Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn addysg addas. Efallai na fydd plant a phobl ifanc nad ydynt yn derbyn addysg addas yn cyflawni eu potensial ac maent yn llai tebygol o fod mewn amgylchedd sy'n galluogi asiantaethau lleol i ddiogelu a hybu eu lles. 

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol ar Reoliadau drafft a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu cronfa ddata o bob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal, er mwyn sefydlu a oedd plant yn derbyn addysg addas. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol rannu gwybodaeth am blant, gyda'r awdurdod lleol perthnasol, at ddibenion sefydlu'r cronfeydd data. Cafodd Rheoliadau ar wahân, Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Cymru), eu cynnwys yn yr ymgynghoriad. Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion annibynnol rannu gwybodaeth am blant ar gofrestr yr ysgol honno gyda'r awdurdod lleol lle'r oedd y plentyn yn preswylio fel arfer. Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'i gynnwys yma: cronfeydd data addysg awdurdodau lleol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Reoliadau Cronfa Ddata diwygiedig sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu cronfa ddata o ddim ond y plant hynny yn eu hardal sydd o bosibl yn colli addysg a/neu nad ydynt o bosibl yn derbyn addysg addas, hynny yw, nid ydynt yn derbyn addysg yn yr ysgol, heblaw yn yr ysgol (darpariaeth AHY), neu eu bod yn cael eu haddysgu yn y cartref ac nid yw'n hysbys eu bod yn derbyn addysg addas.

Bydd y Rheoliadau'n gosod gofynion ar fyrddau iechyd lleol a chontractwyr meddygol cyffredinol (fel rheolyddion data), i rannu gyda'r awdurdod lleol yn flynyddol wybodaeth am blant sy'n preswylio fel arfer yn ardal y bwrdd iechyd lleol. 

Pam rydym yn cynnig y Rheoliadau hyn?

Bydd y gronfa ddata yn darparu ffordd i awdurdodau lleol adnabod plant nad ydynt yn gwybod amdanynt, ac sydd o bosibl yn colli addysg. Mae adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgymryd â'u swyddogaethau addysg gyda'r bwriad o ddiogelu a hybu lles plant. Fodd bynnag, ni allant wneud hyn oni bai eu bod yn gwybod am blant yn eu hardaloedd. Diben y Rheoliadau yw cefnogi awdurdodau lleol i ymgymryd â dyletswydd adran 175 drwy (a) gosod gofyniad ar fyrddau iechyd lleol i rannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol i'w helpu nhw i adnabod plant nad ydynt yn gwybod amdanynt, a (b) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddefnyddio'r wybodaeth i sefydlu cronfa ddata o blant sydd o bosibl yn colli addysg (PCA).

Mae'r berthynas rhwng colli addysg a phryderon diogelu/lles eisoes wedi'i sefydlu. Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru, 'Helpu i Atal Plant a Phobl Ifanc rhag Colli Addysg' yn nodi, os yw plentyn neu berson ifanc yn derbyn addysg, nid yn unig y maent yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial, maent hefyd mewn amgylchedd sy'n galluogi asiantaethau lleol i ddiogelu a hybu eu lles. Os bydd plentyn neu berson ifanc yn mynd ar goll o addysg, gallent fod mewn perygl o niwed sylweddol. Felly, gyda’r bwriad o ddiogelu a hybu lles plant, caiff gwybodaeth ei rhannu rhwng cyrff cyhoeddus er mwyn adnabod plant sydd o bosibl yn colli addysg, gan gynnwys y plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref nad ydynt yn derbyn addysg addas. 

Mae adran 7 o ddeddf Addysg 1996 yn datgan "The parent of every child of compulsory school age shall cause him to receive efficient full time education suitable a) to his age, ability and aptitude, and b) to any special educational needs he may have either by regular attendance at school or otherwise". Mae dyletswydd ar wahân ar awdurdodau lleol o dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996 i sicrhau bod plant y maent yn gyfrifol amdanynt yn derbyn addysg addas ac effeithlon. Fodd bynnag, am wahanol resymau, mae rhai plant naill ai'n troi cefn ar addysg neu'n mynd ar goll o'r system. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol sy'n nodi:

Mae gan bob awdurdod lleol ac ysgol gyfrifoldeb i geisio olrhain pob plentyn a pherson ifanc sy'n peidio â mynychu'r ysgol. Mae hyn yn hollbwysig gan fod posibilrwydd o hyd bod y plentyn neu'r person ifanc ar goll am ei fod mewn perygl o niwed sylweddol.

Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd mae gan awdurdodau lleol eu prosesau eu hunain ar gyfer adnabod plant sydd o bosibl yn PCA, ond nid oes unrhyw ddull dibynadwy na chyson ar gyfer adnabod pob plentyn o oedran ysgol gorfodol nad ydynt erioed wedi bod i'r ysgol, a/neu sy'n colli addysg. Cedwir gwybodaeth gan awdurdodau lleol dim ond am blant sy'n mynychu ysgol brif ffrwd, darpariaeth arall sydd wedi'i threfnu gan awdurdod lleol (addysg heblaw yn yr ysgol), neu os ydynt wedi cael eu hysbysu gan riant neu warcheidwad bod plentyn yn cael addysg ddewisol yn y cartref. Nid yw'r dulliau presennol sydd ar waith ar gyfer gwneud awdurdodau lleol yn ymwybodol o blant nad ydynt yn hysbys iddynt ar hyn o bryd a/neu blant sy'n colli addysg bob amser yn ddibynadwy, ee nid yw'r gofrestr genedigaethau byw yn cynorthwyo pan fydd plant wedi newid cyfeiriad neu symud wedi o un awdurdod lleol i un arall. Yn yr un modd, dim ond y plant hynny sydd wedi mynychu ysgol brif ffrwd o'r blaen sy'n cael eu hadlewyrchu mewn gwybodaeth am ddatgofrestru o ysgolion. Os nad yw'r awdurdod lleol yn gwybod am blentyn y mae'n gyfrifol amdano, ni all ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â diogelu a lles, ac ni all fod yn sicr nad yw'r plentyn mewn perygl o niwed.

Mae adran 29 o Ddeddf Plant 2004 yn darparu pŵer i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol weithredu cronfa ddata at ddiben trefniadau o dan adran 25 neu 28 o Ddeddf Plant 2004 neu adran 175 o Ddeddf Addysg 2002. Bydd cyflwyno rheoliadau a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata 'plant sy'n colli addysg' neu 'PCA' o ddata a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae'r rhesymeg dros y gronfa ddata yn cyd-fynd â’r canllawiau statudol i helpu i atal plant a phobl ifanc rhag colli addysg. Pan fydd awdurdodau lleol wedi sefydlu eu cronfa ddata PCA, mae'r canllawiau'n amlinellu'r camau y dylid eu cymryd i ddod o hyd i'r plentyn a sicrhau bod y prosesau cywir yn cael eu dilyn.

Beth yw gofynion y Rheoliadau?

Mae Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Cymru) 2025 yn gosod dau ofyniad ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a chontractwyr gwasanaethau meddygol cyffredinol (mae cyfeiriadau yn y ddogfen hon at fyrddau iechyd lleol yn cynnwys cyfeiriadau at fyrddau iechyd lleol yn gweithredu fel prosesydd data ar gyfer y contractwr gwasanaethau meddygol cyffredinol). Y contractwr gwasanaethau meddygol cyffredinol (hy meddygfa) fydd y rheolydd ar gyfer rhywfaint o'r data sydd i'w rhannu, a bydd y data hefyd yn cael eu cadw'n ganolog gan y bwrdd iechyd lleol. Yn ymarferol, byddem yn disgwyl i'r wybodaeth hon gael ei rhannu rhwng y bwrdd iechyd lleol (fel y rheolydd data ar gyfer rhywfaint o'r wybodaeth a'r prosesydd data ar gyfer rhestrau meddygon teulu) a'r awdurdod lleol.

Maent yn ei gwneud yn ofynnol: 

  • i awdurdodau lleol sefydlu cronfeydd data PCA unigol, sef y plant hynny yn eu hardal sy'n colli addysg neu sydd o bosibl yn colli addysg, ac
  • i fyrddau iechyd lleol ddarparu data i'r awdurdod lleol perthnasol sy'n ymwneud â phlant sy'n preswylio fel arfer yn ardal y bwrdd iechyd lleol a’r awdurdod lleol 

Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Cymru). Bydd hi'n ofynnol i ysgolion annibynnol ddarparu gwybodaeth sy'n ymwneud â phlant sy'n mynychu'r ysgolion hynny, i'r awdurdod lleol lle mae'r plentyn yn preswylio fel arfer, er mwyn dileu'r enwau hyn o set ddata yr awdurdod lleol.

Sut bydd y gronfa ddata yn gweithredu?

Data ysgolion yw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth am blant y mae gan awdurdodau lleol fynediad atynt. Set ddata ar lefel disgyblion ac ysgolion yw'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) a ddarperir gan bob ysgol gynradd, canol, uwchradd, meithrin ac arbennig yn y sector a gynhelir yng Nghymru, ac a gyflwynir yn flynyddol. Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r set ddata hon i dynnu plant oddi ar gofrestr mewn ysgol. Mae gan awdurdodau lleol wybodaeth hefyd am blant sy'n cael ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (sy'n cynnwys unedau cyfeirio disgyblion), a gwybodaeth ar wahân am blant sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref - ar yr amod bod y rhiant neu'r gwarcheidwad wedi hysbysu'r awdurdod lleol eu bod yn addysgu gartref. 

O dan y Rheoliadau Cronfa Ddata, bydd awdurdodau lleol yn derbyn gwybodaeth gan eu byrddau iechyd lleol am blant sy'n preswylio yn yr awdurdod lleol hwnnw. Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw'n ganolog gan y bwrdd iechyd lleol neu y bydd ar gael gan ymarferwyr cyffredinol. Bydd data byrddau iechyd lleol ond yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhywedd a dyddiad geni y plentyn. Bydd ysgolion annibynnol yn rhannu'r un wybodaeth sylfaenol â'r awdurdod lleol am blant ar y gofrestr yn eu hysgol. Mae angen yr wybodaeth hon o leiaf i sicrhau y gall yr awdurdod lleol groesgyfeirio'r data gyda'i ddata addysg, ac adnabod plentyn nad yw'n hysbys iddo ac sydd felly o bosibl yn colli addysg.

Bydd y data a gyflwynir i awdurdodau lleol drwy'r ddwy set o Reoliadau yn arwain at restr resymol gyflawn o bob plentyn o oedran ysgol gorfodol, ni waeth ble y cânt eu haddysgu.

Bydd y rhan fwyaf o blant yn mynychu'r ysgol neu’n cael darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, neu’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref ac wedi’u hadnabod fel plant sy’n derbyn addysg addas. Dim ond enwau plant nad ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol, neu sy'n hysbys i'r awdurdod lleol ond nad ydynt wedi gallu penderfynu a yw'r addysg a ddarperir yn addas, fydd yn cael eu cynnwys yn y gronfa ddata.

Ni fydd hon yn gronfa ddata ganolog i Gymru gyfan ac ni fydd yn fyw. Bydd pob awdurdod lleol yn cynnal ei gronfa ddata ei hun, ac yn sicrhau bod gwybodaeth sy'n ymwneud â phlant sy'n symud rhwng ardaloedd awdurdodau lleol yn cael ei rhannu â'r awdurdod lleol perthnasol. Bwriedir i'r data gael eu datgelu unwaith y flwyddyn, gan ddarparu data mor gywir â phosibl ar adeg benodol. 

Pan fydd gan yr awdurdod lleol restr gyflawn o blant sydd o bosibl yn PCA, bydd yr enwau hyn yn cael eu cynnwys yn ei gronfa ddata. Bydd yr awdurdod lleol yn cymryd y camau angenrheidiol i adnabod y plant hynny a phenderfynu a ydynt yn colli addysg, yn unol â'r canllawiau statudol. Bydd enwau'n cael eu dileu o'r gronfa ddata pan fydd yr awdurdod lleol wedi dod o hyd i'r plentyn a phenderfynu ei fod yn derbyn addysg addas.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Ar hyn o bryd nid yw awdurdodau lleol yn gwybod am bob plentyn yn eu hardal ond maent yn dal i fod yn gyfrifol amdanynt. Yn eich barn chi, a fydd y gofynion yn y rheoliadau yn helpu awdurdodau lleol i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddynt ar hyn o bryd neu blant sy’n colli addysg?

O ateb ‘na fyddant’, eglurwch pam, yn eich barn chi, na fydd y rheoliadau yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Cwestiwn 2: A yw'r cynnig hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflawni ei ddyletswydd adran 175 o dan Ddeddf Addysg 2002, sef ymgymryd â'u swyddogaethau addysg gyda'r bwriad o ddiogelu a hybu lles plant?

O ateb ‘nac ydy’, eglurwch pam, yn eich barn chi, na fydd y rheoliadau yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni'r ddyletswydd hon.

Cwestiwn 3: O dan y rheoliadau, bydd byrddau iechyd lleol yn datgelu'r wybodaeth yn yr Atodlen (enw, cyfeiriad, rhywedd a dyddiad geni plentyn) i'r awdurdod lleol fel y gall ddatblygu cronfa ddata plant sy’n colli addysg.

  • A ydych yn cytuno bod yr wybodaeth y gofynnir amdani yn yr Atodlen yn rhesymol ac yn gymesur i alluogi'r awdurdod lleol i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddo ar hyn o bryd ac sydd o bosibl yn colli addysg?
  • A ydych yn cytuno bod yr wybodaeth y gofynnir amdani yn yr Atodlen yn ddigonol i alluogi'r awdurdod lleol i adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddo ar hyn o bryd ac sydd o bosibl yn colli addysg?

Cwestiwn 4: A oes systemau a phrosesau amgen a fyddai'n galluogi'r awdurdod lleol i adnabod plentyn nad oes ganddo unrhyw wybodaeth flaenorol amdano?

Cwestiwn 5: Yn eich barn chi, pa fanteision ac anfanteision, os oes rhai, fyddai'n deillio o ddatgelu'r data gofynnol i boblogi'r gronfa ddata? Cwblhewch yr adran sy'n berthnasol i chi.

  1. Rhieni a gofalwyr
  2. Plant a phobl ifanc
  3. Byrddau iechyd lleol a chontractwyr meddygol cyffredinol
  4. Awdurdodau lleol
  5. Arall

Cwestiwn 6: Mae'r rheoliadau drafft yn cynnig bod byrddau iechyd lleol yn datgelu gwybodaeth i awdurdodau lleol yn flynyddol. A ydych yn cytuno â datganiad blynyddol?

Cwestiwn 7: Beth fyddai goblygiadau datganiad data amlach o ran technoleg, prosesau gweinyddol ac adnoddau i'r canlynol:

  1. byrddau iechyd lleol
  2. awdurdodau lleol
  3. arall

Cwestiwn 8: Pa unigolion yn yr awdurdod lleol y byddai angen iddynt gael mynediad at y gronfa ddata er mwyn cyflawni eu swyddogaethau?

Byrddau iechyd lleol (9 i 12)

Cwestiwn 9: A oes unrhyw risgiau allweddol i breifatrwydd neu risgiau o ran cydymffurfiaeth a risgiau corfforaethol sy'n gysylltiedig â nhw?

Cwestiwn 10: A yw'r protocolau presennol sy'n ymwneud â data plant sydd wedi marw yn sicrhau na fydd unrhyw waith prosesu a wneir mewn perthynas â'r data hynny yn arwain at unrhyw gyfathrebu amhriodol â theuluoedd? 

Cwestiwn 11: A oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o'r math hwn o weithgarwch datgelu a phrosesu data?

Cwestiwn 12: A oes unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau a materion technegol mewn perthynas â phrosesu a datgelu'r data gofynnol i awdurdodau lleol?

Contractwyr gwasanaethau meddygol cyffredinol (13 i 14)

Cwestiwn 13: A oes unrhyw risgiau i breifatrwydd neu risgiau o ran cydymffurfiaeth a risgiau corfforaethol sy'n gysylltiedig â nhw?

Cwestiwn 14: A yw'r protocolau presennol sy'n ymwneud â data plant sydd wedi marw yn sicrhau na fydd unrhyw waith prosesu a wneir mewn perthynas â'r data hynny yn arwain at unrhyw gyfathrebu amhriodol â theuluoedd? 

Awdurdodau lleol (15 i 19)

Cwestiwn 15: Yn eich barn chi (yr awdurdod lleol), a yw eich systemau a'ch prosesau plant sy’n colli addysg presennol yn eich galluogi chi i fod yn hyderus eich bod yn ymwybodol o bob plentyn o oedran ysgol gorfodol yn ardal yr awdurdod lleol?

Cwestiwn 16: A yw'r protocolau presennol sy'n ymwneud â data plant sydd wedi marw yn sicrhau na fydd unrhyw waith prosesu a wneir mewn perthynas â'r data hynny yn arwain at unrhyw gyfathrebu amhriodol â theuluoedd? 

Cwestiwn 17: A oes unrhyw risgiau allweddol i breifatrwydd neu risgiau o ran cydymffurfiaeth a risgiau corfforaethol sy'n gysylltiedig â nhw? 

Cwestiwn 18: A oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o'r math hwn o weithgarwch prosesu?

Cwestiwn 19: A oes unrhyw oblygiadau ychwanegol o ran adnoddau a materion technegol mewn perthynas â phrosesu'r data a geir gan fyrddau iechyd lleol?

Cwestiwn 20: Yn eich barn chi, a allai unrhyw beth yn y rheoliadau drafft gael effaith anghymesur ar bobl â nodweddion gwarchodedig?

Question 21: Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y rheoliadau drafft ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â'i thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Question 22: Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu'r rheoliadau drafft er mwyn sicrhau:

  • eu bod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg a
  • nad ydynt yn cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?