlaethol gyntaf o'i bath yng Nghymru. Ac mae’r cyfan yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yn gyfle i ystyried, trafod a dathlu datblygiadau diweddar, gan edrych at ddyfodol y gymuned LHDTC+ yng Nghymru.

Mae'r rhaglen o ddigwyddiadau, sydd wedi’u trefnu gan Mas ar y Maes a Pride yn dangos sut mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru yn cael ei roi ar waith yn ymarferol. Ac mae’n helpu i gefnogi argymhellion fel sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu wrth gynrychioli diwylliant LHDTC+.

Er nad yw'r Gymraeg yn nodwedd warchodedig, mae'r Cynllun Gweithredu yn cydnabod bod gan bobl LHDTC+ sy'n siarad Cymraeg anghenion penodol o ran y Gymraeg.

Mae Marc Rees yn artist ac yn un o'r trefnwyr. Dywedodd:

Mae Camp Cymru yn ddiwrnod o ddigwyddiadau a thrafodaethau sy'n rhoi cyfle i ddathlu ond hefyd edrych yn drylwyr ar y dyfodol, a chael eich cyffroi ganddo.

Mae'r Eisteddfod wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd, a dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n newid. Rydym yn croesawu newid. Rydym yn croesawu pobl LGBTQ+ a'u gwaith.

Mae taith Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop yn hynod uchelgeisiol. Mae'n daith y gallwn ni ei gwneud gyda'n gilydd, ac mae'n wych bod yr Eisteddfod yn ein cefnogi.

Lansiwyd y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ym mis Chwefror, fel rhan o’r Cyundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’r Cynllun yn pwysleisio’r bwriad i hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant i’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru.

Derbyniodd ganmoliaeth ryngwladol gan y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar fel enghraifft o arfer dda o ran llunio polisïau hawliau dynol, gan nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, gobeithion a stori pob person LHDTC+ fel rhan o’r uchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop.

Wrth lansio Camp Cymru, traddododd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn, sy'n ddysgwr Cymraeg, araith yn Gymraeg. Dywedodd:

Ers gormod o amser, mae diwylliant a threftadaeth LHDTC+ Cymraeg wedi bod ynghudd, er eu bod yn cyfrannu at etifeddiaeth ein cenedl.

Mae angen adrodd y straeon hyn ac mae digwyddiadau fel Camp Cymru yn rhoi cyfle i ni ddathlu a gwella’r gynrychiolaeth i gymunedau LHDTC+ fel rhan o dreftadaeth a diwylliant Cymru.

Mewn oes lle y gall deimlo fel petai perygl y byddwn ni’n colli ein hawliau, a ninnau’n dal i wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu yn rhy aml, mae'n rhaid i ni sefyll yn gadarn dros undod a chynhwysiant, yn chwyrn yn erbyn cymdeithas ranedig sy’n allgau, a chredu mewn gobaith nid casineb.

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

I mi, mae Cymraeg 2050 a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn mynd law yn llaw. Mae’r ddau yn ymwneud â chreu'r Gymru rydyn ni am ei gweld, a'r Gymru rydyn ni am ei llunio ar gyfer ein pobl ifanc.

Trwy gydweithio, gallwn ni helpu i sicrhau bod diwylliant LHDTC+ Cymraeg yn ffynnu - a gwireddu gweledigaeth arall ar ein taith tuag at wella cydraddoldeb i bob cymuned LHDTC+.

Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chronfa Balchder Llawr Gwlad, i helpu digwyddiadau mewn trefi llai ac ardaloedd gwledig i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach, a’u cefnogi. Mae digwyddiadau Balchder ledled Cymru yn parhau i gynnig cyfleoedd cymdeithasol ymhlith grwpiau, gan gynnwys pobl LHDTC+ sy'n siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Sian Gwenllian AS:

Mae'n wych gweld bod ymdrechion yr Eisteddfod Genedlaethol i gofleidio amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd o nerth i nerth – sy’n rhoi’r weledigaeth o genedl gyfartal lle mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd wrth wraidd cenhadaeth a rhaglen yr ŵyl.

Trwy weithio gyda doniau creadigol y gymuned LHDTC+, a'u cefnogi, gallwn ni adeiladu ar lwyddiant datblygiadau arloesol blaenorol fel Mas ar y Maes. Ar yr un pryd rydyn ni’n rhoi ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar waith yn ymarferol - sy’n anelu at sicrhau mai ein cenedl ni yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop - yng ngŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop.

Mae cynnal digwyddiad cyntaf Camp Cymru yn yr Eisteddfod eleni nid yn unig yn sicrhau cyfle pwysig i fwynhau celf a diwylliant cwiar yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae hefyd yn ddatganiad clir bod yr Eisteddfod yn perthyn i bawb ac yn dathlu holl amrywiaeth Cymru. Mae'n dangos, drwy weithio gyda'n gilydd, y gallwn ni greu cenedl fwy cyfiawn, teg a goddefgar, lle mae pawb yn rhydd i fod yn driw iddyn nhw eu hunain.