Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o'r cronfeydd ariannol wrth gefn a ddelir gan ysgolion ar 31 Mawrth 2020.

Prif bwyntiau (r)

Cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn yn ysgolion Cymru oedd £32 miliwn ar 31 Mawrth 2020, sy'n gyfwerth â £70 y disgybl. O'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, roedd cyfanswm lefel y cronfeydd wrth gefn wedi gostwng 31.6%. Roedd cronfeydd wrth gefn mewn ysgolion cynradd yn cyfrif am £39 miliwn.

Mae'r gostyngiad yn y cronfeydd wrth gefn cyfan yn cael ei ysgogi gan ysgolion cynradd lle gostyngodd y cronfeydd wrth gefn £8.0 miliwn neu 17% yn y flwyddyn ddiweddaraf. Mewn cyfanswm, roedd gostyngiad o £14.7 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn.

Roedd gan Geredigion y lefel uchaf o gronfeydd wrth gefn fesul disgybl, sef £285, a Sir Ddinbych yr isaf, gyda diffyg o £91 y disgybl.

Ers y dirywiad economaidd yn 2008 a'r mesurau cyni a gafodd eu cyflwyno yn sgil hynny, roedd gan nifer cynyddol o ysgolion gronfeydd wrth gefn negyddol neu lefel is o gronfeydd wrth gefn. Mae gan 10% o ysgolion gronfeydd wrth gefn gwerth dros 10% o gyfanswm y gwariant, hanner y ganran ddegawd yn ôl.

Roedd gan 215 o ysgolion cynradd, 80 o ysgolion uwchradd, 8 o ysgolion arbennig, 1 ysgol feithrin a 14 ysgol ganol yng Nghymru gronfeydd wrth gefn negyddol a oedd yn gyfwerth â £38 miliwn. Roedd gan y 1,185 o ysgolion eraill gronfeydd wrth gefn positif; roedd gan 143 ohonynt gronfeydd wrth gefn gwerth mwy na 10% o gyfanswm y gwariant a glustnodwyd ar eu cyfer.

(r) Diwygiedig ar 23 Gorffennaf 2021.

Adroddiadau

Cronfeydd wrth gefn ysgolion, ar 31 Mawrth 2020 (Diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 744 KB

PDF
Saesneg yn unig
744 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.